Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

FFESTINIOG A'R AMGYLCHOEDD.

LLANDRINDOD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDRINDOD. Dathlwvd yr amgylchiad o agor organ newydd Eglwys Holy Trinity, y lie uchod, (yr hon a gostiodd dros £30,0), Medi y 7fed. Intoniwyd y gwasanaeth gan glerigwr dieithr darllenwyd y llithoedd gan Mr. A. J. Do Winton, a gwr dieithr arall. Pregethwyd ar yr achlysus gan yr Hybarch Archddiacon De Winton, yn hyawdl ac i bwrpas, oddiwrth Ex. xxv. 1, 2. Am ddau o'r gloch, cafwyd gwyl gorawl in- toniwyd y Litani yn ardderchog ar y dechreu—pawb yn cymeryc1 rhan ynddo yn ddieithriad. Yr oedd y drefnlen fel y canlyn :-Emynau Hen a Diweddar 160, y cor a'r gynulleidfa, a'r organ gan Dr. W. H. Monk unawd, Nazareth," gan Mr. S. L. Edwards; What arc these," y sor Emyn 166, y c6r a'r gyn- ulleidfa unawd, Be thou faithful," Mr. A. J. De Winton unawd, Thou art gone up on high," Mr. Edwards. Tra buwyd yn casglu at ddileu dyled sydd yn aros ar yr organ, canwyd yr Emyn 365. Yr oedd yr Eglwys eang yn orlawn ac ni welsom erioed gynulleidfa fwy astud. Ar ol y fendith ymadawodd pawb yn ymddangos fel wedi eu llwyr foddhau. Yn yr hwyr cafwyd sylwadau ychwanegol ar yr un geiriau gan yr Hybarch Archddiacon. Chwareuwyd ar yr organ gan Miss De Winton a Mr. Tipson; yr ydym yn deall fod Mr. Tipson yn hynod ymdrechgar gyda'r canu yn y lie. Mae Miss De Winton yn haeddu clod mawr am ei hymdrech diflino i ddilou y ddyled sydd yn arcs ar yr organ. Credwn fod casgiiad da wedi ei wneyd yn ystod y dydd. Yr ydym yn deall fod yr holl seddau ynrhydd. Llwydd iant iddynt medd-Mem Nun.

ABERHONDDU.

HIRWAIN.

LLANBERIS.

----------I MOUNTAIN ASH.

CAERFYRDDIN.

BETHESDA.

CWMAFON.

ABERTEIFI.

PENBOYR.

BANGOR.

LLANFIHANGEL-GENEU'R-GLYN.

MERTHYR TYDFIL.

TREDEGAR.'