Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

FFESTINIOG A'R AMGYLCHOEDD.

LLANDRINDOD.

ABERHONDDU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ABERHONDDU. TRYSOEEA ESGOBAETHOL Ty DDEWI.—Prydnawn ddydd Gwener, cynhaliwyd cyfarfod yn y Neuadd Sirol i'r diben o ystyried y moddion effeithiolaf i sefydlu trysorfa i'r esgobaeth, amcan yr hon yw ychwanegu at werth bywoliaethau tlodion, a chynorthwyo mewn adeiladu persondai. Yr oedd Esgob Ty Ddewi yn bresenol. Llywyddwyd gan Mr. Powel Powel, o Gastell Madog, yr hwn yn ei anerchiad agoriadol a sylwodd y gallai greu ychwaneg o ddyddordeb lleol pe caniateid i'r cyfranwyr ddewis i'r hyn a gyfranent gael oi ddefnyddio yn Arch- ddiaconiaeth Aberhonddu. Nid oedd yr Esgob yn cydolygu a Mr. Powel, ond barnai y byddai yn fwy llesol yn«y pen draw pe rhoddid yr oil mewn un dry- sorfa gyffredinol, a chynygiodd benderfyniad i'r perwyl fod y cyfarfod hwnw yn ffafriol i'r cyfryw drysorfa gael ei sefydlu, ac yn ymrwymo i wneyd yr hyn a ellid drosti. Wedi i'r Parch. R. L. Venablea eilio, pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol. Cynyg- iodd yr Hybarch Archddiacon do Winton fod i'r Wardeiniaid Eglwysig ac un neu ddau o leygwyr ymhob plwyf gael eu penodi i gasglu tanysgrifiadau tuag at y drysorfa hon. Eiliwyd gan y Parch. Garnons Williams, a phasiwyd ef. Cynygiodd Canon Bovan, Hay, eiliodd Mr. Percy Davies, Crug- hywel, a phasiwyd fod casgliadau yn cael eu gwneyd yn mhob Eglwys ar Sul penodol yn flynyddol. Ar 01 talu diolchgarwch i'r cadeirydd, ymwahanwyd. Hysbyswyd fod yr addewidion drwy lythyrau ac yn yr ystafell hono yn cyrhaedd e104, a'r tanysgrifiadau blynyddol yn £ 90.—Simwnt.

HIRWAIN.

LLANBERIS.

----------I MOUNTAIN ASH.

CAERFYRDDIN.

BETHESDA.

CWMAFON.

ABERTEIFI.

PENBOYR.

BANGOR.

LLANFIHANGEL-GENEU'R-GLYN.

MERTHYR TYDFIL.

TREDEGAR.'