Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

At gael Eglwys newydd yn Nghriccieth, y mae 1,500p. wedi eu casglu. Yn Newburgh, New York, y mae gan ddyn 200 o wahanol afalau wedi eu himpio wrth un goeden. Dirwywyd bachgen o'r enw Bray, yn byw yn Ossett, i lOp a'r costau am gymysgu dwfr a llefritli, a'i werthu. Talwyd yr arian gan feistr y bachgen. Tra yn aros mewn gwesty yn Glasgow darfu i Germaniad o'r enw Bartholomew Kellner, saethu ei hun yn fwriadol, a bu farw yn yr ysbyty mewn canlyniad. Dydd Gwener diweddaf dinystriwyd tua 35 tunell o eirin yn Birmingham oherwydd eu bod yn anghymwys i'w bwyta. Yr oeddynt yn werth rhwng 400p. a 500p. Dywed y Lieutenant Greely,yr hwn sydd newydd ddychwelyd o'i ymgyrch anffortunus i'r pegwn gogloddol, fodyn agos i'r pegwn dir glas ffrwyth- lawn, cant a haner o filldiroedd o hyd. Aiff eiddo y diweddar Arglwydd Petre(200,000p.) i'r offeiriad Pabyddol, Arglwydd Petre, y mab hynaf, a defnyddir yr arian i ledaenu egwyddorion Pabyddiaeth. Dathlwyd sefydliad Gweriniaeth Ffrainc y flwyddyn hon a llai o r tvysgnag arferol. Diau fod hyn yn arddangos fod newydd-deb Gweriniaeth yn gwisgo ymaith yn mhlith y Ffrancod, fel pob newydd-deb arall. Ar ol myned allan o dloty Lerpwl darfu i ddynes o'r enw Norrington, gymeryd ei baban a'i roddi ar domen yn Birkenhead, lie y bu farw. Mae'r ddynes yn awr mewn dalfa ar y cyhuddiad o laddiad gwirfoddol. PENODIADAU EGLWYSIG.—Mae plwyfolion Llan- gynllo, ger Llandyssil, wedi ethol y Parch. E. Jones, M.A., diweddar o Llangatwg, Sir Frych- einiog, i fywoliaeth y lie hwnw. Gwerth y fyw- oliaeth yw T220p y flwyddyn, ynghyd a. thy. Dydd Gwener, y 12fed cyfisol, cynhaliwyd ar- ddangosfa amaethyddol Meirion yn Harlech o dan amgylchiadau ffafriol iawn. Cafwyd hin dda a hafaidd, yr hyn yn ddiau a fa yn foddion i atdynu Iluoedd o ymwelwyr o'r siroedd cyfa.gos. Yr oedd y maes yn llawn o ymwelwyr o bob gradd o gym- deithas. Mae Cymdeithas Amaethyddol Meir- ionydd wedi ei sefydlu bellach er's 17 mlynedd. Rheol dda, ac un y gellid ei mabwysiadu gan gymdeithasau eraill gyda mantais, ydyw yr un sydd yn rhanu y gwobrwyon yn y ddau ddosbarth. Ymgystadleua y tirfeddianwyr a'r cyfoethogion yn y naill, a'r amaethwyr yn y llall. Trwy hyn y mae y g\vyn rms gall yr amaethwyr gystadlu a'r cyfoethogion yn cael ei osgoi. Nodweddid yr ar- ddangosfa hon gan y cydgasgliad rhagorol oedd yno o anifeiliaid Cymreig. Yr oedd yno arddang- osiad da o geffylau a defaid hefyd.

AT Y BEIRDD.

LLANOFER.

HEDDWCH CYMMYDOGAWL.

ENGLYNION

[No title]

--------LLITH O'R BWTHYN GWLEDIG.

Advertising