Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
CYHOEDDAI y Times am ddydd Llun diwedd- af ddisgrifiad tra dyddorol o'r gweithrediad- au -yn Khartoum oddiwrth Mr. Power, ei ohebydd neillduol. Mr. Power a Col. Stewart, fel y gwyr ein darllenwyr, yw'r unig ddau Brydeiniwr sydd gyd â Gordon yn Khartoum. Ddiwedd mis Gorphenaf ysgrifenai Mr. Power fod gwarchead y ddinas y pryd hwnw wedi parhau pum mis. Nid oedd unrhyw berygl i wrthryfel gyfodi yn y ddinas gan i 8,000 i 10,000 o wyr adael y ddinas ac ymuno a'r gwrthryfelwyr. Er cadw y milwyr yn deyrngarol rhaid eu talu, ac nid oedd gan y Cadfridog ond ychydig arian, gan na chyrhaeddodd dimai o'r arian a anfonwyd iddo o Cairo i Khartoum. 0 dan yr amgylchiadau hyn anfonodd Gordon allan 950,000 mewn papyrau. Drwy yr holl amser yr oedd bwyd yn cael ei roddi bob dydd i'r tlodion. 0 ganol mis Mawrth hyd ddiwedd Gorphenaf nid aeth un dydd heibio heb i ergydion gael eu saethu, ond eto nid oedd nifer y rhai a laddwyd o ddechreu y gwarchae ond tua 700. Clwyf- wyd cryn lawer ond gwellasant yn fuan, ac ymhlith y rhai hyn yr oedd Colonel Stewart. Llefara Mr. Power am y milwyr Aiphtaidd megys yn gywilyddus o lwfr ac ofnus. Dywed fod un marchog Arabaidd yn abl i beri i 200 o'r milwyr Aiphtaidd i ffoi. Bu Colonel Stewart ar un amgylchiad yn agos iawn i angau. Yn nghanol y cwbl, hyfryd yw clywed fod y Cadfridog Gordon yn hollol iach, a Colonel Stewart wedi gwella o'i glwyfau, a bod Mr. Power ei hunan yn iach ac yn hapus.
[No title]
Nos Sadwrn diweddaf cychwynodd Arglwydd Wolseley o Cairo ar ei daith tua Dongola a Khartoum, gyda'r amcan o ddwyn y Cad- fridog Gordon adref yn ddiogel. Tua'r un amser bu i adran o warchodlu y Frenhines ag sydd yn ffurfio rhan o'r fyddin ymerodrol gychwyn o Portsmouth. Nid oes yn y Soudan ar hyn o bryd unrhyw lywodraeth a gydnabyddir fel y cyfryw gan deyrnasoedd eraill, a gelwir canlynwyr y Mahdi yn "wrthryfelwyr." Fisoedd yn ol pender- fynodd ein llywodraeth mai doethfyddai rhoddi i fyny y Soudan, a gorchymynwyd i'r holl fyddin Aiphtaidd ddychwelyd oddi yno. Ond nis gallent ddychwelyd oherwydd gwrthwynebiad canlynwyr y Mahdi. An- fonwyd Gordon i Khartoum gyda'r amcan o hyrwyddo eu dychweliad. Y mae Gordon ei hunan yn garcharor i raddau, a hyderwn y bydd i ymdrechion y Cadfridog dewr Wolseley gael eu coroni a llwyddiant. Ond beth sydd i ddyfod o'r Soudan ar ol hyny sydd gwestiwn arall, a chwestiwn dyrys iawn.
[No title]
YMDDENGYS oddiwrth y Freeman am ddydd Gwener diweddaf, fod Undeb o Fedyddwyr Seisnig i gael ei ffurflo-,yn Ngogledd Cymru. Mewn erthygl ar y symudiad newydd hwn, sylwa y newyddiadur a enwyd, ar y modd y glyna y Cymry wrth eu hiaith, a chyfeiria at bapyr Mr. E. G. Ravenstein, yn yr hwn y dywedir fod nifer y rhai a siaradant Gymraeg yn Mhrydain Fawr yn 1,006,000. 0 ganlyniad ni ddisgwylir i'r Undeb fod ond gwan. Nid yw y Freeman yn ffafriol i godi gormod o achosion newydd. Dywedir wrthym fod ceisio cadw i fyny dri neu bedwar o achosion (gan wahanol enwadau) mewn manau lie y mae'r boblogaeth yn deneu, a lie y gellir yn brin gadw un, yn sicr yn achosi trallod a phryder." Ond y mae'r feddyginiaeth wrth law, paham nad arferir hi ? Yr atebiad a roddir yw, An- hawdd yw penderfynu pwy ddylai gilio o'r maes." Y mae'r Bedyddwyr, meddir, yn anfoddlon i gilio allan, canys credant fod ganddynt wirioneddau i'w traethu a gaent eu hesgeuluso pe y byddent hwy yn ddis- taw. Mewn tudalen arall cyfeiria yr un newyddiadur at Fedydd Babanod fel "uno gyfeiliornadau yr oes." A chan belled ag yr ydym ni yn gallu canfod, amcan mawr y Bedyddwyr, fel enwad, ydyw cadw plant bach oddiwrth Grist yn y Sacrament cyn- taf. Ac oni bai am ragfarn gallesid meddwl y buasai pob Cristion yn cytuno mai os hwn yw y "gwirionedd" sydd ganddynt i'w draethu goreu po mwyaf distaw yn ei gylch. A chyd a golwg ar bwy ddylai gilio o'r maes, dymunem i'n cyfeillion y Bedydd- wyr ystyried pa un yw Eglwys yr anfoniad cyntaf. Yr oedd Eglwys a chynulleidfa yn addoli ynddi ymhob plwyf drwy Brydain Fawr cyn codi yr un capel i'r Bedyddwyr ynddo. Diau yr addefa ein cyfeillion y Bedyddwyr eu hunain inai hwy aethant allan oddi wrthym ni, ac nid nyni oddi wrthynt hwy. Oni ddylai hyn fod yn rhyw help i benderfynu y cwestiwn gyd a, golwg ar bwy a ddylai gilio o'r maes ? Y MAE'R trefniadau o berthynas i Gynhad- ledd Esgobaeth Llandaf yn awr wedi eu cwblhau a'u.gwneyd yn hyspys. Cynhelir y gynhadledd yn y Neuadd Drefol, Caer- dydd, dydd Mercher a dydd lau, y 22ain a'r 23ain cyfisol. Dechreuir drwy weinyddiad o'r Cymun Bendigaid yn Eglwys S. loan, Caerdydd, am 10 o'r gloch bore dydd Mercher. Traddoda yr Esgob ei anerchiad agoriadol am un-ar-ddeg yn y Neuadd Drefol, a bydd cyfansoddiad y gynhadledd dan sylw hyd un o'r gloch. Y tri testyn i'r rhai y rhoddir y lie blaenaf ydynt: (1) Adroddiad y Dirprwywyr ar y Llysoedd Eg- lwysig. (2) Cynorthwy Lleygwyr yn ngwaith yr Eglwys. (3) Addysg grefyddol ein hieuengctyd. Enwir hafyd dri thestyn arall i'w trin os bydd amser yn caniatau. (1) Lledaeniad yr Eglwys. (2) Nawddog- aeth Eglwysig. (3) Adroddiad Ty Isaf y Confocasiwn ar etholiad Proctoriaid, 1884. Y mae'r gynhadledd i fod yn gyfansoddedig o offeiriaid a lleygwyr mewn nifer lied gyfartal. Fel rheol y mae'n anhawddach cael lleygwyr i fynyehu ein cynhadleddau Eglwysig na'n hofteiriaid. Hyderwn y bydd i leygwyr Esgobaeth Llandaf wneyd ym- drech i fod yn bresenol yn y gynhadledd eleni ac y ceir clywed eu llais yn eglur ar y byngciau sydd i'w trafod.
[No title]
Y MAE Esgob Ty Ddewi wedi penodi dydd Gwener, y 10fed cyfisol, yn ddiwrnod ethol- iad Proctor dros yr Esgobaeth. Y diweddar Barch. J. Sinnett, Penboyr, a lanwodd y swydd hyd ei farwolaeth, ac yr ydym yn deall bod pob tebygolrwydd mai y Parch. Thomas Walters, D.D., ficer Llansamlet, a etholir y tro hwn. Efe yw yr unig Iym- geisydd sydd wedi cael ei enwi gan offeiriaid yr Esgobaeth, ac felly bydd ei etholiad yn ddiwrthwynebiad. Yr ydym o galon yn llon- gyfarch Dr. Walters ar yr arwydd hwn o ymddiried ei frodyr ynddo. I beidio myned yn mhellach yn ol na'r chwe' mis diweddaf gwnaeth Dr. Walters wasanaeth pwysig i Gymru mewn ffordd o drefnu cyfarfodydd amddiffynol yn erbyn y Dadgysylltwyr, ac ynglyn a'r symudiad i wella y Wasg Eg- lwysig Gymreig. Yr ydym yn disgwyl gwasanaeth mawr i'r Eglwys yn Nghymru oddiwrtho eto fel Proctor yn y Confocasiwn. -0
[No title]
CYNWYSA y Guardian am yr wythnos ddi- weddaf lythyr miniog oddiwrth y Parch. C. J. Thompson, Caerdydd, ar yr Eglwys a'i hysgolion. Y mae arnom angen tri pheth, ebe fe. Yn un peth, y mae arnom eisiau llonyddwch am beth amser gan yr awdur- dod canolog. Ni ddylai y Code gael ei newid byth ac hefyd, ac ni ddylai yr arol- ygwyr gael eu newid mor ami ag y maent. Heblaw hyny, dylai yr awdurdod canolog ofalu bod yr arolygwyr yn cael eu dewis mewn ffordd deg. Gwyr ef am ficer ag sydd ganddo le i yn agos i 2000 o blant yn ei ysgolion. Y llynedd adeiladodd dri class rooms ychwanegol ar y draul o 9500, Arholwyd yr ysgolion yn mis Mawrth, ac yn lie dywedyd gair am y fantais o gael yr adeilad ychwanegol, y mae'r adroddiad yn llawn o sylwadau ach- wyngar ar yr angenrheidrwydd am orchudd- io ffenestr a man bethau o'r fath. Yr hyn y cwyna Mr. Thompson o'i herwydd yn y rhan o'i lythyr yw fod nifer o arolygwyr ei Mawrhydi un ai yn penderfynu difodi yr ysgolion gwirfoddol, neu yn cael eu han- alluogi gan ragfarn i wneuthur cyfiawnder a hwy. Ond prif bwynt y llythyr yw y dylai Eglwyswyr wneyd y ffaith yri hysbys ac eglur na roddwn byth i fyny ein hysgolion dyddiol, doed a ddelo. Hyd yn nod pe nas gallem gadw ein hysgolion yn agored ni ddylem eu trosglwyddo i'r Byrddau. Adeil- adwyd yr ysgolion ag arian Eglwysig gyda'r amcan o gyfranu addysg Eglwysig i ieuenc- tyd ein gwlad. Gofyna hefyd, Onid yw'r amser wedi d'od pryd y dylid ffurfio Cym- deithas Amddiffyniad Ysgolion Eglwysig?" Nid yw'r Pabyddion wedi rhoddi i fyny gymaint ag un ysgol. A phaham y rhaid i ni wneyd hyn ? Gobeithia yr ysgrifenydd y bydd rhyw ffrwyth vmarferol er cyfnerthiad ein hysgolion yn deilliaw o Gynhadledd Carlisle, yr hon sydd yn cael ei chynal yr wythnos hon.
[No title]
Y MAE'N arferiad gan rai offeiriaid i sefyll o flaen yr allor wrth arfer gwasanaeth y Cymun, tra yr arfera eraill sefyll wrth y talcen gogleddol. Flynyddau yn ol pender- fynodd y Llys Eglwysig-Llys yr Archau- mai yr arferiad cyntaf sydd iawn. Ar ol hyny penderfynodd y Llys Gwladol-y Cyfrin-gynghor—mai y rhai a arferant yr ail gynllun a enwyd sydd yn eu lie. Ond yn achos Ridsdale newidiodd y Llys Gwladol ei feddwl, a datganodd nad oedd dini i'w ddywedyd yn erbyn y rhai a ddewisant arfer gwasanaeth y Cymun gan sefyll a'u hwynebau tua'r Dwyrain. Cymerodd go- hebiaeth fer ar y pwnc hwn le yn ddiweddar rhwng Dr. Howson, Deon Caer, a'r Esgob Stubbs. Y mae'r Deon Howson wedi bod o'r farn bob amser mai wrth dalcen Ogleddol yr allor y dylid sefyll. Pan ddaeth yr Esgob i Gaer dewisodd ef sefyll o flaen yr allor. Ysgrifenodd Deon Howson lythyr ato ar y pwnc, yn yr hwn y gofynai i'r Esgob ganiatau iddo ryddid ymadrodd a rhyddid i weithredu. Yn ei atebiad dywed yr Esgob nad oes arno ef un awydd am gwtogi rhyddid y Deon, ond hawlia iddo ei hun hefyd ryddid i arfer yr hyn a ystyria efe sydd gyfreithlon. Caiff y Deon fyned at y talcen fel o'r blaen, ond bwriada yr Esgob droi ei wyneb tu a'r Dwyrain.
[No title]
Y MAE'n. Gynhadledd Eglwysig yn cynal ei chyfarfodydd yr wythnos hon yn Carlisle. Y mae'n awr yn agos i chwarter canrif er pan gynhaliwyd y Gynhadledd Eglwysig gyntaf; ac y mae'r cyfnewidiad er gwell sydd wedi cymeryd lie yn yr Eglwys er y cyfarfod cyntaf hwnw a gynhaliwyd yn Neuadd Coleg y Brenhin, Caergrawnt yn y flwyddyn 1860, mewn gwirionedd, yn fawr a rhyfeddol. Y mae'n awr fwy na miliwn o bunau yn cael eu cyfranu bob blwyddyn gan Eglwyswyr tuag at adeiladu Eglwysi; haner miliwn tuag at addysg grefyddol; a chwar- ter miliwn tuag at yr achos cenhadol. Arwydd dda yw bod y Gynhadledd eleni yn rhoddi lie mor flaenllaw i aneddau y gweith- wyr. Y mae cartrefi cysurus a glanwaith i'r dosbarth gweithiol yn un o anghenion mwyaf y dydd. Dylanwad moesol yn unig all yr Eglwys ei arferyd i ddwyn hyn oddi- amgylch, ond bydd y dylanwad hwnw yn gryf ac effeithiol, ac yn gyfryw ag i beri i'n Seneddwyr a mawrion ein tir weithredu yn y cyfeiriad iawn.
MESUR PRIODAS GYDA CHWAER…
MESUR PRIODAS GYDA CHWAER GWRAIG DRANCEDIG. ERTHYGL IV. Beth a ddywed Hanesiaeth ? Un o nod- weddion amlycaf dosbarth helaeth o bobl yr oes hon ydyw eu gwrthwynebiad pen- derfynol i edrych ar faterion cyhoeddus oddiar dir hanesiaeth. Credant mai yn yr oesoedd tywyll yr oedd pawb yn. byw cyn yr oes hon, ac felly nas gall hanesiaeth roddi ond ychydig neu ddim cymhorth. I- Ymlaen y mynant fyned, er gwaethaf holl rybuddion y gorphenol. Rhaid gwas- tadhau pob peth. Cuwch cwd a ffetan." Pe gallent, gwnaent bob peth o'r un lliw, o'r un maintioli, ac o'r un gallu. Pe gallent, ail-greent y byd a'r oil sydd ynddo, ac a ddinoethent gymdeithas o'i holl ddeddfau a'i thraddodiadau, ifrwyth profiad oesoedd, fel y gallai ddechreu byd mewn Paradwys un- waith eto. Ond gofyna pob gwladweinydd doeth, cyn cymeryd ei lwybr mewn unrhyw fater cyhoeddus, "Beth ddywed hanesiaeth?" Nis gallaf fforddio esgeuluso ei gwersi hi, hyhi yw fy llawforwyn benaf. Ac ar y mater hwn, o'r braidd y gall hanesiaeth lefaru yn fwy croew. Nid oes genym, wrth gwrs, faes llawer eangach yr wythnos hon nag oedd genym yn ein herthygl ddiweddaf, ar lais yr Eglwys ar y pwnc. Oherwydd y mae y cwestiwn ei hun yn gwestiwn Eglwysig, ac felly y mae ein gofyniad yn golygu yn benaf beth ddywed Hanesiaeth Eglwysig. Yn benaf dywedwn, nid yn llwyr. Canys gallwn ofyn pa beth ydyw arferion cenhedloedd anwareiddiedig a chenedloedd gwar Paganaidd ? Tystiolaeth Paganiaid dychweledig New Zealand y flwyddyn ddiweddaf ydoedd, mai dychwelyd yn ol i'w hen arferion Paganaidd wnaent hwy pe cym- erent fantais ar y rhyddid roddir iddynt gan y ddeddf sydd eisoes yn ei grym gyda hwynt i briodi chwaer eu gwraig. Ar y llaw arall, yn ol tystiolaeth hanesiaeth Rufeinig, gwaherddid y briodas dan sylw gan y Ehufeiniaid hyd yn nod cyn sylfaeniad Cristionogaeth. Profir hyn yn mhellach gan y ffaith nad oes genym yr un cyfeiriad at y pwnc yn oesoedd cyntaf Cristionogaeth, oblegid pe mai yr arferiad yn mhlith derbynwyr cyntaf Cristionogaeth fuasai'r briodas hon, diau y cawsem yn llawer boreuach ac eglurach nag ydym yn gael gyfeiriadau a mynegiadau ar y pwnc gan yr Eglwys Gristionogol. Y goleuni cyntaf ar y cwestiwn geir yn nechreu y bedwaredd ganrif—hyny yw, os mai dyna amseriad y Canonau Apostolaidd. Yn y pedwerydd Canon ar bymtheg gwa- herddir y briodas hon i'r offeiriad, dan boen llwyr golli ei swydd. Ac er ein sicrhau nad i'r offeiriaid yn unig yr ydoedd yn wahardd- edig y mae genym ar gael lythyr maith o eiddo Sant Basil, yr hwn oedd yn byw tua. chanol yr un ganrif, yn yr hwn y dywed fod y briodas hon yn waharddedig gan yr holl Eglwys hyd y pryd hwnw, ac yn groes i arferiad Cristionogion ymhob oes. O'i amser ef i lawr hyd y bedwaredd ganrif ar ddeg nid oes braidd son am y cwestiwn o gwbi. Y rheswm am hyny wrth gwrs, ydyw fod pobl yn gwybod ei fod yn waharddedig, ac yn ymdrechu cadw'r ddeddf. Yr un y pryd hwn ydoedd deddf y gwledydd a deddf yr Eglwys, a thori deddf y wlad ydoedd tori deddf yr Eglwys. Ac fel. y mae gwaethaf adrodd, Eglwys Ehufain ddechreuodd y drwg. Yn y ganrif uchod a'r un ganlynol dechreuodd y Pab roddi gollyngdod a rhydd- id i Dywysogion gan amlaf i gyflawni y Briodas hon. Ond y mae yn rhaid cofio fod hyd yn nod Eglwys Rhufain ei hun yn edrych ar y rhyddid hwn fel un hollol eithriadol. Y rheol yw y gwaharddiad, ac ni oruwchreola'r Pab ond mewn amgylch- iad lie y bernir mai y drwg lleiaf ddewisir drwy hyny, tuallan i'n Heglwys ni, ac nid Eglwys Rhufain yn unig sydd yn gwahardd y briodas hon felly y gwna Eglwys Groeg sef cangen o'r Eglwys Gatholig. Ac yn wahanol i'w chwaer o Rufain, ni oddefir rhyddid i dori'r rheol i neb ganddi hi. Yr un ddeddf sydd i dlawd a chyfoethog gan- ddi hi. Gwelwn felly yn ngoleuni hanes- iaeth fod pob cangen o'r Eglwys Gatholig yn cyduno i wahardd y briodas hon; ac os edrychwn yn mhellach i'r gwahanol gyfundebau Cristionogol sydd wedi ymneillduo oddiwrth Eglwys ein gwlad, cawn eu bod oil, mor belled ag y gwyddom ni, mewn athrawiaeth yn condemnio y briodas mewn cwestiwn, pa beth bynag yw eu pregethu a'u harferion. Dyma safle y Lutheriaid yn Germani, a chanlynwyr Calfin yn Switzerland, yr Alban, Lloegr a Chymru. Yn ol Cyffes Westminster, unig awdurdod athrawiaethol y Cyfundebau Presbyteraidd drwy yr holl fyd, dywedir yw Pen. xxiv. 4, "Nid oes i fab briodi neb o berthynasau agosach o waed i'w wraig, nas gall o'r eiddo ei hun; nac i ferch berthyn- asau agosach o waed i'w gwr nas gall o'r eiddo ei hun." Y mae yn amlwg gan hyny nas gall gweinidogion y Presbyteriaid (ac y mae hyn yn wir am eu brodyr yn Nghymru hefyd) weinyddu y briodas hon, na'i phleidio gyda'u plaid wleidyddol, heb ar yr un pryd fod yn anffyddlon i'w hymrwym- iadau mewn athrawiaeth ac ymneillduo oddiwrth y Cyfundeb yr ymffrostiant ynddo. Diameu genym fod mawr anghen arnom oil fel Eglwyswyr ac Ymneillduwyr edrych yn ol i'r awdurdodau y credwn ynddynt, y mae hanesiaeth gyda llais eglur yn ein had- gofio o honynt.' Y mae paganiaid Rhufain yn codi i fyny heb ychwaneg na goleuni natur ganddynt yn erbyn llawer o Gristion- ogion yr oes oleu hon, ac yn eu condemnio. Myned yn ol, a disgyn hyd anwariaeth cyntefig Zealand Newydd, medd y Maoriaid, ydyw sefydlu y briodas hon. Y mae'r Eg- lwys Gatholig drwy'r holl fyd yn ei chon- demnio o'r dechreu. Y mae y cyfundebau crefyddol mwyaf dylanwadol ag uniongred yn cyduno yn ei chondemniad. Hyd yn hyn y mae hyd y nod ein Seneddwyr wedi llwyddo i osod ac i gadw nod ac argraff condemniad ar bob ymdrech i'w chyfreith- loni. Y mae Gair Duw, yr Eglwys, a Hanes- yddiaeth, gan hyny, yn erbyn y Mesur. Quid Plura ?
[No title]
Dydd Sadwrn diweddaf, yn Kyffin-square, Bangor, ar ol ychydig ddyddiau o waeledd, bu farw yr henafgwr Griffith Williams, yr hwn a gyr- haeddodd yr oedran o gant a phum' mlwydd. TEULU FFODUS.-Y mae teulu o amgylchiadau cyffredin yn East Kent newydd ddyfod i feddiant o ffortiwn lied dda, o dan amgylchiadau anghyff- redin. Tuag amser Rhyfel Crimea, daeth llafurwr o'r enw John Batt i fyw i Pluckley, gyd a'i wraig, a daeth dyn ieuanc o'r enw Wilkinson i breswyHo i'r un lle, a ffurfiodd gyfeillgarwch a'r Batts. Arferai ysmocio gyda Batt yn ei ardd ar y prydnawn, gan ei gynorthwyo yn fynych gyda'i waith, a chymerai ddyddordeb neillduol yn ei faban, yr hwn a alwai yn John Batt bach," gan ei gario o amgylch, a chyilwyno rhoddion iddo. Yr oedd gan Batt chwaer yn briod, yr hon rai blynyddoedd cyn hyny oedd wedi myned allan gyd a'r Mormoniaid i America, a rhoddodcil Batt lythyr o gymeradwyaeth iddo at ei chwaer. Der- byniwyd hysbysrwydd wedi hyny fod Wilkinson gyda'r chwaer a'i theulu, ac ar ol hyny fod gwr y chwaer wedi marw. Grwnaeth y partion arian lawer yn Denver a dinasoedd y Llyn Halen ond am lawer o flynyddoedd, ni chlywyd dim oddi- wrthynt. O'r diwedd, pa fodd bynag, ymddangos- odd hysbysiadau yn mhapyrau America, a Lloegr fod Squire Wilkinson wedi marw, ac wedi ewyll. ysio ei ffortiwn, yn cyraedd y swm o 13,000p., i J-ohn Batt, o Pluckley, Kent, os yn fyw ond os wedi marw, i John Batt, ei fab ac os oedd yntau wedi marw, i'w frodyr a'i chwiorydd. Bu farw Batt yr hynaf lawer o flynyddoedd yn ol, ac ail- briododd ei wraig ag un o'r enw John Hollands, Green-grocer, a phreswyliant yn Ashford. Y mae y mab, John Batt, wedi bod yn gweithio yn ddi- weddar fel priddfeinwr yn Hastings, ond yn awr, trwy ei ffortiwn, y mae wedi ei godi i fywyd o esmwythyd a digonedd.