Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CORAU EGLWYSIG ABERYSTWYTH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

(Nid ydyrn yn gyfrifol am syniadau ein gohebvjyr.) CORAU EGLWYSIG ABERYSTWYTH. At Olygydd "Y Llan." Syr,—Darllenais gyda hyfrydwch ychydig amser yn 01 yn y LLAN, adroddiadau am Festival a Chynglierdd a roddwvd gan gorau Eglwysig y dref uchod. Mae yn dda iawn genyf weled eu bod wedi uno &'u gilydd dan yr enw St. Michael's a St. Mary's United Choir." Dyma gam yn yr iawn gyferiad, yr hwn fydd yn sicr o dalu ei ffordd i'r corau ond iddynt barhau felly. Mae yn debyg fod y Festival wedi troi allan yn berffaith lwydd- ianus, mor bell ag yr oedd y sanu yn myned, yr hyn sydd yn glod i'r arweinydd ond mewn ystyr arianol nis gwn pa un a oedd yn llwyddiant a'i peidio, gan fy mod wedi bod oddiyno er's llawer blwyddyn bellach. Mae ganddynt yn y dref uchod foneddwr ag y gellir dweyd am dano ei fod yn deall ei waith yn berffaith, hyny yw fel cerddor mae yn deall sut i roddi gwasanaeth yr Eglwys mewn full swing, a mentraf ddweyd nad oes yr un dyn yn Aberystwyth wedi gwneuthur cymaint ag yw ef wedi ei wneyd dros ganu yr Eglwys yn mhob dull a modd. Cymerwn y cor Cymraeg i ddechreu, pwy ydynt ? onid ei bupils ef ydynt ? Dyna y cor Saesneg pwy ydynt ? ei eiddo ef; efe sydd wedi eu hyfforddi yn mhob peth, mor bell ag y mae y canu yn myned. Dyna eto yr Ysgolion Sul yn y lie, a phob cangen mewn gwirionedd, mae yn gwneyd ei ran, a hono yn rhan helaeth. Wel, gan hyny, yr wyf yn gobeithio nad yw Eg- lwyswyr ylle ddim wedi ei anghofio, oherwydd pe gwnaent byddent yn gwneyd cam dybryd ag et. Yn awr, fechgyn, dangoswch eich bod yn gwerth- fawrogi ei lafur, mewn ryw ffordd substantial, drwy roddi tysteb iddo. Rhoddaf fy hatling tuag ati. Efallai y cawn glywed gair oddiwrth rai o aelodau y ddau gor ar y pwnc yn y rhifyn nesaf o'r LLAN.—Yr eiddoch, HEN AELOD.

ADGOFION GAN HENAFGWR.

ARWEINYDDION EISTEDDFOD LERPWL.

EMYNYDDIAETH GYMREIG.

GOFYNIADAU.

CANIADAETH Y CYSEGR.

NIFER Y GWAHANOL BLEIDIAU…

[No title]

NEWYDDION CYFFRSDINOL.