Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
RHESTR 0 DDOSBARTHWYR "Y LLAN."
RHESTR 0 DDOSBARTHWYR "Y LLAN." Aberaeron, J. Jones Aber, Owain Hughes. Aberdare, Farrant & Frost Aberystwyth, W. H. Smith & Son Amlwch, D.Jones, Stamp Office Argoed, D. Thomas, Bookseller Brynmawr, Mrs. Hicks, Beaufort Street Bangor, Humphreys & Parry „ Nixon & Jarvis W. H. Smith & Son Beddgelert, G, Roberts, Church street Bethesda, R. Owen J. Jones Nixon & Jarvis Bala, Ellen Roberts, High Street Bridgend, Mrs. Bird Britton Ferry, D. L. Jones, Villers Street Bargoed, T. M. Jones, Board School Brecon, R. E. Charles, Chemist Caellwyngrydd, R. J. Williams J. Davies Carnarvon, Wm. Griffith, Pool street G. Jones, St. David's road Conway, R. Evans Jones Criccieth, J. W. Bowen Caergybi, Mrs. Williams. Cemmaes, Mont., D. Evans Commins Coch, T. Roberts, N.S,, Darowen Corris, E. Davies, Braichgoch Cottage D. Ivor Jones, Grocer Corwen, Mrs. Edwards Cardigan, Mrs. A. Williams Ciliau Aeron, John Davies, Soar Carmarthen, W. H. Smith & Son W. Spurrell Cardiff, G. Gulliford, 20, Mary Street Cwmavon, H. S. Arnold, Stationer Cwmaman, R. Morgan, Aman Street Chester, Mrs. Wynne, Bridge Strett Cadoxton, Castellnedd, Lewis Rees, 2, Vale Terrace Dolwyddelen, Rowland Evans Dinas Mawddwy, H. Griffith, Grocer Dolgellau, J. M. Roberts, National School Dafen, John Rees, Washman Dowlais, D. Rees, Castle Street Ffestiniog- Llan, 0. Davies, National School Fourcrosses, Ellis Roberts Felinfoel, Llanelli, John John, Stepney Fishguard, Seth Owen Ferndale, LI. Simon, Commercial Street W. Thomas, Brook House Glan Conway, Jesse Jones Glandwr, Aberteifi, Thomas Phillips, Moylgrove Holywell, P. M. Evans & Son Hirwain, Glam., W. Edmunds, Tailor Henllan, Dinbych, Mrs. Evans, 5, Ty Coch Terrace Kidwelly, J. Shankland Llanddarog, J. Harries, Lodge Llanberis, E. Pritchard Llandinorwic, Owen Evans, Minffordd Llandudno. W. Rowbotham Llanfairfechan, R. Roberts, Post Office Llanllyfni, J Parry Llundain, John Pierce, Edgeware Road Llandyssul, J. D. Jones, Draper Llangerniew, O. Williams Llangollen, Hugh Jones, Advertiser Office. Llanfairtalhaiarn, J. R. Jones, Dyffryn Elwy Llanrwst, Gwen Jones, Plough street Llansannan, R. J. Temple Llanasa, J. Jones, National School LJanddanielfab, A. Hughes, Victoria House Llanerchymedd, Misses Jones Llangefni, Nixon and Jarvis Llangeinwen, John Williams, School House Llangurig, Llanidloes, L. Evans Llangynog, near Oswestry, H. L. Evans Llanwddyn, Mont., Williams, Stores Llanegryn, Towyn, Edward Wililams Llanuwchllyn, W. Roberts, National School Lampeter, Jenkin W. Evans Llanrhystyd, James Sinnett, Ystradteilo Llandilo, J. Lockyer „ W. Hopkins Llandrindod, W. H. Smith & Son Llanelly, W. Davies, 31, Market Street Llangunnock, Llanstephan, W. Davies Llanybyther, E. H. Evans, Clwtyffwen Llanymddyfri, D. W. Thomas, Rhandirmwyn Llansamlet, W. Davies, Post Office Llangennech, Henry Evans, Station Master Mardy, John Williams, 48, Mardy Road Merthyr Tydfil, Farrant & Frost 11 Smith & Son Mountain Ash, Mrs. White, Chemist E. R. Rees, Coffee Tavern Machynlleth, W. H. Smith & Son Mochdre, Anne Merris, Shop Mold, Beresford & Co., Printers Menai Bridge Station, Smith & Son Maentwrog, J S. Edwards, Draper Nefyn, John Griffith Neath, John Williams, Bookseller Penmaenmawr, T. T. Roberts Pentir, Bangor, W. Williams Penmachno, Hugh Davies Penygroes, Griffith Lewis Portmadog, W. H. Smith Pwllheli, Robert Roberts Pentraeth, Anglesey, Thomas Rogers, Post Office Penybontfawr, W. E. Williams, Liverpool House Penrhyndeudraeth, W. J. Edwards Pentyrch, Richard Williams Pontypridd, W. H. Key, Chemist Penycae, W. Rees, N.S. Pontardawe, Swansea, Z. Evans Pontlottyn, J. Rees, 29, High Street Pontardulais, Daniel Owen, Stationer Penygraig, D. Morris, Tylacelyn House Rhosllanerchrugog, George Evans, Market street Rhuthin, Chas. Aldrich Rhyl, S. Berrington Rbfttddlan, J. E. Davies, Castle street Ravenhill, Swansea, J. Jenkins Rhymney, Hannah Davies, 11, Thomas Row St. George, Abergele, E. E. Williams Swansea, Smith & Son St. Cynon, Richard Evans, Mat'an Cottages Senny Bridge, W. Davies, Saddler Tanybwlch, St. Ann's, R. Griffith Tregarth, Bangor, W. Jones, Penygroes Tremadoc, R. Isaac Jones Towyn, W. Jones Trawsfynydd, W. Roberts, Bryniorwerth Tynycefn, Corwen, R. Hughes Tregaron, Thomas Hugheg, Grocer Trefforest, F. Hill. Chemist Treorky, Thos. Evans, News Agent Ton Pentre, Alban Jones, Maindy Road Ty Newydd, Treherbert, John Anfield Tredegar, J. Thomas, Printer Trecastle, J. Davies, Draper Talybont, Aberhonddu, Lewis Thomas, Rhydybeinie Trefnant, Dinbych, W. H. Powell Velindre, D. Phillips, Nevern v YÐuààiol1 CyoeààufL Wrexham, Bayley & Co., Hope street J. Fisher, Church street Whitland, G. Rees Ysbytty, Bettws y Coed, C. E. Evans, N. S. Ystrad Rhondda, D. Jones, Bookseller Ystradgynlais, Thos. Williams, Pelican StreetJ Hefyd yn y lleoedd canlynol:-Lianbedr Velfrey, Abergele, Llannefydd, Talsarnau, Llanelidan, Llanfall- ty, Pembrey, Llanfynach, Llanddewi (Narberth), Llan- gain, Eglwyswrw, Cowbridge, Penmynydd, Colwyn, St. Ann's (Caerfyrddin), Tydweiliog, Llanddeiniol, Llan- gadwaladr, Deri, Gelligaer, Mydrim, Newport (Pem.), Llanfechell, Golden Grove, Capel Bangor, Clarbeston Road, Llanfachreth, Croesoswallt, Llanymawddwy, Bethel, Letterston, Bryneglwys (Bettws-y-Coed), Pen- carreg, Llanfechain, Llandudoch, Llandegai, Ty Ddewi, Llangendeirne, Llanrhaiadr, Penboyr, Boncath, Llwyn- hendy, Llanddeusant, Llangynllo, Ebbw Vale, Trelech. Gellewin, Llantrisant, Maesteg, Llanon, Abertawe, Llanbrynmair, Cefncoedcymer, Taff Fechan, &c. Bydd yn dda gan y Cyhoeddwyr benodi dosbarthwyr lie nad oes rhai eisoes. Am y telerau anfoner i'r swyddfa.
Advertising
W ANTED, in the Diocese of Llandaff, a Curacy by a Priest, Bilingual.—Apply, A., LLAN office, Merthyr Tydfil. [80 SCHOOL wanted by an experienced Certificated, Parchment, Master, (32). Sewing, Singing, &c. Excellent Testimonials.—Master, Llan Office, Merthyr Tydfil. [90 WANTED a Master for the Llanfair Caereinion National School (mixed). Harmonium. Welsh. Apply to the Rev. T. JEFFREY JONES, Llanfair Vicarage, Welshpool. [103 WANTED immediately, Mistress for Small Mixed School. Sala-ry X45, and Apart- ments partly furnished. Church, Harmonium, Welsh. Apply, Rector, Trawsfynydd, N. Wales. [107 A Lay Reader desires Re-engagement. Reading for Examination. Earnest and active. Apply,—"G," LLAN Office, Merthyr Tydfil. [108 SWYDDFA ARGRAFFU Y CAMBRIAN, MERTHYR.TYDFIL. "lyTAE FARRANT A FROST (cyhoeddwyr — y newyddiadur hwn), yn ymgymeryd a phob math o Argraffwaith, &c. Cerir allan bob archeb mewn byr amser am brisiau isel. Magazines Plwyfol yn cael e lleoli, ac Argreffir Cylchlythyrau, Rhybuddion, Rheolau Cymdeithasau a Guilds, ar y rhybudd lleiaf. Cyhoeddwyr "Llusern y Llan," "Cambrian Diary and Time Table i Gymru," Llyfrwerthwyr, &c., Mer- thyr-Tydfil. CAN GEN-SWYDDFA, STAMP OFFICE, ABERDAR. HYSBYSIADAU Y LLAN. Dylid eu derbyn yn y swyddfa erbyn DYDD MERCHER yn mhob wythnos. PRISIAU. 75 o eiriau (solid) neu un fodfedd i lawr y golofn (displayed):— Un wythnos (tal yn mlaen Ilaw) 2s. Tair wythnos 5s. Bob tro ychwanegol (yr un) Is. 26 o wythnosau (yr un) 9c. 52 o wythnosau (yr un) 6c. Hysbysiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreithiol. 6c. y llinell. Arwerthiadau, 4c. y llinell. HYSBYSIADAU BLAEN-DALIADOL RHAD. Cyhoeddir hysbysiadau fel y canlyn, os TELIR YN MLAEN LLAW, yn y Llan yn ol y raddfa ganlynol:— 20 oeiriau:—Unwaith, Is.; tair gwaith, 2s. 6c.; chwech etto, 4s. 6c. 30 o eiriau:—Unwaith, Is. 6c.; tair gwaith, 4s.; chwech, etto, 6s. 6c. 40 o eiriau :-U nwaith, 2a.; tair gwaith, 5s. 6c.; chwech, etto, 8s. 6c. ——— TELERAU GWERTHIANT Y LLAN. Anfona y Cyhoeddwyr un copi o'r LLAN yn ddidrau drwy y Llythyrdy i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol fel y canlyn: Chwarter blwyadyn, Is. 8d.; haner, eto, 3s. 4d.; blwyddyn, 6s. 8d. Anfonir Y Llan i ddosbarthwyr ac eraill, wedi talu y cludiad, fel y canlyn :— Gyda'r Post. Gyda'r Trên. Dwsin loc. 9c. Nifer mwy yn ol yr un raddfa. CYHOEDDWYR :-MRI. FARRANT A FROST, High-street, Merthyr-Tydfil. AT EIN GOHEBWYR. CYFANSODDIADAU (wedi eu hysgrifenu ar un tu i'r ddalen) i fod mewn llaw cyn neu erbyn boreu Mawrth, cyfeiriedig— THE EDITOR, LLAN Office, ———— Merthyr Tydvil. Os teimla ein dosbarthwyr a'n derbynwyr unrhyw anhwylusdod ynglyn a, chludiad y LLAN o Merthyr Tydfil, bydd yn dda genym pe yr hysbysent ni y ffordd oreu i'w hanfou, fel ag iddynt eu cael yn brydlon. DALIER SYLIV.-Nis gallwn ddychwelyd ysgrifau na wneir defnydd o honynt. BUASAI yn dda gan y Cyhoeddwr bennodi dosbarthwyr i werthu YLlan lie nad oes rhai eisoes. Am y telerau, anfoner i'r swyddfa. Cyfeirier cyfansoddiadau barddonol fel y canlyn :— Rev. Ll. M. Williams, The Vicarage, Pontlottyn, Cardiff. CYFARFODYDD DIOLCIIGARWCH AM Y CYNHAUAF.—Taer erfyniwn ar i'n gohebwyr fod yn fyr a chryno wrth anfon adroddiadau am y cyfarfodydd hyn, gan na chaniata gofod i ni gyhocddi adroddiadau meithion. Dymunir sylw neillduol i hyn. PAUL Piiy.-Nid oes genym ofod i gyhoeddi eich ysgrif. Da chwi ysgrifenwch ag inc. MEM NUN.-Diolch i chwi. Gwyn fyd na ddisgynai deuparth o'ch ysbryd rhagorol ar eraill sydd yn llesg. Gallwcli wneyd llawer o ddaioni yn eieh cylch; llwyddiant a ddilyno eich ymdrechion clodwiw. RHYBUDD.—Nis gallwn ateb am y canlyniadau pe cy- farfyddai ein cysodwyr a'r gohebwyr hyny sydd yn euog o ysgrifenu a. black lead, yr hyn a wna eu hys- grifau yn dra aneglur. Cofiwch. am nosweithiau hirion y gauaf, a defnyddiweh inc. SION WILLIAM.—Na hidiwch, nis gallant eich drygu bydd yn dda genym glywed oddiwrthych mor ami ag y bo yn ddichonadwy. MEWN LLAW.—Gwilym, Ap Dinmael, Iestyn, Gaerwen- fab (rhy ddiweddar), Llanuwchllyn (un arall wedi eich rhagflaenu), Deiniol Wyn, Wmffra, Mem Nun, Un hoff o'r gan, Llew Caron, Homo, Iago Glanleri, (fee.
CYNWYSIAD.
CYNWYSIAD. 1. Hysbysiadau 2. Yr Wythnos, Mesur Priodas gyda Chwaer Gwraig Drancedig. 3. Gohebiaethau. Newyddion Cyffredinol. 4. Hysbysiadau, At ein Gohebwyr, Erthyglau, &c. 5. Cynhadledd Esgobaethol Llandaf, 1884, Cynhadledd Esgobaeth Carlisle, Barddoniaeth, a Newyddion Diweddaraf. 6. Diolchgarwch am y Cynhauaf. 7. Newyddion Cymreig. 8. Ystryw i Dwyllo Meistr Tir, Cyfarfod Trwyddedol Merthyr-Tydfil.
AT EIN DOSBARTHWYR A'N DERBYNWYR.
AT EIN DOSBARTHWYR A'N DER- BYNWYR. Byddem yn ddiolchgar i'n Dosb arthwyr a'n Derbynwyr pe talent sylw mor fuan ag C) sydd bosibl i'r biliau am y LLAN, fel ag i'n galluogi i wastadhau y cyfrifon.
YR IAITH GYMREIG YN YR YSGOLION…
YR IAITH GYMREIG YN YR YSGOL- ION ELFENOL. Bu y pwngc a ddynodir dan y penawd uchod dani sylw helaeth a manwl y Cym- rodorion yn Eisteddfod Liverpool, ac am amser lIed faith cyn hyny. Ymddengys mai yr amcan mwyaf uniongyrchol ydoedd (1) cael allan trwy ymofyniad manwl pa un a ydoedd yr iaith Gymreig yn colli tir yn Nghymru ai peidio; (2) pa gan belled ei defnyddid fel cyfrwng cyfranu addysg yn yr ysgolion elfenol; a (3) a fuasai yn fuddiol dwyn i mewn i gylch yr addysg a gyfrenir yn yr ysgolion elfenol wersi penodol i addysgu ysgrifenu Cymraeg yn gywir. Cymerir y Wyddelaeg fel special subject i gylch addysg yn ysgolion dyddiol yr Iwerddon, a theimla rhai awydd cael i'r Gymraeg yn Nghymru yr un rhagorfraint. Y mae y pwngc hwn o ;o gryn ddyddordeb yn ei agwedd ymarferol, ac fe allai nad yw ei drafodaeth yn an- amserol. Mewn perthynas i safle yr iaith Gymreig yn Nghymru, methir a gweled ei bod yn prysur golli tir yn unman. Nid yw llanw y Saesneg wrth ddyfod i mewn ar hyd y ffyrdd haiarn fel afon ddidor ddim yn gwthio allan y Gymraeg. Deil yr hen iaith ei thir yng nghysgod pob bryn, a gallt, a chlogwyn, a cheidw ei gafael ar bob hen brif- ffordd, a myn gael glywed ei llais yn mhob ffair a marchnad. Yr un modd, er fod ys- golion elfenol fel man ffynhonau dros wyneb yr holl ardaloedd, o'r ddinas boblog i gym- oedd pellaf y mynydd, yn parhaus fwrw allan eu man ffrydiau Seisnig, y mae y rhan fwyaf o'r rhai hynyn sychu i fyny yn nghanol gwres y Gymraeg, neu yn cyfeirio i Loegr, ac i blith teuluoedd Seisnig. Felly, tra y mae y Saesonaeg yn sicr a chynyddol ym- daenu dros ranau helaeth o Gymru, nid yw y Gymraeg yn darfod fel y tybia rhai. Y wers bwysig ynglyn a hyn ydyw, nac esgeuluser y naill na'r llall yn ngwasanaeth yr Eglwys. Ymdrecher darparu ym mhob modd ar gyfer addysg ysprydol y Saeson yn ein mysg, ond na esgeuluser y Cymry i wneuthur hyn. Cymraeg ydyw iaith y galon grefyddol mewn llawer ardal lie y mae Saesneg wedi dyfod yn iaith ei mas- nach. Gall y dyn sydd yn troi ynnghylch- oedd uchaf cymdeithas wrth glywed yr iaith Saesneg yn cael ei llefaru yno, feddwl ei bod yn ngenau pawb, ond camgymerir yn fynych. Mewn perthynas i ddefnyddiad o'r iaith Gymraeg fel cyfrwyr cyfraniad addysg yn ysgolion elfenol, mawr wahaniaetha y naill athraw oddiwrth y llall. Un o amcanion blaenaf cyfraniad addysg yn Nghymru ydyw dwyn y disgyblion i wybodaeth ymarferol o'r Saesneg trwy gyfrwng y Gymraeg i ddad- blygu a diwyllio meddyliau y disgyblion. Tybia rhai fod y fantais o hyn yn fawr. Ond am y ffrwyth neu gynyrch (result) yr edrych yr athraw ymarferol—ac y mae corph mawr yr athrawon yn dra ymarferol. Y mae eu llygaid hwy ar ddydd yr arholiad. Edrychant pa fodd y gallant ddyfod i fyny oreu a gofynion y dydd hwnw mewn darllen ac ysgrifenu Saesonaeg, ac mewn rhifyddu. Dengys dydd y prawf mai yr ysgolfeistriaid a fyddont wedi siarad ac ymboeni fwyaf yn Saesonaeg, a lleiaf yn Gymraeg, wrth gy- franii addysg, a fyddant fwyaf llwyddianus yn y cyffredin ar ddydd yr arholiad. Rhaid amgylchu y plant tra byddont yn yr ysgol ag awyrgylch Seisnig megis i Seisnigo eu meddyliau. Y mae swn parhaus ymad- roddion Seisnig yn eu cynefino ar iaith, ac y mae mynych glywed y geiriau yn peri iddynt suddo i'r cof. Felly cyfynga yr athrawprofiadol ymarferol ddefnyddiad yr iaith Gymraeg i eglurhad geiriau yn unig, a hyny ym mysg y dosbarthiadau isaf gan mwyaf. Credwn y byddai yn annoeth ymyryd a doethineb yr athrawon mewn( gwahardd neu gymhell defnyddiad o'r Gym- raeg yn amgen nag y gwelont hwy yn ddoeth. Ar ran y meistr nid oes ganddo ddim llawr i'w enill trwy gyfnewidiad. Gyda golwg ar ddwyn addysg yn Gymraeg i mewn fel special subject yn Nghymru fel y gwneir a'r Wyddelaeg yn yr Iwerddon, gall hyn fod yn bwngc ymarferol. Y gwir- ionedd am y Wyddelaeg yw ei bod yn marw, ac mewn peryglo farw, cyn i'r Ger- maniaid ei dysgu, ac yn sicr cyn ei dwyn dan reolau trefnus Gramadeg. Nid oes gan y Gwyddelod eu hunain ddigon o bwyll ac amynedd i drefnu ei Gramadeg. Pwngc o syniad a theimlad i ychydig o Wyddelod anwybodus o honi yw ei dysgu yn yr ysgol- ion, ond y mae y Gwyddelod Celtaidd yn rhy ddifraw, dirym, a diog i'w chadw yn fyw. Gan fod y Gwyddelod yn gwd mwytha'' rhyw dosbarth o wleid- yddwyr, caniateir iddo y fraint a nodwyd. Ond nid oes ar y Gymraeg eisieu ffyn-baglau, ac ni chyfarfuasom erioed a rhieni yn dy- muno cael dysgu Cymraeg i'w plant yn yr ysgol bob dydd." Plant y werin Gymreig a ddysgir yno. Dysgu Saesoneg ydyw awydd uchaf y rhan hon o'r boblogaeth. Y mae Cymraeg yn eiddo iddynt, nid oes arnynt ofn ei golli; ac ni ddymunant i'w plant wario amser i ddysgu ei ysgrifenu. Credant mai gwybodaeth o'r Saesoneg yw y drws i'w plant droi allan i'r byd ar delerau teg a chydradd a'u cymydogion. Gellir ymddiried diwyllant yr iaith Gymraeg i yni meddyliol y genedl, i'r Ysgol Sul, y pwlpud, y wasg, y cyfarfodydd llenyddol, a'r Eisteddfod. Pan ballo y peirianwaith nerthol ac effeitdiol hon a bod yn ddigonol i gyfarfod holl an- ghenion magwraethj yr iaith bydd hithau wedi peidio bod yn anwylbeth ac anadl bywyd y genedl. Chwareu teg a dim ffafr yw'r oil a ofyna yr hen iaith rhwng terfynau Cymru. Braidd nad ofna gael ei lladd a charedigrwydd. Er cael ei bwrw allan o lys y gyfraith a'r Palas Esgobol gan deulu estronol, Orange a'r Hanoveriaid, ac er cael ei haner esgynmuno o eglwys y plwyf, fe ddaliodd yr. hen iaith ei thir, ac y mae ynddi ddigon o yni i ail-feddianu y rhai hyn yn ol. Ni threngodd yn yr oerni; na ladder hi â gormod gwres.
CYNHADLEDD ESGOBAETH CARLISLE.
CYNHADLEDD ESGOBAETH CARLISLE. Agorwyd y Gynhadledd Eglwysig yn Carlisle ddydd Mawrth, a dangosai gweithrediadau y dydd cyntaf arwyddion digamsyniol o lwyddiant. Ym- gyfarfyddodd y Cyngor Dinesol yn y boreu, a phasiwyd penderfyniad ganddynt yn llongyfarch y Gynhadledd. Llywyddwyd gan Esgob Carlisle, i'r hwn y cyflwynwyd ffon fugeiliol hardd a drud- fawr ar ran y tanysgrifwyr gan Arglwydd Mum- caster. Yn mhlith y rhai oeddynt yn bresenol yr ydoedd Archesgob Caerefrog, Esgobion Durham, Bedford, Derry, St. Andrews, Deoniaid Lichfield a Manchester, Iarll Nelson, Syr Richard Cross, A.S., &c. Wedi i Arglwydd Mumcaster gyflwyno y ffon fugeiliol, cyflwynwyd anerchiad y Cyngor Dinesol gan y Maer. Diolchodd yr Esgob mewn araeth alluog am y rhoddion, ac yna ffurfiwyd gorym- daith i'r Eglwys Gadeiriol. Cynhaliwyd gwasanaethau yn yr Eglwys Gadeiriol, St. Cuth- bert a St. Mair, ac yr oedd cynulleidfaoedd mawr- eddog ymhob un o honynt. Pregethwyd gan Archesgob Caerefrog, ynghyd ag Esgobion Derby a St. Andrews, Yn y prydnawn cynhaliwyd cyfarfod yn y Congress Hall, yr hwn oedd yn orlawn. Tra- ddodwyd yr anerchiad agoriadol gan y llywydd, Esgob Carlisle. Yna cafwyd ymdriniaeth ar Dai y tlodion," ar yr hyn y darllenwyd papyr gan Esgob Bedford. Cafwyd anerchiadau arno gan yr Uch-gadben Rankin, y Parch. J. W. Wilson, Clifton; W. Inglis, y Parchn. C. W. Stubbs, Canon Temple, A. Humphreys, R. W. Ramnall, a'r llywydd. Yn y Drill Hall, cafwyd ymdriniaeth ar 11 Lon- yddiaeth Boblogaidd," yr hon a agorwyd gan y Parch J. E. Walldon. Darllenwyd papyrau ar yr un pwnc gan eraill. Cynhaliwyd cyfarfod yn yr hwyr yn y Congress Hall, pan y cafwyd ymdriniaeth ar Hawliau plwyfolion mewn Eglwysi plwyfol." Yr un adeg, yn y Drill Hall, cafwyd ymdrin- iaeth ar yr hyn allai Lloegr ddysgu oddiwrth Ysgotland a'r Iwerddon mewn materion ysbrydol. Dydd Mercher, ail-ymgyfarfyddodd y Gynhad- ledd, a daeth cynulliadau mawrion ynghyd i'r oil o'r cyfarfodydd. Yn y Congress Hall, dan lyw- yddiaeth Esgob Carlisle, y cynhelid y cyfarfodydd pwysicaf. Yn nghyfarfod y boreu, pwnc yr ym- driniaeth ydoedd adroddiad Dirprwywyr y Llys- oedd Eglwysig. Darllenwyd papyrau arno gan Syr R. Cross, A.S., a'r Parch. E. Hatch, a siarad- wyd arno gan yr Arcliddiacon Norris, Canon Hoare. Esgob Winchester, y Canghellydd Espin, Canon Stowel, &c., ac wedi i'r llywydd ddweyd ychydig eiriau ymwahanwyd. Yn y prydnawn cafwyd anerchiad gan Esgob Durham ar ganlyniad yr yrnchwiliadau a wnaed yn ddiweddar ynglyn a hanesiaeth Beiblaidd. Cynhaliwyd cyfarfodydd befyd yn y Drill Hall, pryd yr ymdriniwyd a Gwaith Lleygol," a Chapleniaid mewn gwledydd tramor." Dar- llenwyd papyrau arnynt gan yr Esgob Bromley, Esgob Gibraltar, yr Esgob Titcomb, &c,