Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Y GYMDEITHAS ER LLEDAENU GWYBODAETH…
Y GYMDEITHAS ER LLEDAENU GWYBOD- AETH YR EFENGYL MEWN GWLEDYDD TRAMOR. ABERGWILI.—Y Sul cyn y diweddaf casglwyd tuag at y gymdeithas uchod yn y plwyf hwn, pryd y pregethwyd gan y Parch. 0. G. Brown, Principal y Training College, a'r Parch. T. Phillips, curad St. Pedr, Caerfyrddin. TREFONEN, GER CROESOSWALLT.—-Ar yr un Sul pregethwyd yma gan y Parch. T. Lloyd Williams, B.A., cynrychiolydd y gymdeithas, a chasglwyd tua ohymaint ddwywaith ag arferol. Pregethwyd ganddo hefyd yn y Mission Room,, Treflach. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, a rhai yn gorfod aefyll, er fod yr hin yn wlyb. Y mae yma lewyrch ar y gwaith wedi bod ae yn parhau.
[No title]
Dychwelodd rheithwyr reithfarn o lofrudd- iaeth wirfoddol yn erbyn dyn ieuanc o'r enw Harris, yr hwn a gyhuddir o drywanu bachgen ieuanc, 16 mlwydd oed, yn Llundain, yn mis Medi.
LLANDYSSUL.
LLANDYSSUL. DYDD CALAN HEN, Ionawr 1884.—Gynhaliwyd pwyllgor yn y Ficerdy yn y lie uchod ar y 10fed cyfisol i :ragdrefnu eleni eto gyda golwg ar y gweithrediadau cysylltiedig ag arholiad y gwahanol Ysgolion Sul yn y plwyfi cylchynol, y rhai a arferant gyfarfod yn Eglwys y plwyf ar ddydd Calan Hen er's llawer o flynyddau bellach. Daethpwyd i'r pender- fyniadau canlynol: Y gwasanaeth i ddechreu am 10.30 lyn y boreu, i'w intonio gan y Parch D. Jenkins, Llanfair Orllwyn y Salm briodol i'r ach- lysur i fod y gyntaf yn y Festival Book, a'r Emyn ar 01 y gwasanaeth, O agor fy llygaid i weled," &c.. ar y don Elliott." Pob ysgol i ddewis ei anthem a'i rhanau ei hun o'r Ysgrythyr Lan i'w arholi arno ond ni chaniateir ,dros 15 adnod i bob un. Fod 10 munyd i arholi bob ysgol. Arholir yr ysgolion yn y drefn ganlynol: Llanpumsaint, gan y Parch J. Jones, Llanfihangel-ar-arth St. David's a St. Fraid, gan y Parch D. Jenkins, Llanfair-orllwyn; St. John a Llandyssul, gan y Parch W. Powell, Bangor; Pencader a Llanfihangel, gan y Parch J. Lloyd, Llanpumsaint; Bangor, gan y Parch R. Williams, Llandvssul; Llangeler a Chapel Mair, gan y Parch Mr. Williams, Penboyr: Penboyr a St. Barnabas, gan y Parch J. Williams, ljlangeler. Ar y diwedd ceir anerchiad gan y Parch W. G. Jenkins, ficer Llawdyssul, a therfynit trwy gan yr Hen Ganfed."
DALENAU Y GYMDEITHAS AM-DDIFFYNOL.
DALENAU Y GYMDEITHAS AM- DDIFFYNOL. RHIF I. DADWADDOLIAD YR EGLWYS YN El NODWEDDIAD ARIANOL AC YN EI GYSYLLTIAD A'R CYHOEDD. Clywir weithiau awgrymiadau y byddai y bobl yn gyffredin ynwell allan pe y diddymid y degwm, a hyny am fod yr offeiriad yn myned a'r cyfryw swm o arian o'u llogellau hwy. Nid oes dim gwirionedd yn hyn. Pe diddymid pob ceiniog o ddegwm ar holl dir Prydain, ni fyddai yn elw i neb ond i'r tir-fedd- ianwyr. Pa le bynag y ceir fferm heb ddegwm gofalo y meistr tir am ardreth uwch o gymaint a swn y degwm. Pe diddymid yr holl ddegwm cyfodid ardrethi yr oil o'r tir. Lie y ceir ffermwr yn awr yn talu X90 mewn ardreth a XIO mewn degwm, cyfodid arno X-100 mewn ardreth yn unig. Ni byddai i hyn wella dim ar ei gyflwr, ond yn hytrach ei niweidio o herwydd, gan mai yn ol ei ardreth y gosodir treth arno, byddai ei dreth yn uwch mewn cyfartaledd i godiad ei ardreth. Byddai yn rhaid iddo felly dalu treth ar y X10 codiad, yr hon a delir weithian gan y per8on. Drachefn, pe diddymid y degwm byddai yn rhaid un ai i'r bobl dalu i'r personiaid o'u llogell- au eu hunain, neu eu colli o'u mysg. Weithian, pe collid y personiaid o'r wlad a fyddai hyny yn lies i unrhyw blaid ? laf. A fyddai y tlawd a'r gweithiwr yn well allan ? Pa un ai baich ar y cyfryw ai cymhorth iddynt ydyw y person! pa un ai drvgydd ai cy- Ily mwynaswr ? Gadawn i brofiad oesoedd ateb. 2il. A fyddai y ffermwr o denant yn well allan drwy dalu i'r meistr tir yn hytrach nag i'r person, ac wedi colli cymwynasydd y tlawd, ymwelydd a'r claf, a threfnydd olaf llawer mater teuluaidd ar derfyn einioes ? 3ydd. A fyddai y masnachydd a'r siopwr ar eu henill pe byddai i'r swm a delir yn awr i'r person, ac a werir ganddo yn ei ardal ei hun, fyned i law y tir-feddianydd pellenig i'w gwario ganddo yn gyffredin ganoedd o filldiroedd o'r plwyf ? Nis gallwn dybio am un dosbarth o'r bobl gyff- redin ag a dderbynient un elw trwy ddiddymiady degwm neu enciliad yr offeiriad plwyfol o'u mysg. Ac y mae yn ddigon amlwg na byddai neb yn well allan pe byddai yn rhaid talu cyflogau yr holl offeiriad trwy gyfraniadau gwirfoddol. Y mae gwirfoddiaeth yn cael gwneyd ei goreu fel y mae, a thir lawer yn mysg y gweithwyr eto heb ei fedd- ianu o afael difaterwch anghrefydd. Y mae yn llawn bryd i'r Cymry, yn amaethwyr, masnachwyr, a gweithwyr, ^ddeffroi ac edrych y pwnc hwn yn ei wyneb. Dywedir am y gyfundrefn wirfoddol ei bod yn dda; felly credwn ninau: felly y credai ein lienaflaicl, pan y bu iddyntio'u gwirfodd gyflwyno a chysegru y ddegfed ran o gynyrch blynyddol eu tir at wasanaeth yr Eglwys dros byth. Pan werthent y tir, gwerthent ef am gymaint yn llai, am y rheswm eu bod wedi rhoddi y ddegfed o'i gynyrch at Grist. Gofala y Wladwriaeth yn bresenol ar fod i'r neb a brynodd dan amodau degymol, a hyny am lai o arian cyfatebol i'r swm, dalu y cyfryw i'r hwn y mae yn ddyledus, yn union fel y gofala am i bob enwad Ymneillduol dderbyn yn briodol unrhyw waddoliad a ddichon berthyn iddynt. Yn y dull yma y mae genym offeiriaid ymhob plwyf, yn byw yn ein canol, a gobeithiwn, yn gwneuthur llawer o ddaioni, heblaw y lies arianol a fu dan ystyriaeth. Nid ydynt yn costio yn bresenol un geiniog i ni yn yr oes hon, ond yn unig cynelir hwy gan yr hyn a roddwyd ganoedd o flynyddoedd yn ol, leiddo nad yw yr amaethwriyn talu rhent drosto, neu dir-feddianydd wedi ei brynu. Ond weithiau cyfyd plaid o ddynion i fyny gan alw eu hunain yn gyfeillion y gweithwyr, a cheisiant ein darbwyllo fod y degymau yn dyfod allan o boccdi llafurwyr y tir—eu bod yn dyfod allan o'r trethi—y dylid eu cymeryd oddiar yr Eg- lwys hyny yw, y dylid cymeryd ymaith y rhoddion ag y darfu i Eglwyswyr eu rhoddi yn wirfoddol i'r Eglwys, gan ei hyspeilio o'i hen waddoliad, a'i chymhell i ail-ddechreu gwaddoli ei hun drachefn, er mwyn, y mae yn debyg, iddi gael ei hyspeilio eilwaith ymhen canrifoedd eto, a thrachefn gael ei chymhell i haelioni. Gymry, ipan edrychwn i'r pwnc hwn, hyd yn nod yn frysiog, gallwn weled trwy anghyfiawnder dybryd y fath ymresymiad! Cofiwn mai ein genedigaeth-fraint yw gweinidogaeth waddol- edig a chysuron crefyddol didal; na oddefwn i neb ein hamddifadu o honynt; na phleidleisiwch dros un Eglwys-yspeilydd, ond dros wyr y gellwch ym- ddiried ynddynt, y safant dros ein Heglwys a'n Brenhines; o herwydd os dymchwelir y naill syrth y llall!
MARWOLAETH DISYMWTH ARDALYDD…
MARWOLAETH DISYMWTH AR- DALYDD LONDONDERRY. Meddianwyd holl drigolion Machynlleth a'r cylchoedd â gofid diffuant ar dderbyniad yr hys- bysiad fod y boneddwrjanrhydeddus a theilwng, Ardalydd Londonderry, wedi marw yn iiynod ddi- symwth yn Plas Machynlleth, nos Fercher cyn y diweddaf. Tybir mai yr achos o'i farwolaeth yd- oedd appoplexy. Llywyddai yn llys yr ynadon y diwrnod hwnw, ac ymddangosai fel pe mewn cyfiawn feddiant o'i gynefin iechyd. Oddeutudau o'r gloch, yr oedd gweithrediadau y Ilys wedi myned heibio, ac eisteddodd yr Ardalydd gydag amryw foneddwyr eraill yn y palas. Yn mhen ychydig fynudau, fodd bynag, cwynodd oddiwrth gur yn ei ben, ac aeth i ystafell arall, lie y cafodd ymosodiad trwm o beswch. Arweiniodd yr Ar- dalyddes ef o'r ystafell hono i'r llyfrgell, ac anfon- wyd am y Dr. Davies. Gwaethygodd ei arglwydd- iaeth, a bu yn anymwybodol o'r amser hwnw hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le am chwarter wedi deg y noswaith hono. Cyrhaeddodd Dr. Hurd, yr Amwythig. yno hefyd erbyn chwarter wedi un ar ddeg, ond yr oedd yn rhy hwyr wrth gwrs. Y mae trigolion Machynlleth wedi colli un o'u chyfeillion a'u noddwyr penaf. Yr oedd ei arglwyddiaeth a'i deulu yn troi o gwmpas yn mhlith y bobl, yn cymeryd cyfran o'u llawenydd a u gofid, ac yn cefnogi a noddi pob symudiad daionus yn yr ardal. Profion amlwg o hyn a gan- fyddir wrth edrych ar y Vane Hall, yr elusendai, a llawer eraill o :sefydliadau daionus. Y mae y tlodion, yn neillduol, wedi colli gwir gyfaill, yr hwn a gyfranai i bawb a ddeuai ato i ofyn elusen, ac a'u cynorthwyai yn mhob cyfyngder. Cladd- wyd ei weddillion marwol yn mynwent Eglwys Machynlleth ddydd Mawrth.
LLANSANTFFRAID AR OGWY.
LLANSANTFFRAID AR OGWY. (St. Bride's Minor). Deisyfaf am ychydig ofod yn eich newyddiadur clodwiw y tro hwn eto, er mwyn ceisio hysbysu y cyhoedd ynghylch darlleniad Si Quis Mr. W. H. Jones (neu bapyr a ddarllenir yn gyhoeddus o flaen yr Eglwys), pa un a gyhoeddwyd yn yr Eg- lwys hon boreu Sul diweddaf gan y Parch. H. Lewis, Rector, pan y dywedodd ei fod wedi ei gymeryd o'r Ysgol Sul, wedi ei fedyddio a'i gon- ffirmio o dan ei lywyddiad ef. A dangoswyd boddlonrwydd mawr i'r oil gan y gynulleidfa. Gallem feddwl mai un o'r pethau mwyaf niweidiol i grefydd ydyw i ddynion heb dduwioldeb ruthro i mewn i'r weinidogaeth Efengylaidd. Mae yn resyn meddwl fod neb yn cael eu rhoddi yn fugeiliaid eglwysi heb sail gadarn i gredu eu bod yn ddu wiol ac yn bur o galon. Nid oes un am- heuaeth am gymeriad disglaer y brawd Mr. Jones ei fod yn wr ieuanc da ymhob ystyr sydd eglur i bawb a ymarferant ag ef. Er na chafodd, fel llawer o enwogion o'i flaen, ond ychydig ddysg- eidiaeth yn ei blentyndod, eto ymdrechodd, a thrwy nawdd a chymorth ei rieni llwyddodd i gael av* rhywfaint o ysgol gyda Mr. Edward Davies, j ysgolfeistr, Bryncethin. Wedi hyny bu o dan ofal ac irweiniad medrus y Parch. Henry Lewis, Rector y plwyf. Gallwn edrych ar ei gyflead i ofal y gwr duwiol a dysgedig hwn wedi bod yn foddion i'w ddwyn ef i adnabyddiaeth o'r gwir- ionedd a'i addasu mewn modd fel agli gael der- byniad i goleg. Yn ystod yr amser hwn hefyd bu Mr. Jones yn llafurio llawer mewn pregethu yn Gymraeg a Saesneg yn yr addoldai cylchynol. Y mae yn meddu doniau rhagorol i weddio a rhwyddineb mewn ymadrodd. Y pethau hyn mae'n debyg dynodd sylw ein parchus offeiriad fel ag i'w anogi i ddechreu pregethu. Dwy flynedd yn ol, pan nad oedd ond un ar hugain oed, llwyddodd i gael mynediad i goleg St. Aidan's, Birkenhead, ac yn ystod ei arhosiad yno llafuriodd yn ddiwyd fel myfyriwr duwinyddiaeth, ac enillodd iddo ei hun ganmohaeth uchel gan yr athrawon, enw da, a llawer o wobrwyon gwerthfawr, yr hyn sydd yn dangos yn eglur na threuliodd ei amser 0 yn segur. Ymddangosodd ei enw ychydig wyth- nosau yn ol ar dudalenau y LLAN, ymhlith efryd- wyr llwyddianus y Coleg. Llawenydd calon pob Cristion ydyw gweled ieuenctyd y wlad yn codi i fynu o ddinodedd i lanw sefyllfaoedd mor uchel yn llywodraeth y Brenin Mawr, yn lie eu bod yn ymuno a byddin Tywysog yr awyr. Dymunaf lwyddiant o'm calon i Mr. Jones i fyned yn ei flaen yn wrol gyda'r gwaith pwysig y mae wedi ddechreu, gan obeithio y bydd hyn yn anogaeth i lawer bachgen ieuanc a diwyd o'r plwyf hwn, neu o ryw blwyf arall, ymdrechu dilyn yr un llwybrau daionus, fel y byddont o les i'r byd, yn addurn i'w teuluoedd, ac yn foddion i chwanegu llawer at rifedi canlynwyr y Duw Byw.-R. Dawkins.
RHOSLLANERCHRUGOG.
RHOSLLANERCHRUGOG. HELYNT Y GLADDFA.—Yn ystod yr wythnosau di- weddaf, mae pobl dda y Rhos wedi bod yn an- esmwyth anghyffredin ynghylch helyntion y Bwrdd Claddu. Nid yw y Bwrdd yma er y dydd ei sefyd- lwyd ef wedi gweled fawr o dywydd teg. Mae fel llong ynghanol ystorm yn barhaus ac yn mordwyo yn erbyn tonau gwrthwynebus. Yr achos o'r ystormydd yw ymddygiadau rhai o'r aelodau, sef y blaid Sectol a Radicalaidd o honynt. Maent yn coleddu y syniad y dylai yr Eglwyswyr orwedd i lawr yn llonydd iddynt hwy gael rhoddi eu traed ar eu gyddfau a'u sathru dan eu traed. Ac am fod yr Eglwyswyr yn dangos anfoddlonrwydd i gymeryd eu trin fel hyn, ffromant yn aruthur a bygythiant y mynant hwy eu ffordd eu hunain i lywodraethu yr oil o'r gladdfa gyhoeddus. Gwyr eich darllenwyr fod haner y gladdfa wedi ei gysegru, a'i fod mewn canlyniad yn perthyn i'r Eglwys a'i swyddogion. Ond ni fynai yr aelodau sectol o'r Bwrdd gydnabod y cysegriad o gwbl, ac anwybyddent hyny yn hollol. Yn hyn yr oeddynt yn gyfeiliornus, ac mewn dygn anwybodaeth yn ymddwyn yn hynod o annoeth ac yn groes i'r gyfraith. Rhoddwyd ar ddeall iddynt am- ryw weithiau eu bod yn myned ymlaen yn hollol afreolaidd. Nis gallai synwyr cyffredin na doeth- ineb, na hyd yn nod cyfraith y wlad dycio a'u dwyn i'w pwyll. Diystyrent hawliau yr Eglwyswyr gyda'r haerllugrwydd mwyaf, a thrinient Mr. Matthew Jones, y clochydd, fel un na haeddai ond blaen troed y Bwrdd. Yr oedd pob dyn synwyrol a chymedrol yn y Rhos yn rhyfeddu at euhaerllugrwydd a'u pen- boethni sectol. Mae yn amlwg i bawb fod aelodau sectol y Bwrdd yn anfoddlon i'r Eglwyswyr gael dim a wnelont a'r gladdfa ond y fraint o dalu am dani. Byth er y gorchfygwyd hwynt yn hyn dangosasant elyniaeth at yr Eglwys. Penderfynasai y mwyaf penboeth o'n cyfeillion Ymneillduol na chawsai yr Eglwyswyr hyd yn nod hyd a lied y byraf yn y Rhos o dir i'w gysegru iddynt, ord y ffaith yw fod haner y gladdfa wedi ei gysegru, a bod gan yr Eglwyswyr yn awr le i gladdu eu meirw yn ol eu dymuniad eu hunain, ac nid yw hyn ond cyfiawnder a thegwch a hwy. Cawsant hwy ran o'r gladdfa i gladdu eu meirw yn ol eu trefu hwy, ar ba sail yr oeddynt am rwystro i'r Eglwyswyr gael yr un fath frainc ? Nid oes gronyn o degwch, o gariad brawdol, o gyfiawnder, yn eu hymddygiad yn hyn o beth. Ni ddrygwyd neb mewn un modd. Caiff Mr. Hooson eistedd yny set fawr fel o'r blaen, a chaiff Mr. Roberts bregethu gyda'r Annibynwyr yn y Rhos mae yn ddiameu genym hyd nes y cynygia rhyw eglwys arall fwy o fel a llaeth iddo. Ond i egluro yr hyn sydd wedi bod yn achos o'r an-esmwythder yn mynwesau cynes aelodau sectol y Bwrdd yw fod Mr. Matthew Jones, y clochydd, ar ol i'w amynedd oil ddarfod,benderfynu i orfodi Mri. Hooson a'i Gyfeillion, ufuddhau i'r gyfraith trwy gydnabod ei hawl ef i'r tir cysegredig. Ar brydnawn gwaith braf, pan oedd y bobl gyda'u gwahanol orchwylion, y gwyr yn dychwelyd o'u gwaith, a'r gwragedd a'r merched ieuaingc yn sefyll yn ymyl y counter yn y siop yn llwytho eu basgedau a the, siwgr, ymenyn, finegr, tatws, bacwn, a bara, &c., dyma ddyn dieithr yn gwneuthur ei ymddangosiad ac yn tynu allan o'i logell, nid llyfr y siop na phwrs i dalu yr hen gount ychwaith, ond summons i'r Bwrdd i ymddangos o flaen barnwr Llys y man ddyledion, yn Ngwrecsam, a'r clochydd yn plaintiff, i ddangos achos paham na thalent hwy i Mr. Matthew Jones yr hyn oedd yn ddyledus iddo. Ar ol i'r Bwrdd wrido, a chrynu, a gwelwi, wele y newydd am y wys yn teithio 6 dy i dy ar hyd y Rhos fel tan gwyllt, a'r bobl yn ym- gomio ar y pwnc ac ar y canlyniadau tebygol. Un yn gofyn a ydwyt ti yn meddwl fod Mr. Hooson yn ddigon o ddyn i gyfarfod Matthew y clochydd ?" Rhai o'r farn ei fod, eraill drachefn o'r farn y taflai y clochydd y Bwrdd a'i draed i fyny heb fawr o drafferth, ac y buasai y Bwrdd yn debyg o fyned yn chwilfriw ac yn ddrylliau man, fel tf wedi ei ad- eiladu ar y tywod. Dydd Mercher, y 5ed o'r mis hwn, gwelwyd y Bwrdd yn cyfeirio ei gamrau tua Gwrecsam, i ymddangos o flaen ei well. Unwaith, yn wir, gwelwyd y clochydd yn crynu o flaen tra-arglwyddiaeth y Bwrdd, ond yn y Ilys y Bwrdd oedd yn crynu ac yn crymu o flaen y clochydd. Rhoddodd y barnwr, Mr. Horatio Lloyd, farn yn erbyn y Bwrdd, gan orchymyn iddo dalu i Mr. Matthew Jones ei ddyledion cyfreithlon, a pheidio ymyraeth o hyn allan a'r hawliau sydd yn perthyn i'r Ficer a'r clochydd yn y tir cysegredig. Wel,wel, dyma ergyd trwm. Fe fydd hyn yn wers i'r holl drethdalwyr i geisio dewis o hyn allan ddynion cymwys i'w cynrychioli mewn safleoedd cyhoedd- us. Nid penboethni yw dysgeidiaeth, nid twrw a therfysg yw doethineb, nid cenfigen a gelyniaeth yw cariad brawdol, nid sectyddiaeth eiriasboeth yw Cristionogaeth. Yr wyf yn meddwl y cawn lonydd am dipyn o hyn allan yr oedd golwg ar wynebau yr aelodau gorchfygedig yn darogan na byddai iddynt gynyrfu yn fuan eto. Pe bae pob un o honynt wedi bod yn claddu yr anwylaf ganddo, nid wyf yn tybied yr edrychai yn fwy galarus ac mor isel ysbryd nag yr edrychent wrth ddychwelyd o Gwrecsam y di- wrnod bythgofiadwy hwnw i'r Rhosiaid. Dyna holl siarad a therfysgu am flwyddyn a haner wedi darfod mewn munyd awr o'r golwg am byth fel cicaion Jonah ystyfnig ac anufudd gynt. Wrth derfynu hyn o sylwadau, nis gallwn ddefnyddio brawddeg mwy cymwys a phriodol am ran o'r Bwrdd na'r un gan- lynol, Clochydd a'u lladdodd."—Anti-humbug.
COLEG DEWI SANT, LLANBEDR.
COLEG DEWI SANT, LLANBEDR. Nos Wener, y 24ain o Hydref, cynhaliwyd Dadl- eufa Gymraeg yn y Coleg uchod. Y testyn y tro hwn oedd, Na ddylai Gweinidogion yr Efengyl gymeryd rhan mewn materion gwleidyddol." Y cyn- ygydd oedd Mr T. Y. Evans, a'r gwrthwynebydd Mr J. N. Evans. Rhif y siaradwyr oedd deg. sef pump o du y cvnygydd, a phump o du y gwrthwynebydd, f 3l y canlyn Dros y cynygiad, Mri. W. Thomas; Thomas Lloyd; J. J. Ellis H. R. Roberts; a T. M. James. Yn erbyn y cynygiad; Mri. Edward Owen David Phillips; J. J. Lewis D. J. Davies a T. M. vans. Gan fod y testyn yn hynod bwrpasol i'r amser, a'i fod hefyd yn dal perthynas agos a. llawer o efryd- wyr y Coleg, yr oedd y cyfarfod yn un o'r rhai goreu a gafwyd er sefydliad y ddadleufa. Ar raniad y ty, cafwyd, dros y cynygiad, 8; yn erbyn, 31. Mwyafrif yn erbyn y cynygiad, 23. Cymerwn y cyfleusdra yma i ddweyd ychydig eiriau mewn perthynas i Ddadleufa Gymraeg Coleg Dewi Sant. Cafodd ei sefydlu oddeutu 15 mlynedd yn ol, drwy yni a gweithgarwch diddarfod y diweddar Barch. J. A. Jackson, B.A., pan oedd efe yn efrydwr yn y Coleg. Gwyddai ef yn dda y galwad oedd am sefydliad o'r fath yn y Coleg, er rhoddi mantaia i efrydwyr ieuainc siarad yn rhwydd ac yn hyawdl yn iaith eu mham. Cafodd Mr. Jackson ei apwyntio yn un- frydol fel Llywydd y Ddadleufa, ac yr oedd y gwaith wrth fodd ei galon. Gweithiodd yn zelog ac yn onest dros y Ddadleufa tra bu yn y Coleg, ac nis anghofiodd hi chwaith ar ol ei fyned allan. Erbyn heddyw, mae ef wedi myned, ond mae'r Ddadleufa yn aros mor flodeuog ag y bu erioed. Mae y dyn ieuanc gweithgar, y Cristion duwiol, a'r pregethwr hyawdl wedi ein gadael, ond mae dadleufa Gymraeg Coleg Dewi Sant, plentyn ei fynwes, beunydd yn cyfranu bendithion anmhrisiadwy ar efrydwyr ieuainc y Coleg. Wrth fyned heibio, a'i gormod fyddai i ni dywallt deigryn o hiraeth fel toyrnged 0 barch i goffadwriaeth un a wnaeth gymaint dros ei wlad, ei iaith, a'i genedl. Y mae yn aros, i nodi eu fod yn ddyledswydd arbenig ar holl efrydwyr Coleg Dewi Sant gymeryd gafael ar y manteision sydd yn cael eu cynyg iddynt trwy gyfrwng y Ddadleufa Gymraeg. Nis gall fod un amheuaeth chwaith nad yw y Gymraeg fel iaith yn werth ei chadw yn fyw, a phwy ddylasai fod yn fwy parod i'w chynorthwyo nag efrydwyr Coleg Dewi Sant, y coleg henaf, a beiddiwn ddweyd, blaenaf Cymru y dydd presenol. Bydded i'r holl efrydwyr wneyd eu goreu dros y Ddadleufa, a chawn ei gweled yn gynar iawn yn blodeuo, ys dywedodd un, fel y lawryf werdd. Dyna yw dymuniad-Silas. CWRS CERDDOROL.—Bwriedir yn ddioed fiurfio cwrs cerddorol yngl,n a'r coleg. Y mae tri o'r ath- rawon-y Proffeswyr Feltoe a Culley, a'r Parch. John Williams, un o athrawon ysgol y coleg—yn gerddorion medrus. Ystyrid Mr. Culley yn un o gerddorion blaenaf Rhydychain. Traddodir cyfres o ddarlithiau ar wahanol ranau ac agweddau cerddor- iaeth. Telir sylw neillduol i gerddoriaeth Eglwysig ynghyd a ffurfiad a hyfiorddiant corau. Disgwylir y bydd y cwrs hwn yn gynorthwy pwysig ac ymarferol i ymgeiswyr am Urddau Sanctaidd a swyddi mewn ysgolion. Bydd lie pwysig yn y cwrs i hyfiorddiant mewn darllen. Rhoddir tystysgrifau (certificates) i'r sawl a basiant trwy y cwrs yn llwyddianus mewn cerddoriaeth a darllen. Darlithir ar ddarllen gan Principal Jayne. Y mae ar hyn o bryd lawer iawn o dalent gerddorol yn mhlith yr efrydwyr. CYFARFODYDD Nos SUL.-Y mae yn arferiad er y llynedd i efrydwyr y drydedd flwyddyn a'r Biennials ynghyd a'r Principal ac amryw o'r Proffeswyr gyf- arfod nos Sul ar ol y gwasanaeth hwyrol, dair gwaith neu bedair yn ystod y term i ymdrin & chwestiynau moesol a chymdeithasol yn dal perthynas a'r Eglwys yn Nghymru. Ar ol cwpanaid o de darllenir papyr gan un o'r efrydwyr, a cheir ihydd- ymddiddan arno. Yn mysg materion eraill ymdrin- iwyd y llynedd ar Y cynlluniau goreu i sicrhau dylanwad yr Eglwys ar y dosbarth gweithiol, a lie a gwaith lleygwyr," a Dyledswydd yr Eglwys yngl,n ag addysg elfenol a'r cyffelyb." Testyn cyf- arfod nos Sul diweddaf oedd Dyngarwch ymarferol yn ei berthynas ag elusengarwch ac & chyfiawnder cymdeithasol." Testyn y cyfarfod nesaf fydd Y moddion goreu i wrthweithio anghymedroldeb." Diau y teimla amryw a fu yn y coleg fod y cyfarfod- ydd hyn yn symudiad llesol er symbylu meddylgar- wch ymarferol yn ein mysg. DRILL.-Ymwelir a'r coleg yn wythnosol gan Surgeon-Major Dallison, R.A., Aberystwyth, er hyfforddi yrjefrydwyr mewn drill. Ymddengys y drill hyd yma yn oruchwyliaeth bur boblogaidd. Ceir drwyddi lawer o ymarferiad corphorol iachus mewn byr amser. Hyfforddia y Sergeant hefyd fechgyn ysgol y coleg ar wahan. CYNGOR TREFOL.-Y mae Llanbedr erbyn hyn wedi cyraedd urddas bwrdeisdref gorphoredig. Etholwyd y maer cyntaf, yr aldermen, a'r cynghor- wyr trefol, ddydd Llun diweddaf, pryd y darfu i'r dref a'r coleg ddathlu yr achlysur trwy orymdaith, athletic sports y coleg, a fire works, yn yr hwyr, ynghyd & gwledd gan Mr. Jones, y maer. Nid an- nyddorol crybwyll y cynrychiolir y coleg yn effeithiol yn y fwrdeisdref. Llwyddwyd i gael oddeutu 30 o efrydwyr sydd yn byw yn y coleg ar restr etholwyr seneddol y fwrdeisdref, er holl daranau rhai o'n cymydogion politicaidd. Dewiswyd hefyd y Proffeswr Tout, yn alderman, a Mr Lloyd Williams, Prif Athraw ysgol y coleg, yn gynghorwr trefol. ADEILADAU NEWYDD.-O herwydd nifer cynyddol yr efrydwyr-dros 140 erbyn hyn yn y coleg heb son am yr ysgol—teimlir fod mawr angen am adeiladau newydd yngtyn a'r coleg. Hyderir y gellir dechreu arnynt ddechreu y flwyddyn nesaf y fan bellaf. Derbyniwyd R600 yr un dydd bythefnos yn ol tuag at y gwaith. Credir y daw holl gyn-efrydwyr a charedigion y coleg allan yn mhob plwyf i'n cefnogi. Yn awr yw yr adeg i osod y coleg ar dir y gall ddir- mygu holl ymosodiadau ei elynion arno. Dylem ychwanegu y bwriedir helaethu yr ysgoldy newydd yn ddioed gan fod pob rhagolwg am ych vanegiad mawr yn nifer y bechgyn ar ol y Calan. DARLITHYDD NEWYDD.—Drwg genym i ni nodi crybwyll hyd yn hyn am benodiad ein darlithydd newydd mewn Llenyddiaeth Seisnig. Allan o am- ryw ymgeiswyr galluog (yn eu mysg un Fellow of University College, London,) dewiswyd Mr. Hugh Walker, B.A., exhibitioner o Goleg Balliol, Rhyd- ychain, First-class man in Classical Finals. Credwn i staff y Coleg gael cyfnerthiad pwysig trwy y penodiad hwn. Y CAPEL.—Wrth derfynu caniataer i ni alw sylw at y gwelliant a wnaed yn ddiweddar yn y Capel trwy y gorchudd hardd a drudfawr, ond syml, a roddwyd gogyfer a Bwrdd y Cymun gan un o gyfeillion y Coleg, yr hwn a ddymuna gelu ei enw. Maddeued ein darllenwyr am i gymaint o ofod y LLAN gael ei lenwi a newyddion Colegawl. Byddwn yn ystyried anfon newyddion i'r LLAN fel gyru cylch- lythyr o newyddion i'n teulu gwasgaredig—cyn- efrydwyr y Coleg—a gwyddom fod y gweddill o ddar- llenwyr y LLAN yn gyfeillion calon i hen Goleg Dewi Sant, yr hynaf o brif Golegau Cymru. Er mai gwyn pob newydd," diamheu genym y dywed ein darllenwyr mai ganddynt hwy "gwell yw yr hen."
[No title]
Dirwywyd amryw o dafarnwyr yn llvs yr yn- adon sirol yn Nghaernarfon, ddydd Sadwrn, am werthu wisci wedi ei gymysgu â dwfr. 11 Dedfrydwyd un David Bradley, meddysr, Chesterfield, i ddwy flynedd o garchariad a llafnr caled am ymosod yn greulawn ar un Ellen Swet. more. Bu Dr. Macdonald, meddyg adnabyddus yn Nottingham, farw o dan ddvlanwad chloroform, yr hwn a roddwyd iddo er mwyn tynu amryw ddanedd poeune y cwynai o'u herwydd.