Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
GOHEBIAETHAU.
GOHEBIAETHAU. (Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.) COLEG CAERDYDD A'R EGLWYS. At Olygydd Y Llan." Syr,—Caniatewch i mi ateb, can gynted ag y gallaf, ethygl arweiniol a ymddangosodd yn y LLAN yr wythnos o'r blaen ar y testyn uchod. Maddeued ysgrifenydd yr ethygr i mi am ddechreu trwy gywiro un amryfusedd y llithrodd iddo ynghylch enw Coleg Caerdydd. Geilw ef yn Brifysgol." Nid ydyw yn Brifysgol, end Coleg Prifysgolaidd. Sylwaf fod awdwr yr erthygl yn eon am Brifysgol Caerdydd a Choleg Llanbedr. Rhy ddrwg o lawer mewn erthygl arweiniol yn y LLAN. Os rhaid galw un o'r Colegau yn Brifysgol, gan Llanbedr y mae hawl i'r teitl, canys y mae genym raddan. Y mae graddau yn hanfodol i Brifysgol. Yr !ydym yn dal fod Llanbedr yn Goleg llawn mor Brifysgolaidd a Chaerdydd, oherwydd cyfrenir yma, gallaf ddweyd yn ddi- ymfirost, addysg lawn mor eang ag a wneir yno, neu yn un o'r Colegau eraill. Fe gofir y ddadl a gymerodd le ddechreu'r haf pan gorddodd rhag- farn enwadol gyntaf yn erbyn Llanbedr ymuno A chynhadledd Mr. Rathbone. Yr ydym yn hawlio y teitl o Goleg Prifysgolaidd Canolog Cymru, er i'r Prifathraw Edwards, o Aberystwyth, yn Nghroesoswallt, weled yn dda ein galw yn ddi- gywilydd o eofntam,fynulein hawliau. Gan nad oedd ysgrifenydd yr erthygl yn bwriadu ein di- raddio, felly gellir gadael y teitlau gyda hyna o eglurhad. Yn awr, ynghylch ei ddadl o blaid cael hostel Eglwysig yn Nghaerdydd, tybiaf ei fod wedi cymysgu dau beth y byddai yn well eu cadw ar wahan, sef llety i efrydwyr a hyfforddiant crefydd- ol iddynt. Diffyg pwysig ynglyn & Choleg Caer- dydd yw nad oes gan y Coleg gynllun i letya yr efrydwyr gyda'u gilydd. Nid allaf weled fod gal wad ar yr Eglwys i gyflenwi y diffyg hwn. Dyledswydd Cyngor y Coleg yw darparu lletyai. Ni raid cael hostel er mwyn darparu addysg grefyddol ar gyfer yr ychydig efrydwyr Eglwysig a ddichon fod yn y Coleg a'u cartrefi allan o Gaerdydd. Ceir gwasanaeth dyddiol mewn mwy nag un o Eglwysi Caerdydd. Hawdd iawn fyddai i un o is-ganoniaid Llandaf neu offeiriaid Caer. dydd, yn ychwanegol at y gwasanaeth dyddiol drefnu i edrych ar ol arweiniad cretyddol efrydwyr Eglwysig. Nid yw yn debyg y bydd eu nifer yn fawr oddigerth rhai y byddo eu cartrefi yn Nghaerdydd a'r gymydogaeth. Y mae Llanbedr yn lie rhatach i fyw, a diau y bydd yn well gan bron bawb o Eglwyswyr Cymru anfon eu meibion i Goleg sydd yn Goleg yr Eglwys nag i Goleg y Llywodraeth, hyd yn nod pe ceid ynglyn ag ef yr atodiad anhylaw o hostel Eglwysig. Heblaw fod hostels Eglwysig yn Mangor a Chaerdydd yn ddi- anghenraid, y mae y cynllun, yn ol fy marn i, gyda phob dyledusjbarch i'r cyfeisteddfod dylan- wadol a ymgyfarfu yn Mhalas Bangor, yn myned i ddwy wrthddadl bwysig. Fe enyn eiddigedd enwadol, ac fe duedda i wanhau Llanbedr, tra, fel y ceiaiaia ddangos, na wnel les yn y byd i'r Eg- lwys. Y mae yn rhy fuan eto i anghofio y wers a ddysgwyd i ni gan y cythrwfl ynglyn & chynygiad Mr. Rathbone. Bydd yr Eglwys, trwy agor hostels o flaen yr Ymneillduwyr, yn chwareu i ddwylaw pleidwyr Aberystwyth. Y cri cryfaf o blaid Aberystwyth yn y Faner, a newyddiaduron Ymneillduol eraill, oedd fod yr Eglwys yn debyg o feddu gormod o ddylanwad yn Mangor a Chaerdydd. Gwyr pawb mor ddisail oedd y cri, ond byddai rhyw fath o sail iddo pe dangosai yr Eglwys or-awydd i arwain setydliad yr hostels. Gwell o lawer fuasai o leiaf aros nes deall barn y cyhoedd ar y pwnc. Ni synem ddim pe byddai y farn gyhoeddus yn anffafriol. Os felly, prif effaith hostel Bangor fyddai gwanychu Colog Bangor ar draul cadarnhau Aberystwyth. Y mae llwyddiant hostel Eglwysig Bangor yn dibynu ar i hostels Ymneilldyiol gael' eu sefydlu yno hefyd. A llwyddiant pur gloff ar y goreu fydd cyfundrefn o hostels enwadol. Nis gellid dyfeisio dim mwy tebyg i barhau a chryfhau ein hymraniadau crefyddol annedwydd na chynllun trwy ba un y gwahenir yn gyhoeddus efrydwyr Coleg yn 01 eu barn grefyddol, ac y sicrheir iddynt hyd yn nod fwyta ac yfed yn|olfeu'credo. Buasai hostels an- enwadol sefydledig gan Gyngor pob Coleg yn agosau pawb at eu gilydd, yn toddi enwadaeth mewn un bywyd colegawl cyffredin. Yn lie bod y Colegau yn enwadol gwneii hwynt drwy hostels yn amlenwadol yn yr ystyr waethaf, ac ofnaf yn fuan max dechreuad ymladdau yw hyn oil. Gan fod Esgobion y Gogledd yn ffafr hostel yn Mangor, nid gweddus i mi, efallai, ymhelaethu yn eu herbyn, ond hyderaf na ddilynir yr esiampl yn Nghaerdydd nes gweled beth ddaw o un Bangor. Heblaw fod hostels yn ddiangenrhaid, ac yn eynwya egwyddor groes i egwyddor hanfodol colegau y Llywodraeth, y mae gan yr Eglwys waith nes ati i'w wneyd. Dywedaf gyda gofid, ond dywedaf yn ddiofn a difloesgni, na wnaeth dwy Egobaeth y Gogledd hyd yma ddim yn debyg i'w dyledswydd o blaid Llanbedr. Tra yr oedd yr Ymneillduwyr ymhob cyfarfod yn celnogi ac yn clodfori Aberystwyth, ni ynganodd Cynadleddau yr Eglwys yn y Gogledd, na chyfarfod un ddeon. iaeth, hyd y elywais, haner sill o du Llanbedr, a'r eyfle cyntaf gatwyd, heb air o gefn- ogaeth i Llanbedr, na chydymgynghor- iad, tarawyd ati i sefydlu hostel yn Mangor, cyn ei heisiau, a dweyd y lleiaf. 0 herwydd cynydd nifer^ein hefrydwyr rbaid i ni helaethu y coleg a'r ysgol newydd. Cyst hyn o leiaf JE5000. Cyn casglu .£500 yn y flwyddyn at hostel Bangor, dylesid yn gyntaf sicrhau y J65000 yna i Lanbedr. Byddai yn ddymunol hefyd ychwanegu ein hysgoloriaethau. Tra na chawn ddimai o'r Llywodraeth o herwydd ein oysylltiad A'r Eglwys, y mae yn gywilydd i Eglwyswyr, tra yr ydym mewn angen, luchio eu harian ynglyn ftg anturiaeth anamserol a ddichon yn hawdd wjjeyd mwy o ddrwg i'r Eglwys nag o les, trwy beri i'r wlad feddwl fod yr Eglwys mewn brys i enill ftir ar yr Ymneillduwyr yn Ngholegau y Llywodraetb. Gan fy mod mewn cysylltiad a Llanbedr, hwyrach y bernir gan rai fy mod yn ysgrifenu oddiar ofn llwfr ac an- nheilwng," ys dywedai awdwr yr erthygl. Gall coleg gyda 140 o ddynion a 60 o fechgyn fforddio gwenu yn wyneb y cyhuddiad o ofn. Er maint yr ystwr a wneir ynghylch hostels, gwyddom yn dda, beth bynag am arweinwyr yr Eglwys yn y Gogledd, fod calon yr Eglwyswyr yn y Gogledd wrth ein cefn. Nid wyf yn cyhuddo awdwr yr erthygl o oerfelgarwch at Llanbedr, ond yn tybied fod ei gynllun yn annoeth. Ni flinaf eich darllenwyr ar hyn o bryd a llawer mwy o feithder. Yr wyf yn barod i ateb unrhyw resymau dros yr hostels a ddichon awdwr yr erthygl neu rywun arall eu dwyn ymlaen o dan ei enw. Goddefwch i mi ychwanegu fod yn ddrwg genyf ddeall yn eich colofnau fod un o Ganoniaid yr Eglwys yn debyg o gael ei dynu o blwyf pwysig lie mae yn gwneyd gwaith ardderchog at orchwyl mor fvchan ag sydd i'w gael yn hostel Bangor. Un gair o eglurhad wrth derfynu. Ni fynwn er dim oeri mymryn ar gefnogaeth Eglwys- wyr i'r colegau newydd, na'u hanog i sefyll o'r naill du yn nghanol brwdfrydedd y genedl o blaid addysg. Y cyfan wyf yn ddadleu yw am i Eg- lwyswyr gefnogi y colegau newydd fel gwladgar- wyr agored heb lusgo Eglwysyddiaeth i mewn i'r mater ar draul tramgwyddo Ymneillduwyr a rhoddi cefnogaeth ddiafael a chlaiar, a dim ond ambell air o ganmoliaeth i'w coleg eu hunain yn Llanbedr.—Yr eiddoch, JOHN OWEN. O.S.—Na feddylied neb fy mod yn cwyno yn erbyn y LLAN ynglyn a Llanbedr. Yr ydym dan wir rwymau iddo am gefnogaeth gyson. Dymunaf hefyd gydnabod yn ddiolehgar rodd haelionus Arglwydd Esgob Llanelwy o £ 100 at adeiladau newydd y coleg.—J.O.
[No title]
Dydd Gwener diweddaf, yn llys Maine y Fren- ines, dyfarwyd iawn o 400p. i un Miss Mary Jane Scott, o Hawick, oddiar y Parch. Robert Scott, gweinidogy Bedyddwyr, Ulverstone, am doriad amod priodas.
PREGETHAU IDRISYN.
PREGETHAU IDRISYN. 1. Oddiwrth yr Hybarch Archddiacon North, M.A. F 'y anwyl gyfaill Idrisyn,—Yr wyf yn dra dyledus i chwi am eich cyfrol gyntaf o'ch Pregethau. Yr wyf yn eu gwerthfawrogi fel arwydd o'm parch i un ag y gallaf ddywedyd yn wirioneddol fy mod yn ei werthfawrogi ar gyfrif ei uchel gymerind a'i allu meddyliol. Darllenir y Pregethau genyf gyda dyddordeb a budd. Gallaf ddywedyd yn ddiwyll nad effeithiwyd arnaf yn gymaint gan unrhyw bregethau o'r eiddoch cliwi pan yn eu gwrandaw, o herwydd eu nerth a'u meddylgarwch. Bu'm yn meddwl yn ddiweddar i ysgrifenu atoch i geisio genych gyhoeddi rhai o'ch cronfa iawr o Bregethau; ac yr wyf yn ddiolch- gar am eich bod wedi rhagflaenu fy awgrymiad. Yr wyf yn gobeithio y bydd i ychwaneg o gyfrolati ei dilyn." 2. Oddiwrth y Parch. Roger Williams, B.D, Llanedi. Anwyl Mr. Jones,-Darlienais eich gyfrol gyntaf o Bregethau Cymreig gyda phleser mawr. Yr wyf yn sicr ein bod mewn dyled o ddiolchgarwch i chwi am eich llafur yn y cyfeiriad hwn. Y mae yr holl Bregethau yn dda, ymar- ferol, ac awgrymiadol; a gelllir eu defnyddio gan y rhai ag y mae eu hamser yn fyr o barotoi y nifer angenrheidiol. Fel y dywedwch yn eich Rhagymadrodd, y maent yn fyr ond y maent yn Ily ddigon hir i'r dyddiau presenol, ac yn dra aw- grymiadol." 3. Oddiwrth y Parch. Robert Thomas, di- weddar weinidog yr Annibynwyr yn Llanover, a ysgrifenwyd ganddo ychydig ddyddiau cyn iddo farw.—" Darllenais Bregethau Mr. Jones gyda gofal a manylwch. Gallaf ddywedyd fy mod yn eu gwerthfawrogi yn fawr iawn. Y maent yn hufen yr Efengyl. Y mae trefn Iachawdwriaeth yn cael ei gosod allan ynddynt mewn ffurf eglur ac ymarferol; ac os bydd i'r darllenydd ei darllen yn ysbryd yr awdwr, nis gallant lai na phrofi o fendith fawr i'r cyhoedd."
TREFDRAETH.'
TREFDRAETH. Bu'm yn bwriadu er's talm o amser i ysgrifenu ychydig o hanes y lie uchod i'ch papyr enwog, ond fy mod yn methu a chael y cyfleusdra, ond dyma fe wedi dyfod o'r diwedd. Mae rhyw floedd rhyfedd i'w glywed. Mae y Radicaliaid wedi bod yn ein plith ni yma, ac y maent wedi addaw i'r plant a'r gwragedd oedd yn eu elywed y caent bob peth oblegid y maent yn bwriadu dinystrio holl Arglwyddi y wlad, a gosod y wlad yn bendramwnwgl. Ni chehis y fath siomedigaeth erioed, Mr. Gol., ac a gefais pan aethum i'r cyfarfod Radicalaidd a gafodd ei gynal yma. Yr oedd papyrau wedi eu postio oddi- amgylch y wlad, ac yr oedd y pwyllgor yn bwriadu dangos parch rhyfeddol i'n Haelod Seneddol, ond bobl anwyl, nid oedd neb yno ond ychydig o wrag- odd a phlant, ac yr oedd y rhai hyny mor anwybodus a bloeddio yn uchel o gymeradwyaeth pan enwyd Ardalydd Salisbury, fel ag yr oeddwn i yn medwl mai mewn cyfarfod Toriaid yr oeddwn, a phe gofynid i'r gwragedd a'r plant oedd yn bresenol, credaf na wyddent yn wahanol. Ond mi a adawaf y eyfarfod Radicalaidd trwy hysbysu i'ch darllenwyr fod un gweinidog Ymneillduol wedi darllen cynygiad fod yr Arglwyddi yn ddynion drwg, ac i'r llall o'r un got ei eilio, ac fe'i pasiwyd yn unfrydol, medda nhw.
Y DADGYSYLLTIAD YN NGHYMRU.
Y DADGYSYLLTIAD YN NGHYMRU. Dywed yr Wythnos Bydd i'r rhyfel-dymhor mewn cysylltiad a'r mater uchod ddechreu gyda chyfarfod mawr yn Nghaerdydd ar y 19eg eyfisol. Bydd i'r Parchn. J. G. Rogers, a Dr. Bevan, ym-. weled a'r cyfartod fel dirprwyaeth o Lundain. Disgwylir y bydd i nifer o aelodau seneddol gymeryd rhan yn y gweithrediadau. Yn ystod y mis hwn bydd i amryw gyfarfodydd gael eu cynal yn ngwahanol barthau Dehoudir Cymru."
[No title]
Dywedir wrthym fod y fasnach mewn llechi yn yr America mewn cyflwr ansefydlog ac isel ar hyn o bryd. Ceir fod y cyflogau wedi eu gostwng yn llech-chwarelau Pennsylvania, ac mewn rhanau eraill o'r fwlad mae y gweithfeydd wedi eu hatal drwy anghydwelediad rhwng y meistri a'rgweitb- wyr.
LLANGORWEN, GER ABERYSTWYTH.
LLANGORWEN, GER ABERYSTWYTH. Hydref 30ain cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol yr Eglwys hon. Y maent yn arferol o gadw eu cyf- arfod ar ddydd Gwyl yr Holl Saint, ond oherwydd bod y dydd yma yn disgyn ar ddydd Sadwrn.barnodd y Ficer mai doeth ydoedd cynal eu cyfarfodydd ar ddydd Gwener yn hytrach na'u cynal ar ddydd Sadwrn. Dechreuodd y cyfarfodydd hyn nos lau, am saith o'r gloch. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. Mr. Jones, Gartheli, a phregethodd y Parch Mr. Powell, Bangor Teifi. Boreu dydd Gwener, am haner awr wedi deg, cafwyd y gwasanaeth yn gorawl. Intoniwyd y gwasanaeth gan y Parch. Mr. Powell, a phregethwyd gan y Parch. Mr. Jones i gynulleidfa fawr. Am haner awr wedi dau, intoni- wyd y Litani gan y Parch. J. Griffith, Llanymaw- ddwy; yr ydoedd ef a'r cor yn bur effefthiol yn y Litani. Pregethwyd gan y Parch. Mr. Powell. Am haner awr wedi ohwech drachefn cafwyd y gwasan- aeth yn gorawl. Intoniwyd y gwasanaeth gan y Parch. T. Thomas, Talybont. Dyma y waith gyntaf i Mr. Thomas i ymgymeryd ag intonio y gwasanaeth, a gallwn fentro dweyd ond i Mr. Thomas roddi ei hun mewn ymarferiad i intonio y gwasanaeth, y gall ddyfod yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd gyda hyny. Pregethwyd gan y Parchn. J. Davies, Ficer Lerpwl; a Mr. Jones, Gartheli. Buasem yn caru cofnodi eu sylwadau drwy y dydd, ond rhag ofn blino eich dar- llenwyr, yr ydym yn gadael hyny allan y tro hwn. Yr ydoedd yr Eglwys yn llawn yn y boreu, ond yn y prydnawn a'r nos yr ydoedd wedi ei gorlenwi. Yr ydoedd y corau canlynol yn cyduno yn y gwasan- aeth, sef, Llangorwen, Llanfihangel Geneu'rglyn, Borth, Llancynfelin, ac Aberystwyth, o dan arwein- iad Mr. Richard James, Heol-y-bont, Aberystwyth. Yr ydoedd y tonau, y Salmau, a'rf anthem yn beth na chlywyd yn Llangorwen o'r blaen, hyny yw, y dadganiad o honynt yn dda, ao y mae hyn i'w briodoli i'r wyl (Festival) a gynhaliwyd yn Aberyst- wyth yn ddiweddar. Yr ydoedd y canu yn ar- dderchog drwyddo oil. Y mae'r clod mwyaf yn ddyledus i'r parchus Ficer, y Parch. E. Evans, am ddwyn oddiamgylch y fatb gyfarfodydd. Dynion o'r fath hyn sydd ar ein Heglwysi eisiau drwy'r holl wlad. Nid oes amheuaeth nad yw y Ficer hwn yn un o'r dynion mwyaf gweithgar yn y cymydogaethau hyn. Hefyd y mae y lleoedd canlynol yn rhwym o dderbyn ein diolchgarwch am eu parodrwydd yn darparu ar gyfer dieithriaid, sef, Mr. Oliver, Ffynon- ddu; Mr. Owens, Nantygollen-fawr; Mrs. Jenkins, Glan-y-mor; Mr. Jones, Nantseiriol; a'r parchus Ficer, &c. Yr oedd digon o fwyd ar gyfer pawb. A gallwn ddweyd, heb ragrithio dim, fod y cyfarfod hwn yn Llangorwen eleni yn un o'r cyfarfodydd goreu a gynaliwyd mewn unrhyw Eglwys yn Nghymru erioed. A phe buasai yr Eglwys yn gyffredinol yn cynal cyfarfodydd o'r fath hyn, buan iawn y gwelid cyfarfodydd er gwell.-Ab Ystwyth.
PENRITH.
PENRITH. Dydd Iau, y 30ain o Hydref, cynhaliwyd cyfarfod o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn y lie uchod, pan y pregethwyd gan y Parchn. Daniel Jones, Meline a Thomas Meredith Williams, Aberteifi. Yr oedd y gynulleidfa yn lluosog, er fod areithydd hyawdl yn darlithio yn y oapel gerllaw. Gwnawd casgliad tuag at y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol. Nid yw yr Eglwya yn hollol ddilewyrch yn Penrith. Ceir yma nifer dda yn ymgynull ynghyd i addoli Duw bob Sul. Dywedir ei bod mewn cyflwr isel iawn pan aeth y Parch. D. Jones, y periglor presenol, i ddechreu gwasanaethu y plwyf. Un nod o Iwyddiant yr Eglwys yn y lie yw golygfa ar gapel newydd wedi ei adeiladu, meddir, er mwyn cadw yr Ymneillduwyr a arferant drafaelio fiordd bell i gapel arall cyn dyfodiad Mr. D. Jones, rhag glynu wrth yr Eglwys. Cynghorem flaenoriaid y oapel uchod ac eraill i ddarllen penod lxxv yn yr Englishman's Brief," ar gyhoedd yn eu capeli, yn enwedig pan fo'r pregethwyr yn siomi yn ei gyboedd- iad o herwydd bychandra'r tal. Cafodd y LLAN golled fawr ar ol tad Penfro yn y lie uchod. Cai fwy o gefnogaeth yn ei ddydd nag y mae yn gael yn e bresenol. Mae warden o'r iawn ryw yn Penrith; pe cymerai ef arno y swydd o'i dosbarthu, byddai yn sicr o droi yn llwyddiant.
Y GOHEBYDD GWIBIAWL.
Y GOHEBYDD GWIBIAWL. Y BRODYR JONES. PENOD II Ebe Mr. Jones, Gwen, fy nghariad, yr wyf wedi cael gafael yn Gwibiawl, un o'm cyfeillion henaf a'r mwyaf prisiadwy." Y mae yn ddedwyddwch mawr i mi eich gweled. Gweithiau lawer y bydd fy ngwr yn son am danoch, ac yr wyf yn llawenhau yn fy nghalon i gael yr hamdden i wneuthur cich cydnabydd- iaeth. Llefarwyd y geiriau hyn mewn llais o'r sain coethaf, ac yr oedd y llais hwnw yn dyner, mwyn, ac isel; peth rhagorol iawn mewn dynes. Yr oedd yr eneth fach yn glynu wrth fy ochr, ei llygaid treiddiol yn syllu ar fy ngwyneb, a gwen serchog yn chwareu ar ei gwefusau blodeuog. 13 C5 Ymddangosai wrth ei bodd yn nyfalwch y plentyn tlws—pan yr ycliwanegodd, A ydych wedi dyfod o bell boreu heddyw, Mr. Gwibiawl ?" 0 Gaerloew, Mrs. Jones." Yn wir y mae yn siwrnau lied faith, ac y mae yn rhaid eich bod yn flinedig. Chwi a gym- erwch eich rhagbryd gyd a, ni ?" "Diolch i chwi, Mrs. Jones, gyda'r pleser mwyaf." Mewn byr amser gosodwyd y bwrdd, y lliain cyn wyned a'r eira, bara can yn ffres ac yn felus, cosin o stilton, ymenyn mor felyn a'r blodau a gymerant ei enw, a dysglaid o lysiau y gwanwyn, wrth ochr pa un yr ydoedd shwg o gwrw cawr- aidd, a chloriawg o seidr, yn burymu dros y genau, ynghyd a photelaid o win. Yr oedd Jeptha yn berwi drosto yn eilsiaradaetb. Yr wyf mor falch o'ch gweled, fy hen ffrynd. Y mae yn dda gan fy ngbalon i eich cael yn y Ty Clyd.' Dyna yr enw a roddodd Gwen i'r ty, De'wch treiwch y cwrw, rnyfi fy hun a'i darllaw- odd. Y seidr a dyfodd yn ein perllan ni, a'r gwin a wnawd gan ddwylaw destlus fy anwyl wraig. De'wch, gwnewch fwyta yn hearty. Pa mor bell ydych yn meddwl teithio heddyw ?" "I Lydney." I Lydney I Byddaf fy hun yn gyru yno i gyfarfod Edward i'm'cludo adref. Edward yw fy mab henaf." "Ie on'te, ond dywedwch wrthyf Mr. Jones, pa faint o blant sydd genych ?" Pump. Sawl ydych chwi yn rifo ?" Naw I .1 Naw I teulu mawr, ac yn gosod arnoch gyf- rifoldeb mawr, a byddweh yn naturiol adre' yn fynych?" ".Cyrhaeddaf adref bob wythnos, Mr. Jones a threuliaf y Sul a'r Lltin gyda fyngwraig a'm teulu yn bresenol; ond pan agorir y rheilftordd, byddaf yn nhre bob yn ail ddydd. Bydd i mi yn fendith an- mhrisiadwy." Yn mron ar y foment dyma dri llanc yn dyfod i mewn i'r vstafell a gwrid iechyd a dyddanwaith yn gorliwio eu bochau iachusol yr oeddynt wedi bod yn pysgota, canys yr oedd gan bob un fasged ar ei gefn. Ar ol cyfarch y tad a'r fam eyflwyn- wyd hwy i mi dan yr enwau Dick, Jerry, ac Arthur. Wel fy llaneiau, pa Iwyddiant a gawsoch heddyw ?" "0 go lew, Syr. Yr ydym yn cadw y dwfr goreu i Edward, yr hwn sydd yn dyfod adref gyda Daddy heddyw. Yr ydym wedi dal oddeutu chwe' dwsin yn gyfangwbl. Dyma fritbill hardd, Syr, fe allwn feddwl ei fod yn ddau bwys, ond yfory, os cawn gawod o.wlaw heddyw, yn ddiddadl bydd ein basgedau yn orlawn. Addawsoch chwi Daddy, ddyfod gyda ni; a gaf fi barotoi eich taclau pysgota ?" Wel, Dick, gwnaf orchest i daflu y line yfory, ac ar yr un pryd caf gyfle i farnu pa un a'i chwi neu Edward yw y pysgotwr goreu." Wel, Mrs. Jones, mae yn rhaid i mi gychwyn, ac yr ydwyf yn wir ddiolchgar i chwi ar teulu am eich lletygarwch." A ddychwelwch gyda fy ngwr, Mr. Gwib- iawl ? Parotown giniaw i chwi, a bydd gwely temp'rus yn barod i chwi. Dywedwch y deuweh, bydd Jeph wrth fodd ei galon i dreulio noson gyda chyfaill mor anwyl a plirofiadol." "Dioleh atirhaethol i chwi, My Dear Madam, ond bydd yn rhaid i mi giniawa yn yr Hotel. Nid yw hyn ond dyledswydd i'r Landlord, yr hwn sydd yn neillduo i ni, y Traveller8, yr ystafell oreu yn y gwesty, as nid ellir llai na gwario gymaint ag a allwn mewn cymedroldeb am y manteision hyn. Wel, os bydd i:fy nghyfaill a'r mab gymeryd ciniaw gyda mi dychwelaf gyda'r pleser mwyaf." Ar y telerau yna, Mr. Gwibiawl, cymerwnein ciniaw gyda chwi, ac os wyf yn cofio jrn iawn, yr oeddech yn caru cario y wialen pan oeddem yn digwydd cyfarfod yn Ngogledd Cymru flynydd- oedd yn ol." ol Ebe y bechgyn, Ni a barotown i chwi wialen a phlyf, a da fydd genym weled hen gyfaill ein tad yn treulio diwrnod gyda ni." All right, fechgyn byddwch ofalus am an- rhydedd eich tad, mi fyddat yn sicr o'i faeddu." Yr oedd y cerbydau wrth y drwa. Mr. Jones A chwpl o ferlinod cochion, a minau a fy hen ffrynd Jack. Cyrhaeddwyd Lydney yn brydlon. Gwedi terfynu fy masnach, rhoddais Biars fy ngheffyl i'r marchwas hyd nes y dychwelwn mewn diwrnod neu ddau, ac i mewn i'r Commercial Boom i giniaw, Mr. Jones,ei fab, myfi, a phump o fonedd- igion eraill. Gosodwyd ar y bwrdd fwydydd a danteition o'r fath oreu. Eog o'r afon Wy, cig oen, asparagas, a gwin o'r gwinllanoedd goreu yn yr Ysbaen a Phortugal. Yllywydd, Mr. Brown- low, oedd esiampl o'r gwych a'r mawreddog, yn wastadol mewn tymer dda tuag ato ei hun, ac ar yr un amser tuag at bawb eraill o'i amgylchyn- wyr, yn feddianol ar wastadfrydedd na fydd byth yn cael ei aflonyddu, a'i brif ymdrecli yw gwneuthur pawb a gyraedd ei ddylanwad yn hapus ac yn orfoleddus. Ar ein dychweliad tua'r Ty Clyd cymerais fy eisteddle yn ngherbyd fy nghyfaill. Yr ydoedd y mab Edward yn hogyn talsyth oddeutu un-ar- bymtheg oed, newydd ddychwelyd o Heidelburg, lie yr oedd wedi bod yn yr ysgol. Ni yfai ddim ond dwfr, ond am ysmocio yr oedd naill ai cigar neu cigarette yn ei enau yn barhaus, fel meddai, y gwelir yr holl langciau yn Germani. Cyrhaeddwyd pen y daith yn gysurus, ac ar ol llongyfarchiad ar bob llaw, ac ar ol i'r fam gyf- newid hoffawl gyfrinach a'i mab henaf, aethom allan i'r pare a amgylchynaiy ty. Yr oedd anian yn chwerthin yn y coedydd ac yn y blodau, yn llwythog gan yr oil a gydrodda i ddedwyddwch y dyn. Yr oedd y ffrwythau yn llawn blodau, v rhosynau yn taflu allan eu harogl, twmpathau o'r crinllys, a'r teim gwyllt, dros ba rai y chwytha y deheu-wynt, yn rhoddi ac yn lladrata perarogledd. Cafwyd set o cat and dog, a chol a ban do gyda y bechgyn, ac i mewn i de. Ar ol te cefais fy nghyfarwyddo i fyfyrgell fy lletywr, ei ystafell ei hun, lie y byddai y pibellau a'r tybacco yn cael eu cadw, ac yno y bu Mr. Jones a mi gyda bob o bibell tair troedfedd o hyd, a'n gwydrau o wirod. Aethpwyd dros helyntion chwarter canrif, ac nid anghofiwyd y cyfeillion fuont yn anwyl genym flynyddoedd yn ol. Trodd y boreu yn ffafriol o du y gwialenod, ac ar ol brecwast, ebe Jeptha, Nawr, yr hen frawd, dalaf wager fy llaw i yn erbyn yr eiddoch chwi." Done Cofus genyf i mi eich euro amser yn ol ar lyn Ogwen, ac yr ydwyf yn meddwl y gilllaf daraw pysgodyn yn awr yn ogystal a'r pryd hyny." Yr oedd y bechgyn yn llawn bywyd-i ffwrdd a ni, ac awel orllewinol ac awyr gymylog, a gwell helfa ni chafwyd erioed, ond collais fy wager a tbelais y ddirwy. Ar ol swper aethom i'r sanctum, ac yn y mwynhad o'r pibellau a'r grog, adroddodd fy nghyfaill fel y canlyn :— HANES Y BRODYR JONES. (Tw barhau.)