Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

----------- -----------------_---_----._---Y…

-----'_----_-RHIDYLL EINION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHIDYLL EINION. Goddefer i Einion ychydig eiriau o ragymadrodd wrth gyflwyno ei ridyll am y waith gyntaf i sylw caredig darllenwyr y LLAN. Teimla Einion fawr zel dros y LLAN. Creda fod dyfodol yr Eglwys yn rhanau unieithog Cymru, calon gynes y genedl, yn dibynu i raddau helaeth ar lwyddiant y Wasg Eg- lwysig Gymreig. Hydera fod dyfodol disglaer o flaen y LLAN, y Gyfaill, a'r Haul pan ddaw allan o'r newydd ddechreu y flwyddyn. Bydd yn warth oesol i Eglwyswyr Cymreig os na chefnogant, un ac oil, hyd eithaf eu gallu yr ymdrechioif a wneir i wella ac eangu dylanwad cylchgronau Cymreig yr Eglwys. Hyn yna am broifad Einion. Gair neu ddau eto am amcan a chynllun ei ridyll. Bwriedir bwrw i'r rhidyll o dro i dro bigion o'r Wasg Gymreig a Seisnig a fernir o ddyddordeb i ddarllenwyr y LLAN, ynghyd ag awgrymiadau a, thuedd ynddynt i gadarnhau a diwygio trefniadau yr Eglwys. Ni fwriedir chwil- iota am feiau ond barnu yn deg a diragfarn hyd y gellir, a dal y rhidyll yn wastad, a rhidyllio yn ddiofn sfdidderbynwyneb. Ni ymosodir ar bersonau nac enwadau, ond hyd y byddo egwyddor yntalw, a phan y byddo angen ymosod, gwneir ymclrch i beidio tori deddf cariad-perffaith gyfraith rhyddid. Gwell gan Einion ganmawl na chondemnio, a chroesawa y da o ba gyfeiriad bynag y delo. Ni ddygir gwleid- yddiaeth i'r rhidyll ond yn gynil. Ceir deall rhyw dro eto syniadau gwleidyddol Einion. Ar hyn o bryd nid yw am amlygu mwy na'i fod yn wladgarwr gwresog ac yn Eglwyswr penderfynol, ac y dymunai fod yn ddiragfarn. Dyna, hwyrach, ddigon neu ormod am brofiad a chyffes ffydd Einion. Bellach, eilia Einion o'r neilldu, a daw y rhagenw angen- rheidiol ond anhylaw y "fi" fawr, fel y mae gwaetha'r modd, i'r golwg. COFFADWRIAETH WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN. Llawenycha pob Cymro fod cynygiad ar droed er anrhydeddu enw per ganiedydd Cymru, yr Emynydd melus o Bantycelyn. Y mae trysorau lawer ar gael yn ein llenyddiaeth Gymreig, ond yn fy marn i, nid oes genym ddim mwy swynol na'r hen Fabinogion mewn rhyddiaeth a gweithiau William Williams mewn barddoniaeth. Os prif ragoriaeth celfyddyd lenyddol yw naturioldeb claw y rhai hyn yn bur agos at berffeithrwydd, a daliant eu :cydmaru a. cheinion llenyddiaeth unrhyw genedl. Deuwn allan fel gwladgarwyr i anrhydeddu gwr yr erys ei enw byth yn glod i'n gwlad. Deuwn allan fel Eglwyswyr, canys yr oedd y bardd o Bantycelyn, fel y tadau Methodistaidd eraill, yn Eglwyswr fiyddlawn. Perthyn yr anrhydedd o. gychwyn y symudiad er parchu ei gofiadwriaeth i ddau Fethoiist. Na eiddigedder am hyny, ond gofaler i'r symudiad fod yn genedlaethol, ac nid yn Fethodistaidd. Gwelais yn y Faner lythyr yn cynyg cael Capel Methodist- aidd Saesneg fel cofgolofn iddo. Nis gallwn gredu yrenilla cynygiad morfanaddas ffafr. Chwithig o beth fyddai anrhydeddu enw un o'n prif lenorion Cymreig yn Saesneg. Nid teg ychwaith fyddai codi capel coffadwriaethol. Nid Methodist fel Methodistiaid yr oes hon oedd Williams, Pantycelyn, ond Eglwyswr a elwid yn Fethodistaidd. Tybiaf mai y goffadwr- iaeth oreu fyddai cael cofgolofn deilwng ar ei fedd, ac argraffiad rhad o'i Emynau a'i Farwnadau, er eu dwyn o fewn cyraedd pob darllenydd. Beth ddywed ein darllenwyr ? Y GENINEN. Y mae y Geninen yn tyfu yn iach a gwerdd. Llawen genyf ei gweled yn parhau yn wir genedl- aethol, Gwelais yn y Western Mail fod Lladmerydd yn y Tyst a'r Dycld, yn beio ar ei golygydd galluog a gweithgar, Eifionydd, am agor ei thudalenau i ys- grifau ar neillduolion y gwahanol enwadau, o herwydd eu bod yn magu teimla dau drwg. Nis gallaf gydsynio a Lladmerydd. Os oes cecru yn codi, nid ar y Geninen y mae y bai, ond ar y cecrwyr, Darllenais yr ysgrifau, ac er eu bod yn amrywio llawer mewn gallu, gwn mai dymuniad penodol y golygydd oedd iddynt oil fod yn foneddigaidd. Beirn- iadwyd llawer arnynt yn y newyddiaduron. Cafodd y Parch. W. Nicholson gryn gerydd yn y Genedl, er engraifft, gan y Parch. J. Evans (Eglwysbach), ac ymddengys oddiwrth y Cenad Hecld, na chymerodd y cerydd yn garedig. Ond ofer beio y Geninen am hyn. Rhaid i Mr. Nicholson, fel pawb eraill, oddef ei feirniadu. Y mae angen mawr ar hyn o bryd goleuo y wlad am egwyddorion y gwahanol enwadau. Dywedodd y Parch. T. C. Edwards, Aberystwyth. o gadair Cymdeithasfa y Methodistiaid yn Aberayron, mai ei reswm ef dros lynu wrth ei enwad, oedd iddo gael ei fagu ynddo. Os dyna reswm gwr o'i allu a'i ddysg ef, amlwg, fel y dywed y Goleuad yr wythnos hon, fod gwaedoliaeth ac arfer yn penderfynu dal- iadiu crefyddol rhan fawr o Ymneillduwyr Cymru heddyw. Gwyntyllier egwyddorion yr enwadau, a chredaf y gwel amryw nad oes sail gadarn i barhad enwadol yr un o'r enwadau, ac mai yr unig adeilad a ddeil brawf a chwyldroad meddyliol sydd wrth y drws yn Nghymru trwy dclyfodiad prysur llenydd- iaeth Seisnig i'n plith, ydyw hen Eglwys Gatholig y tadau. Y mae ysbryd yr oes yn anadlu anadl ymhob cyfarfod. Ni cheir undeb ond ar sylfaen eang hanesiol yr olyniaeth apostolaidd. Yr ydym yn falch fod cymaint o ddarllen ar erthyglau y Geninen ar yr Eglwys a'r enwadau. Gresyn genym gofio na cheir air eto ynddi gan y Decn Edwards, erthygl yr hwn ynddi ar Paham yr wyf yn Eglwyswr ?" oedd un o'r erthyglau goreu a welais erioed yn Gymraeg. Ymddengys y flwyddyn nesaf erthyglau ar Ffurf- lywodraeth yr Eglwys a'r amrywiol snwadau." Yr ysgrifenwyr fyddant y Parchn. Glanmor dros yr Eglwys; D. Edwards, Casnewydd, dros y Methodist- iaid, Charles Davies, Lerpwl, dros y Bedyddwyr, J. Hughes (Glanystwyth), dros y Wesleyaid; ac L. Probert, Porthmadog, dros yr Annibynwy.r Ym- ddengys hefyd adolygiadau ar yr ysgrifau a ym- ddangosasant eleni ar neillduolion yr Eglwys a'r enwadau. Ysgrifenir yr adolygiadau gan Eglwyswr a gweinidogion Ymneillduol. Ceir enwau yr adol- ygwyr eto. Y GENEDL GYMREIG A'R EGLWYS. Dymunaf cyn cadw fy rhidyll yr wythnos hon gyfeirio at y pwnc hwn. Ceryddwyd yn llym yn y LLAN yr wythnos o'r blaen a chynt at don erthygl a llythyr a gyhoeddwyd yn y Genedl ychydig yn ol. Ymddangosodd hefyd lythyr yn ngholofnau y Genedl i'r un perwyl. Da genyf weled yn adolygiad y Genedl ar Seren Gomer yr wythnos o'r blaen fod y golygydd yn awyddus am gadw ei cholofnau o hyn allan yn lAn oddiwrth bob chwerwder ac anfoneddig- eiddrwydd, ac yn dysgu eraill felly. Nis gallaf gytuno a'i golygydd, y Parch. A. J. Parry, mewn llawer o bynciau hanfodol, ond er hyny y mae genyf barch calon iddo am yr amlygiad cyhoeddus hwn o'i awydd i draethu ei farn a dadleu ei ochr mewn dull teg. Arwydd gobeithiol arall, a ddylid ei nodi, o ddymuniad golygydd y Genedl i beidio dolurio Eg- lwyswyr rhagllaw yw yr erthygl ffafriol ar y di- weddar Barch. E. 0. Hughes, M.A., Periglor Llanddeiniolen. Nid gwaith hawdd yw golygu newyddiadur, a chredaf mai amryfusedd, y mae yn wir ddrwg gan y golygydd o'i herwydd, fu yr hyn yr achwynid arno. Tebyg fod llawer o ddadleu brwd o'n blaen yn Nghymru ar Ddadgysylltiad ac amryw bethau eraill. Yr wyf yn barod i ddadleu dros egwyddor, ac nid gwerth dadleu yn gynil megis ymladd mewn menyg, ond dylai pob ochr wneyd eu goreu i dynu ymaith golyn dadleuon, sef ysbryd chwerw, cas, anghrefyddol, rhag i'n gwlad, rhwng ein dwylaw, ddiflasu ar gecraeth crefyddwyr, a rhuthro i anffyddiaeth. Aeth y rhidyll yn lied lawn y tro hwn. Ceir rhidylliad byrach y tro nesaf. EINTON.

-----_--_----__---_ DREFACH,LLANGELER.

[No title]

Advertising