Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

PRIFYSGOL CAERDYDD A DYLEDSWYDD…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

(Niil ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.) PRIFYSGOL CAERDYDD A DYLEDSWYDD YR EGLWYS SEFYDLEDIG. At Olygydd Y Llan." Syr,-Nid wyf yn rhyfeddu at eiddigedd y Proffeswr Owen dros ei goleg, neu os myn, dros ei Goleg Prifysgolaidd." Ar yr un pryd rhaid addef fod y fath frawddeg a'r un a ganlyn yn peri syndodnidbyehan: Nis gellid dyfeisio," medd efe, dim mwy tebyg i barhau a chryfhau ein hymraniadau crefyddol annedwydd na chynllun trwy ba un y gwahenir yn gyhoeddus efrydwyr eoleg yn ol eu barn grefyddol ac y sicrheir iddynt hyd yn nod fwyta ao yfed yn ol eu credo." Wele dir ei ymresymiadau yn erbyn aefydlu Hostel Bglwysig ynglyn a Phrifysgol Caerdydd Pan fo gwr Eglwyeig yn gwrthwynebu symudiad mor glodwiw ar dir mor annheilwmg, rhaid fod ei achos yn dra gwan. Ymddengys, yn ol y frawddeg a ddifynwyd, fod y Proffeswr o'r farn mae y ffordd oreu i wella ymraniadau crefyddol yw i Eglwys- wyr wneyd ymdrech i ddifodi crefydd. Gyda golwg ar yr achwyniad y byddai Hostels yn gwahanu yn gyhoeddus efrydwyr coleg yn ol eu barn grefyddol," mae hyn yn hanfodol tra bo ffydd Crist yn llewyrch—" llewyrched eich goleuni ger- bron dynion "—" nid yw neb, wedi goleu canwyll, yn ei gosod mewn lie dirgel na than lestr, eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo y rhai a ddelo i mewn weled y goleuni." Diben Hostel Eglwysig yw gosod goleu yr Eglwys ar ganhwyllbren yn lie bod goleuni ffydd yn guddiedig dan lestr y drefn ddi- grefydd. Mae yr achwyniad, yn mhellach, yn profi anghysondeb dirfawr. Onid yw Llanbedr yn addef, hyd yn nod yn ymffrostgar, y fraint a geir yno gan ddigred a chredadyn trwy "adran cydwybod?" Gwyr pawb fod yr adran hono yn gwahanu'n gyhoeddus efrydwyr y coleg yn ol eu barn gref- yddol." Oes yna eiddigedd, o ganlyniad, yn Llanbedr rhwng efrydwyr a'u gilydd ? Oa nad oes, paham yr enyn Hostel" eiddigedd enwadol yn Nghaerdydd ? Os yw Ymneillduwr yn Llan- bedr yn rhydd i ddiogelu ei gydwybod rhag pob dylanwad Eglwysig,—os yw yr Undodwr a'r diffydd yn rhydd yn Llanbedr i ddiogelu ei hunan rhag pob dylanwad crefyddol,—onid eyfiawn a theg yw i blant Eglwyswyr a phob un arall a fyno gael eyfle yn Nghaerdydd i fwynhau breintiau erefyddol Hostel ? Os amgen, mwy yw rhyddid y diffydd yn Llanbedr nac eiddo'r Eglwyswr yn Nghaerdydd. Tra yn gwrthwynebu Hostels crefyddol, barn y Proffeswr yw y buasai Hostels anenwadol sefydledig gan Gynghor y Coleg" yn bethau dymunol. Nid digon, mae'n debyg, cael addysg di-grefydd yn y Lecture-rooms; mynwch yn mhellach gartref a chymdeithas ddigrefydd yn yr Hostels. Byddai Hostel anenwadol" yn gartref di-weddi, di-Feibl, di-gred, a di foes, Try pob ffag-ymresymiad, a lunir yn erbyn Hostel Eg- lwysig, ar gamsyniad ynghylch dyledswydd yr Eglwys Sefydledig. Nid fel sect fechan, yn orlawn o zel plaid a hawliau sectol, y dylai yr Eglwys ym- egnio. Os myn Eglwyswyr mai sect yw hi, nid yw ei chyfrifoldeb yn cyrhaedd yn mhellach na therfynau sect. Un yw hi ymhlith rhif o fin en- wadau; nid gwiw iddi ymffrostio mwy yn yr enwau aruchel "Eglwys Gatholig" a setydliad eenhedlaethol." Ymddengys gwaith crefyddol Cymru i'r Proffeswr yn fath o frwydr enwadol. Dylid aberthu pob rhwymau cyfrifoldeb, hyd yn nod er gwaethaf orefydd a moes, er mwyn sect. Os un o'r mgn enwadau yw'r Eglwys, mae ei gweinidogion yn pechu yn erbyn deddf undeb pan adeiledir Eglwys mewn man sydd eisoes yn llawn capeli Ymneillduol. Mae egwyddor y Proffeswr, mewn perthynas i eiddigedd enwadol," yn eg. wyddor beryglus. Os nad oes galwad ar yr Eglwys Wladol i wneyd ymdrech i lenwi'r gwagle cref- yddol yn Nghaerdydd, nid oes galwad arni i wneyd ymdrech ar gyfer y miloedd sydd heb freintiau crefyddol o un math mewn ardaloedd poblog. Gadewch iddynt gydfyw a chymdeith- asau yn hollol ddigrefydd. Trwy hyny derfydd am eiddigedd enwadol." Dyma effaith a chanlyn. iadau yr egwyddor a fabwysiadwyd gan y Proffeswr. Pendraw ei wrthwynebiad i'r Hostel grefyddol yw 08 mynwch ddifodi eiddigedd en- wadol, difodwch grefydd a chred." Yr wyf yn gynu at y Proffeswr yn cymeryd bwyta ao yfed yn ol eu credo" yn nod gwatwareg. Pe buasai Secularist penrhydd yn gwneyd hyny ni fuasai'r peth yn achosi syndod. Ond mae'n rhyfedd genyf fod gwr Eglwysig wedi gollwng yn anghof yr hen air Pa un bynag ai bwyta ai yfed, ai beth bynag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw.Yr eiddoch yn gywir, AWDWR nt ERTHYGL. O.Y.—Oni wnelai un o Ganoniaid Eglwys Gadeiriol Llandaf lywydd rhagorol ar yr Hostel f

DIOLCHGARWCH CYFFREDINOL.

YR ESGOB MORGAN.

YR EGLWYS. !

EISTEDDFOD NEFYN.

SANCTA CLARA.

GAIR I BWYLLGORAU CYMDEITHASAUÃ…

DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF.

PURDEB.

LLITH HYNAFGWB.

Y RHYFEL RHWNG FFRAINC A CHINA.

[No title]