Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
Y SENEDD \A HELAETHIAD YR…
Y SENEDD A HELAETHIAD YR BTHOL- FRAINT. Prif bwno y Senedd yn ystod yr wythnos ddi- weddaf, fel y gallesid disgwyl, ydoedd Helaethiad yr Etholfraint. O'r diwedd mae y Llywodraeth wedi addaw dwyn i mewn ar fyrder Fesur Ad- drefniad yr Eisteddleoedd os gwnai Ty yr Arglwyddi foddloni i basio Mesur yr Helaethiad yn ddiwrthwynebiad. Yn y ddau Dy nos Lun, darfn i Mr. Gladstone ac Iarll Granville wneyd adroddiadau o barthed i'r cwrs yr oedd y Llyw- odraeth yn barod i'w gymeryd gydag ad-drefniad. Hysbyswyd os y derbynient sicrwydd digonol y bydd i Fesur Estyniad yr Etholfraint gael ei basio yn f ystod y Senedd-dymor hon y buasent ëyn dwyn mesur Ad-drefniad gerbron yn union- gyrchol. Pe y cyrhaeddid yr amcan hwnw, yna byddai i fesur Eangiad yr Etholfrant ddod i rym ar y laf o Ionawr, 1886. Dywedodd y Prif Weinidog y byddai y Llywodraeth yn barod i ddod a phrif bynciau mesur Ad-drefniad yn mlaen er cael dadleuaeth gyfeillgar arnynt ar un- waith, ac i wneyd pob ymdrech er cyfarfod a golygiadauy ddwy blaid, neu byddent yn foddlawn i ddwyn gerbron y Ty yn uniongyrehol fesur wedi ei ddarparu yn ol y cynllun a wnaeth ef yn hysbys eisoes yn ei areithiau yn y Ty. Yn ail, yr oedd y Llywodraeth yn barod i wneyd pob ymdrech er hyrwyddo y mesur drwy'r Ty fel y gellid hyd yn nod gymeryd yr ail-ddarlleniad yr un amser ag y byddai mesur estyniad yr etholfraint yn pasio i bwyllgor yn Nhy'r Arglwyddi. Yn drydydd, yr oedd y Llywodraeth yn barod i wneyd pasiad mesur ad-drefniad yn bwnc gor-bwysig iddynt eu hunain. Dydd Mawrth, ymgyfarfyddodd yr aelodau Seneddol Ceidwadol yn eu Clwb, yn Pall Mall, Llundain, pryd y daeth nifer dda o honynt ynghyd. Amcan y cyfarfod ydoedd cymeryd i ystyriaeth gynygiadau y Llywodraeth, a'r farn yw y derbynir hwynt os bydd i'r Llywodraeth roddi sicrwydd ynghylch dygiad mesur yr Ad-drefniad i mewn. Rhydd hyn derfyn ar y gwahaniaethau sydd wedi bodoli rhwng y ddwy blaid fawr ar y cwcstiwn.
PONTFAEN (COWBRIDGE).I
PONTFAEN (COWBRIDGE). AMDDIFFYNIAD YR EGLWYS.—Nos Iau, y 13eg cyfisol, bu y Parch. J. E. Jennings, Ysgrifenydd y Gymdeithas er Amddiffyn Iawnderau yr Eg- lwys, yn talu ymweliad a'r dref hon. Yn yr hwyr anerchwyd nifer liosog o Eglwyswyr ganddo yn yr ystafell lie y cynelir yr Ysgol Sul. Diben y cyfarfod hwn ydoedd egluro materion Eglwysig i Eglwyswyr Pontfaen a'r gymydogaeth, ac nid, fel y disgwyliai rhai gwneuthur ymosodiadau ar y rhai sydd mor haerllug a phroffesu mai lies yr Eglwys sydd ganddynt mewn golwg pan yn sychedu am ei hysbeilio o'i heiddo cyfreithlawn. Nid diben y cyfarfod hwn ydoedd pardduo cymer- iadau y blaid wrthwynebol, a gosod ger bron y gwrandawyr bob ysmotyn du ag sydd wedi, ac yn perthyn i Ymnillduaeth. A thrwy hyn, deallwn i'r ychydig Ymneillduwyr oedd yn bresenol gael eu siomi. Na, diben v cvfarfod ydoedd ceisio goleuo Eglwyswyr yn nghylch eu sefyllfa fel Eg- lwyswyr, a dangos iddynt fod iawnder yr Eglwys yn sefyll ar y gwirionedd. Mewn perthynas i sefydliad yr Eglwys yn y wlad hon, cyfaddefai Mr. Jennings nas gwyddai ef yn iawn sut i egluro beth a feddyliai y gair. Nid oes yr un weithred Seneddol ag y gellir cyfeirio ati, a dweyd, hon wnaeth Eglwys Loegr yn Eglwys Sefydledig. Gellir herio unrhyw wrthwynebydd i gyfeiro at unrhyw gyfraith neu gyfreithiau Seneddol ag sydd yn profi mai y Senedd sydd wedi creu yr Eglwys yn Eglwys Sefydledig yn ein gwlad. Mae yn hawdd cyfeirio at yr adeg pan y gwnaed yr Eg- lwys Bresbyteraidd yn Eglwys Sefydledig yr Alban. Ond nis gall yr fhanesydd mwyaf goleu- edig a mwyaf treiddgar gyfeirio at ddim cyffelyb mewn cysylltiad a'r Eglwys yn y wlad hon. Ac eto y mae'r Eglwys yn cael ei galw yn Eglwys Sefydledig, ac felly y mae hefyd mewn gwir- ionedd. Ond nid yw hyn yn profi ddarfod iddi gael ei sefydlu gan y Llywodraeth Brydeinig. Na, yr oedd yr Eglwys yn bodoli yn Lloegr cyn i'r Wladwriaeth Seisnig erioed ddyfod i fodolaeth. Ac yn y wlad hon, neu yn fwy priodol gellir dweyd fod yr Eglwys wedi gwreiddio yn yr ynys hon yn bell cyn i'r Saeson sangu ar ein gororau. Yr ydym yn gwybod fod Esgobion Prydeinig, neu mwy priodol Esgobion Cymreig, yn y Cynadledd- au Eglwysig yn yr ail a'r drydedd ganrif. Ac ni ddaeth Awstin drosodd yma o Rufain cyn diwedd y chweched ganrif. Oddiwrth hyn, gwelir fod yr Eglwys Gristionogol wedi gwreiddio yn yr ynys hon er yn foreu iawn, yn mhell cyn bodolaeth y Wladwriaeth Seisnig. Ae felly, nid rhyfedd fod ein cyfeillion y Liberationists yn methu dangos pa amser a chart bwy y darfu i'r Eglwys igael ei gwneyd yn Eglwys Sefydledig y wlad. Ni ddarfu iddi erioed gael ei gwneuthur' yn Eglwys Sefydledig gan unrhyw gyfraith seneddol. Yn hytrach na'i bod M wedi cael ei rheoli a'i threfnu gan y Llywod- raeth yn yr hen amser gynt, yr Eglwys ddarfu reoli a ffurfio y wladwriaeth. Ac o'r dechreuad y mae'r ddwy, yr Eglwys a'r Wladwriaeth, wedi oyfu ac ymddadblygu gyda'u gilydd—megis yn mreichiau eu gilydd. Mewn gair, nid oedd y ddwy ond un. Nis gallai yr Eglwys wneyd heb y Vladwriseth, ac nie gallai y Wladwriaeth wneyd heb yr Eglwys. Yr oedd bywyd un yn ymddibynu ar lwyddiant a nerth y Hall. Ac eto, fe ddywedir wrthym yn awr fod un wedi myned yn rliwystr i'r Hall erbyn hyn-fod llwyddiant yr Eglwys yn ymddibynu ar ei gwahaniad oddiwrth y Llywod- raeth. Y fath anghysondeb! Nid rhyfedd fod Mr. Gladstone yn dweyd mai DKWR yw y dyn a feiddia ymyraeth a, Dadgysylltiad yr Eglwys oddiwrth yr Eglwys. Ond, fel y dywedai Mr. Jennings, nid erya gwrthwynebwyr yr Eglwys yn y fan hon. Na, y mae gan yr Eglwys ychydig feddianau ag sydd wedi ei gadael iddi yn y gwahanol oesau o'i bod- olaeth yn y wlad hon-meddianau ag sydd yn perthyn iddi hi mor gyfreithlawn ag y mae Castell Caerdydd yn perthyn i'r Ardalydd Bute. Y mae'r meddianau hyn wedi eu gadael iddi mewn gwahanol ffurfiau, megis degwm, tiroedd, &e. Ac ni feddyl- iodd yr hen dadau hunanymwadol a'u rhoddodd iddi lai na'u bod at eu gwasanaeth hyd derfyn amser. Ac y mae pa«b rhesymol yn gwybod fod gwaddoliadau o'r fath yma yn gynorthwy mawr, ie, yn anhebgorol angenrheidiol er hyrwyddo Cristionogaeth yn ein tir. Ie, mwy na hyn, gwyr pawb bron mai y rheswm mawr nad ydyw yr Eglwys yn alluog i wneyd darpar- iadau mwy cyfleus ar gyfer angenrheidiau ysbrydol y genedl ydyw bychander C1 meddianau—pe buasai ei choffrau yn llawnach y dyddiau hyn, pan y mae bywyd yn rhedeg trwy ei holl wythienau, pa faint mwy a fedrai wneuthurtuag at ymgeledd ysbrydol a naturiol y genedl! Ac eto y mae llawer yn ddigan cibddall i ddweyd y llwyddai yr Eglwys yn well pe cawsai ei diatri o'i holl feddianaul! Y mae llawer yn ddigon anghyf- iawn i gymeryd oddiarni ei holl feddianau, ac yn ddigon digywilydd wrth wneuthur hyny, i ddweyd mai lies yr Eglwys sydd ganddynt mewn golwg! Ie, Ant mor bell a dweyd, lawer o honynt, mai y wlad- wriaeth sydd yn talu cyflogau yr esgobion a'r offeir- iaid! Ac eto, nid oes yr un ddimai yn dyfod o goffrau y wladwriaeth tuag at hyn. Ai nid yw haeriadau o'r fath yma yn profi yn ddi- ymwad fod gwir angen am oleuo y wlad mewn perthynas i wir sefyllfa yr Eglwys yn ei chysylltiad a'r Wladwriaeth ? Ai nid yw yn profi y dylai pob Eglwyswr, ag sydd yn deilwng o'r enw, amcanu i amddiliyn iawnderau ei Eglwys ? Ac er gwneuthur hyn yn effeithiol, y mae'n wir angenrheidiol i ni fel Eglwyswr ddeffroi, ac amcanu hyd y mae yn bosibl, ymhob plwyf o'r Dywysogaeth, cael darlithwyr i egluro i ni wir sefyllfa yr Eglwys. Y mae pob Eg- lwyswyr yn agored i gael ymosod arno gan rywun neu gilydd y dyddiau hyn, felly fe ddylem oll am- oafm bod yn barod i wrthbrofi yr haeriadau disail sydd yn cael eu gwasgar ymhob cyfeiriad y dyddiau hyn. Gobeithiwn yn fuan gael cyfarfod o'r un natur yn y dref hon. Cafwyd anerchiadau hefyd gan y Cadeirydd, y Parch. J. Havard Protheroe, y Ficer, a'r Parch. M. Price Williams. Cowbridge. W. J. W.
-"------------,.-_m_.---,----TEYRNGED…
-m_ TEYRNGED UCHEL I DEILYNGDOD. YmddangoBodd yr hyn a ganlyn yn y Journal of Education mewn perthynas i dalentau disglaer ac aruchel Mrs. Thomas, priod y Parch. D. W. Thomas, M.A., St. Ann's Bethesda. Rhag gwneyd cam &'r gwreiddiol cyhoeddwn ef fel yr ymddangosodd:— Mrs. Thomas stood second out of forty candidates for the chair of Modern Languages at the North Wales College. She was singularly well qualified, and singularly fortunate in the strong testimony borne to her merits founded on the intimate know- ledge of some of the best judges in Oxford and Cambridge. Her abilities and attainments as linguist, litterateur, and teacher, are indeed some- what unusual; her knowledge of languages may be called marvellous. Besides a scholarly acquaintance with Greek and Latin, she has a thorough knowledge —not only colloquial, but philological-of French, German, Italian, and Spanish. And, what is an especial advantage in teaching Welsh students, she is quite at home in the language of the Principality."
_.__-__-------_._----EISTEDDFOD…
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL ABERDAR. u Cynhaliwyd cyfarfod gan bwyllgor yr Eisteddfod uchod nos Lun diweddaf yn y Neuadd Ddirwestol, Aberdar, dan lywyddiaeth y Parch. R. B. Jenkins, ficer. Y peth pwysicaf ddygwyd ymlaen ydoedd etholiad ysgrifenydd. Yr oedd 32 o ymgeiswyr, o ba rai y dewiswyd tri, sef Hywel Cynon, Aber- aman Mri. J. R. Lewis, Caerdydd, a D. Dundas Jordan, Caerdydd, i ymddangos gerbron y pwyll- gor. Nodweddid y cyfarfod & dadleuon brwd, a phenderfynwyd dewis yr ymgeisydd drwy y tugel. Y canlyniad ydoedd fel y canlyn:—Hywel Cynon, 53; Lewis, 39; Jordan, 1.
[No title]
PRIODASAU YN FFRAINC.- Y mae y Pab wedi rhybuddio M. Ferry yn swyddol nas gall ef gyd- nabod y gyfraith ysgaru newydd, gan fod priodas yn anniddymadwy yn ol athrawiaeth sylfaenol yr eglwys. Y mae y Llywodraeth Ffrengig wedi ateb, fod y mesur hwn yn berffaith wleidyddol, ac y gall ei Sancteiddrwydd ddefnyddio unrhyw ddarbwylliad moesol a fyno trwy yr esgobion i rwystro Pabyddion rhag cymeryd mantais o'r llys ysgaru. PRIS BARA.—Y mae llawer o gwyno wedi bod yn ddiweddar yn Paris, yn ogystal a Llundain, ynghylch pris y dorth yn Paris. Pa fodd bynag, mae y Rhaglaw wedi anog y pobwyr i ostwng y pris. Gwrtliododd y pobwyr hyn ar y cyntaf, ond mewn ail gyfarfod penderfynwyd trwy 1,170 yn erbyn 130 o bleidleisiau i ostwng pris y bara o'r ansawdd oreu o 70 centime8 i 65 centimes. Gwrthdystiasant, pa fodd bynag, yn erbyn yr ad- newyddiad bygythiedig o'r prawflye ar y bara, a thystient fod y llef am ostyngiad yn afresymol. SEFYLLFA LLONGAU MASNACHOL.—Yn ol adrodd- iad seneddol a gylioeddwyd yr wythnos o'r blaen, ymddengys fod, er pan y mae deddf y llongau mas. nachol mewn grym, o'r 563 o longau a gyhoedd- wyd yn ddiffygiol, yr oedd naw o honynt yn ddiogel, a 544 yn anniogel; tra mewn tri o achos. ion y mae yr ymchwiliad yn anmhenderfynol. O'r 341 a gyhoeddwyd wedi eu gorlwytho, dim ond pump a gafwyd yn ddiogel, a'r gweddill yn beiyghiB* -.riiwsviyaea-j w«&arec
DADWADDOLIAD YR EGLWYS A THRETHIAD…
DADWADDOLIAD YR EGLWYS A THRETHIAD LLEOL. Peth digon digrif yw gwirionedd noeth; felly y z7, bobl uchaf eu cloch am ddadwaddoli'r Eglwys yw dynion nad ydynt yn talu dim degwm na threth, gan amlaf lletywyr neu rai yn byw mewn tai y I telir (hyny o dreth a ofynir) gan yr Eglwys," neu gynulleidfa. Ond am y ficer, neu reithor, y mae hwnw yn un o'r trethdalwyr mwyaf yn y plwyf-mwy na'r burned ran o werth ei fywoliaeth bob blwyddyn; ae eto, disgwylir iddo fod yn fwy elusengar na neb arall, a gwario, fel gwr boneddig, ei avian. We], pan ddadsefydlir Eglwys y plwyf, wedi marwolaeth neu symudiad yr offeiriad budd- iog presenol, ni fydd gan ei olynydd ddim degwm na chlwystir i'w drethu. Y Llywodraeth fydd pia'r degwm, y persondy, a'r tir, at ddibenion cenedlaethol, costau'r Fyddin a'r Llynges, &c. Bydd treth tlodion, swyddogion, heddgeidwaid, costau sirol, llysoedd, ffyrdd mawr, pontydd, &c., a'r trethdalwyr a adewir ar y llyfrau i wneyd y diffyg i fyny i'r ddimai, a chyfrif pa faint fydd enill cartrefol pob plwyf gwledig yn Nghymru drwy ysbeilio'r person, a pha faint o'r golled a wneir i fyny gan y Liberation Society a'i gweision eyflog. Peth gwych rhyfeddol, welwch chwi ? Eisoes y mae'r personiaid wedi eu trethu yn ddigon trwm i barlysu eu helusengarwch, oni fydd ganddynt yr hyn a elwir private means ehelaeth. Ond mewn gwirionedd, y mae ein cydym- deimlad mwyaf a ffermwyr Cymru. Y mae eu eyflwr presenol yn galed a thosturus, a phwy a'u handwyodd, ped agorent eu Ilygaid 2 1 Y maent yn teimlo mai peth annichonadwy yw i'r wlad hon ymgystadlu a. gwledydd tramor yn nghynyrchiad gwenith, ac hyd yn nod magu anifeiliaid. Er esiampl, y mae ffermwyr Mon, a manau eraill lawer wedi peidio tyfu gwenith, ac ond yehydig iawn o haidd, gan fod bragu bellach dan felldith, gan ymddiried yn hollol i gynyrch ceirch i dalu trech ac ardreth. Ond ymddengys y bydd i wledydd tramor allu tyfu gwell a rhatach ceirch. Ychydig iawn gwell hefyd yw rhagolwg y rhai sy'n magu anifeiliaid. Y mae Lloegr hefyd yn ymddarfod yn brysur a. thyfu gwenith, a'r eiddo mewn melinau dwfr, gwynt, xe, ager, yn myned yn 'gydinarol ddiwerth, er pan y mae y farchnad yn cael ei gorlenwi a blawd tramor rhagorol. Mor ddiweddar a'r flwyddyn 1869 yr oedd 3,688,367 erw dan wenith yn Lloegr, a'u pris cyfartal yn 48s. 2c. y chwarter. Ond eleni 2,676,477 erw, a'r pris uchal yn 40s. y ehwarter. Na, yn ddiweddar y mae, mewn manau, mor isel a 32s. Rhaid fod Mr. Bright ei hun yn teimlo yn siomedig.
--"----'----'--."----I PENMORFA.!
PENMORFA. Cynhaliwyd ffair a elwir Ffair Pentymor, yn y pentref hwn, ddydd Mercher, y 12fed cyfisol. Yr oedd yn anarferol o fawr ond yehydig a wnaed mewn masnach anifeiliaid, an araf oedd y cyfiogi a'r cyf- logau'n isel; golwg ddigalon ar yr amaethwyr, dan orthrwm trethi'n trymhau, a masnach yn marw- eiddio.
BANGOR.
BANGOR. Er's ychydig amser mae cynwrf wedi ei aehosi yma gan waith rhyw ddynion, y rhai a wisgent ddillad merched, yn ymosod ar ferched tra y byddai yr olaf ar eu ffordd allan o'r ddinas ,i'w cartrefi yn y wlad gyda bara ac angenrheidiau eraill. Penderfynodd un o heddgeidwaid y ddinas ymwisgo mewn dillad merch, a chan gymeryd torth fawr dan ei gesail cychwynodd i'r wlad, ond ni chafodd fyned yn mhell cyn i'r lladron dd'od ar ei warthaf yntau ond siom- wyd hwy y tro hwn pan ganfyddasant mai nid a'r llestr gwanaf yr oedd a wnelo hwy ar y pryd, ond a. heddgeidwad talgryf, yr hwn a'u cymerodd i'r ddalfa yn ddiseremoni. (Ii A y } j
MWNT.
MWNT. Bu gwyl o ddiolchgarwch am y oynhauaf yn yr Eglwys hon, pan y pregethodd y Parchn. Thomas Jones, Cilgerran, ac A. Alban, Bridell. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch. T. M. Williams, Aberteifi, a ficer y lie, Parch. D. H. iDavies. Mae cynulliad da bob amser yn y Mwnt, ond yn fwy nac arferol felly ar ddydd yr wyl uchod. Darparodd Mr. Alban Davies a Mrs. Davies, Ffynongrog, giniaw a the blasus i'r offeiriaid oedd wedi ymgynull. Weith- iau rhwystra'r wledd rai o'r teulu gael amser i fyned i'r cyfarfod ond am y teulu uchod, da oedd genym weled drws y ty yn cael ei gloii'er mwyn i bawb fod yn bresenol yn y gwasanaeth. Saif yr Eglwys uchod ar gwr eithaf yr ochr ddwyreiniol sir Aberteifi, yn swn y tonau, pedair milldir o dref y sir. Da oedd genym glywed cystal canu a. chantio mewn lie mor wledig. Gobeithio y parha poblNant-y-fiiymau a Ffynongrog, ynghyd a'u cyfeillion i wella cyflwr henafol y Mwnt, trwy ddal i fyny freichiau ei gweinidog parchus. Y mae llawer o dir yn perthyn i'r Eglwys yn y plwyf uchod. Cofied pob amaethwr sydd yn dal fierm o eiddo'r Eglwys, ei fod, os yn ymuno i'w dadwaddoli, hefyd yn ymroi i werthu y tir ar auction. Oblegid dylai synwyr cyff- redin agor llygaid piwb i weled na bydd i'r Llyw- odraeth gadw yr un fierm heb ei throi yn arian.
[No title]
DEDFRYDAU TRYMION.—Y mae yr Arlwyddg Prif Farnwr wedi condemnio yn gryf yr arferiad o basio dedtrydau trymion am droseddau bychain, yr hyn a geir yn fynych mewn ardaloedd gwledig. Yr achos neillduol a'i harweiniodd i drafod y pwnc oedd un a derfynodd mewn carchariad dau fach- genyn i dri mis am ddwyn ychydig o afalau o berllan. Wrth gwrs y mae peth grym yn y ddadl fod firwyth ar y coed o angenrheidrwydd yn cael eu gadael yn agored, a phe byddai pob lladrad o berllan yn cael ei drin fel trosedd bychan, heb fod braidd yn deilwng o gosbedigaeth, yo ihyddal per- chenog y berllan heb ddim iddo ei hunan. Ond y mae gwahaniaeth mawr rhwng dirwy a thri mis o garchariad, ac y mae y fath gosbedigaeth afresymol yn hollol ddialw am dano i ddiogelu eiddo. Y mae y modd diofal a difeddwl y gwna llawer o'n Hus- tusiaid Heddwch yn y wlad drosglwyddo. plant llafur gonest i garchar yn haeddu y cerydd llym a derbyniodd gan yr Arglwydd Prif Farnwr yn Bedford.
DECHREUAD YR YMGYRCH DDAD.GYSYLLTIOL.
Boreu dydd Iau. DECHREUAD YR YMGYRCH DDAD- GYSYLLTIOL. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Dadgys- ylltwyr yn Neheudir Cymru neithiwryn Nghaerdydd, lie yr oedd yr Eglwyswyr wedi ymgyfarfod yn lluoedd, gymaint felly fel 0, gydag anhawsder y llwyddwyd i basio pen- 0 derfyniad ffafriol i amcanion y Dadgysyllt- wyr. Hynod ddigalon yw rhagolygon y Dadgysylltwyr yn awr, a bydded i Eglwys- wyr ymhob man fod ar eu gwyliadwriaeth drwy bresenoli eu hunain yn nghyfar- fodydd y gwrthwynebwyr fel y gwnaed y llynedd.
YR YMGYRCH I KHARTOUM.
YR YMGYRCH I KHARTOUM. Hysbysir fod y milwyr yn ymdaith yn raddol tua Khartoum, ond ni ddisgwylir iddynt gyraedd yno hyd fis Chwefror. Mae ychydig achosion o'r frech wen wedi tori allan ymhlith y milwyr yn Dongola.
Y CHOLERA YN PARIS.
Y CHOLERA YN PARIS. Cynyddu y mae y clefyd marwol hwn yn Paris, a tharawyd 54 o'r newydd ganddo rhwng nos Lun a nos Fa wrth. Bu 24 farw ddoe.
-'--__--..------------.-----.…
LLANDDEINIOLEN. I)YKt.;fiAFiAD EGLWYSIG.—Mae bywoliaetli litan- ddeiniolen, gerllaw Caernarfon, yr hon sydd yn rhodd yr Arglwydd Ganghellydd. wedi ei chynyg i a'i derbyn a y Parch. D. O. Davies, ficer llafurus Llandinorwic. Rhan o blwvf Llanddein- iolen yw Llandinorwic, a ffurfiwyd ef yn blwyf Eglwysig ar wahan yn 1857, a'r ficer cyntaf a benodwyd ydoedd y Parch. H. Grey Ed wards, yn awr periglor Llanfaehreth, Sir Fon. yr hwn a wasanaethodd yn ffyddlon am 16 mlynedd. Yn 1873, penodwyd y Parch. D. 0. Davies yn ficer, a chariodd yntau ymlaen y gwaith da a gyehwyn- wyd gan ei ragflaenydd. Bu yn llwyddianus i adeiladu Eglwys lewyrclras St. Mair, Dinorwic, lie y mae erbyn hyn 50 o gymunwyr. Ysgol Sul 17Y liosog a blodeuog, ac nid yw yr adeilad yn ddigon- ol i gynwys yr holl gynulleidfa. Llefara hyn gyfrolau am ddiwydrwydd Mr. Davies, ac eiddunaf iddo bob llwyddiant yn ei blwyf newydd. Dy.ftryn Clioyd.
-____-_-__--------YCHWANEGIAD…
YCHWANEGIAD YN NHRETH YR INCWM. Yn Nhy y Cyffredin, nos Lun, darfu i Mr. Childers ofyn am ychwanegiad o geiniog at dreth yr incwm er mwyn cyfarfod a gofynion ychwanegol ynglyn a'r ymgyrchoedd milwrol i'r Soudan a Bechuanaland. Yr wythnos ddiweddaf yr oedd wedi gofyn am 2,349,000p. er talu y costau ynglvn a'r ymgyrchoedd uchod, a 300,000p. cyn hyny i'r un amcan. Byddai i dreth 6c. ar incwm gynyrchu 1,940,000p., ac allan o'r swm hwn disgwyliai y Llywodraeth dderbyn l,2()0,000p. yn ystod y flwyddyn gyllidol bresenol, gan a.dael 720,000p. i'w dderbyn ar y laf o Ebrill nesaf. Cytunwyd a chynyg Canghellydd y Trysor- lys, a gohiriwyd y Ty hyd ddydd Mercher.
Family Notices
Genedigaethau, Priodasau, a Marwolaethau. L' GENEDIGAETHAU Langdon-Tach.,13., priod Mr. Langdon, Well-street, Treffynon, ar fab. Pngh—Tach. 3, yn 15, Great Turnstile, High Holboru, Llundain, W.C., priod Mr. William Pugh, ar fab- Williams—Tach. 6, yn Mitchell, Dakota, America, priod Mr. H. R. Williams, gynt o Ddinbyob, ac fab. IPRIODASAU. Edwards-NVilliams-Tach. 12, yn Eglwys St. Mair, Llanfair P. G., gan y Parch W. E. Edwards, y periglor, Mr. Francis Edwards, paentiwr, Portli- aethwy, a. Miss Kate Williams, High-atreet, Llan. gefni. Evans—Lewis—Tach. 18, yn Eglwys Gadeiriol Bangor, gan y Parch. Deon Lewis, Mr. Elias Evans, hedd geidwad, Llanengan (gynt o Dolgarog. ger Conwy), a. Miss Ellen Lewis, merch hynaf Mr William Lewis. Ty-Hir, Llanfachreth, ger Dolgellau. Rees-.fones-Tachwedd 12, yn Eglwye Llanfihangel- ar-afon, gan y Parch. John Griffiths, ficer y plwyf, Mr. George Rees, Post Office, Blaenafon, â Miss Elizabeth Jones, merch y diweddar lVlr- W. Jones, Cwmafon. MAR WOL AETHAU. Evaus-Tach. 11, yn 62 mlwydd oed, Mr. William Morgan Evans, cyhoeddwr Saen Ctimrv, Caerfyrddin. Jones—Tach. 11, yn 37 mlwydd oed, y Parch. J. M. Jones, cnrad Corwen. Lewis-Tach. 9, yn 75 mlwydd oed, Mr. William Evaus Lewis. Alexandra Hotel, Penmaenmawr. a nai i'r di- weddar Mr. Griffith Evans, Croesoswallt. Morris-Tach. 8, Mrs. Morris, priod Mr Robert Morris, Hendref, Rhuddlan. Owens—Tach. 12, Mrs. Elizabeth Owens, priod Mr. E. Owens, Union street, Bangor. Parry-Tach. 10, yn The Bars, Caerlleon, yn 83 mla-ydd oed, Mr. James Parry, adeiladydd cerbydau Caerlleon.
[No title]
Y rhai sydd yn maddeu fwyaf a faddeuir yn fwyaf iddynt. Cuddiwch eich treialon bychain, ond gwyliwch am gyfleusdra i wasanaethu ereill yn yr eiddynt hwy. Yn bresenol, parotoir llyfr emynau gan y Parch. W. Glanfftwd Thomas, Llanelwy, ac Ellis Roberta (Ellis Wyn o Wyrfai), at wasanaeth yr Eglwys. Mewn darlith a draddodwyd yn ddiweddar gan Mr. A. Baker, dywedodd fod, allan o 225 o Eglwysi yn Esgobaeth Llanelwy, yn 1873, 114 o honynt wodi eu sefydlu cyn y gorchfygiad Normanaidd. Yr oedd 101 o'r rhai hyny wedi eu cysegru i seintiau Prydeiuig, ond dygai amryw o honynt anwau Saca. oaaidd.
!Y CYDWELEDIAD GWLEIDYDDOL.
teddleoedd, dywed Mr. Gladstone y bydd yn foddloni i roddi ei swydd i fyny. Y mae gobaith da gan hyny y bydd i'r ddau fesur gael pasio drwy y Senedd mewn heddwch. Bydd dynion eithafol, a chwyldroadwyr, gelynion Ty yr Arglwyddi, a chefnogwyr annrhefn yn beio penaethiad y ddwy blaid o herwydd eu tymer heddychol ac ymarferol; ond bydd pob gwir wladgarwr yn ymor- foleddu nad yw diogelwch yr Hen Gyfan- soddiad Prydeinig a hawliau deiliaid Prydain Fawr ddim i gael eu haberthu i les plaid.