Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

SUL Y PASG YN NGHAERDYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SUL Y PASG YN NGHAERDYDD. Cafwyd gwasanaetban arddderchog yn holl eglwygi Caerdydd Sal y Pasg, ar gyfer y rhai yr ydoedd parotoadan helaeth wedi eu gwneyd. Da genym hys- bysa fod rhai canoedd wedi cyfranogi o'r Cymun Ben- digaid yn y boreu yn y gwahanol eglwysi, ymhlith y rhai y cyfranogodd uwchlaw 60 o aelodau yr Eglwys Gymraeg yn eglwys St. Andreas, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. A. E. H. Hyslop, yr hwn hefyd a bregeth- odd am 11 yn yr yetafell genhadol. Am 2.30 y pryd- nawn, cynhaliwyd cyfarfod yn yr un ystafell, pryd y llafarganwyd y Litani n effeithiol gan y ficer, ao yr arweiniwyd y edr gan Mr. D. James. Cafwyd anerch- iadau gan y Parch. A. E. H. Hyslop, Mri. H. Griffiths, D. James, E. Pugh, J. Lewis, a Hazelby. Pregeth- wyd yn yr hwyr i gynulleidfa liosog gan y Parch. S. R. Jones, ficer Glyntaf,-Nos Fawrth, ar ol gwasanaeth a phregeth yn eglwys St. Dyfrig, cynhaliwyd festri gyntaf yr Eglwys Gymraeg dan lywyddiaeth y Parch. A. E. H. Hyslop, pryd y darllenwyd y cyfrifon, ac y pasiwyd hwy. Penododd fel ei ia warden, Mr. Tndor Evans, tra yr etholwyd Mr. J. Lewis gan yr aelodau, a'r rhai canlynol yn sidesmen:—Mri. J. Aaron, J. Morgan, D. D. Davies, a W. Jones. Teimlwn yn dra diolchgar i'r Parch. G. A. Jones, ficer St Mair, am yr anrhegion o lyfrau gwerthfawr, megia Beiblau, Testamentau, &c. Mae golwg bynod flodeuog ar yr Eglwys Gymraeg yn y dref, a disgwylir yr adeiledir eglwyB hardd ar fyrder. »

! Y BODDIAD YN NGHASTELLNE,…

Yit EGLWYS AC YMNEILLDUAETH…

ilatotr ntrluit pcfigDtg.

Y TEIMLAD GffR1H-EGLWYS1G…

' LLOFRUDDIAETH A HUNAN- LADDIAD.

DIGWYDDIAD ECHRYDUS MEWN CARCHAR.

EEEEITHIAU BWYTA GORMOD.

BOREU DDYDD IAU.