Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

LLANDDEWI VELFREY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDDEWI VELFREY. Cafwyd gwasanaethau hynod o lwyddianns yn yr eglwys uchod yn ystod gwyliau y Groglith a'r Pasg. Dydd Gwener cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Arglwydd Esgob Llandaf, pryd y bedyddiodd bnmp o blant, yn amrywio mewn oedran o 14 i lawr. Pregeth- ■wyd gan y Parc^ Owen Jones Thomas ar bwnc y dydd. Dydd y Pasg, cafwyd pregeth ragorol ar yr Adgyfodiad gan yr Esgob, gweinyddodd hefyd y Cymun Sanctaidd i nifer dda, dau o ba rai oedd yn newydd. Yr oedd cynulliad da a pharfchus yn yr eglwys, pa un oedd wedi ei haddurno yn brydferth erbyn yr amgylchiad. Yn yr hwyr cafwyd gwasanaeth yn yr ysgoldy, pryd yr oedd ei arglwyddiaeth yn bresenol drachefn. Pregeth- wyd gan Mr. Thomas. Efallai nad yw yn wybyddus i lawer o ddarllenwyr Y LLAN fod yr Esgob Lewis yn enedigol o'r plwyf hwn, lie y mae iddo balas gwych ac etifeddiaeth helaeth. Mae'r Esgob yn hynod o hoff o'i blwyf genedigol, a pha bryd bynag y caiff hamdden ymwel a'i hen gartref (Henllan), yr hyn sydd yn llawenydd mawr i'r holl blwyfolion. Mae yn dda genym allu dweyd hefyd fod yr un gweithgarweh a selogrwydd dros yr Eglwys yn nodweddu ei ymweliadau yma ag sydd wedi ei nodweddu mor neillduol er ei ddewisiad i Esgobaeth bwysig Llandaf. Hir oea iddo i wneuthnr daioni ac i fod yn addurn i'r Eglwys, llwyddiant pa un sydd mor agos at ei galon, ydyw gwir ddymuniad-Cymro.

GWRECSAM.

LLANLLECHID.

GELLI, LLANDEGAI.

ABERTEIFI.

MERTHYR TYDFIL.

ABERAFON.

--. HENDY GWYN AR DAF.

LLANDUDNO.

TRELETTERT.

CAERFYRDDIN.

.TALYBONT.

LLAWRYGLYN.

GELLY AUR.

LLANFWROG, RHUTHYN.

TAIBACH.

CWMAFON.

ABERERCH (PWLLHELI).I

EGLWYS NEWYDD.

MESUR AMLEGLWYSI (PLURALITIES…

DEONIAETH WLADOL ARDUDWY.