Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
i^IGI ON O'E vYASG GYMREIG.
i^IGI ON O'E vYASG GYMREIG. [GAN VERITAS.] ETHOLIAD GO WEE. f ("Lladmerydd yn y Tyst, Ebrill 6ed.) Enillwyd y fuddugoliaeth yn etholiad Gower, end y mae y lleihad dirfawr sydd yn mwyafrif Mr. Randell rhagor yr hyn oedd eiddo Mr. Yeo yn 1885 o yn rhybudd difrifol i'r Rhyddfrydwyr nad elont i ymryson ac ymbleidio. Y mwyafrif o 3,457 yn 1885 wedi disgyn i 606 Xn a.os i dair mil o leihad. Bydd y Toriaid yn sicr o gymeryd hyn yn gystal a. goruchafiaeth, ac felly yn ddiau y gwnaethem ninau pe buasai o'n hoohr. Cafodd Mr. Llewelyn 3,358 o bleidleisiau y waith hon, pan na chafoddMr, Miers, yr ymgeisydd Toriaidd yn 1885, end 2,103. Ond cafodd Mr. Yeo y pryd hwnw 5,560, pan na chafodd Mr. Randell yn awr ond 3,964. Nid yw y gwahaniaeth yn fawr yn y nifer a bleidleisiodd y ddau dro ond y mae yn eglur fod mwy na mil wedi pleidleisio dros y Ceidwadwr y waith hon o'r rhai a bleidleisiodd dros y Rhyddfrydwr y tro o'r blaen. Nid yw ond ofer i ni.gau ein llygaid rhag ffeithiau fel hyn, ond dylem eu gwynebu yn deg, a chymeryd rhybudd oddiwrthynt. Mae arweinwyr y blaid yn Llundain yn ymyraeth gormod ar hyn, ac yn gwthio ar leoedd bersonau y carent hwy eu cael i'r Ty. Mae y dydd- iau wedi myned heibio i dderbyn personau felly, pa mor gymwys bynag fyddant, ac yn ami y mae yr ymgais i'w gwthio yn creu rhagfarn yn eu herbyn. Nid oes genyf yn bersonol fawr cydymdeimlad a ohynrychioliad dosbarthiadau; gwelKgenyf gynrych- iolwyr o'r holl bobl; ond lie y mae corff yr etholwyr J yn weithwyr, y mae ganddynt hawl deg i gael un o honynt eu huain i'w oynrvohioli, ond ar bob cyfrif, os felly, bydded yn weithiwr yn ngwir ystyr y gair. Mae dynion yn gosod eu hunain i fyny yn ymgeiswyr dros y gweithwyr, ac yn gynrychiolwyr dros y gweithwyr, nad oes ganddynt unrhyw hawl i hyny. (" Gohebydd Llundain y Faner, Ebrill 4ydd.) Y mae Toriaid Llundain mewn gor-lawenydd ar gyfrif canlyniad y frwydr etholiadol yn Mro Gower; ac yn wir, nid heb achos. Nis gall unrhyw Rydd- frydwr egwyddorol lai nag edryoh ar amgylchiadau yr ymgyrch gyda chryn lawer o gywilydd. Trwy ymyriad annoeth-fel y credwn ni-rhai aelodau seneddol Cymreig, a gwrthnysigrwydd y dosbarth gweithiol yn Gower, aeth tair mil, mwy neu lai, o bleidleisiau Rhyddfrydol ar goll neu ar gyfeiliorn, ao yn lie 3,500 o fwyafrif, o'r braidd y diangasom gyda 600. I ba beth y bu y golled hon ? Sais ydyw Syr Horace Davey, ac nid Saeson ydyw y cynrychiolwyr goreu i ni, y Cymry. Ond os gwir a ddywed goheb- ydd y Pall Mall Gazette, nid ydyw Mr. Randell nemawr amgenach na Sais. Bargyfreithiwr ydyw Syr Horace Davey. Wel! twrnai ydyw Mr. Randell; ac os rhaid cael gwfr y gyfraith" i'r senedd, y mae y fantais o du y cyntaf. Yr wyf newydd ddy. chwelyd o Gower," meddii cyfaill." Erioed yn fy mywyd ni welais y fath annhrefn-y fath gamlyw- yddiad—y fath anfoddogrwydd Dylai arweinwyr y blaid Ryddfrydig gywilyddio o'i blegid. Ni ddarfu iddynt geisio gwneyd canvas o gwbl. Ni ddosbarth- wyd y tocynau pleidleisio mewn rhai dosbarthiadau, os mewn un. Yr oedd arnaf ofn yn fy nghalon mai y Tori elai i fewn. Wedi i Randell gael ei fabwys- iadu, gadawodd ei gyfeillion bob peth yn nwylaw y gymdeithas "—y gymdeithas, cofier, yn erbyn pa un y gwrthryfelasant. Dyma hanes y frwydr, a'r Nefoedd a 7aredo Rhyddfrydiaeth Cymru rhag gweled ei bath eto I Oni bai am ymdrechion maddeugar y gymdeithas a ddiraddiwyd, buasai Ysgweier Penlle'rgaer heddyw yn cynrychioli mil- oedd Rhyddfrydwyr Gower! Nis gwyddom ddim am Mr. Randell, ond ei enw a'i grefft; a dealler, mai nid efe a gondemnir, ond y diffyg synwyr a ddangoswyd yn yr holl ymwneyd a'r cam-ddealltwr- iaeth. Never swap horses when crossing a stream," meddai un o'r callaf o ddynion y diweddar Abraham Lincoln Peidiwch byth a newid ceffyl- au pan yn croesi yr afon." Ond am Ryddfrydwyr Gower, nid yn unig newidiasant y ceffylau yn nghanol yr afon, ond yn ngwyneb y gelyn. Nid rhyfedd fod hwnw yn creahwenu ac yn cablu (Y Genedl, Ebrill 4ydd.) Yn yr ethcliad presenol yr oedd gan y Toriaid Mr. J. T. Dillwyn Llewelyn-y dyn mwyaf poblogaidd yn eu plaid yn y Deheudir, fel ymgeisydd. Yr oedd wedi ei eni a'i fagu yn y dosbarth. 0 deulu ydynt bob amser yn gymeradwy neillduol yno-yn hael at bob achos cyhoeddus, bydded Eglwysig neu Ym- neillduol-yn berchenog ar eiddo mawr yn y lie—ac yn troi yn eu plith-yn cymeryd dyddordeb yn eu materion lleol, ac yn bersonol adnabyddus iddynt. (Y Gweithiwr, Ebrill 5ed.) Mae etholiad Gower, bellach, yn mysg y pethau a fu ac er fod dros chwe' chant o fwyafrif gan yr ymgeisydd llwyddianus, Mr. Randell, ar ei wrth- wynebydd, Mr. Llewelyn, mae y Toriaid yn clochdar yn orfoleddus, fel pe buasent wedi enill brwydr dra phwysig. Yn y lie cyntaf mae yn rhaid cofio ei bod yn anmhosibl cael dyn cryfach yn y wlad hon mewn ystyr gymdeithasol na Mr. Llewelyn. Mae yn wir na ddylid edrych ar ymgeisydd yn y goleu bwnw mewn brwydr egwyddorion ond, fel y gwyr ein dar- llenwyr, y mae gwendid yr hil ddynol mewn cyfeir- iad felly mor adnabyddus, fel nad oes eisiau i ni ond ei grybwyll. Collodd y blaid Ryddfrydol hefyd nifer lliosog o bleidleisiau yn herwydd byrbwylldra yr hyn a fodola yn y rhanbarth dan yr enw y Gymdeithas Ryddfrydol. Nid ydym yn ameu nad ydyw y Cocasyn 11 Seisnig hwn yn gweithio yn gymharol lwyddianus mewn rhai rhanau o Loegr, a dichon y daw i wneyd yr un modd yn Nghymru ymhen am. ser ond nid yw wedi eydio yn y tir yma eto. Cenedl annibynol iawn yw y genedl Gymreig, ac hynod awyddus i gael yr anrhydedd o farnu drost- ynt eu hunain. Rhaid iddynt gael bys bersonol yn eu pastai. Dyna eu hanes yn eu cysylltiad â pheth- au crefyddol. Bu ages iddynt roddi Gower enwog am ei Rhyddfrydiaeth yn ysglyfaeth cyfanwerth i'r gelyn. Yn ngolwg amryw, hefyd, nid oedd Mr. Randell yn dyfod i fy^y J'n hollol a'u syniadau am gynrychiolaeth llafur. Dadl boblogaidd, fel y gwyddis, er's blynyddau bellach, yw fod digon a gor- mod o gyfreithwyr yn y Senedd, ao nid oes amheu- aeth nad yw hyn yn wirionedd ac er fod Mr. Ran- dell ar ei ben ei hun yn mysg y frawdoliaatb, mae yn eithaf posibl i hyny wneyd niwed. Pe welir felly fod holl amgylchiadau y frwydr ddiweddar yn ffafr- iol i Mr. Llewelyn a phe buasai yn bosibl i unrhyw Dori yn y byd cyfan gipio sedd Gower. efe fuasai hwnw. ( PRYDAIN A'R PAB. (Y Werin, Ebrill 7fed.) Dydd Mawrth dychwelodd Due Norfolk o'r H ddinas dragwyddol," i'r hon ddinas yr aeth ychyd- ig fisoedd yn ol i gyflwyno anrheg jiwbiliaidd i'w Sancteiddrwydd y Pab oddiwrth ei Mawrhydi y Frenhines hefyd, sicrheir ei fod yn genad o lad- merydd oddiwrth y Llywodraeth Doriaidd-Undebol at y Pab, gyda'r amcan o gael ei gynorthwy i ddar- ostwng y Gwyddelod i ufudd-dod. Deallwn fod ei Sancteiddrwydd yn bur barod i gydsynio a'r deisyf- iad ar yr amod fod i Brydain wneyd ei goreu i ad- sefydlu ei allu tymhorol ef yn Rhufain hefyd, dy- wedir na phetrusai ein Llywodraeth ei gynorthwyo i ddwyn hyny oddiamgylch pe y gallasai wneyd hyny heb dynu gwg Itali ami ei hun. Nid oes unrhyw foddion yn rhy isel gan y Toriaid i'w arfer os y gall- ant drwy hyny ddal awenau y Llywodraeth yn eu dwylaw, ac y maent wedi dangos yn barod y gallant lyncu rhai o'r mesurau gwleidyddol mwyaf chwerw i'w harchwaeth hwynt fel plaid pan y tybiant y bydd i'r cyfryw estyn tymor eu llywodraethiad. Diau y daw pethau rhyfedd i'r golwg cyn bo hir fel canlyn- iad cenhadaeth Due Norfolk, ar ol iddo gael cyfleus- dra i osod gerbron y manteision o ymgyngrheirio a'r Pab, ac ni byddai yn unrhyw syndod genym weled Prydain Brotestanaidd yn blaenori yn yr ymgais i adsefydlu gorsedd dymhorol y Bwystfil o Rufain, gan fod un ag sydd yn awdurdod pwysig yn ngolwg y pleidiau uchod wedi dweyd mai pobpeth a ddyry dyn am ei einioes." [Pa anwiredd nesaf ?- VERITAS.] MR. SPURGEON AC UNDEB BEDYDDWYR PRYDAIN FAWR. (Seren Cymru, Ebrill 6fed.) Saif y mater pwysig hwn tua yr un man, er fod yna ymdrechion o du yr Undeb beth bynag am heddwch, ac ymdrechion o du Mr. Spurgeon a'i gyf- eillion i gyraedd eu hamcan trwy ddwyn yr Undeb i fabwysiadu Cyffes Ffydd neillduol. Danfonwyd llythyr yn ddiweddar at Mr. Spurgeon, wedi ei law- nodi gan yn agos i fil o ddiaconiaid y Bedyddwyr, yn taer ddymuno arno i wneyd ei oreu i derfynu yr ym- ryson i hwn y mae yntau we li ateb nad yw yn ei allu i wneyd hyn, ond yn unig ar yr amod i'r Undeb i wneyd y Gyffes Ffydd uchod. Y mae Cyngor yr Undeb eisioes wedi gwneyd datganiad o'r hyn a gredir genym yn gyffredin, ond ni wna hyn foddloni Mr. Spurgeon, er nad oes yna fawr o wahaniaeth rhwng datganiad yr Undeb ag eiddo Dr. Angus, yr hwn a'i boddlonai. Oynhaliodd Cymanfa Bedydd- wyr Llundain ei chyfarfod yn ddiweddar yn nghapel Bloomsbury, a chynygiwyd gan Mr. Greenwood fod y cyfarfod yn galw ar Gyngor yr Undeb i dynu allan Gyffes Ffydd gyflawnach. Cynygiwyd gwelliant, yn cynwys y nacaol, ao yn galw ar y Gymanfa i beidio gwneyd hyn, ond i gadw ymlaen i weithio dros Grist a'i achos, ae i fod mewn undeb a heddwch yn y dyfodol, megis yn y gorphenol. Cariwyd y gwell- iant drwy fwyafrif o 30. Pleidleisiodd 300. Nid oes yn awr ond disgwyl yn bryderus a gweddigar hyd gwrdd blynyddol yr Undeb, gan obeithio y ca' y pleidiau la.wer o ras a synwyr, ac y daw daioni o'r hyn a ymddengys yn breseno) yn ddrwg mawr. MYFYR MORGANWG A'I DDALIADAU. (" Ieuan Dyfed yn Taricm y Qweithitvrl Ebrill 5.) Ychydig wythnosau yn ol ymddangosodd llythyr oddiwrth Morien yn y South Wales Daily hews, yn yr hwn yr amddiffynai olygiadau ei ragflaenor, Myfyr Morganwg," o berthynas i Iesu y Testament Newydd. Dywedai ymhlith pethau eraill, fod Myfyr," "Bcer yn gwadu Dwyfoldeb Iesu o Nazareth, ar yr un pryd yn ei ystyried y dyn mwyaf, a'r goreu, a welodd y byd erioed." Pan welais y frawddeg hon, meddyliais ar unwaith ei bod yn groes i'r hyn oeddwn i wedi arfer gredu a chlywed am olygiadau Myfyr o berthynas i lesu Grist. Felly troais i edrych un o weithiau Myfyr," sef "Gogoniant Hynafol y Cymry," a chefais frawddegau fel hyn (tud. 41-2) -11 Y gwir yw, na fu, ac nad oes, cy- maint ag un ffaith hanesyddol yn profi fod y fath berson a Iesu Grist y Testament Newydd, wedi bodoli erioed, yn unrhyw oes na gwlad. 0 ddifrif, onid yw yn ddigrif iawn meddwl, os ymddangosodd unrhyw ymhonydd (pretender) syml a meddal, tebyg i Joseph Smith, ymysg yr luddewon gwerinawl, gan ddistaw gyhoeddi, a ohredu am dano ei hun, mai efe oedd Apollo, Siloh, neu Messiah yr Oes Aur, addawedig yn y fiug-ddaroganau ? Tyb Renan, yn ei' Life of Christ' yw, iddo ymddangos, ond digrif. ach fyth, a saith mil rhyfeddach, nid yn unig os cafodd rai i'w gredu, ond iddo dan leni caddugawl yr oesoedd, gael cynifer o fiiiynau ar filiynau i'w gyfaddef yn Iachawdwr, a chynifer o wyr medrus i gefnogi. addurno, a chadarnhau ei ffug-Gristionog- aeth a hyny i raddau trwy gamddeall, ond i raddau mwy, trwy bob twyll, dicbell, a thrais—ie, a bod y fath wastraff ar allu meddyliol, amser, a chyfoeth a'r fath weithio caled, y fath oddef, a'r fath ymladd, lladd a llosgi eu gilydd, wedi bod gan benboethiaid, i amcldiffyn a lledaenu, yn eu ffordd eu hunain, y fath ofergoeledd gwag, yn awr er'3 deunaw cant o flynyddcedd I" Mor bell ag y mae a fynwyf fi &'r pwnc, nid yw opiniynau Myfyr na Morien yn cael eu galw i gyfrif o gwbl. A ffeithiau yn unig y mae a fynwyf fi, ac nid ag opiniynau pobl. Meth- wyf weled, hefyd, fod un anhawsder i neb sydd yn daall y Gymraeg i ddeall y dyfyniad uchod o Myfyr." Nid deall ydyw y gamp, ond cysoni. A fydd i "Morien," fel y diacon caredig gynt, fod mor hynaws, a dangos, trwy gyfrwng y Tarian, y cyson- deb rhwng ei eiriau ef ag eiddo y profiwyd ?' ANGHYSONDEB Y GWRTHDDEGYMWYR. (Gwalia, Ebrill 9fed.) Nid ydym, er chwilio, wedi cael fod neb o gyfeill- ion William Thomas, cadeirydd y Cyngrair Gwrth- ddegymol yn sir Fflint, wedi d'od allan i geisio ei wyngalchu ar ol y sylwadau a wnaethom bythefnos yn ol i'r perwyl ei fod ef yn berchenog degymau yn mhlwyf Llangollen, ac wedi arfer gorfodi eu taliad llawn. Ond y mae genym air pellach am y brawd hwn i ddangos, er ei fod mor haelionus gyda'i dafod a'i gynghorion i'w gymydogion, ei fod yn bobpeth ond haelionus yn ei galon ac yn ei weithrediadau. Rhyw 250 mlynedd yn ol bu farw hen Eglwyswr duwiol o'r enw Edward George, yn Magillt, ger Tre- ffynon, gan adael ystad fechan o tua 15 erw a thydd- ynod yn waddol i dlodion Treffynon. Y mae copi o'r ewyllys ger ein bron, a gosodir pwys neillduol ar y frawddeg fod yr ardreth i gael ei ranu yn mysg hen dlodion Treffynon am byth." Yr ydym yn gwybod fod W. Thomas yn fasnachydd pwysig, yn ddyn o gyfoeth, ac yn flaenor gyda'r Han Gorph ond tybed fod hyny yn rhoddi hawl idde i gael ei ys- tyried fel y prif un o "dlodion Treffynon" fel y deillia naw ceiniog o bob swllt o'r hyn a adawyd yn elusen iddynt ? Y ffaith yw hyn y mae un o'r tyddynod a enwyd, lie o'r enw Pantysaeson, gyda thua pedair erw o dir,:yn cael ei ddal dan brydles gan y William Thomas hwn er's llawer o flynyddau, ac am yr hyn y mae yn talu i Ficer Treffynon, at ei ranu ymhlith y tlodion, £ 3 yn y flwyddyn. Yna y mae yn ail osod Pantysaeson am ardreth o zC12 yn y flwyddyn Felly fe wel y darllenydd, am bob M a dderbynia hen wragedd tlodion Treffynon, mae y Thomas yma yn elwa £ 9 iddo ei hun Yr un ydyw hwn ag sydd yn myned i hwyliau mawr ar y llwyfan. au ao yn tynghedu pobl i -1 gynhyrfu yn erbyn y tirfeddianwyr, yr Eglwys, y degwm, Ty yr Arglwyddi, yr hen Doriaid annuwiol yna," ac felly yn y blaen. Bydd yr uchod yn enllib ao yn anwiredd yn ol ath. rawiaeth y Faner a'r Celt, ac yn rhy isel i sylwi arno, ond nid yw yn enllib nac yn anwiredd i alw dynion parchus yn anghenfilod," a thir-feistri yn lladron ysbeilgar/ajchlerigwyr yn gnafiaid diegwyddor," a Mr Balfour yn "gigydd gwaedlyd," yn eu colofnau hwy.
IDEONTIAEIU LLIFON, MON,
IDEONTIAEIU LLIFON, MON, Ddydd LIun y Pasg cynhaliwyd deunawfed gylchwyl gorawl a llenyddol deoniaeth Llifon yn Llanfaelog, o dan lywyddiad y Parch. Canon Wil- liams, Deon Gwladol. Dechreuwyd am 10 mewn arholi gan y Parch. R. Evans, Llanddanielfab, chwech a thriugain o oreuon Ysgolion Sul Bodedern, Bryngwran, Gwalchmai, Llandrygarn, Llanfaelog, a Llechgynfarwy, yn y pynciau canlynol Gweddi'r Argiwydd.—Genethod: 1, M. Lewis, Gwalchmai; 2, A. Jones, Bodedern. Bechgyn 1, R. Griffith Gwalchmai; 2, W. Hughes, Bodedern, R. Rowlands, Llandrygarn, a W. Jones, Llanfaelog, yn gydradd. Credo.—Genethod 1, Mary Jones, Llandrygarn 2, Nellie Jones, Llanfaelog. Bechgyn: 1, D. Thomas, Llandrygarn 2, John Ellis, Llandrygarn. Gorchymynior,Genethod: 1, M. E. Bowen, a Gwen Richards, Bodedern, yn gydradd; 2, Ann Jones, a Jane Hughes, Llandrygarn, yn gyfartal. Bechgyn: 1, O. Jones, Llanfaelog, a D. Thomas, Llandrygarn, cydradd; 2, O. Rowlands, a W. Jones, Llandrygarn, cydradd eto. Y Dyledswyddau.—Genethod 1, Gwen Richards, Bodedern; 2, Mary Jones, Gwalchmai, a Jane Chambers, Llanfaelog, yn gydradd. Bechgyn 1, T. Williams, Llechcynfarwy; 2, T. Chambers, Llan- faelog. Hanes Moses.—Genethod 1, Mary J. Hughes, Llanfaelog; 2, Martha A. Owen, Llanfaelog. Bechgyn T. Williams, Llechcynfarwy, T. Hughes, Llandrygarn, ao O. Rowlands, Llandrygarn, oil yn gydradd. Colectau ac Efengyl am Ddydd Gwener y Groglith. Genethod: 1, Mary J. Hughes, Llanfaelog, ac Elizabeth Richards, Bodedern, yn gyfartal; 2, Catherine Wifliams, Llandrygarn, a Martha A. Owen, Llanfaelog, yn gyfartal. Bechgyn: 1, T. Williams, Llechcynfarwy; 2, O. Rowlands, Llan- drygarn. Am ddau cynhaliwyd gwasanaeth corawl yn yr Eglwys, yn yr hwn y oymerwyd rhan gan y Parchn. Thomson Jones, Bangor, a Daniel Lloyd, Llan- drygarn, a phregethwyd gan y Parch. T. Jones mewn modd ymarferol a gafaelgar oddiar S. loan xi. 28, ar rwymau y cantorion-Lefiaid y cysegr—yn ar- benig i fod yn ffyddlawn bob un yn ei alwedigaeth a'i wasanaeth. Yr anthem ydoedd, "0 prawf, a gwel" (Syr John Goss.) Dilynwyd ar yr offeryn gan Mrs, Priestley, Gwalchmai, a Miss Williams, Llan- faelog. Hyfforddwyd y corau yn ystod misoedd y gauaf gan y Parch. Thomson Jones. Am 6, cynhaliwyd cyfarfod yn yr Ysgoldy. Wele y rhaglen Anerchiad gan y ilywydd. Glee gan gor Llanfaelog, Beirniadaeth ar chwe' penill ar Yr Eglwys yn Nghymru;" goreu, Mr. Thomas (Dewi Meirion), Trefdraeth National School. Cystadleuaeth ar Dafydd y Gareg Wen goreu, Mr. R. Parry, Bodedern. Deuawd ar y violin gan y Misses Pryoe, Tref. draeth. Beirniadaeth ar "Hanes Ruthgoreu, Miss Richards, Bodedern. Unawd gan Mr. O. Williams, Gwalchmai. Beirniadaeth ar y cyfieithiad o God save the Queen;" buddugol, Mr. Owen, Llangadwaladr National School. Unawd gan y Parch. R. Evans. Cystadleuaeth i ferched, Aderyn Pur cyd- fuddugol Misses Richards, Bodedern, a Penny, Llan. faelog. Unawd gan Miss Beatrice Pryce, Trefdraeth Rectory. r Glee gan Bodedern. Beirniadaeth ar Hanes Credoau yr Eglwys eu cyfansoddiad a'u dyddiad;" buddugol, Mr. Hugh Williams, Newborough, am yr hwn y dywedai y beirniad (y Parch. D. W. Thomas, St. Ann's)|mai y goreu a welsrai yn Gymraeg. Cystadleuaeth ar Cadair freichiau fy nhad cyd-fuddugol, Mr. R. Parry, Bodedern, a Mr. J. Hughes, Llandryga.rn. Beirniadaeth ar bryddest ar "Gleddyf yr Arglwydd a Gideon;" goreu, Mr. Owen, Llangadwaladr National School. Lied ryfeddai y beirniad, y Paroh. Ellis Roberts, Llangwm (Elis Wyn o Wyrfai), wrth y draul a gyraerasid mewn cysylltiad a gwobrau cydmarol fychain. Casglasai un anfuddugol 71 o garolau mewn 523 o dudalenau. Ychwanegid, yn ddiangenrhaid, o berthynas i'r testyn, gan enillydd y wobr gyntaf, y tonau yn y casgliad; y cywiraf ydoedd eiddo Mr. Hugh Hughes, Cerrig-y-Druidion, Corwen yr ail oreu, Mr. Hugh Hughes, Llandry- garn. Cystadleuaeth mewn darllen ar yr olwg gyntaf; cyfartal oreu, Mri. 0. Williams, Gwalchmai, a J. Hughes, Llandrygarn. Cystadleuaeth ar y pedwarawd, Cenwch gan o fawl;" gwobtwywyd yr un a ddaeth ymlaen-bod. edern. Terfynwyd tair awr ddyddorol gyda'r Anthem Genedlaethol.
[No title]
Llwyr ddinystriwyd adeiladau rheilffordd St. Lazaine, Paris, nos Sadwrn gan dan. Ni fydd i Raglaw India ymweled â Cashmere, gan fod y geri marwol yn peri dinystr ofnadwy yno. Hysbyeir am farwolaeth y Cadfridog Quincy Gilmore, yr hyn a gymerodd le yr wythnos ddiweddaf. ¡
AT Y BEIRDD.'0'
AT Y BEIRDD. '0' Rhaid i ni erfyn ar ein cyfeillion barddonol fod mor gal'ed] a thalu sylw i'r rheolau canlynol o hyn allan :— 1. Detnyddier note paper, ac ysgrifener ar un tu i r ao 2. Tmdrecher dewis testynau o ddyddordeb cyffredino astudier tlysni a byrdra yn liytiach na meithder gormopj' 3. -Nis gallwn ddychwelyd cyfansoddiadau annerbyn10 > barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol- GLAN Tywy.—Mae cynghaneddiad eich englyn i hollol anghywir, ond y ilinell flaenaf. Cyn antn(fyr gyfansoddi yn y mesurau caethion, prynweh yr Ysgol Farddol," ac astudiwch reolau englyn drwyadl. Rhoddwn bob cymorth i chwi a a,llwn. Iolo Goch.—Rhoddir can Iolo i fewn er mwyn cyjaj, yddio merched gwamal ein heglwysi, yr hyn yn ameu yw ei hamcan.
Y FERCH WAMAL YN NHY DPU^'…
Y FERCH WAMAL YN NHY DPU^' (Cyflwynedig i bob geneth wageddus ac anysW trwy Gymru benbaladr.) Adwaenoch chwi Gwenllian, Hen gariad Wil y Rhos, j Sy'n hynod yn mhlith merched Adwaenoch chwi Gwenllian, Hen gariad Wil y Rhos, j Sy'n hynod yn mhlith merched Am fod yn oedfa'r nos Mae'n d'od i mewn i'r Eglwys Gan gadw cymaiat swn, A haner cant o berchyll Dan aethau danedd cwn Mae s<Vn ei thraed yn siarad, Yn hyawdi drosti hi, Hen frawddeg hoff ei chalon, Sef, Fechgyn, wele fi! Ond OI y Uanciau chwarddant, Hen frawddeg hoff ei chalon, Sef, Fechgyn, wele fi! Dan aethau danedd cwn Mae s<Vn ei thraed yn siarad, Yn hyawdi drosti hi, Hen frawddeg hoff ei chalon, Sef, Fechgyn, wele fi! Ond OI y Uanciau chwarddant, Wrth glywed mwstwr Gwen; r A sibrwd wnant yn ddistaw, Fod eillgoll yn ei phen Ar ol myn'd i'w heisteddle, A llonydd eiatedd lawr, Arsyllu ar y bechgyn Pydd gwaith ei llygaid mawr: Hynyma yw ei chrefydd, ? Yn ie ac amen Ac ni fu merch mwy ffyddlon Erioed, medd pawb, na Gwen 1 Nid ydyw hi yn fanwl Am ddyfod byth mewn pryd: Ond hoffa fod y llanciau f Yn sylwi arni'i gyd. t Y rhai'n yw dawian penaf 7 Ei henaid is y nen; | Pe collai'i golwg arnynt, I Ai'n uffern fach ar Gwen 1 I Wrth wincio yn yr Eglwya, f Os gwir a dd'wed ei mham, Yr aeth ei llygad aswy I sylwi'n hollol gam I A phwy a'i beia weithian Am wincio gymaint all ? Feallai daw ei llygad I sylwi fel y Hall! Nid oes un foneddiges Yn d'od i'n Heglwys ni, Nad ydyw Gwen yn ceisio j Ei hefelychu hi: Ond 01 rhyw gynffon ddimai, Ac ugain swllt o ben, Ganfyddh yn y diwedd L I Yn ngwiss; urddasol Gwen I. Daeth merch i yswain enwog, 0 Lundain fawr un tro, I weled ei pherthynas, I'w genedigol fro; Ac aeth y Sul i'r Eglwys, f Yn sidan dros ei phen A hon fu testyn pwysig Holl fyfyrdodau Gwen If Pan ddn ct h y SuI canlynol, 'Roecu UWUl1 mor hardd ei llun, Nes braidd yn gallu adwaen Ei chorpws bach ei hun! 'Roedd ganddi "vn o sidan, A phenguweh newydd wen; 'Roedd dull y ferch o Lundain Bob tipyn gyda Gwen! f Meddyliai fod y llaaciau ) Yn sylwi arni'i gyd I Ac nad oedd un genethig ■ O'i thebyg yn y byd! jl Edrychai'n wyllt i bobman, Gan drin a throi ei phen; A phobpeth dystiolaethai, Mai gwamal iawn oedd Gwen! Mae'r bregeth mor anhysbys Yn wastad iddihi, Ag ydyw i'r preswylwyr Sydd yn y lleuad fry I Ond her i'r holl enethod, Trwy gyrau'r Ynys Wen, I weled ffasiwn newydd" 'f Mewn cwrdd yn gynt na Gwen! j Ei mheddwl gwag sy'n arwain t Ei llygaid ar ei 01; Nes byddo fel yn dotio Mewn rhyw wamalrwydd ffaI Ac os y gwena llencyn Ar Gweno yn y lie, I Hi greda'n uniongyrchol Mai'i hoffi bydd efe Ond 0 nid oes un Ilencyn Am garn Gwen ond Wil; Ac wrth ei gwel'd mor wamal, Mae hwnw'n myn'd yn swil Mae'r teimlad am ffarwelio t Yn fwy na'r teimlad serch 'if A phwy all feio'r bachgen j f Am adael yr hen ferch ? | | Mae llawer iawn o ferched, jgj Rhwng bryniau Gwalia Wen, ,j Yn gwiago ar y Saliau Gymeriad iffaidd Gwen: Ond 0 boed iddynt gofio I Fod Gweno'n wylo'r dw'r, I Oherwydd i'w gwamalrwydd 1 Ei rhwystro i gael gwr! 101.0
CYMANFAOEDD Y JAGO! Doe"
CYMANFAOEDD Y JAGO! Doe" Cymanfa'r Jacks yw'r aceiwn,"—J1 OC p Goruchel yw'r "lecsiwn;" Hanfod sect yw ynfyd svvn, aod A'r apostol yw'r pastwn! 10]:,0 IV])-
Y CYNHYRFWR RADIOALA f-
Y CYNHYRFWR RADIOALA f- Pwyswr tost yr Upper Ten,"—yfwr Oer bres yw ei dalcen Gwr ffyrnig, pwysig i'r pen; n0c$' Cain i fagu cenfigen!