Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG. Cynhaliotfd y gymdeithas uchod ei chyfarfod haner-blynyddol yn Mangor ddydd Gwener di- weddaf, gyda rhwysg nid bychan. Yr oedd y cyfarfodydd yn lliosog, y gweithrediadau yn frwdfrydig, ac arwyddion cryfion yn coroni y cwbl o'r poblogrwydd i'r hwn y mae y gym- deithas yn graddol weithio ymlaen. Gall yn awr ddweyd ei bod wedi dyfod yn allu i gael ei chyd- nabod fel offeryn cryf yn hanes tynged genedl- aethol Cymru, a llawenydd i bob Cymro twymn- galon ydyw y gefnogaeth a estynir iddi yn gyhoeddus gan bersonau o ddylanwad ac awdur- dod, yr hyn a ddengys yn amlwg nad ofer yw ei neges. Cynhaliwyd pedwar o gyfarfodydd yn ystod y dydd. Am un o'r gloch ymgyfarfu pwyllgor Ilywodraethol y gymdeithas yn y Masonic Hall o dan lywyddiaeth yr Hybarch Archddiacon Griffiths, Castellnedd. Dilynwyd hwn gan gyf- arfod cyffredinol aelodau y gymdeithas yd yr un Ile, Mr. W. J. Parry, Coetmor Hall, yn y gadair, tra yn uniongyichol ar ol hyny y rhoddodd Maer a Chorphora.. th Bangor dderbyniad cyhoeddus i'r gymdeithas. Terfynwyd gwaith y dydd trwy i gyfarfod cyhoeddus brwdfrydig.gael ci gynal yn y Penrhyn Hall, o dan lywyddiaeth Esgob Bang jr.

IA WN-LYTHYRENIAETH YR IAITH…

ttYTHYRAU 0 FON YN Y NORTH…

^LOERUDDIAETH PRIFWEINIDOG

--NODJADAU SENEDDOL.

GWEITHWYR ALCAN ABERTAWE."

Y SEFYLL ALLAN YN PANTEG.

[No title]