Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

LLANRHAIADR DYFFRYN CLWYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANRHAIADR DYFFRYN CLWYD. Yn ystod y Garawya, cynhaliwyd gwasanaetbau neillduol yn Eglwya y plwyf uchod bob nos Iau, pan y pregethwyd gan y rhai canlynol :-Parcbn. J Parry Morgan, ficer; W. Hnghes, Llanuwchllyn; Thomas Prichard, Llanelidan; Dan Edwards, Cefn; Ellis Roberts, Llangwm. Yr oedd y cynulliadau yn llawer mwy lliosog nag arferol, yn enwedig ar ol i'n brawd anwyl, Parch. Evan Davies, Bryngwran, ymadael a ni, yr hwn fa yn cynal cenhadaeth am naw diwrnod gyda ni yn Chwefror. Fe welwyd yn eglar trwy y tymor, pan gafwyd pregethau grymus ac ad- eiladol, effeithiau bendithiol y genhadaeth. Yn yr wythnos o flaen y Pasg cynhaliwyd gwasan- aeth crefyddol yn yr ysgol, pan arddangoswyd darlun- iadau effeithiol trwy y magic lantern o ddigwyddiadau poenas wythnos olaf ein Ceidwad, Yr oedd yr ysgol yn orlawn. Chwareuwyd yn fedrus ar yr harmonium gan ein hysgolfeistr, Mr. C. E. Evans. Arddangoswyd & slides gan Mr. Thomas Hnghes, Dinbych. a Mr. T. ughes, yr Efail, Llanrhaiadr. Llefarodd y Ficer ychydig ar bob testyn wrth fyned ymlaen yn y cyfar- fod. Yr oedd yn gyfarfod dyddorol a defosiynol dros ben o'r dechren i'r diwedd. Y gwasanaethaa Dydd Gwener y Groglith oeddynt fel y canlyn :—Am 9, cafwyd gwasanaeth Cymraeg, 10.30, gwasanaeth Saesneg; 2, Saith eiriau olaf yr Iesu ar y Groes, yn Saesneg; 7, gwaaanaeth a phregeth Gymraeg.

LLANRWST.

LLANFAIR DYFFRYN CLWYD.

LLANBEDROG.

TOWYN.

NODIQN 0 FON.

PONTARDAWE.

MAENTWROG.

DINBYCH.

LLANGWM.

JHaicJmatioetiiJ.

HENDY GWYN AR DAF.