Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

YSTRADYFODWG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSTRADYFODWG. ETHOLIAD AELOD AR Y BWRDD YSGOL.—Yr oedd y 5ed clydd o'r mis hwn yn cael edrych ariio yn ddydd o bwys neillduol ar xagor nag un ystyr yn y plwyf poblogaidd hwn. Yr oedd dau ymgeisydd ar y maes, y rhai oedd yn groes i'w giiydd 0 ran eu daliadau crefyddol ac i raddau o ran eu barnau politicaidd. Ond er mawr syn- dod dygwyd yr etholiad ymlaen heb yngan gair am na chrefydd na pholitics; ie, ni soniwyd hyd yn nod am y dadgysylltiad. Yr ymgeiswyr oeddynt Mr. E. H. Davies (Rhyddfrydwr ac Yinneillduwr), yr hwn oedd yn aelod blaenorol o'r bwrdd, ond fod olwyn amser yn ei ddiswyddo; a Mr. E. W. Lewis, Rhondda Rise (Ceidwadwr-Rhyddfrydol, o'r un stamp a Mr. Llewelyn, Penllergaer, ac hefyd Eglwyswr a warden yr Eglwys). Trddd y fantol yn drwm o du yr Eglwyswr. Salens fel hyn :—Mr. E. W. Lewis (Eglwyswr), 1,620; Mr. E. H. Davies (Ymneillduwr), 748 mwyafrif i'r Eglwyswr, 878. Yn awr, Mr. Gol., mor wir a ood earn ar ben yr Wyddfa a dwfr yn Ban Bryste, y mae barn a phwyll wedi Ihagfiaenu zel a rhagfarn yn Nghwm Rhondda. Y mae y cynhyrfwyr etholiadol wedi colli eu gwynt wrth chwythu hen udgyrn aflafar Radicaliaeth. Y mae y bobl wedi dyfod i'w hiawn bwyll, gan ddawis y dyn cymhwysaf i'r swydd, yr hyn sydd yn cael ei esgenluso yn fynych mewn etholiadau cynhyrfus. Y mae Mr. E. H. Davies yn ddyn caredig a gwyneb-lawen, ac yn barchus iawn gan bawb. Felly Mr. Lewis, y maeyntau yn foneddwr cymwynasgar ymhob ystyr o'r gair, ond fel dyn profiadol rhaid cyfaddef fod Mr. Lewis, yr hwn sydd yn dirfesurydd, yn deall ei waith yn well yn ol barn mwyafrif o'r plwyfolion. Y mae yn ddiamhen genyf fod canoedd 0 Ymneilldnwyr yn y dyffryn hwn yn edrych yn y dyddiau terfysglyd hyn ar ddyn ag sydd yn Eglwyswr ac yn Geidwadwr Rhyddfrydol yn yr un modd ag oedd Dr. Hellier, gweinidog parchus gyda'r Bedyddwyr yn Exeter, yn edrych ar Dy yr Arg- lwyddi pan oedd yn areithio yn Sonthmolton tua dwy flynedd yn ol. Llefarodd y Dr. parchus y geiriau can- lynol: I!he constitution of Great Britain had a religious character. If they would be safe, they must be cautious; and, thank God, they had a House of Lords to put the drag on the Radical coach".—C. ap Brutus.

LLANDDAROG.

LLANGOLLEN.

ABERHONDDU.

GWRECSAM.

PENTREFOELAS.

TRECASTELL.

HIRWAUN.

GARN, DOLBENMAEN.

CAPEL ISAF (BRYCHEINIOG).

LLANGELER, CAERFYRDDIN.

YSTRADGYNLAIS.

FFESTINIOG.

LLEZN A'R AMGYLCHOEDD.

- LLANELLI.

LLANRHYDDLAD.,

TALSARNAU.