Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

iHetoglitrtoit Ceffrrtmtol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

iHetoglitrtoit Ceffrrtmtol. YJIGYFARFYDDIAD Y WEINYDDIAETH.—BU dau gyfarfod o'r Weinyddiaeth yn ystod yr wythnos ddiweddaf, pryd yr oedd yr oil o'r gweinidog ion yn bresenol. DAMWAIN LOFAOL ANGEUOL I INSPECTOR.— Dydd Llun, yn Diglade, Audley, North Stafford. shire, cyfarfyddodd Mr. John Shufflebotham, yr hwn a apwyntiwyd yn ddiweddar yn arolygwr gloteydd o dan y Llywodraeth, a marwolaeth ddi- symwth. Tra yn myned o amgylch y lofa, daeth cwymp arno. Galwodd am gynorthwy, ond cyn ei fod wedi ei ryddhau, daeth yr ail gwymp i lawr, yr hwn a'i lladdodd yn y fan. YMLEDAENIAD Y SEFYLL ALLAN YN GERMANI.— Mae bron yr oil o'r gweithwyr yn Germani, ymhob cangen o fasnach, wedi rhoddi rhybudd y bydd iddynt sefyll allan os na chaniateir ych- waneg o gyflog iddynt, ae, y mae y rhagolygon presenol yn gymylog iawn, gan fod eisioes rai mil- oedd yn sefyll allan, ac yn creu terfysgoedd par- haus yn yr heolydd, gymaint felly fel y mae yn angenrheidiol galw allan y milwyr a'r heddgeid- wfiid i gadw trefn, gan fod y gweithwyr yn bygwth dinystrio meddianau ymhob cyfeiriad. CYFADDEFIAD DYCHRYNLLYD GAN FORWYNIG.— Yn Boston, cafodd Alice Maud Temple, 13 oed, yn ngwasa.Raeth Joseph Gunson, amaethwr, Donnington, Northorpe, ger Spalding, ei chyhuddo o geisio mygu Mary Gunson, plentyn ei meistr, rhwng Mawrth 26ain a'r 31ain. Dy. wedodd yr Heddgeidwad Cl arke iddo gym eryd i lawr yn mhresenoldeb y tyst, y mynegiad can. lynol:—"fcEbrill 1,1888, Gorsafyr Heddgeidwaid, Donnington.—Alice Maud Temple. Yr wyf yn 13 oed er AWBt diweddaf. Treiais ladd baban Mrs. Gunson ddyddiau Llun, Mawrth, Mercher, Iau, a Gwener, yr wythnos ddiweddaf, drwy wasgu ei drwyn nes yr ataliwyd ei anadl. Lleddais faban Mrs. Penry yn Stanbow Lane, Boston, dair wythnos i ddydd Llun diweddaf yn yr un ffordd. Gwesgais ei drwyn nes y bu farw. Wed'yn dywedais wrth Mrs, Penry yr hyn a wnaethum, a dywedodd hithau wrth fy modryb, Mrs. Priestly. Y mae yn ddrwg genyf yn awr i mi wneyd hyny;, ond gwelais Harriet Dallywater yn lladd fy chwaer fach yn yr un modd yn No. 9, Stanbow Lane, Boston, tua phum' mlynedd yn ol.—Alice Maud Temple. Tyst: J. A. Clarke." Tros- glwyddwyd y garchares i'r frawdlys agoshaol. EDMYGYDD I "BUFFALO BILL.Dygwyd bachgen golygus a deallus yr olwg, o'r enw Cecil James Eugene Harvey, pedair ar ddeg oed, ger bron Arglwydd Faer LIundain, yn y Mansion House, ddydd Mawrth, ar y cyhuddiad o ddarn- guddio y swm o X5, eiddo ei feistr, Mr. C. R. Bowney. Parodd yr achos gryn ddyddordeb yn y llys. Yr oedd y carcharor wedi bod yn was bach yn swyddfa Mr. Bowney, ac anfonwyd ef i'r City Bank, yn Aldgate, i newid cheque am bum' punt, ond diangodd, ond canfyddwyd ef gan detective yn Manceinion. Pan ddarllenwyd y warant iddo, dywedodd iddo wario yr arian i gyd, ac ychwanegodd: "Beth amser yn ol aethum i weled Buffalo Bill yn y Wild West Show, yn West Kensingcon. Synwyd fi at ei hanes, ac o'r foment yna, gwnaethum fy meddwl i fyny i fyned i'r America ac mor fuan ag y newidiais y cheque, aethum i ffordd ond gan nad oedd genyf ddigon o arian i fyned i America, canlynais Buffalo Bill i Fanceinion, ac yr ydwyf wedi bod yn yr ar. ddangosfa bob dydd. Yr wyf o hyd yn bwriadu myned i America ac hyd ynnodpeoawnddeng mlynedd am y trosedd hwn, fe bf wed'yn." (Chwerthin.)-Darfu i Mr. Rydin, clerc i Mr. Bowney, brofi iddo anfon y carcharor i'r bane gyda'r cheque.—Adgarcharwyd ef. AREITHIAU GWLEIDYDDOL.—Yn ystod yr wyth. nos ddiweddaf traddodwyd areithiau politicaidd gan Mr. Goschen, Mr. Chamberlain, Mr. Morley, Syr George Trevelyan, &c. DRYLLIAD AGERLONG.- Bu gwrthdarawiad rhwng llong o Lerpwl ag un arall perthynol i Belgium ddydd Llun diweddaf, pryd y suddodd yr olaf a chollwyd 13 o fywydau. DAMWAIN ANGEUOL GERLLAW CAERDYDD.—Tra yr oedd tri o ddynion yn gweithio ar Reilffordd Barry a Phenarth, Caerdydd, cwympodd careg enfawr, a lladdwyd un dyn ac anafwyd dau arall yn dost. CEIDWADAETH YN SIR ABERTEIFI.—Dydd Iau diweddaf bu gwledd Geidwadol fawreddog yn Aberystwyth, pryd y cafwyd areithiau gan Mr. Macartney, A.S., Mr. Vaughan Davies, Mr. Thomas Parry, ac eraill. ANRHYDEDDU ARDALYDD HARTINGTON.—Cafodd Ardalydd Hartington ei anrhydeddu drwy ei anrhegu a rhyddid dinas Llundain" ddydd Mercher diweddaf, ac yn yr hwyr bu iddo dra- ddodi araith ar ragolygon y blaid Undebol. YR AELODAU GWYDDELIG ANHYDRIN.—Parhau gyda'u hystranciau yn erbyn cyfraith y wlad y mae yr aelodau seneddol Gwyddelig y mae Mr. O'Brien, Mr. Dillon, a Mr. Condon i gael eu gwysio am droseddu yn erbyn y gyfraith. Y DDIRPRWYAETH AR ADDYSG.—Ofnir na fydd i adroddiad y boneddigion a benodwjd yn ddir- prwywyr i ystyried sefyllfa addysg yn y Deyrnas Gytunol gael ei gyhoeddi am beth amser, gan fod anghydwelediad pwysig wedi tori allan rhwng rhai o'r dirprwywyr. HUNANLADDIAD GER LLANIDLOES. Nos Sal, darfu i amaethwr bychan, o'r enw William Owen, yn byw yn Pantyberry, tua phedair milldir o Llanidloes, gyflawni hunanladdiad drwy grogi ei han yn ei ystafell wely. Yn ystod y Sul gwelwyd y trancedig yn gweithredu dipyn yn rhyfedd. Yn y trengholiad a gynhaliwyd dychwelwyd rheith. farn o Hunanladdiad tra yn dymhorol wallgof." ETIFEDDIAETH Y PENRHYN.—Deallwn mai Mr. Griffith Roberts, prif ysgrifenydd yn swyddfa y North Wales Chronicle, Bangor, sydd wedi ei benodi yn olynydd i'r diweddar Mr. Chaeles Denman yn swyddfa etifeddiaeth y Penrhyn, a llongyfarchwn Mr. Roberts ar ei ddyrcbafiad haeddianol, gan ei fod yn foneddwr ag y mae gan ei holl gydnabod ymddiried ynddo. GORUCHWYLIWR GLOFAOL WEDI DIANC O'R RHoNDDA.- Y mae yn cael ei hysbysu fod gwys wedi ei thynu yn erbyn William Devonald, 50 mlwydd oed, Treorci, a hyny ar y cyhuddiad ei fod wedi cymerydswm o arian ei gyflogwyr, A: r. Howell Jones ac eraill, o Ferthyr. Y mae yn ymddangos fod Devonald yn gweithio yn y lofa fel contractor, a phan alwyd am dano ddydd Mawrth, nid oedd i'w gael. Y mae yno oddeutu 20 o weithwyr, a'r rhai hyny heb eu talu am amryw wythnosau. Y mae hysbysiadau wedi eu hanfon i bob cyfeiriad, yn rhoddi disgrifiad o hono Credir ei fod wedi cychwyn tua'r America. Y mae yn sicr bellach fod Devonald wedi myned i'r America, trwy fod llythyr oddiwrtho wedi cyraedd ei berthynasau o Queenstown. Dywed yn y llythyr y bydd iddo anfon cyflogau y gweithwyr iddynt mor gynted ag y cyrhaedda dir. Y mae y gwaith wedi ei ail gychwyn. MARWOLAETH DDIFRIFOL AR FYNYDD CAERHUN. Dydd Sadwrn, y 14eg cyfisol, yr oedd Mr. R Roberts, Brynmoel, a Mr. R. Williams, Coeti,' yn d'od oddiwrth eu gwaith, tua haner y ffordd o Talyborit i Bethesda, a phan oddeutu milldir o'r chwarel canfyddent gorff Mr. Richard Griffiths (eu partner yn y gwaith) yn gorwedd wrth droed camfa oedd i fyned dros glawdd. Yr oedd yn hollol farw. Yr oedd R. Griffith wedi myned ar fusnes i un o'r ffermdai agosaf, sef Tanllyneigia, tua phump o'r gloch yn y prydnawn, a chychwyn- odd yn ol tua saith o'r gloch. Yr oedd yn byw wrtho ei hunan mewn barracks yn y gwaith er's tua 18 mlynedd. Brodor o Amlwch ydoedd, ac yr oedd ganddo lawer o berthynasau yn Bethesda. Bu yn gweithio am flynyddoedd yn chwarel Ar- glwydd Penrhyn, ac yn Moelsiabot, Cwmeigia, &c. Pasiwyd ar y trengholiad iddo farw o farw. olaeth naturiol, trwy darawiad o'r parlys, neu glefyd y galon, a hyny wrth ddringo camfa oedd i fyned dros glawdd lied uchel.

ECRYD YMERAWDWR GERMANI.

MERAWDWR ÅWSTltlA AC AR-GYEWNG…

SEFYLLFA PETHAU IN CUBA.

1 TYWYSOG ALEXANDER A BISMARC.…

INVENWYNIAD 4,000 0 BERSONAU…

PRYDAIN FAWR AG AWSTRIA.

ANRHYDEDD I GYMR0.

PRIODAS MR. ASSFLETON SMITH,…