Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
NEWYDD DA I WEITHWYR HAIARN.
NEWYDD DA I WEITHWYR HAIARN. Dydd Llun cyn y diweddaf penderfynwyd gan Feistri Cangen, Bolton, yn masnach yr haiarn, mewn cynhadledd undebol, i godi cyflogau eu gweithwyr yn mis Gorphenaf nesaf, i'r diben 0 wrthweithio effeithiau y gostyngiad 0 n y cant a wnaethpwyd yn Chwefror, 1886, yr hyn a achosodd sefyll allan 0 chwech mis.
GWAITH AUR GWYNFYNYDD, DOLGELLAU.
GWAITH AUR GWYNFYNYDD, DOLGELLAU. Mae gwys wedi ei chaniatau i gymeryd y Cad- ben William Richards, yr hwn a wasanaethai hyd yn ddiweddar fel arolygwr tan-ddaeaiol yn y gwaith uchod, i'r ddalfa ar y cyhuddiad o ladrata ceryg yn cynwys aur. Amcangyfrifir gwerth yr hyn a ladrataodd yn Y,250, a chafwyd rhan o'r ysbail yn guddiedig yn ei dy. Newyddion di. weddarach a hysbysant fod Richards yn awr yn y ddalfa.
OYMRU A MASNACH LO RWSIA.
OYMRU A MASNACH LO RWSIA. Mae Mr. Wagstaff, y llysgenhadwr Prydeinig yn Taganrog, wedi anfon newyddion cysurlawn i lo-berchenogion y wlad hon. Er fod rhwystrau yn erbyn llwyddiant y fasnach lo yn Rwsia wedi eu symud ymaith yn llwyr, barna efe na lwyddir byth i atal allforiad glo y wlad hon i Constanti- nople, llawer llai i farchnadoedd y tuhwnt, yn cyraedd i'r Aipht. Tra y mae glo Prydeinig yn cael ei gludo i'r Mor Du am tua 3s. y dunell am bob mil 0 filldiroedd, cyst 12s. 0 Azov i Odessa am yr un pellder.
YR ALCANWYR.
YR ALCANWYR. Yn Lerpwl, dydd Sadwrn, gellid prynu aloan am lai na X146 y dunell, i'w drosglwyddo yn I ystod y mis hwn, ac i'w drosglwyddo yn Mai am £125, ac yn Mehefin am hyd yn nod Xllb y dunell. Nid rhyfedd, felly, fod prynwyr, yn ystod yr wythnos, wedi rhoddi archebion am dros- glwyydiad ymhen mis neu ddau, a hyny i raddau helaeth. Eto, dylid hysbysu fod yr alcan a brynid i'w drosglwyddo yn uniongyrchol yr wythnos hon ac yn gynar yr wythnos nesaf, yn sefy]] ar yr hen brisoedd, sef X166, £ 166 2s. 6c., a i-166 5s. Dis- gwylir yn hyderus y diflana yr uchel-bris yna yn awr yn fuan, ac ni fydd yn ddrwg gan neb ddis- gwyl hyny ond gwyr y ring."
IAT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Rhaid i ni erfyn ar ein eyfeillion barddonol fod mor garedig a tlialu sylw i'r rheolau canlynol o llyn allan:- 1. Defnyddier note paper, ac ysgrifener ar un tu i'r ddalen; 2. Ymdrecher dewis testynau o ddyddordeb cyffredinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 3. Nis gallwn ddychwelyd cyfansoddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol. GWELLIANT GWALLAU.—Digwyddodd dau wall yn y llinellau ar briodas y Parch. W. Da vies, cfec., yn y rhifyn diweddaf. Yn yr ail englyn darllener- Rhaid i Dafis o'r mis hwn mwy Ymadael a. bywyd mendwy." Yn y cywydd 0 flaen yr englyn olaf, y mae gwal cynghaneddol, a dylai fod fel hyn:- 1 Rhyw nef 0 gartref fydd gan Y g\\rr gwyl—a gwraig wiwlan I
"Y LLAN."
"Y LLAN." Yn Y LLAN y ceir Iluniaeth-i filoedd 0 felus arlwyaeth Bwrdd anwyl ei barddoniaeth Lona fil a'i ddylawn faeth. CABNALAW.
j ENGLYN
ENGLYN I'r Gwir Anrhydeddus larll Salisbury ar ei ymweliad a Chaernarfon, E brill lOfed, 1888. Cawr di-ail yw'n co Ardalydd ni fu Y fath ddiplomatydd O'n gwlad y rhed ei glod rbydd; Llyw Ewrob yw'n llellerydd.* Golenad, luminary. CABNALAW.
Y FRIALLEN.
Y FRIALLEN. 0 flods n têg I Anwyled yw I gofio'r marw gan y byw I Arwyddlun yw o serch y wlad At un o'i hoff lywiawdwyr mâd: Garlantau o friallu daen Hon ar ei darian ddiystaen I Pob gwir wladgarwr ar ei fron A wisga y friallen Ion. Arwyddlun yw'r friallen 'nawr 0 Heddwch ac Anrhydedd mawr: 0 flodyn hardd arwyddlun yw O'r egwyddorion garai'n Llyw Arwyddlun purdeb heb ei ail, Ac nid gwenwynig, ddrygsawr ddail; Holl flodan teg y ddol a'r ardd Ymgrymant i'r friallen hardd CABNALAW.
YR OFFEIRIAID A'R LLEYGWYR.
YR OFFEIRIAID A'R LLEYGWYR. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." MSYR,—Ymddangosodd ysgrif yn Y LLAN am y 23ain ar y penawd uchod gan un ynjgalw ,,lSv.Un Meirion." Gallasem feddwl fod I shon ,blaid cydweithrediad rhwng yr Qeiriaid a'r aelodau Eglwysig." Wedi darllen f5 ysgrif, tybiwn nad yw yn bleidiol i hyny, ond belled ag y byddo y lleygwyr o'r un syniad jp'^>an eler yn groes i'w feddwl bydd yn i'r lleygwyr roi fifordd iddo ef, neu gwae Pa beth feddyliech chwi, Mr. GoL, am wdweithrediad o'r fath Ai y Ficer fu yr achos J °or dori i fyny ? Ymddengys yn ol ei ysgrif ??e> canys ni fynai y cor chantio—dywedai y p ddyn na ellid chantio Cymraeg fel y Saeeneg. *y feddylia wrth y prif ddyn," ai arweinydd y ynta y Ficer ? Os y blaenaf a feddylia, yr 084d y cor ac yntau o'r un farn, ond os yr olaf, wlir felly ei fod ef yn erbyn y cor. Brawddeg o heilwng o offeiriad Eglwysig ydyw—" yr L J curad hwnw, wedi meddwi, yn nwylaw yr Dyna iaith goeth offeiriad Q ac adnabyddus yn Ngogledd Cymru." g°beithiat nad yw yn enedigol o "Ogledd Cymru." „ided y cyfryw un at fon ei wallt. Carem y&i Shon" a oedd y curad dan sylw yn jweinidogaethu yn yr Eglwys a grybwylla cyn i'r 'Cer ddyfod yno ? Onid y Ficer a'i dewisodd ? a«aaem feddwl hyny a chan ei fod yn gym- i, Mwy gan y lleygwyr, naturiol oedd iddynt J^-nodi cais at y nodd-wraig." Gwelir felly 8wiw beio y lleygwyr, ond odid mai y Ficer j.1 Qewisodd ar y cyntaf, felly mae S. M. wedi Jjed yn erbyn ei hun, neu yn hytrach yn erbyn L: byn oedd am roddi gerbron, sef bod y lleygwyr o farn. ^'ybwylla hefyd fod aelodau un eglwys ve.d* pasio vote of censure ar y gweinidog am cael ofifeiriad dieithr i bregethu yn ei eglwys g, cais hwy, heb holi dim yn ei gylch. A all ton?? y rhan olaf o'i frawddeg ? mae yn ^heu8 genym hyny. Mae yn dweyd y dylai y I,11 gweinidog gadw y ffrwyn yn ei law ei hun, y mae yn ymgynghori 4'i bobl. Profa tll-llocl ar unwaith pa fath gydweithrechvr yw ffa'+u ac mae yn 8*cr £ enyf na<* yw mewn Per- tth gyd-ddealltwriaeth &'i blwyfolion, os fel i, a mae ef yn gweithredu. Gyda golwg ar ySytrifoldeb arianol," a ydyw yr aelodau yn cael *aoyli°n ynghylch yr arian agesglir? Nid j/* yn meddwi eu bod yn cael gwybod yr hyn a J^YLENT. Pe buasai gofod Y LLAN yn caniatau ?&Sem yn gwneuthur sylw o rai pethau eraill o'i 6ld<lo.—Yr eiddoch, &c., CYTHWIN.
MESUR LLYWODRAETH LEOL.
| GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] MESUR LLYWODRAETH LEOL. Parhaodd y llanw areithyddol ar y Mesur uchod i Jmlaen .drwy Sydol yr wythnos ddiweddaf. Nid ,yr areitkiau hirwyntog a chwmpasog a dra- o wy ar yr ail ddarlleniad ond gwastraff, i radd- a nelaeth, ar amser y Ty, oblegid ceid cyfleusdra yn y pwyllgor i ddweyd yr un pethau. Yn y pwyll- §or, mewn gwirionedd, y cymer y frwydr ar y mesur Wn le, ao nid yw y m&n ysgarmesoedd arweiniol yn fawr iawn o ddiben. Gwir fod yn rhai o'r itaiau a draddodwyd rai awgrymiadau da a ^lol, y rhai a ellir ddwyn i ffurf ymarferol yn y yilgor. Mae gan lawer o'r aelodau eu hobbies, a'r atwg Ydyw fod yn rhaid iddynt gael marchogaeth bt hen geffyl pren ar bob achlysur. Hen farch di- 4follch a chastiog ofnadwy yw Temperance, a rhaid do gael dangos ei ystranciau bob amser. ^aewyddwyd y ddadl ar ail ddarlleniad Mesur ^y^odraeth Leol, nos Fawrth, gan Mr. W. S. ^lHe, yr bwri) aE oi datgan ei gymeradwyaeth o'r Queaur yn gyffredinol, a feirniadodd yn llym ei ^Pariaethau trwyddedol, ac yn bendifaddeu yr ;al:1au ag oedd yn caniatau ad-daliad i'r tafarn. t.. Bhoddodd amryw engreifitiau o symiau oedd- b, edi eu talu fel iawn, ac yr oedd o'r farn y I ai y compensation am leihau tafarndai ar gyfar- edd yn X5,000 yr un. CYfreithiwr Cyffredinol, mewn atebiad, a ddy- Oa add y buasai yn annheg atafaelu eiddo nifer li- ° ^er8onau yn dwyn ymlaen fasnach gyfreith- iawn. Pe ba'i yr holl allu trwyddedol yn Q 01 drosglwyddo drosodd i'r byrddau leol, heb ^amath o check arnynt mewn fEordd o ad-dal- canlyniad fy^dai i bob ty cyhoeddus gael ei oil I r Unwaith mwn rhai parthau o'r wlad, ac yn oeda. e cald clybiau yfed gyda'u holl ddrygau. Yr y tl af yn gobeitbio y gwnai y Ty dderbyn cynygion lj0 y^°draeth fel rhai teg a rhesymol. Yr oedd y dysgedig o'r farn pe b'ai yr United King- tlliance yn treulio mwy o'u hameer i hyrwyddo anj faroldeb ymhlith eu canlynwyr, a llai i ohwilio fei 111\W ela Yn eu cymydogion, y buasent wedi gwneyd 8,^ lawn mwy o ddaioni. Gwir; mae iaith 0 aCedro1 ^wyrymwrthodwyr wedi gwneyd mwy ^ydci Ji na dim y gwyddom am dano i achos sobr §v?itQ^ y la Anhawdd boddloni pawb. Mae y HHo i „ yi trwy^^edig a'r llwyrymatalwyr yn cyd sydd ^0mUi° adEanau trwyddedol y M esur, yr 0 brawf, i'n tyb ni, fod y Llyw- cy^ agos i>w ac yn ceisio hwylio eu llestr §QHeafl0i°^au daue^dog ac ysgythrog. Cyfiawnder debol Y rwydd yw cymhellydd y Llywodraeth Un. ol n yt achoa hwn fel ymhob achos arall. Siaradodd Mr. Whitebread hefyd yn fiafriol; ac yr oedd yn teimlo fod hwn yn gyfleusdra rhagorol i'r Llywodraeth i benderfynu cwestiwn a amgylch- ynid gan anhawsderau dirfawr. Dywedodd fod ad- daliad bob amser wedi cael ei roddi mewu achosion o welliantau. Yr oedd cyfiawnder a gonestrwydd yn hawlio iawn, ao nid oedd yn credu y gellid cau tafarndai heb gyfdaliad (compensation). Dywedodd Mr. Milvane, yr hwn sydd yn hwylio o Durham, fod mwy yn cael eu cosbi am feddwi ar y Suliau yn Nghymru ao Ysgotland, He yr oedd y tafarnau yn nghau, nag yn Lloegr. Yr oedd y bobl yn darparu ddydd Sadwrn ar gyfer y Sul, neu y dydd o flaen Gwener y Groglith neu'r Nadolig, ao yn Ysgotland yr oedd yn arferiad i osod bill yn fienestri rhai tafarnau ar ddydd Sadwrn, ac arno yn ysgrifen. edig, Remember the Sabbath-day." (Chwerthin.) Yr oedd ef dros ymddiried y cwestiwn o gau ar y dyddiau hyn i'r cynghorau lleol. Siaradodd Mr. Childers ychydig eiriau. Yr oedd ef yn awyddus i ddadleu y cwestiwn tuallan i wleid. yddiaeth partiol, a beiai Mr. Chamberlain am ddwyn materion pleidiol a phersonol i mewn i'w araith. Rhai pur groen-deneuyw yr Ysgarwyr. 'Doedd dim o'i le yn araith Mr. Chamberlain. Gohiriwyd y ddadl hyd ddydd Iau. ADDYSG GANOLRADD I GYMRU. Gofynodd Mr. Kenyon i Brif Arglwydd y Trysor- lys a oedd yn bwriadu cyflawni ei addewid mewn perthynas a Mesur i hyrwyddo addysg ganolraddol i Gymru yn ystod y senedd-dymor presenol. Gobeithiai Mr. Smith y byddai yn bosibl i'r Llyw- odraeth i ddwyn mesur i mewn yn ystod y senedd- dymor presenol yn ymwneyd &'r mater, ond yr oedd hyny yn ymddibynu ar sefyllfa dyledswyddau cy- hoeddus a'r ymrwymiadau oedd y Llywodraeth wedi wneyd yn barod. Ceisiodd gan yr aelod anrhydeddus i adnewyddu y cwestiwn ar ol gwyliau y Sulgwyn. GOLYGFA RYFEDD YN Y TY. Yn hwyr nos Fawrth, cymerodd golygfa ryfedd le yn y Ty. Nid oedd neb o aelodau y Weinyddiaeth yn bresenol, a gwnaed ymgais i gyfrif allan y Ty. Cynygiodd Mr. Bryoe ail ddarlleniad y Mesur yn dwyn y teitl rhyfedd, Access to Mountains (Scotland) Bill," a phasiodd y Mesur yr ail-ddar- lleniad yn nghanol bloeddiadau buddugoliaethus yr Wrthblaid. Ymddengys i'r boneddwr anrhydeddus dalu agos i bedair punt am anfon brysnegesau rhad (sixpenny telegrams) i'r aelodau Ysgotaidd oedd yn absenol, a chyfeillion eraill, yn deisyf arnynt i fod yn bresenol am naw o'r gloch. Pasiodd rhai mesurau eraill yr ail ddarlleniad yn yr un dull llechwraidd. Tybed a fydd Mr. Tom Ellis mor llwyddianus gyda Mesur y Mynedfeydd i Fynyddau, Afonydd, a Llwybrau Cymru ? PRIODAS A CHWAER GWRAIG DRANCEDIG. Dydd Mercher yn Nhy y Cyffredin, cynygiodd Mr. Heneage ail ddarlleniad y Mesur er cyfreithloni priodas a chwaer gwraig drancedig. Dadleuai nad oedd y cyfryw briodas yn drosedd ar unrhyw ddeddf ddwyfol na dynol. Yr oedd yn Mhrydain Fawr rhy w fil o'r priodasau hyn yn cymeryd lie yn flyn- yddol, a chredai y byddai o'r buddioldeb mwyaf i'r dosbarthiadau gweithiol. Lol wirion Nid yw y dosbarth gweithiol yn awyddus am y cyfnewidiad hwn yn y gyfraith. Cynygiodd Mr. Salt wrthodiad y Mesur ar y tir fod teimlad cryf yn holl Eglwysi y byd yn erbyn y cyfryw briodasau, ac yr oedd o'r farn yr arweiniai y Mesur i benrhyddid ao i lawer o anghyfleusdra a drwg cymdeithasol. Gwrthwynebwyd y Mesur hefyd gan yr Ysgrifenydd Cartrefol. Nid oedd fod y gyfraith yn cael ei throseddu yn rheswm dros ei obyfnewid. Da iawn. Ar ol peth dadleu pellaoh ar y pwnc, ymranodd y Ty- Dros yr ail ddarlleniad 239 Yn erbyn 182 Mwyafrif dros 57 Mae'r mesur hwn wedi pasio Ty y Oyffredin amryw weithiau o'r blaen, ond wedi ei wrthod gan yr Arglwyddi. Pleidleisiodd amryw o'r aelodau Ceidwadol dros yr ail ddarlleniad. Mae yn amheus a ddaw yn gyfraith eleni eto, os daw allan o Dy y Cyffredin. HAWL Y GORON MEWN MWNGLODDIAU. Gofynodd Mr. Kenyon gwestiwn i Ganghellydd y Trysorlys, ddydd Iau, mewn perthynas i hawl y Goron i feteloedd gwerthfawr yn jploegr a Chymru pa un a oedd gwahaniaeth mewn perthynas i aur ac arian a ddarganfyddid mewn tir rhydd-ddaliadol rhwng y wlad hon a'r trefedigaethau os nad oedd pa reswm oedd 4dros godi royalty ar y meteloedd hyny yn y Deyrnas Gyfunol, yr hyn na wneid yn y trefedigaethau. Dywedodd Mr. Goschen fod gan y Goron, gynt, hawl ar bob mwngloddiau oedd yn cynwys metel- oedd gwerthfawr. Yr oedd hawliau y Goron yn cyraedd y trefedigaethau, ond yn y rhan fwyaf o amgylchiadau yr oedd y Goron wedi eu trosglwyddo i'r Ilywodraeth leol. Nis gallai ddweyd a oedd yr hawl mewn rhai o'r trefedigaethau wedi ei rhoddi i fyny i'r freeholders. Nis gallai ef (Mr. Goschen) ateb y cwestiwn mewn perthynas i apwyntiad Dirprwy- aeth Frenhinol i ystyried y mater heb ymgynghori a'r Llywodraeth. Ceir alywed rhagor am hyn. [ Y GLOBE LAND BILL." Pasiodd y Mesur hwn drwy y pwyllgor yn ddi- welliant yn ystod yr wythnos. MESUR Y LLYWODRAETH LEOL. Dygwyd y ddadl ragarweiniol ar y Mesur hwn i derfyniad nos Wener, ae yr oedd yn llawn bryd rhoddi pen arni. Siaradodd Mr. Jesse Collings yn gryf 0 blaid y Mesur. Diolchodd i'r Llywodraeth am y Mesur hyf a rhyddfrydol hwn o Home Rule Ymarferol, ac nid peth dychymygol; a dywedodd y byddai cyfrifoldeb mawr ar y rhai a beryglent neu a orchfygent fesur mor ddemocrataidd. Ystyriai Mr. Bartley y bill yn un o'r mesurau mwyaf a ddygwyd erioed i mewn i Dy y Cyffredin, pe na chynwysai ond yn unig y ddarpariaeth i sef- ydlu cynghorau lleol. Ystyriai Syr William Harcourt mai y prif deilyngdod a berthynau i'r Mesur oedd eangiad yr etholfraint. Yr oedd o'r farn y gwnai adranau trwyddedol y Mesur wneyd pethau yn waeth nag oeddynt yn bresenol. Gwnai y compensation clauses gostio i'r wlad ganoedd o filiynau 0 bunau, a rhoddai derfyn ar bob gobaith am ddiwygiad. Yr oedd y wlad yn well fel yr oedd yn bresenol, a gwnai y blaid Ryddfrydol (?) gefnogi "local option" ar wahan oddiwrth yr adranau hyn. Yr oodd y Goliath Gladstonaidd hwn yn chwythu bygythion a chelanedd, a gwnaeth ymosodiad brwnt a beiddgar ar Mr. Chamberlain ac Arglwydd Hartington. Mae y Gladstoniaid (dyn a'u helpo I) mewn pen- bleth ynghylch y Mesur mawreddog hwn; maent yn ei ganmol a'i gablu ar yr un anadliad. Eiddigedd a chenfigen sydd wrth wraidd eu hymosodiad ar y Mesur. Wfft i'r hen wrach grebach grom Wedi i Mr. Goschen ateb yr Hercwlff Gladston- aidd, am ohwarter i ddeuddeg o'r gloch darllenwyd y Mesur yr ail waith heb ymraniad, ynghanol bloodd- iadau buddugoliaethus ei gefnogwyr; a goddefer i'r ysgrifenydd wrth derfynu roddi un floedd, Hwre
FFRWYDRAD MEWN GWAITH GLO.
FFRWYDRAD MEWN GWAITH GLO. Digwyddodd ffrwydrad arswydus yn nglofa St. Helen's, Workington, nos Iau, drwy yr hyn y lladd- wyd 250 berso.aau. Gan i'r pwll fyned ar dan, yr oeddis dan yr angenrheidrwydd i ollwng miliynau 0 alwyni 0 ddwfr iddo cyn y llwyddwyd i'w ddiffodd; mewn canlyviad nis gellir gweithio yno am amser maith.
GLOFA CWMYGLO, BEDWAS.I
GLOFA CWMYGLO, BEDWAS. Mae cwmni glo Cwmyglo, Bedwas, ger Caerdydd, wedi rhoddi rhybuddion i fyny yn y gwaith i'r per. wyl y bydd yr holl contracts yn terfynu ar ddiwedd y mis hwn. Dywed y owmni eu bod yn awr yn talu 2c. y dunell yn fwy i'w gweithwyr nag a delir mewn pyllau eraill, ac nas gallant ei ganiatau yn hwy, tra yr hawlia y gweithwyr fod y prisiau a delir yn bre- senol wedi eu sefydlu er's ugain mlynedd, ac nad oes gan y cwmni hawl i ymyraeth a'r trefniadau a wnaed y pryd hyny. Penodwyd dirprwyaeth i ym. weled a'r arolygwr, ao os na ddeuir i gytundeb bodd- haol mae y dynion yn benderfynol 0 sefyll allan ar y 30ain o'r mis hwn.
ADGYOHWYNIAD GWAITH HAIARN…
ADGYOHWYNIAD GWAITH HAIARN TIPTON. Mae y gwaith uchod, yr hwn sydd wedi bod yn segur am rai blynyddoedd, i'w gychwyn yn fuan gan gwmni newydd gael ei ffurfio, gyda chyfalaf 0 X25,000. Dechrenwyd adgyweirio y gwaith yr wythnos ddiweddaf, a rhydd waith i 140 o ddwy. law.
PRINDER GWAITH.
PRINDER GWAITH. Mewn canlyniad i brinder gwaith, hysbysir fod uwcblaw wyth mil 0 ddynion wedi ymfudo o Lun- dain i'r America ddydd Llun diweddaf. Gwyddel- od a Germaniaid ydoedd y mwyafrif 0 honynt.
MASNACH YR YD.
MASNACH YR YD. Lied farwaidd ydoedd y fasnach mewn yd yn ystod yr wythnos ddiweddaf, a'r prisiau a gynygid yn hynod isel. Mae pris mor isel a 25s. wedi ei dderbyn am wenith, yr hwn fel ymborth i anifeil- iad sydd yn rhagori ar bys neu ffa, tra y mae gwenith Rwsiaidd rhagorol, un y gellir gwneyd bara gydag ef, yn cael ei gynyg yn rhwydd am 31s. y chwarter. Mae y gwenith gwyn Indiaidd yn cael ei gynyg am 23s., a'r gwenitb coch cyff- redin am 30s. Tuedda y prisiau hyn i gadw cyfartaledd prisiau y gwenith Prydeinig rhwng 30s. a 33s. Mae y prisiau cymhariaethol uchel sydd wedi eu dal ar yd Indiaidd er y Nadolig yn sicr 0 fod wedi efteithio yn niweidiol ar y gofyn am dano yn y farchnad, ond nid yw y cyflenwad sydd yn bresenol mewn llaw ond bychan.
OFFRWM CYDYMDEIMLAD
OFFRWM CYDYMDEIMLAD A'r Parch. W. Cynog Davies, B.D., Fioer Aberteifi, ar farwolaeth ei wraig, Mawrth 22ain, 1888. 0 1 Gynog, trwm yw'th gwynion, Saeth 0 fraw a ysa'th fron, Ysig glwy' i'th fynwes glaf A gefaist; a phrndd gofiaf '.R awel oer bair alarn Ddaeth yn syn o'r dyffryn du, I ddeifio er prndd afar Liwdeg wedd dy flodau gwar. 0 mae'r son am rosynau Oedd ddoe yn ein lion foddhau, Ond heddyw mewn dyhnddiant Yn praddhan gwynebau gànt I 'Rwyt tithau dan arteithiol Ing y rhwyg ad angan ar ol, A'th galon, dan aeth, goeliaf, Heddyw'n y glyn sydd yn glaf. Ha nid syn clywed seinian-o ofid Yn llilo' o'th enau, A'r wedd oil yn dwfn bruddhau I heilltion ddigron ddagran. Gwel'd dy ardd lie bu harddwch,—ond yn awr Yn dwyn arwydd salwch Weithian fel rhyw ddiffaethwch Ydyw'r lie dan nodau'r llweh 0 Gynog, dy wraig anwyl,—er galar A giliodd o'th breswyl, Er dy goll dy briod govyl 'Nawr yrrwyd^'w hoer arwyl. 'Roedd ei geiriau hawddgaraf—i ti, frawd, Dy hylrydwch purat, A'i lion wedd, yn rho'i hedd haf, Ydoedd ddawn o'r diddanaf. Heddyw dan wag ddifuddiant,-ar ei hoi Wylo'r wyt mewn siomiant; Yn dy gur och'neidiau gant Ail i afon ddylifant. Gwasgariad oer, gwisgo'r du,—cwyno claf, Cann clul, gal-a,- Hyn yw byd, megis y bn,- Nid oes rydd nerth ond Iesu. Cynog hynaws, cawn gann,-aaw)n ail nawn, Wedi mwl nos bygddu; Y G'rawys a'r galaru In Basg a ddol, heb wisg ddu. PENFEO.