Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y GYLLIDEB.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GYLLIDEB. Nos Lun, yn unol a, threfniad aelodau cyn- ffon y blaid Barnellaidd, gwnaethpwyd ym- osodiad penderfynol ar y Llywodraeth gan flaenoriaid yr Wrthblaid. Y mae cynffon y blaid Ymranol yn ddigllawn er's amser bellach fod eu ha-rweinwyr yn ymddwyn tuag at y Llywodraeth gyda thegweh a boneddigeiddrwydd. Yr oedd gwleidydd- wyr tebyg i ILLINGWORTH, CONYBEARE, a DILLWYN yn disgwyl i Mr. GLADSTONE arfer C, yr un iaith yn y Senedd am yr Undebwyr ag a arferai y boneddwr anrhydeddus pan yn cyfeirio atynt mewn cyfarfodydd Radical- aidd ar hyd a lied y wlad. Gwaeddent am gysondeb, ac nis gallasent ddeall paham y cyfnewidiodd Mr. GLADSTONE gymaint ar ei ddull o anerch ei wrthwynebwyr unwaith y safasai wyneb yn wyneb a hwy tufewn i furiau St. Stephan. Ymchwyddodd y teimlad hwn o'u mewn i'r fath raddau pan y deallasant fod eu harweinwyr yn bwriadu1 gadael i fesur Mr. RITCHIE, mewn cysylltiad a Llywodraeth Leol, fyned trwy yr ail ddarlleniad heb gynyg unrhyw wrthwvn- ebiad fel y penderfynasant gipio yr awenau o ddwylaw y Mri. GLADSTONE, HARCOURT, a PARNELL, a gyru'y cerbyd eu hunain. Ond er mwyn cadw eu canlynwyr yn eu lie priodol, addawodd yr arweinwyr ymosod ar y Llywodraeth y cyfleusdra cyntaf a roddid iddynt. Bygythiasant ddymchwelyd Mesur Llywodraeth Leol, a mawr oedd disgwyliad y Gladstoniaid am nos y frwydr. Yr oedd newyddiaduron Radicalaidd Cymru a Lloegr ar eu huchelfanau, oblegid yr oedd argoel- ion, meddent hwy, y byddai yr ymgyrch yn ffyrnig ac y gwnai llawer o'r Undebwyr bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth. Ond ar ol yr holl ddarogan a'r prophwydo, tynwyd y gwelliant disgwyliedig yn ol, a mabwysiadwyd y Mesur yr ail waith heb ranu y Ty. Er mwyn cysuro mynwesau galarus eu canlynwyr, penderfynodd Anaciaid Radicaliaeth roddi her i'r Llyw- odraeth mewn cysylltiad a rhai o gynyg- iadau Mr. GOSCHEN yn Mesur y Gyllideb. Nos Lun diweddaf daeth. y cynygiadau hyn gerbron y Senedd yr ail waith. Gosodwyd gwelliant o flaen y Ty gan neb llai na Mr. GLADSTONE ei hun, Ei gwyn ydoedd fod y cyllid a dderbyniai y Trysorlys oddiwrth eiddo personol ac eiddo mewn tir yn anghyf- artal. Dadleuai Mr. GLADSTONE fod eiddo personol ar achlysur marwolaeth y per- chenog yn cael ei drethu yn drymach nag eiddo mewn tir. Fel arfer, chwareuai yr Hen Wr Mawr a'r miliynau yn y fath fodd ag i arwain yr anwybodus i gredu fod rhywbeth yn yr haeriad- au. Pregeth a phump o benau iddi, a phump o gasgliadau yn eu dilyn ydoedd ei araith, ac fel y sylwodd Mr. GOSCHEN, cyfeiriai y boneddwr anrhydeddus ei eiriau nid at ei wrandawyr yn y Ty, ond at y lliaws oddiallan. Gwnaeth ymosodiad annheg, anfoneddigaidd a Pharnellaidd ar yr Ardalydd HARTINGTON, a tbynghedai yr Undebwyr Radicalaidd i bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth. Yr oedd yr Wrthblaid ar dan, a "chredent fod awr ymddatodiad Undebiaeth ar drothwy St. Stephan. Ateb- wyd Mr. GLADSTONE gan Syr M. HICKS- BEACH, yr Ardalydd HARTINGTON, a Mr. GOSCHEN. Ni chafodd ei eiriau a'i honiad- au eu harbed gan y siaradwyr hyn. Chwal- wyd hwynt oil fel y' chwelir mwg gan dymhesti o wynt, ac mor erwin a miniog ydoedd dynoethiad ei ffaeleddau gan gefnog- wyr y Llywodraeth fel yr ymadawodd Mr. GLADSTONE a'r Ty, gan adael tynged yr ymgyrch yn nwylaw y Mri. CHILDERS a HARCOURT. Cyfeiriodd Mr. GOSCHEN at y ffaith fod Mr. GLADSTONE ei hun wedi bod mewn swydd am lawer o flynyddau ac ni ddarfu iddo ymdrechu mewn un modd yn y byd i wastadhau yr anghyfartaledd y cwynai o'i blegid, ac yn awr, ychwanegai CANGHELLYDD Y TRYSORLYS, pan y mae cam wedi ei roddi yn y cyfeiriad o ddwyn gwell- iant oddiamgylch mewn perthynas a hyn efe ydyw y cyntaf i hawlio adgyweiriad. Aeth y frath adref, a daeth gwir amcan yr ymosodiad yn gyflawn i'r golwg. Nid di- ddymu unrhyw anghyfiawnder ydoedd ei fwriad, ond taflu y Llywodraeth allan. Cyn terfynu ei araith odidog nid oedd un o osod- iadau Mr. GLADSTONE yn sefyll. Pan y cododd Syr W. HARCOURT i gloi y ddadl nid oedd ganddo yr un gair i'w ddweyd ar y pwnc oedd dan sylw y Ty, ac felly nis gallasai ond gwneuthur ymosodiad llidiog a dig ar yr Ardalydd HARTINGTON. Canlyniad yr ymgyrch ydoedd hyn:—derbyniodd y Llywodraeth 310 o bleidleisiau, a Mr. GLADSTONE 217, neu fwyafrif o 93 dros Y Llywodraeth. Er fod buddugoliaeth Y Llywodraeth yn y Senedd yn gyflawn ymhob ystyr, nid ydyw hyn i'w gydmaru a pkw^.Sa igrwydd yr effaith a adewir ar y cyhoedd gan yr ymosodiad a'r ddadl ganlynol. J- mae llygaid y wlad yn agored bellach, ft bydd i etholwyr Prydain Fawr farnu pa faint o ymddiried ddylasid ei roddi mown gwleidyddwr sydd yn barod, ar gais Y mwyaf diegwyddor o'i ganlynwyr, drw hoced a thwyll, rwystro y Senedd yn 01 gwaith, nid er mwyn tegweh a chyfiawnder* ond er mwyn, os yn bosiol, cyraedd y sydd yn perthyn i swyddi gwleidyddol 7 deyrnas.

Advertising

GWELLIANT GAN MR. GLADSTONE-