Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Y GYLLIDEB.
Y GYLLIDEB. Nos Lun, yn unol a, threfniad aelodau cyn- ffon y blaid Barnellaidd, gwnaethpwyd ym- osodiad penderfynol ar y Llywodraeth gan flaenoriaid yr Wrthblaid. Y mae cynffon y blaid Ymranol yn ddigllawn er's amser bellach fod eu ha-rweinwyr yn ymddwyn tuag at y Llywodraeth gyda thegweh a boneddigeiddrwydd. Yr oedd gwleidydd- wyr tebyg i ILLINGWORTH, CONYBEARE, a DILLWYN yn disgwyl i Mr. GLADSTONE arfer C, yr un iaith yn y Senedd am yr Undebwyr ag a arferai y boneddwr anrhydeddus pan yn cyfeirio atynt mewn cyfarfodydd Radical- aidd ar hyd a lied y wlad. Gwaeddent am gysondeb, ac nis gallasent ddeall paham y cyfnewidiodd Mr. GLADSTONE gymaint ar ei ddull o anerch ei wrthwynebwyr unwaith y safasai wyneb yn wyneb a hwy tufewn i furiau St. Stephan. Ymchwyddodd y teimlad hwn o'u mewn i'r fath raddau pan y deallasant fod eu harweinwyr yn bwriadu1 gadael i fesur Mr. RITCHIE, mewn cysylltiad a Llywodraeth Leol, fyned trwy yr ail ddarlleniad heb gynyg unrhyw wrthwvn- ebiad fel y penderfynasant gipio yr awenau o ddwylaw y Mri. GLADSTONE, HARCOURT, a PARNELL, a gyru'y cerbyd eu hunain. Ond er mwyn cadw eu canlynwyr yn eu lie priodol, addawodd yr arweinwyr ymosod ar y Llywodraeth y cyfleusdra cyntaf a roddid iddynt. Bygythiasant ddymchwelyd Mesur Llywodraeth Leol, a mawr oedd disgwyliad y Gladstoniaid am nos y frwydr. Yr oedd newyddiaduron Radicalaidd Cymru a Lloegr ar eu huchelfanau, oblegid yr oedd argoel- ion, meddent hwy, y byddai yr ymgyrch yn ffyrnig ac y gwnai llawer o'r Undebwyr bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth. Ond ar ol yr holl ddarogan a'r prophwydo, tynwyd y gwelliant disgwyliedig yn ol, a mabwysiadwyd y Mesur yr ail waith heb ranu y Ty. Er mwyn cysuro mynwesau galarus eu canlynwyr, penderfynodd Anaciaid Radicaliaeth roddi her i'r Llyw- odraeth mewn cysylltiad a rhai o gynyg- iadau Mr. GOSCHEN yn Mesur y Gyllideb. Nos Lun diweddaf daeth. y cynygiadau hyn gerbron y Senedd yr ail waith. Gosodwyd gwelliant o flaen y Ty gan neb llai na Mr. GLADSTONE ei hun, Ei gwyn ydoedd fod y cyllid a dderbyniai y Trysorlys oddiwrth eiddo personol ac eiddo mewn tir yn anghyf- artal. Dadleuai Mr. GLADSTONE fod eiddo personol ar achlysur marwolaeth y per- chenog yn cael ei drethu yn drymach nag eiddo mewn tir. Fel arfer, chwareuai yr Hen Wr Mawr a'r miliynau yn y fath fodd ag i arwain yr anwybodus i gredu fod rhywbeth yn yr haeriad- au. Pregeth a phump o benau iddi, a phump o gasgliadau yn eu dilyn ydoedd ei araith, ac fel y sylwodd Mr. GOSCHEN, cyfeiriai y boneddwr anrhydeddus ei eiriau nid at ei wrandawyr yn y Ty, ond at y lliaws oddiallan. Gwnaeth ymosodiad annheg, anfoneddigaidd a Pharnellaidd ar yr Ardalydd HARTINGTON, a tbynghedai yr Undebwyr Radicalaidd i bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth. Yr oedd yr Wrthblaid ar dan, a "chredent fod awr ymddatodiad Undebiaeth ar drothwy St. Stephan. Ateb- wyd Mr. GLADSTONE gan Syr M. HICKS- BEACH, yr Ardalydd HARTINGTON, a Mr. GOSCHEN. Ni chafodd ei eiriau a'i honiad- au eu harbed gan y siaradwyr hyn. Chwal- wyd hwynt oil fel y' chwelir mwg gan dymhesti o wynt, ac mor erwin a miniog ydoedd dynoethiad ei ffaeleddau gan gefnog- wyr y Llywodraeth fel yr ymadawodd Mr. GLADSTONE a'r Ty, gan adael tynged yr ymgyrch yn nwylaw y Mri. CHILDERS a HARCOURT. Cyfeiriodd Mr. GOSCHEN at y ffaith fod Mr. GLADSTONE ei hun wedi bod mewn swydd am lawer o flynyddau ac ni ddarfu iddo ymdrechu mewn un modd yn y byd i wastadhau yr anghyfartaledd y cwynai o'i blegid, ac yn awr, ychwanegai CANGHELLYDD Y TRYSORLYS, pan y mae cam wedi ei roddi yn y cyfeiriad o ddwyn gwell- iant oddiamgylch mewn perthynas a hyn efe ydyw y cyntaf i hawlio adgyweiriad. Aeth y frath adref, a daeth gwir amcan yr ymosodiad yn gyflawn i'r golwg. Nid di- ddymu unrhyw anghyfiawnder ydoedd ei fwriad, ond taflu y Llywodraeth allan. Cyn terfynu ei araith odidog nid oedd un o osod- iadau Mr. GLADSTONE yn sefyll. Pan y cododd Syr W. HARCOURT i gloi y ddadl nid oedd ganddo yr un gair i'w ddweyd ar y pwnc oedd dan sylw y Ty, ac felly nis gallasai ond gwneuthur ymosodiad llidiog a dig ar yr Ardalydd HARTINGTON. Canlyniad yr ymgyrch ydoedd hyn:—derbyniodd y Llywodraeth 310 o bleidleisiau, a Mr. GLADSTONE 217, neu fwyafrif o 93 dros Y Llywodraeth. Er fod buddugoliaeth Y Llywodraeth yn y Senedd yn gyflawn ymhob ystyr, nid ydyw hyn i'w gydmaru a pkw^.Sa igrwydd yr effaith a adewir ar y cyhoedd gan yr ymosodiad a'r ddadl ganlynol. J- mae llygaid y wlad yn agored bellach, ft bydd i etholwyr Prydain Fawr farnu pa faint o ymddiried ddylasid ei roddi mown gwleidyddwr sydd yn barod, ar gais Y mwyaf diegwyddor o'i ganlynwyr, drw hoced a thwyll, rwystro y Senedd yn 01 gwaith, nid er mwyn tegweh a chyfiawnder* ond er mwyn, os yn bosiol, cyraedd y sydd yn perthyn i swyddi gwleidyddol 7 deyrnas.
Advertising
&r. RHESTR 0 LYFRAU A THRAETHODAIJ CYMRAEG AS WERTH GAN GYMDEITHAS TRAETHODAU ESGOBAETH BANGOR, I'W CABL GAN MRI. NIXON AND JARVIS, BANK PLACE, BANGOR, Tr rhai y dylid anfon pob archebion ac arian. Adenedigaeth yn y Bedydd. 4c. Ail Gatecism.. y Amddiffynydd yr Eglwys, 1874 a 1875. 'Y'1 Anerchiadau allan o'r Brutusiana." ic. Arweinydd i'r Anllythyrenog. 2c. Arweinydd i Eglwys y Plwyf. 4c. Baptismal Cards. 6s. y cant. Eugeil-lyfr Eglwysig (yn y wasg). Byr Weddiau Beunyddiol. lc. Cartref yr Hen Wr. 3e. Confirmation Prayer, on Cards, 3s. y cant. Cydymaith yr Athraw, Rhan I. a II. 3c. yr un. Gan y Parch. Daniel Edwards. Cyfaill i'r Claf. Ie. Cyfarwyddyd i ganlyn Gwasanaeth Eglwys Loegr. e. Cymdeithas Milwyry Groes. Ie. Cymun Bendigaid, Ridley. 3c. Cymru dan felldith Babel (H. T. Edwards). 4c Dadl fer ar Fedydd Babanod. Ie. Diolch am y Cynhauaf. ie. Dydd Cyntaf o'r Garawys (H. T. Edwards). Ie. Eglwys Crist (Daniel Jones). Enbydrwydd pecliod. ie. Esboniad ar Erthygl XI. lie. Esboniad ar Erthygl XXVII. 2c. Esboniad ar Erthygl XXVIII. lie. Ffordd Gul, Llawlyfr cyflawn o ddefosiwn i'r ieuanc. 6c., ac 8c. gilt. Ffydd achubol. Is. 6c. y cant. Ffurf Derbyniad Darllenwyr Lleygol. Ie. Bhvyddyn Eglwysig (Nicander). Is. 6c. Gweddi a Mawl yn Ysgolion Sul yr Eglwys. Ie. Gweddiau Teuluaidd. Cloth, 9c. Gwersi Hawdd, Rhan I. a II. 3c. yr un. Hanes y Groes a Thon i'w chanlyn. 9c. y dwsin. Holiadur Eglwysig (G. Roberts). lc. Holwyddoreg Gristioaogol (Sadler). Cloth, Is. Eto eto Ehan II., 4c. Rhan IV., 3c. Hyfforddwr a'r Gan Eglwysig, Rhan I. Caniadau a'r Psallwyr. 3s. 6c. Llwybr Edifeirwch. Is. 6c. y cant. Llyfr Gweddi i Dy Gweddi. Ie. Llythyrau C. Cadfan. Ie. Morgan (Esgob William), Byr hanes. lc. Pardwn. Is. 6c. y cant. Pedwar Nod y Wir Eglwys. 3e. Pregeth y Parch. P. C. Ellis. Jc* Pregeth y Parch. J. Wesley. 3e. Rhestr o Wersi ar gyfer y Suliau a'r Prif Wyliau yn y Flwyddyn Eglwysig. 4s. 6c. y cant. Rhybudd yn erbyn Anniweirdeb. Ie. Rhybudd yn erbyn Celwydd a Thwyll. Trueni Pechod. ic. Tystiolaethau Ymneillduwyr a Threfnyddicn o blaid Eglwys Loegr. 2c. Udganwr bychao Cassassin. 2c. Welsh Clergyman's VadeMecum (H. Rees). 2s. 6c. Wythnos y Genhadaeth. 3s. y cant. Y Ddwy Fil. Ie. Y Grefydd Barliamentaidd. Is. Y Llawlyfr (Heygata). 6c. Y Weinidogaeth. 4c. Yr Inffirmari. Ie. Yr Olyniaeth Apostolaidd. ic. LYFRAU, &c., PERSONAU UNIGOL A WERTHIR DYWY Y GYMDEITHAS. Allor yr Aelwyd (Deon Edwards). 6c., lliain, 9c. Apostolion y Dadgysylltiad (Parch. E. Williams). 2c. Caniadau ac Emynau yr Eglwys (Thos. Jones). 2c. yr un, neu Is. 6c. y dwsin. Church Endowments (D. R. Thomas). Ic. Conflirmasiwn (D. R. Thomas). 3c. Dadgysylltiad (Thos. Edwasds). Ie. Fiyrdd yn Nghrist (D. R. Thomas). 4c. Hen Eglwys ein Tadau (D. R. Thomas). 4c. Letters to a Dissenting Minister (P. C. Ellis). ge. Olyniaeth Apostolaidd (Deon Lewis). 2s. 6c. Pethau fy Nhad (D. R. Thomas). c. Pregethau y Parch. G. Edwards. 4s. Trefn a Dullwedd y Gwasanaeth Eglwysig (W. Wil liams). 6c., lliain, Is. Trefn a Dullwedd y Gwasanaeth Dwyfol (Evans a Davies). 9c., lliain, Is. Yr Athraw (D. R. Thomas). 6c. Yr Eglwys ai Ymneillduaeth (J. L. Meredith). 2s. HYMNAU A THONAU gan y Parch. Daniel Evans:- Limp Cloth, sprinkled edges. Is. llc. Cloth Boards, sprinkled edges, gold lettered. 2i. 8c. Roan Boards, red edges. 3s. 5c. Tonic Sol-fa Edition (without words). Is. 6c, "Pocket Edition Tonic Sol-fa, with words, imp cloth. Is. 11c. Eto eto eto cloth boards, 2s. 3c. ■* Eto eto eto Levant, red edges. 3s. Cerddor yr Eglwys, Limp cloth. 2s. 8c. Eto cloth boards. 3s. 5c. HYMNAU y Parch. Daniel Evans.- Cloth limp, sprinkled edges, lljc. Cloth boards, sprinkled edges, gold lettered. ls.lic. 2 Roan boards, red edges. Is. 6c. Pocket Edition, limp cloth. 9c. Eto, cloth boards, Hie. HYMNAU A THONAU gan y Parch. S. Pryce:- Limp cloth, sprinkled edges. Is, 11e. Cloth boards, red edges. 2s. 3c. Roan boards, red edges. 3s. Tonic Sol-fa Edition, limp cloth. Is. llc. Eto eto, cloth boards. 2s. 3c. Limp cloth, sprinkled edges. ge. Cloth boards, gilt edges. Is. Roan boards, red edges. Is. 6c. WELSH CHURCH TUNE AND OHANT BOOK gan y Parch. Thomas Jones, Rheithor Llanengan:— Limp cloth, red edges, gold lettered, 16mo. (pocket sizQ). Is. 10c. Eto eto Tonic Sol-fa eto. Is. 9c. Eto eto eto paper covers. Is. 2c. HYMNAU YR EGLWYS gan y Parch. Ellis Roberts. Llian, 9c. germs for Abbertiziitg. Class of Advertisements.tT s. d. Parliamentary Notices go. per Line Legal and Public Notices. per Insertion Auction Announcements 4D. Per Line per Insertiou Religious Services and Lectures 1 to 5 2 0 Bazaars, Concerts, & Eisteddfodau j f 6 to 11 | 6 Publishers and Educational > ■< 12 to 25 | 3 Announcements j Business Addresses 26 and up. | Q PREPAID ADVERTISEMENTS. Word. 0ne Three Six Insertion. Insertions. Insertions. s. d. s. d. s. d. 20 1 0 2 0 3 0 30 1 6 3 0 4 6 40 2 3 4 6 6 9 TírESE CHARGES, which must be prepaid, apply only to consecutive insertions of the following classes of advertise- ments: Situations Wanted, Situations Offered, Apartments to Let, Apartments Wanted, Money Wanted, Partnerships, Businesses for Sale, Lost and Found, Miscellaneous Wants, Houses, Shops, Offices, Specific Articles for Sale by Private Contract. ADVERTISEMENTS must reach the office not later than Thursday morning. IF THE INSERTIONS be not consecutive, or if payment be not made previous to publication, the business rate will be charged, but no order will be booked for less than three shillings. NOTICES of Births, Marriages, and Deaths are charged 1 each, if not exceeding 20 words, and 6d. for each additional 10 words. In all cases the Notices must be authenticated by the Signature and Address of the sender. THE GREATEST CARE is taken to insert advertisements on the dates ordered, as well as to secure their being correctly pi-irited; but we cannot be responsible for inaccuracies in either of these respects, nor for any consequences arising therefrom. CHEQUES and POST OFFICE ORDERS should be made payable to DANIEL OWEN & Co., Ltd., Publishers. Y Llan Offices, Cardiff. fin < £ isiatt, &c. IIEMPOBARY DUTY (Welsh). North Wales. Four Sundays in Jnne two guineas per Sunday.- Apply, with references, J., LLAN Office, Cardiff. Ar mitrfu. TO be Disposed of by Private Contract, an Adrowson in a picturesque part of Wales. In- come, about X280 per annum, together with a good house and garden and a few acres of land. Population, small. Early possession might be arranged for. A knowledge of the Welsh language is indispensable.— For particulars apply to Mr. Gery, Solicitor, Town Hall, Aberdare. 291 umversitFcollege ofTsouth WALES AND MONMOUTHSHIRE. CARDIFF ENTRANCE SCHOLARSHIPS. THIRTY-THREE SCHOLARSHIPS and EXHI- BITION3, varying in value from X50 to £10 per annum, will be OFFERED for COMPETITION at the EXAMINATION on SEPTEMBER 18th, 1888, and following days. The inclusive Tuition Fee is zelo. For further information in regard to Scholarships, Exhibitions, and Prizes offered for competition in the course of the year, see Prospectus, which may be obtained from IVOR JAMES, Registrar. Cardiff, January, 1888. 203s28 at cm 6obtblullr. Dymunwn alw sylw ein darllenwyr, sohebwyr, a dosbarth- wyr at y cyfnewidiadau canlynol sydd wedi eu gwneyd mewn cysylltiad a dygiad allan Y LLAN. 0 hyn allan cyfeirier;- NEWYDDION LLEOL A HYSBYSIADAU fel y canlyn THE EDITOR, LLAN Office, St. Mary Street, Cardiff. BARDDONIAETH Rev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, Llanddarog, Carmarthen. CYFANSODDIADATT, YSGRIFAU, A GOHEBIAETHAU cyhoeddus a chyfrinachol, &c., ynghyd a. Llyfrau i'w hadolygu Rev. LL. M. WILLIAMS, The Vicarage, SBeaufort, Mon. Dylai yr oil fod mewn Haw ddim yn ddiweddarach na boreu ddydd Mawrth. DALIER SYLW.—Oherwydd prinder gofod nis gallwn addaw I gosod i fewn yagfifau meithion a chan fod nifer ein goheb- wyr caredig mor lliosog, erfyniwn arnynt fod yn fyr a chryno. Rhoddir y flaenoriaeth bob amser i adroddiodau a newyddion Ileol. I Buasai yn dda gan y Cyhoeddwyr benodi dosbarthwyr i wertha Y LLAN lie nad oes rhai eisioes. Am y telerau anfoner I i'r swyddfa. r CEIHO.—Y Mae tystiolaeth William Cobbett, un o elynion chwerwaf yr Eglwys, yn ei lyfr, History of the Reformation," ar y pwnc yr holwch yn ei gylch yn gadarnhach ac yn eglurach braidd na dim a wyddom am dano. Wele rydd-gyfieithiad o'i eiriau, yn adran 49 o'r gyfrolPan yr adeiladai y tirfeddianwyr eglwysi, adeiladent hefyd d^ i'r cfieiriad, yr hwn a elwir yn awr yn Bersondy, ac yn gyffredin rhoddent ddarn o dir i'r offeiriad at ei ddibenion ei hun a'i deulu." Pe b'ai y gronyn lleiaf o wirionedd yn haeriad y dad- gysylltwyr, ni fuasai ysgrifenydd fel Cobbett yn dweyd yr hyn sydd yn hollol groes i'w honiadau. Gwir eu bod yn ail-adrodd yr haeriadau hyn, ond nid yw hyny yn profi eu bod yn wirioneddol. Gan eu bod wedi eu hateb a'u darnio ddegau o weith- iau, y mae ymddygiad y dadgysylltwyr yn tystiol- aethu yn amlwg nad oes ganddynt y radd leiaf o barch i'r gwirionedd. CIERAINT.-Goddefwch i mi eich adgofio o'r hyn a gyhoeddasom oddiwrthych ar y 6ed o Ebrili. SEXTUS.—Gwnawn gyhoedJi eich ysgrif yn ei thro ac os bydd gofod yn caniatau. MEIRIONFAB.-Diolch. Cewch glywed yn mhellach oddiwrthym. MEWN LLAW.-Tyst, Pysgotwr, Ewyllysiwr Da, J. Harris, Hirwau, Esgobaeth Ty Ddewi, &c.
GWELLIANT GAN MR. GLADSTONE-
GWELLIANT GAN MR. GLADSTONE- [GAN EIN GOHEBYDD SENEDDOL.] Nos Lun diweddaf, cynygiodd Mr. GladstolO welliant i ail ddarlleniad Mesur y Gyllideb, ameav yr hwn ydoedd cyfartaliad y tranc dollau (death duties) ar eiddo personol a sylweddol. Yr oedd Mr. Gladstone wedi addaw bod yn fyr, ond par- haodd ei araith am awr a fchri chwarter. Dywed odd y gwnai ei gynygiad leihau anhawsderau cyll' idol Canghellydd y Trysorlys. Dan y gyfraitb1 bresenol yr oedd y tollau ar eiddo personol Y11 chwe' eymaint a'r hyn a delid ar eiddo sylweddol1 (real property), ac nid oedd cynygion Mt. Goschen ond yn lleihau yr anghyfartaledd i hanef y swm uchod. YMOSODIAD AR Y RHYDDFRYOT7YR UNDEBOL. Gwnaeth Mr. Gladstone ymosodiad cynhyrfl19 a hollol ddialw am dano ar y Ehyddfrydvvyr TJn* debol. Dywedodd fod buddugoliaeth y Llywodr- aeth yn ymddibynu ar y gefnogaeth a dderbyo- 1 ient gan y gwladweinwyr a alwent eu hunain yo Undebwyr. Yr oedd y Llywodraeth mewn l1ei- afrif. Yr oedd y mwyafrif a'a cefnogeat yn cael eu gwneyd i fyny o Undebwyr Rhyddfrydol. Yr oedd y rhan olaf o araith Mr. Gladstone yn apel uniongyrchol at y cynrychiolaethau. Bhai^ i'r wlad ddeall," meddai, mai y bonoddigion 0, broffesant y credo Rhyddfryool, a'r rhai sydd yo credu mai hwynthwy yw y gwir Ryddfrydwyr- Rhyddfrydw-yr eyson a plienderfynol—a wnaentt fyny y mwyafrif, &c." Dywedodd Syr Michael Hicks. Beaeb, mewo atebiad, mai amcan araith Mr. Gladstone ydoedd, nid symud yr hyn a ystyriai yn gamwri yn Y gyfundrefn gyllidol, ond yn hytrach troi allan 1 Llywodraeth. Ni wnaeth Mr. GiadstoO6, awgryma unrhyw gynllun drwy yr hwn y gelliJ rhyddbaa eiddo personol oddiwrth yr angbyf' iawnder y cwynai o'i herwydd. Yr oedd ei gya- ygiad nid yn unig yn anghyfiawn ynddo ei huo, ond ymhell o fod yn ddiwygiad cyflawn yn nghyfundrefn y tranc-dollau. Sylwodd Arglwydd Hartington ei fod yn rhwym, ar ol "bygythion'' Mr. Gladstone, i gymesyd rhan yn y ddadl. Yr oedd Mr. Gift' atone-wedi cyhuddo y Rhyddfrydwyr Un debol o anghysondeb. Yr oedd yn dda gan ei arglwydd- iaeth fod y boneddwr gwir anrhydeddus yn go<s^ rhyw bwys ar gysondeb." Hit ardderohog oedd hon, a chynhyrfodd daranau o chwortbin yo y Ty. Mr. William Ewart Gladstone yn cybuddo Ardalydd Hartington o anghysondeb Nid 7^ bywyd cyhoeddus y blaenaf ond un tusW 0 anghysonderau. Edrychai Arglwydd Hartingt°& ar gynygiad Mr. Gladstoye fel penderfynia<* gwahanedig (abstract resolution), yr hwn, P0 pesid ef, na allai wieyd dim daioni; ac plr;l gallai ef gefnogi y fath gynygiad pen agored o flaen Cyllideb oedd wedi ei chymeradwy^ yn gyffredinol gan y wlad, ao o flaea Mesuif o Lywodraeth Leol ag oedd wedi derbyn cyluorild. wyaeth mwy cyffredinol byth. 'Does ua a.t])heU aeth nad prif amcan Mr. Gladstone ydoedd dJIJl chwelyd holl gynlluniau Cyllideb y Llywodraetlll a gwneyd llongddrylliad o Fesur y Llywcdr-cltll Leol; mewn gair, troi y Llywodraeth allan 0 swydd. Un ystrywgar ofnadwy yw y G.o.M., ac nid ydym heb adnabod ei ddichellion of. 0 Rhoddodd Mr. Goschen, hefyd, rai ergydlQ deheuig i gyllidydd mwyaf yr oes," a gresyo fuasai yn bresenol. Dywedodd fod Mr. Glads too wedi bod mewn swydd am flynyddau weitlil, ond na wnaeth un ymgais erioed i ymwney<i, death duties" cyn i'l Llywodraeth brese/J° ymaflyd yn y gorchwyl. Cyhuddodd Mr. Gosoh^. ef hefydj o wneyd camgymeriadau difrifol xSn cy ystadegau. Cynynygiodd Mr. Childers dajflu dylif o °^e ya ar y cwestiwn, ond ni wnaeth ddim ond ty^y cyngor & geiriau heb wybodaeth ac wedi