Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

LLITH O'R bwihyn GWLEDIG.

ESGOBAETfl LLANEIIWY.

PHIODAS EICER GLYNDYFRDWY?…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PHIODAS EICER GLYNDYFRDWY? LLANGOLLEN. ARDDANGOSIADAU MAWREDDOG. Dydd Mercher, yr lleg cyfisol, yr ydoedd pentref prydferth a thawel Glyndyfrdwy yn ferw drwyddo am mai dyma y diwrnod yr ydoedd y Parch. D. Williams a Mrs. Williams yn dychwelyd adref o'u mis mfil," yr hwn a dreuliwyd ganddynt yn Llun- dain. Mor fuan ag y deallodd y plwyfolion fod Mr. Williams wedi do'd i'r penderfyniad mai nid da bod dyn ei hunan," a'i fod yn bwriadu myned i'r ys tAd briodasol, ffurfiwyd pwyllgor i ystyried y modd- fon mwyaf cymwys i ddathlu yr amgylchiad hapus. Cadeirydd y pwyllgor ydoedd Mr. Edward Jones, timber merchant, a gweithredoedd y Mri. Richard Roberts, Dee Cottage, a Thomas Jones, Ty Cerrig, fel ysgrifenydd a trysorydd. Penodwyd casglyddion, y rhai a fuont yn hynod ddiwyd gyda'u gwaith, ac erbyn yr amser penodedig yr ydoedd y swm anrhyd. eddus o X20 mewn Haw. Am ddau o'r gloch pryd- nawn y dydd uchod cyrhaoddodd y pilr ieuanc orsaf Glyndyfrdwy, lie yr ydoedd ugeiniau wedi ymgasglu ynghyd i'w derbyn. Chwifiai llumanau, canai y clychau, chwareuai y seindorf, a thaniai y magnel- au nes gwneyd ein pentref byohan yn fywiog iawn. Wrth yr Ysgoldy Genedlaethol yr ydoedd arch ardderchog wedi ei chyfodi, ac arni yr arwyddeiriau canlynol:—"Success to the bride and bridegroom," "Mewn undeb mae north," Hir oes i Mr. a Mrs. Williams," &c. Ffurfiwyd gorymdaith fawr yn yr orsaf, yr hon a flaenorid gan y pwyllgor a Seindorf Bres Glyndyfrdwy. Llusgwyd Mr. a Mrs. Williams mewn cerbyd gan ugain o ddynion ar hyd y pentref. Pan gyrhaeddwyd y Ficerdy diolchodd Mr. Wil- liams mewn modd teimladwy ar ran Mrs. Williams ag yntau am y caredigrwydd a'r teimladau da a ar- ddahgoswyd tuag atynt. Am 3.30, eisteddodd oddeutu 450 yn yr ysgoldai Cenedlaethol a Brytan- aidd i gyfranogi odea bara brith a barotowyd ar eu cyfer. Ar ol y tê, aethpwyd i faes cyfagos, lie y cafwyd cystadlu mewn cerdded, rhedeg, tynu mewn rhaffau, &c. Y starter ydoedd Mr. W. E. Roberts, yr hwn a wnaeth ei waith yn ganmoladwy. Yn yr hwyr cafwyd dawnsfa yn yr ysgolion Cenedlaethol, a chyfarchodd 4 neu 5 o'r beirdd y p&r priodasol gydag englynion pwrpasol. Diolchodd y Ficer un- waith eto i'r gwyddfodolion am y caredigrwydd a arddangoswyd tuag atynt, a dywedodd ei fod yn gobeithio yn fawr y byddai iddo ef a'i briod fod 0 les tymhorol ac ysbrydol i'r plwyf yn gyffredinol. Gwelsom amryw ddathliadau yn Glyndyfrdwy, ond erioed ni welsom gymaint 0 ddyddordeb yn cael ei gymeryd mewn unrhyw amgylchiad a'r un presenol. Yr ydoedd y llawenydd yn un cyffredinol-enwad- aeth a phlaid wedi eu hangofio yn gyfangwbl. Ym- neillduwyr zelog ydoedd yr ysgrifenydd a'r trysor- ydd, amryw o'r casglyddion, a'r rhan fwyaf o'r boneddigesau ydoedd yn cymeryd gofal o'r tê. Y mae hyn yn dangos fod Mr. Williams, er pan y mae yn Glyndyfrdwy, wedi enill lie amlwg yn nghalonau pob un o'i blwyfolion, a'i fod yn cael ei ystyried fel boneddwr caredig ac fel gweinidog cymwys ao ym- roddgar Credwn hefyd y bydd Mrs. Williams yn gynorthwy mawr iddo |gyda'i ddyledswyddau, gan ei bod yn Gymraes lan loew, ac yn ol pob ym- ddangosiad yn foneddiges ostyngedig a charedig. Hir oes a llwyddiant iddynt i wneuthur llawer o ddaioni ydyw dymuniad mwyaf diffuant eu hoi blwyfolion.

LLANGATTWG, CRUGHYWEL.

FFAITH GWERTH EI CHOFNODI.

Y LLADRAD 0 WAITH AUR GWYNFYNYDD.

ARDALYDD RIPON YN LLANELLI.

IECHYD YMERAWDWR GERMANI.

Y FRENHINES VICTORIA YN BERLIN

MAINDEE.

Boreu DDYDD Iau.

Y DIWEDDAR ARGLWYDD BEACONSFIELD.

GWELLIANT GAN MR. GLADSTONE-