Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

EGLWYSWRW.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EGLWYSWRW. Yr wythnos ddiweddaf bu farw, yn y gymydogaeth r hon, hen gymeriad na cheir mo'i gyffelyb ond pur an- fynych. Yr oedd Eben Wallis 11 yn hollol adnabyddus i'r rhan fwyaf 0 drigolion siroedd Aberteifi, Caer- fyrddin, a Phenfro. Teithiai yn ei gylch o fferm i fferm yn rheolaidd, ac yr oedd drwa agored i Eben pa bryd bynag y denai. Yr oedd yn hollol ddiniwed, ao 0 duedd hynod grefyddol. Adrodd pregethau, a chanu thai 0 emynau a thonau melus y dyadiau gynt oedd gwaith bywyd yr hen Eben. Y tro diweddaf y clywaiB ef oedd yn ngwaelod sir Aberteifi, yn canu gyda bias, Ac oa oedd dyled arnynt hwy," ar un 0 hen donau oyntaf fy mhlentyndod. Druan o Eben, daeth yn ei gwrs i Derwenfron, a phan yn croesi y buarth syrthiodd i lawr, a bu farw yn y fan. Heddwch i lwch yr hen bererin, a Naf i'w enaid. Derbyniodd y Dadgysylltwyr ergyd drom yn y plwyf hwn ddydd Mercher diweddaf. Yma y mae cadeirydd y gwrth-ddegymwyr yn byw, ac er mwyn bychanu yr Eglwys penderfynodd y gwr hwn ddangos ei alia trwy gymeryd y swydd 0 warcheidwad y tlodionoddiar y Ficer i'w law ei hnn. Ymarfogodd i ryfel gyda phob ymddiried yn ei bwysigrwydd ei hun—clywid corn y gid yn galw 0 Dan i Bearseha-a chasglwyd y saint o for i fynydd. Ar ol torsythu o flaen y plwyfolion am rai dyddian fel y Goliath oedd wedi dyfod allan yn anterth ei nerth, i ddarostwng yr Eglwys i'r llwch, daeth dydd y frwydr, pryd y cafwyd fod 0 blaid y Ficer 72, a chyda y Gwr o'r Palle 54. Heblaw hyn collodd y Ficer 9 o bleidleisiau oherwydd esgeulusdra; oni bai hyny buasai eanddo fwyafrif 0 haner cymaint arall ag a gafodd prif gynhyrfwr yr ardal. Dyma brawf eto, at y lliosog brofion eraill, nad ydyw corn y bobl yn elyn- iaethus i'r Eglwys, ac mai dyrnaid fechan 0 ysgragl- ach sydd yn cadw yn fyw y cynwrf presenol er mwyn hunan-les.-Cdmro.

LLECHRYD, CEREDIGION.

GWRECSAM.

DINBYCH.

CAERDYDD.

LLANBEDROG.

TALSARNAU.

LLANDILO.

BRYNAMAN.

DOWLAIS.

YSPYTTY IFAN.

I'ST. LAWRENCE.

LLANYCHLLWYDOG, A LLANLLAWER.

LEANARTH.

HENDY GWYN AR DAF.

VALLEY, MON.