Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

EGLWYSWRW.

LLECHRYD, CEREDIGION.

GWRECSAM.

DINBYCH.

CAERDYDD.

LLANBEDROG.

TALSARNAU.

LLANDILO.

BRYNAMAN.

DOWLAIS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DOWLAIS. CYFARFOD CHWARTEROL ATHRAWON YSGOLION SUL YR EGLWYS.—NOB Iau, y 12fed cyfisol, yn y Coffee Tavern, ymgyfarfu athrawon Ysgol Snl yr Eglwys Gymreig, a'r gangen, Bef Gellifaelog a Phengarndau. Lly wyddwyd gan ein parchns Reithor. Darllenwyd papyr ar y "Pasg" gan William Howells, Pengarndda. Derbyn- iodd y darllenydd gymeradwyaeth uchel oddiar law pawb oedd yn bresenol am ei Bylwadau gafaelgar a phwrpaBol ar y testyn. Tynwyd allan ychydig reolau newyddion gyda golwg ar ddwyn ymlaen waith y oyfarfodydd hyn yn fwy deheuig a threfnus. Hefyd, penderfynwyd mai 0 Gellifaelog y bydd y papyr nesaf i gael ei ddarllen. Ac edrychir ymlaen am wledd bob amser o'r cyfeiriad hwn. ANRHEG MADAWOL.-Nos Sadwrn cyn y diweddaf ymgyfarfu aelodau Guild St. Andreas yn yr Yagoldy er mwyn cyflwyno anrheg fechan i Mr. W. Lintern, gwr ieuanc gobeithiol iawn fel organydd, ar yr achlysur o'i ymadawiad a'r lie am Blaenafon, i fod yn organydd yn eglwys y plwyf hwnw. Teimlir colled fawr ar ei ol yn Dowlais, yn arbenig yn nghyfarfodydd y Guilds, a chor yr Eglwys Seisnig. Yr oedd yr anrheg yn gynwys. edig o amryw lyfrau ar gerddoriaeth. Dymunir pob llwyddiant i Mr. Lintern gan bobl Dowlais, gyda'r gwaith da y mae wedi ymgymeryd ag ef.

YSPYTTY IFAN.

I'ST. LAWRENCE.

LLANYCHLLWYDOG, A LLANLLAWER.

LEANARTH.

HENDY GWYN AR DAF.

VALLEY, MON.