Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

EGLWYSWRW.

LLECHRYD, CEREDIGION.

GWRECSAM.

DINBYCH.

CAERDYDD.

LLANBEDROG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANBEDROG. BRWDFRYDEDD.—Dydd Ian, y 19eg cyfisol, yr oedd y dydd hwn yn ddiwrnod eithriadol yn y plwyf hwn fel lliaws eraill trwy y Dywsogaetb, sef dydd priodas y tir- feddianydd a'r boneddwr Mr. Assheton Smith, caredig- rwydd a dyngarwch yr hwn sydd bellach yn wybyddus trwy Gymru benbaladr. Er nad yw nifer ei denantiaid ond ychydig o'u cydmaru yn y plwyf hwn, er hyny ni phetruswn hysbysu y cyhoedd ddarfod iddynt gario allan eu teimladau a'u deisyfiadau daionus mewn ym- ddygiadau mor ddoeth ac mor frwdfrydol ac unrhyw o'i wyth cant tenantiaid. Yn y pwyllgor ffurfiedig o'i denantiaid daethpwyd i'r penderfyniadau canlynol Ar fod i'r arian mewn llaw adanysgrifwyd fel ycanlyn, y Parch. J. Rowlands, £1; Mr. J. Williams, Bodwrog, 10s.; Mr. E. Williams, Tanymynydd, 5s.; Mr. O. Owens, Caerdeircwys, 5s.; Mr. R. Prichard, Tany- mynydd, 3s. 6c.; Mr. W. Evans, Gaefion, 2s.; Mr. W. Jones, Tanymynydd, 2s.: Mr: W. Evans, Tanymynydd, 2a.; Miss J. Evans, Tanymynydd, Is. 6c.; cyfanswm, Y,2 lls. gael eu gwario am fara i Mr. H. Jones, Baker, Glasfryn House, ac yr oedd yr oil o hono i gael ei wneyd yn dorthau 6c., ac fod pawb yn y plwyf a ddewisai ddyfod i gyrchu un, ac hefyd fod i Mr. H. Jones, ddwyn y torthau gerllaw y Rheithordy, yr hyn a wnaed yn brydlon, lie y gweinyddwyd ar y bobl gan y Parch. J. Rowlands; Mri. E. Williams, Tanymynydd; O. Owens, Caerdeircwys, ac H. King, Brynhyfryd. Cyflawnodd Mr. H. Jones y gofynion dan gamp, ac yr ydym yn hyderu y bydd hyn yn hysbyseb lwyddipnns a manteiaiol iddo yn ei ymgymeriad a'r gangen hon o fasnach. Yr oedd banerau o wahanol faintioli, ilun, a lliw, wedi eu codi i chwifio yn yr awel ar fryn a dol, a swn ergydion didor i'w clywed 0 wahanol gyfeiriadau yn pellebru eu negeseuau hyd yr hwyr, pryd yr oedd boll ffenestri aneddau y tenantiaid wedi eu goroleuo chanwyllau bron yn ddirif, a chopa hen fynydd Digwm- wd wedi ei goroni a. than mawr, am yr hwn yn benaf yr ydym yn ddyledus i Mri. Prichard a Jones, Tany- mynydd. CYNGERDD MAWREDDOG.-Nos Iau (sef yr un noswaith) cafwyd cyngerdd mawreddog o natur cyngherddau y Friallen yn Ysgoldy Genedlaethol y lie uchod, yr hwn a ddygwyd i fod gan Mrs. Angerstein. Glynyweddw Hall, Llanbedrog. Y mae y foneddiges hon wedi rhestru lliaws yn aelodau o Gyngrair y Friallen yn y lie hwn, ond hyd yma y mae y gymdoithas heb ei sefydlu yn ein plith, oblegid hyn byddem yn arfer ym- gynull i'r cyfryw gyfarfodydd a gynhelid yn Pwllheli. ODd gan y gwyddai Mrs. Angerstein am y defnyddiau rhagorol a geir yma, daeth i'r penderfyniad o'i dwyn ynghyd i'r diben o gael cyfarfod cartrefol. Yr oedd yr ysgoldy wedi ei gwisgo yn hynod brydferth abaneri, &c. Ll 7wyddwyd gan Mr. J. Angerstein, yr hwn, wedi an- erc )iad byr o berthynas i'r cyfarfod, a aeth rhagddo i alw yn ol y rhaglen ar y boneddigesau a'r boneddigion anlynolDeuawd ar y berdoneg gan v Misses L. a Z. Angerstein can, Mr. W. Wallis, Tanymynydd can, Mr. R. Roberts (Eos y Nant), yn cael ei ddilyn ary berdoneg gan Miss Z. Angerstein; can, Miss M. Wil- liams, yn cael ei dilyn ar y berdoneg gan Miss Wil- liams, Bodfean can, Mr. H. King, yn cael ei ddilyn ar y berdoneg gan Miss Caldecot; deuawd ar y berdoneg, Mrs. a Miss Z. Angerstein; canig, 'The dawn of day,' Llanbedrog Glee Party deuawd, God bless the Prince of Wales,' Mri. A. Blades a J. Jonea unawd ar y berdoneg, Miss Caldecot; can, Give me a penny, Sir,' Miss Z. Angerstein; can, Mr. J. Jones, yn cael ei ddilyn ar y berdoneg gan Mr. H. King; denawd ar y cnvth a'r berdoneg, y Misses L. a Z. Angerstein can, Mr. J. Angerstein, yn cael ei ddilyn gan Mrs. Angerstein ar y berdoneg; can, Mr. H. 'King; unawdy Misa L. Angerstein; unawd ar y berdoneg, Mrs* Angerstein; can,' Twr Babel,' Eos yNant; canig, y Glee Party. Y maa bod encorio yn effaith mynych a chyffredin yn awgrymu rhagoroldeb diambeuol 7 cyngerdd hwn. Wedi diolch yn y modd arferol i f llywydd, y chwareuwyr, o'r dadganwyr, rhoddwyd tair banllef frwdfrydig i Mr. a Mrs. Assheton Smith. Yna canwyd yr Anthem Genediaethol ac ymwahanodd y cynulliad. Tywotyn. DIRWEST.-Nos Lun, y 23ain cyfisol, 0 dan nawdd y G.D.E., sefydledig yn y lie. Citwsom an yn ychwaneg o'r cyfarfodydd adeiladol a manteisiol hyn, yr hwn yn rhagorol a lywyddwyd gan Mr. W. Russell, goruchwyl: iwr y Llanbedrog Granite Quarry, gan yr hwn wedi canu emyn a gweddio y cafwyd anerchiad byr. Cymer. wyd rhan anerchiadol gan y boneddigion a ganlyn Mri. W. Roberts, Evan Owen, W. Heigh way, H. Hughes, a'r Parch. J. Rowlands. Hefyd cafwyd dadl "yLili a'r Dderwen," gan Mri. Ernest Russell ac Edward Jones (Caradog Bach o'r North); adroddiad campus gan Miss M. Russell; can gan Mr. H. King, yr ysgolfeistr, I am almost persuaded," a chanwyd rhai hymnau yn gyffredinol yn ystod y cyfarfod. Yn y modd amrywiol yma yn ol ein hamcan yr ydym yn gallu boddio pawb, trwy ddangos yr egwyddor ddirwestol o wahanol gyfeiriadau ac i wahanol fanteision. Prawf o'n llwyddiant ydyw y cynuliiadau sy'n parhau i ddilyn y dosbarth yma o gyfarfodydd, ac addawon o'n (llwydd- iant ydyw fod rhywrai newyddion yn esgyn i handlo y cledd ar Iwyfan y rhyfel hon. Terfynwyd y oyfarfod trwy ganu yr Anthem Genedlaethol.-Tywotyn.

TALSARNAU.

LLANDILO.

BRYNAMAN.

DOWLAIS.

YSPYTTY IFAN.

I'ST. LAWRENCE.

LLANYCHLLWYDOG, A LLANLLAWER.

LEANARTH.

HENDY GWYN AR DAF.

VALLEY, MON.