Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

EGLWYSWRW.

LLECHRYD, CEREDIGION.

GWRECSAM.

DINBYCH.

CAERDYDD.

LLANBEDROG.

TALSARNAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TALSARNAU. Tua thair wythnos yn ol cyfarfu Mr. George Downes a damwain, trwy iddo syrthio a thori ei goes, pan ar ei ffordd gartref 0 Harleoh. Da genym glywed ei fod yn gwella yn araf dan ofal y medrus a'r gofalus Ddoctor Jones, Harlech. Dydd Sul, y 15fed cyfisol, bu farw Mrs. Downes. Yr oedd wedi dioddef cystudd caled 0 dro i dro, ond o'r diwedd fe ddaeth yr ergyd olaf, pa un a'i cymerodd ymaith yn sydyn ac annisgwyliadwy. Cydymdeimlir yn fawr a Mr. George Downes yn ei brofedigaeth lem. Y dydd Ian dilynol, hebryngwyd gweddillion marwol yr ymadawedig i dy ei bit gartref yn mynwent Llanfihangel-y-Traethau. Gweinyddwyd yn y ty ac yn yr eglwys gan ein parchus reithor, y Parch. J. Evans, ac ar lan y bedd gan y Parch. J. Hughes, curad. EGLWYS CRIST.-Nos Ian, y 19eg cyfisol, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. Hughes, a phregethwyd yn hynod effeithiol gan y Parch. John Evans, Llan- ddulas, sef brawd em parchus Reithor. Yn absenoldeb Miss Jones, chwareuwyd yr harmonium gan Mr. R. J ones-Morris. Yr oedd cynulliad da wedi dyfod ynghyd a phawb yn mwynhau pregeth y gwr dielthr.

LLANDILO.

BRYNAMAN.

DOWLAIS.

YSPYTTY IFAN.

I'ST. LAWRENCE.

LLANYCHLLWYDOG, A LLANLLAWER.

LEANARTH.

HENDY GWYN AR DAF.

VALLEY, MON.