Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
CIGYDDIO MASNACHWYR PRYDEINIG.…
CIGYDDIO MASNACHWYR PRYDEINIG. Y ^ae hysbysrwydd wedi cyraedd o Cape Juby Sn Gogledd-Orllewinol Affrica, yn w y brodorion wedi ymosod ar dy w a°bol Seisnig yno, a lladd amryw o'r rhai a ^ethant yno, yn cynwys llywodraethwr y Hi ^r" ^oore" Ymddengys mai anrheithio yr amcan mewn golwg. Ofnir y gall iojj ^adau adnewyddol o'r fath gymeryd lie, gan mawr yn bodoli ymhlith y brodorion. Caney gwnfad Falcon wedi gadael Gibraltar am ^o<j mewn canlyniad i'r terfysg ymhlith y Qlon.
Lillys YR ymerawdwr WILLIAM.…
Lillys YR ymerawdwr WILLIAM. t ^>00q ° ffortiwn yr Ymerawdwr "William yn '^0 marks, o'r hwn swm y mae yr Augusta yn derbyn tair milliwn, y 0g6s -duchess of Baden, y Tywysog a'r Dywys- kct?.ka Coronog, a'r Tywysog Henry 1,000,000 bvyto —y mae yr olaf yn derbyn etifeddiaeth 4 ar e* gyfer- O swm 0 filiwn o marks §an yr Ymerawdwr, y mae yr Ymer- an: )):Frederiek i dderbyn 375,000 marks, a'r ^Bori aC'les °* Baden 250,000 marks. Y mae Goron i dderbyn deuddeng miliwn fyfty gaac y mae y gweddill yn cael eu llyncu i an aiQrywiol gymunroddion ereill.
YldERAWDvVR YR ALMAEN.
YldERAWDvVR YR ALMAEN. iechyd yr Ymerawdwr yn foddhaol a'r J^d ia- Dywedir nad oedd y dwymyn v1 ^bygol^k ddim yn annisgwyliadwy, a'i fod ^hiGes 4yilfCae^ ei achosi gan ymweliad ein ag of.
YMLADDFA FFYRNIG GYDA. CHAITCH…
YMLADDFA FFYRNIG GYDA. CHAITCH A-RO RION. Pellebyr o Cairo nos Sul diweddaf a ddywed i ymladdfa arswydus gymeryd lie yn Damanhour, oddeutu deuddeng milldir o Alexandria. Llwydd- odd dau garcharor, y rhai oedd dan gondemniad i farw, yn cael cu cynorthwyo gan ddeunaw o garcharorion eraill, i ddianc o'r carchar. Dilyn- wyd hwy gan yr heddgeidwaid, ond cyn iddynt allu eu dal rhedodd y ffoaduriaid am nodded i adeilad oedd ar eu ffordd. Yma cymerodd ym- laddfa waedlyd le, yn ystod yr hon y lladdwyd pymtheg o'r carcharorion ae y clwyfwyd dau, tra y lladdwyd pedwar o'r heddgeidwaid ac y clwyf- wyd dau.
ETHOLIAD MID-LANARK.
ETHOLIAD MID-LANARK. Cymerodd yr yr etholiad uchod le ddydd Gwener diweddaf. Aeth y gynrychiolaeth yn wAg oherwyddymddiswyddiad Mr. Stephen Mason, y Cynrychiolydd Gladstonaidd. Tua cfcanol nos gwnaed yn hysbys mai y Rhyddfryd. wr Gladstonaidd oedd wedi ei ddychwelyd allan o'r tri ymgeisydd oedd ar y maes. Weley ffic,yrau C, Phillips (Gladetoniad) 3,847 Bousfield (Ceidwadwr) 2,917 Keir-Hardie (Ymgeisydd Llafur) 617 1
ITALI AC ABYSSINIA.
ITALI AC ABYSSINIA. ^erbyniwyd brysneges i'r perwyl canlynol yn o Massowah ddydd Sadwrn:—"Dychwel- J y Cadfridog Marzano yma ddoe o Aden, He y °flcltyyd derbyniad croesawgar iddo gan yr "irdodau Prydeinig. Mor fuan ag y dychwelodd I adfridog, rhoddodl Kantibai Aman iddo nifer ythyrau a dderbyniwyd oddiwrth y periaethiaid ^Seinaidd, a dyrr.nnodd am ganiatad i dalu eliad a'r Negus, yr hwn a gredai oedd yn .^ddtia am heddwch, er mwyn cael ymdriniaeth j fif ynghylch y telerau a gynygiai. Rhoddodd ^Cadfridog y caniatad angenrheidiol." Ar- angosir llawenydd mawr yn Rhufain yn y ^a8olwg y bydd i Kantibai fod yn llwyddianus 61 ymdrechion i sicrhau telerau heddwch. -0.
LtOFkUDDIAETII TYBIEDIG Yj…
LtOFkUDDIAETII TYBIEDIG Yj MARDI. diweddar o Cairo a hysbysant fod y 4hai wedi cael ei lofruddio gan ei raglaw, yr sydd wedi rhoddi ei hun mewn awdurdod yn 6* Ymddengys nas gallir ar hyn o bryd ei erbYn hyn fel gwirionedd, gan nad ydyw wedi 8adarnhau yn swyddogol.
LLOFRUDDIO TEULU SEISNIG.
LLOFRUDDIO TEULU SEISNIG. agerlongau sydd newydd gyraedd o i'r wlad hon yn rhoddi ychydig fanylion o, D Perthynas 1 lofruddiaeth ofnadwy a gymer- k, yn Calhoun County, Virginia. Aeth .^ynwr o'r enw Haller, yr hwn oedd yn «^eddar wedi ymfudo o sir Stafford, i'r farchnad ei stoc, gan adael ei wraig a'i dri !Vtyri gartref. Wrth ddychwelyd tua chanol 408 RYda chymydog o'r enw Tweed gwelai oleuni K* Pan edrychasant drwy ffenestr, dych- ffi. asant wrth weled Mrs. Haller a'r plant yn Won ar lawr, a phedwar o ddynion yn yspeilio ystafell. Safodd Tweed yn mhrif ddrws y ty tuda^r ii r *'r °efn. Bhuthrodd y llof- 6aethwvd T'a thra yr oedaynt yQ gwneyd hyny jja a gan Tweed, yr hwn a laddodd on^n^ & chlwyfwyd y ddau arall yn
MR. GLAIDSTONE A CHAMLAS SUEZ.
MR. GLAIDSTONE A CHAMLAS SUEZ. Mae Mr. Gladstone wedi anfon llytbyr-gerdyn at un o'i filoedd gohebwyr ynghylch pryniant y cyfranddaliadau yn Nghamlas Suez, a dywed ei fod ef yn ystyried y pryniant yn waeth nag ynfyd. Yr oedd yn niwediol ac yn beryglus. Dywed na fu iddo ddweyd gair erioed yn erbyn hyn fel anturiaeth arianol. Mae yn rhoddi croesaw i'w ohebydd i wneyd cynwys ei lythyr yn hysbys.
»— GWALLGOFRWYDD CREFYDDOL…
» — GWALLGOFRWYDD CREFYDDOL YN NHREFALDWYN. Y mae achos anghyffredin o wallgofrwydd crefyddol newydd ddigwydd yn Nhrefaldwyn. Gadawodd dyn o'r enw Price ei gartref ychydig ddyddiau yn ol, ac ymunodd & Byddin yr Iachawdwriaeth. Ymddangosai fel yn cymeryd y dyddordeb mwyaf yn y symudiad, a dechreu. odd bregethu. Caed allan ei fod wedi myned ymaith, ao ar ol chwilio yn mhellach cafwyd ef tua milldir o'r lIe yn noeth, ac yn pregethu mewn llwyn. Yr oedd ei goesau wedi eu briwio yn enbyd; ond, er hyn oil, ymddangosai fod ei boll feddwl ar bregethu er mwyn achub eneidiau, ac yn hollol ddiystyr o bobpeth arall. Pan y gofynwyd iddo ddyfod adret gwrthdododd, a bu raid cael help llawer o ddynion i'w symud o'r lie i'w gludo i Wallgofdy Bixton.
GWRTHDARAWIAD AR Y SIANEL.
GWRTHDARAWIAD AR Y SIANEL. Tua deg o'r gloch foreu ddydd Sadwrn di. weddaf cymerodd gwrthdarawiad le yn agos i Ynys Wyth rhwng dwy long Brydeinig o'r enw Moto a Smyrna, y naill yn rhwym o Bilboa am Newcastle, a'r Hall yn rhwym o Lundain am Sydney. Suddodd y Smyrna yn ebrwydd, a botJdodd tri ar ddeg o'i bwylaw. Dygwyd y gweddill o'r dynion i Southampton ar fwrdd y Moto.
EFFEITHIAU BRANDI AC OPIWM.
EFFEITHIAU BRANDI AC OPIWM. Yn Southport, ddydd Mawrth, cyhuddwyd boneddiges o'r enw Mary Frances Dickenson, gwraig Dr. Dickenson, o ladrata pwrs yn cynwys modrwy ddiemwnt, o 18, Bank Square, yn y dref hono. Ymddengys fod y garchares wedi gwystlo y fodrwy yn masnachdy Mr. Isaac Jones, yn Lerpwl. Pan gyhuddwyd hi o'i lladrata, dy. wedodd, le, fi a'i eymerodd; yr oeddwn mewn diod." Mewn atebiad i'r ynadon dywedodd i'w gwr roddi bran,di ac opiwm iddi. Yr oedd efe yn wr meddw iawn, ac yn ddiweddar wedi bod yn yfed yn drwm. Yr oedd ganddi dri o blant bychain ac os byddai i'r ynadon edrych dros y camwedd, byddai iddi dalu yr arian. Tystiodd un heddgeidwad nad oedd yn bosibl dewia rhwng y gwr a'r wraig-fod y ddau cynddrwg a'u gilydd amyddiod. Rhwymwyd y garchares i ym- ddangos o flaen yr ynadon y dydd canlynol. Wrth ymadael a'r llys wylai yn chwerw.
CAEL CORPH BABAN MEWN CER-BYDRES…
CAEL CORPH BABAN MEWN CER- BYDRES YN NGORSAF CAER- NAUKOX. Ar gyrhaeddiad tren tuag haner awr wedi wyth o Afonwen yn ngorsaf Caernarfon, boreu dydd Sadwrn, daeth Mr. Robert Hughes, casglydd tocynau, o hyd i foes pren ysgwar wedi ei lapio mewn papyr llwyd a'i gylymu & llinyn mewn cerbyd o'r trydydd dosbarth. Yr oedd Lime Street, Liverpool," wedi ei ysgrifenu arno. Nid oedd neb yn y cerbyd, a chan nad oedd neb yn hawlio y bocs aeth Hughes ag ef i un o swydd. fuydd yr orsaf, lie yr agorwyd ac ef y cafwyd ynddo weddillion plentyn bcnywaidd tua phymthegnos oed. Rhoddwyd hysbysrwydd i'r heddgeidwaid ar unwaith, y rhai sydd yn awr wrth y gwaith o geisio dadrys y dirgelwch.
HUNANLADDIAD BONEDDIGES MEWN…
HUNANLADDIAD BONEDDIGES MEWN CERBYD. Ychydig cyn wyth o'r gloch nos Iau darfu i foneddiges gyflogi cerbyd o'r Grand Hotel, yn Charing Cross, Llundain, a .myned i mewn iddo, gan ddymuno ar iddi gael ei dwyn i Piccadilly. Wrth gyraedd Piccadilly Circus clywyd swn arfau tin, a gwelwyd IDwg yn dyfod allan o ffenestr y cerbyd. Rhuthrodd heddgeidwad ymlaen, a gwelodd fod y foneddiges wedi saethu ei hun drwy ei phen a, llawddryll. Aed a hi yn ddioed i St. George's Hospital; ac erbyn cyraedd yno, caed ei bod o hyd yn tyw, ond mewn, eyflwr an- ymwybodol. Nis gwyddir eto pwy ydyw; ond bernir, oddiwrth ei dillad a'i hymddangosiad, ei bod yn foneddiges o sefyllfa uchel. ir»
RHODD HAELIONUS 0 CHWARTER…
RHODD HAELIONUS 0 CHWARTER MILIWN. Hysbysir ni fod Syr A. B. Walker yn foddlon dwyn y draul o adeiladu eglwys gadeiriol i Lerpwl, yr hyn, gyda'r tir angenrheidiol, fydd yn fwy na chwarter miliwn o bunau (250,000). Mae arch-adeiladydd enwog o Lerpwl yn awr wrth y gorchwyl o dynu allan gynlluniau yr adeilad.
HeiBgiiiittm Cvffrtbittiol.
HeiBgiiiittm Cvffrtbittiol. SYRTHIAD LLOFFT.—Dydd Sadwrn diweddaf, tra y cynhelid arddangosfa berthynol i ysgol yn Rushsylvania, Ohio, America, rhoddodd llawr y neuadd uchaf ffordd, a syrthiodd y bobl ymgynull- edig bendramwnwgl i'r ystafell islaw, nes lladd dau o honynt yn y fan, a niweidio haner cant- rhai yn ddifrifol. DARGANFOD MWN ARIAN YN NGHYMRU.—Yn sicr y mae Cymru yn y dyddiau hyn yn myned yn enwog am ei mwnau. Y mae er's llawer dydd wedi enill enw iddi ei hun yn ei glo, ei [llechi, a'i phlwm ond yn awr, ei mwn aur ac arian sydd fwyaf yn y golwg. Mae wedi ei brofi tuhwnt i amheuaeth fod rhanau o Sir Feirionydd yn cynwys swm helaeth o fwn aur, ond erbyn hyn ymddengys fod mwn arian hefyd i'w gael yn Neheudir Cymru. Fel yr oedd niter o ddynion yn cloddio lTynon ar fferm Hareslade, ger Brandy Cove, wedi iddynt fyned i'r dyfnder o 30 troed- fedd, daethant ar draws haen o ryw fath o fwn, fel y tybient, yr hwn oedd yn cynwys gronynau disglaer iawn. Anfonodd y dynion y mwn i'r wyneb, a gosodasant ef yn un pentwr gyda'u gilydd, ac aethant ymlaen a'u gwaith heb dalu sylw pellach iddo. Yn fuan ar ol hyn daeth bon- eddwr heibio, ac wedi gweled y pentwr mwn, efe a gymerodd ddarn o hono i ddyn cyfarwydd i'w brofi. Dywedai hwn ei fod yn cynwys swm helaeth o arian,—ar gyfartaledd ddwy wns ar bymtheg i'r dunell. Gwelwyd fod y mwn hefyd yn cynwys swm da o blwm, ac os ceir allan fod yn y lie faen o ryw faintioli, bydd yn ddargan- fyddiad gwerthfawr. HUNANLADDIADAU YN BIRMINGHAM.—Yn ystod yr wythnos ddiweddaf eyflawnwyd lliaws o hun- anladdiadau yn Birmingham, ymhlith y rhai y gallwn nodi y rhai canlynol :-Dwy ferch wedi cymeryd gwenwyn oherwydd ftraeo a'u cariadau; tafarnwr oedranus yn crogi ei hun, gan ei fod mewn poen prynwr anifeiliaid yn tori ei wddf oherwydd tlodi; morwyn yn cymeryd gwenwyn am ei bod yn cael ei chyhuddo o fod yn anonest tra y cymerodd dyn arall wenwyn tra yn eistedd yn un o'r llyfrgelloedd cyhoeddus GWEITHIAU AUR GWYNFYNYDD.—Mae y Llyw- odraeth wedi rhoddi gorchymyn nad oes unrhyw aur i gael ei gludo o'r gweithiau uchod hyd nes y penderfynir mewn llys gwladol a oes gan Mr. Pritchard Morgan, y perchenog, hawl i wneyd hyny. Fel y gellid tybied mae yr hyn a wnaed gan y Llywodraeth wedi peri cyffro yn Ngogledd Cymru, gan fod dau gant o ddynion yn gweithio yn Gwynfynydd, ac eisoes werth uwchlaw wyth mil o bunau o aur wedi ei gludo i Lundain. Dy. wedir fod ugeiniau o dunelli o geryg yn barod i gael eu malu, ond rhaid aros hyd nes y pender- fynir y mater gan swyddogion y Goron. YMFUDIAETH I'R UNOL DALEITHIAU A CANADA.— Hysbysir fod pedair mil ar ddeg o bersonau wedi ymfado o Lerpwl i'r Unol Daleithiau a Canada yn ystod yr wythnos ddiweddaf, yn cael eu cludo gan ddeuddeg o agerlongau mawrion. Er fod y nifer yn uchel anarferol, eto tybir y bydd i lawn cymaint ymfudo yr wythnosau nesaf. Mae y fath nifer o ymfudwyr yn gwasgu yn drwm ar y gwahanol gwmniau, ac i gyfarfod a hyn, rhaid oedd rhoddi agerlongau ychwanegol ar waith. Yn ystod yr wythnos ddiweddaf, yr oedd heolydd Lerpwl yn edrych yn dra bywiog, gan fel yr oedd gwahanol ymfudwyr yn eu tramwyo. Yr oedd nifer mawr o honynt yn dyfod o'r cyfandir, ac allan o'r deuddeg mil aeth chwe' mil a haner i Canada. METHDALIAD TRWM .—Newyddion o Gaergrawnt a hysbysant fod Mr. Ephraim Wayman, cyfreith- iwr, Caergrawnt, wedi myned yn fethdalwr, a bod ei ddyledion yn cyraedd can' mil o bunau. Mae canlyniadau alaethus eisioes wedi dilyn y meth. daliad hwn-un boneddwr wedi oyfiawni hunan- laddiad, a Iliaws o foneddigion eraill wedi colli yr oil a feddent. Yr oedd y golygfeydd yn ac o amgylch swyddfa y eyfreithiwr ddydd Sadwrn yn galonrwygol, a wylai y rhai oeddynt wedi colli eu harian mor ddisymwth yn hidl yn yr heolydd. Yehydig ddyddiau yn ol ymadawodd Mr. Way- man o'r dref, ac nid yw wedi dychwelyd. Pe canfyddasid ef ddydd Sadwrn gan y trueiniaid a gawsant eu twyllo, buasai ei fywyd yn sicr mewn perygl. CAMLAS MANCHESTER.—Ar ol i'r tywydd caled fyned heibio, y mae y gwaith mawr hwn yn myned ymlaen yn gyflym yn awr. Dywedir fod y prysurdeb mwyaf yn bod yn Warrington a'r amgylchoedd: peirianau mawrion ar waith ymhob cyfeiriad, a chanoedd lawer o weithwyr yn gweithio yn y gwahanol leoedd. Yn ystod yr haf hysbysir y bydd oddeutu ugain mil o bersonan ar waith ar hyd yr holl gamlas, a phar y newydd hwn galondid mawr ilafurwyr ein gwlad. Os yw y cyflog dipyn yn isel, da yw cael gwaith o ryw fath pan y mae sefyllfa pethau mor wasgedig. Rhydd y fath antnriaeth symbyliad i fasnach yn gyffredinol, ni a obeithiwn, canys bydd y ffaith fod cynifer yn cael eu bywoliaeth oddiwrthi yn rhwym o effeithio i gryn raddau ar fasnach y wlad. DWYLAW LLONG WEDI EU DIFA GAN FOR- FLEIDDIAID.-Y dydd o'r blaen dygodd yr ager- long Etruria" hysbysrwydd difrifol am dynged dwylaw llong. Ymddengys i long o'r enw Dwarka," gyda saith o bersonau ar ei bwrdd, tra ar ei mordaith i Kurrachee, fyned yn ddryl4. ian ar ororau Cutch. Aeth un dwylaw i ben yr hwylbren, ond gan nerth y gwynt a'r tonau, ym. ryddhaodd oddiwrth y llong, a lluchiwyd ef gan y mor tua'r lan. Tra yn y setyllfa hon, clywyd un o'r cymdeithion yn llefain, a diflanodd o'r golwg. Y lleill, er eu braw, a welsant eu bod yn cael eu hamgylchynu gan for-fleiddiaid, ac oher- wydd hyny nad oedd gobaith am waredigaeth. Cymerwyd yr oil ond un ymaitb gan y creadur. iaid ysglyfaethus, ac ar ol i'r olaf gael ei luchio yn ol ac ymlaen gan y tonau am ddau ddiwrnod, gan ddisgwyl bob munyd gael ei lyncu gan y mor- fleiddiaid fel ei gymdeithion, golehwyd ef yn ddiogel i'r lan gan y mor. Nid yn ami y clywir am y fath hanesyn torcalonus a hwn.