Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Y MESURAU DEGYMOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I GAN EIN GOHEBYDD ARBENIGt.] Y MESURAU DEGYMOL. Nhy yr Arglwyddi, yr wythnos ddiweddaf yaa Mawrth), cynygiodd Ardalydd Salisbury ail ^tlleniad y Mesurau uchod, y rhai nad ydynt, gwirionedd, ond un Mesur, yn cynwys gwa- ^°1 adranau. ywedodd Iarll Delawarr fod yr ardreth-d&l pre- Wedi ei sefydlu mewn ameer pan oedd prisiau v^rchnad amaethyddol yn llawer uwch nag oedd- yn bresenol. O ganlyniad, yr oedd yn angen- ad-drefnu y tfi,l; ond nid oedd ei arglwydd- th yn gauu oanfod yn y Mesur urirhyw ddarpar- "h i'r perwyl hwnw, yr hyn oedd y prif gamwri y W)"Iid o'i blegid gan amaethwyr a thirfeddianwyr. Ylwodd Iarll Kimberley y buasai y ddarpariaeth odgYnWYBai y Mesur a ddygwyd i mewn gan y Llyw- J y flwyddyn ddiweddaf yn fwy eSeithiol fel s 0 godi degymau na'r hyn a gynygid yn y Mesur o sylw. Yn ol y Mesur hwnw, y tirfeddianydd ad a 1 dalu y degwm ond, os oedd ef yn iawn g eal}y Mesur hwn, at y tenant, wedi'r cwbl, y ^eid caig am y Q thebygol y gwnai gynyg yr SWrthwynebiad ag a wnai yn bresenol. Nid oedd yn dymuno cynyg unrhyw wrthwynebiad i'r ail gy^^iad, ond ofnai y syrthiai y Mesur yn fyr o hoii yr am°an mawn golwg, a'r hwn yr oedd yn gyflymdeimlo. Aad-e<il sylwadau beirniadol gan Arglwydd lllgton a Barwn Bramwell. igw Archesgob Caergaint ymsyniad y cler-1 <a-W,y Hafur personol, a'r dymuniad i A oyfiawniaer hyn a amlygasid ti^jj rglwydd Salisbury yngtyn a'r cwes- yix a, O0dd y clerigwyr wedi teimlo a ^ff8 fodoleeth y rhwystrau tymhorol °r^ oyfla-wniad eu gwaith ysbrydol. Yr ^rv?a8B"^|6di flioddef yn dost mewn canlyniad i'r la amaethyddol, ond gelwid arnynt yn awr er mwyn setlo y cwestiwn i wneyd aberthau. Man- tais i'r Eglwys, ag edrych arni fel corff yn meddu bywyd parhaus, fyddai derbyn y golled amserol oedd yn oblygedig yn y cynygiad i ostwng y cyfartaledd i dair blynedd yn lie y saith mlynedd presenol. Wrth gwrs, nid oedd ond tag cydnabod os byddai i brisiau godi y dygai hyny godiad yn gynt i'r clerigwyr. Sylwodd yr Archesgob fod oynygion y Llywodraeth yngIýn a'r ardreth-dal degymo wedi derbyn cymer- adwyaeth gyff redinol yr awdurdodau Eglwysig. Dywedodd Arglwydd Salisbury fod ad-drefniant y rhent-dal degymol yn gwestiwn mawr a dyrus, ac nad oedd y Llywodraeth yn bresenol yn barod i ym- gymeryd fit gorohwyl. Nid oedd ganddo ddim achos cwyno oherwydd y feirniadaeth oedd wedi ei phasio ar y Mesur, ond barnai fod y rhan fwyaf o'r gwrthddadleuon yn sylfaenedig ar gamddealltwr" iaeth o amcanion y Llywodraeth. Yr oedd Arg- lwydd Kimberley yn gwrthwynebu y ddarpariaeth mai y tenant oedd i dalu y degwm dan y Mesur. Rhaid oedd iddynt gofio fod y tenantiaid, yn groes i ddarpariaeth Act 1836, wedi addaw, y rhan fwyaf o honynt, dalu y degymau. Yr oedd y Mesur hwn yn gwneyd addewidion o'r fath yn anmhosibl yn y dy- fodol; ond mewn perthynas a'r tir-ddaliadau pre- senol yr oedd yn rhaid i'r addewid hono gael ei chyf- lawni a rhaid i'r arian ddyfod oddiwrth y tenant- iaid. Yr unig gwestiwn, gan hyny, ydoedd, pa fodd y gallent sicrhau cyflawniad y rhwymedigaeth hono os na wnai y tenantiaid hyny yn wirfoddoL Yr oedd y owrs presenol yn un annymunol iawn ar gyf- rif y gwastraff amser, y draul, a'r anhawsderau ag oedd yn achosi i'r clerigwyr, ac hefyd ar gyfrif y canlyniadau difrifol o beryglu y berthynas heddych- ol cydrhwng yr offeiriad a'i braidd. Nid bwriad y Llywodraeth oedd rhyddhau y tenant oddiwrth ei rwymedigaeth i dalu y degwm, ond sicrhau cyflawn- iad y rhwymedigaeth heb osod y clerigwr mewn sef- yllfa eiddigus ac eithriadol. Yr oedd tri o bersonau a allent godi y degwm-y clerigwr, y tirfeddianydd, a barnwr y Ilys sirol. 0 dan y Mesur presenol yr oedd y Llywodraeth yn gosod y ddyledswydd o godi y degwm ar y tirfeddianydd yn lie y olerigwr. Yr oeddynt yn oynyg fod y degwm i gael ei dalu cyn derbyn yr ardreth, ac os gwrthodai y tenant dalu y degwm, byddai yn ofynol i'r tirfeddianydd, er ei fantais ei hun, ei dalu a'i ychwanegu at y rhent. Nid oedd Arglwydd Salisbury yn yetyried yr adran oedd yn newid y cyfartaledd o saith i dair blynedd yn un anghyf. iawnder i'r clerigwyr, ac felly yn anghytuno ag Archesgob Canterbury. Byddai yn anmhosibl iddynt wybod anfantais i bwy fuasai heb wybod cwrs y prisiau yn ystod y tair neu y pedair blynedd dyfodol. Yr oedd ei arglwyddiaeth o'r farn y profai y triennial valuation yn fanteisiol, ao yr oedd yn dda ganddo ddeall ar awdurdod uchel y byddai y newidiad yn dderbyniol gan y clerigwyr. Ar ol ychydig eiriau gan larll Selborne, darllen- wyd y Mesur yrlail waith. Yr wyf wedi ymdroi mwy gyda'r Mesur hwn nag a fwriadwn yn y cychwyn ar gyfrif ei bwysigrwydd. Pa fwyaf y deallir ei ddarpariaethau, mwyaf i gyd y cymeradwyir ef. Cynyg rhagorol yw symud y cyfrif- oldeb o godi y degwm oddiar yr ofEeiriad a'i osod ar y tirfeddianwr. Nid rhyw lawer o wrthddegymwyr anystywallt Cymru a ddewisai ymgyfreithio &'u meistri tir.

LLYWODRAETH LEOL I'R IWERDDON.

AIL-AGOHIAD EGLWYS DEEYNOG.

Family Notices

IAWN-LYTHYRENIAETH YR IAITH…

YR EGLWYS YN MLAENAU FFESTINIOG.

UNDEB YR EGLWYS A'R ENWADAU…

DADL WYDDELIG GYNHYRFUS.

DIWYGIAD TY YR ARGLWYDDI.

MESUR Y GYLLIDEB.