Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Y MESURAU DEGYMOL.
I GAN EIN GOHEBYDD ARBENIGt.] Y MESURAU DEGYMOL. Nhy yr Arglwyddi, yr wythnos ddiweddaf yaa Mawrth), cynygiodd Ardalydd Salisbury ail ^tlleniad y Mesurau uchod, y rhai nad ydynt, gwirionedd, ond un Mesur, yn cynwys gwa- ^°1 adranau. ywedodd Iarll Delawarr fod yr ardreth-d&l pre- Wedi ei sefydlu mewn ameer pan oedd prisiau v^rchnad amaethyddol yn llawer uwch nag oedd- yn bresenol. O ganlyniad, yr oedd yn angen- ad-drefnu y tfi,l; ond nid oedd ei arglwydd- th yn gauu oanfod yn y Mesur urirhyw ddarpar- "h i'r perwyl hwnw, yr hyn oedd y prif gamwri y W)"Iid o'i blegid gan amaethwyr a thirfeddianwyr. Ylwodd Iarll Kimberley y buasai y ddarpariaeth odgYnWYBai y Mesur a ddygwyd i mewn gan y Llyw- J y flwyddyn ddiweddaf yn fwy eSeithiol fel s 0 godi degymau na'r hyn a gynygid yn y Mesur o sylw. Yn ol y Mesur hwnw, y tirfeddianydd ad a 1 dalu y degwm ond, os oedd ef yn iawn g eal}y Mesur hwn, at y tenant, wedi'r cwbl, y ^eid caig am y Q thebygol y gwnai gynyg yr SWrthwynebiad ag a wnai yn bresenol. Nid oedd yn dymuno cynyg unrhyw wrthwynebiad i'r ail gy^^iad, ond ofnai y syrthiai y Mesur yn fyr o hoii yr am°an mawn golwg, a'r hwn yr oedd yn gyflymdeimlo. Aad-e<il sylwadau beirniadol gan Arglwydd lllgton a Barwn Bramwell. igw Archesgob Caergaint ymsyniad y cler-1 <a-W,y Hafur personol, a'r dymuniad i A oyfiawniaer hyn a amlygasid ti^jj rglwydd Salisbury yngtyn a'r cwes- yix a, O0dd y clerigwyr wedi teimlo a ^ff8 fodoleeth y rhwystrau tymhorol °r^ oyfla-wniad eu gwaith ysbrydol. Yr ^rv?a8B"^|6di flioddef yn dost mewn canlyniad i'r la amaethyddol, ond gelwid arnynt yn awr er mwyn setlo y cwestiwn i wneyd aberthau. Man- tais i'r Eglwys, ag edrych arni fel corff yn meddu bywyd parhaus, fyddai derbyn y golled amserol oedd yn oblygedig yn y cynygiad i ostwng y cyfartaledd i dair blynedd yn lie y saith mlynedd presenol. Wrth gwrs, nid oedd ond tag cydnabod os byddai i brisiau godi y dygai hyny godiad yn gynt i'r clerigwyr. Sylwodd yr Archesgob fod oynygion y Llywodraeth yngIýn a'r ardreth-dal degymo wedi derbyn cymer- adwyaeth gyff redinol yr awdurdodau Eglwysig. Dywedodd Arglwydd Salisbury fod ad-drefniant y rhent-dal degymol yn gwestiwn mawr a dyrus, ac nad oedd y Llywodraeth yn bresenol yn barod i ym- gymeryd fit gorohwyl. Nid oedd ganddo ddim achos cwyno oherwydd y feirniadaeth oedd wedi ei phasio ar y Mesur, ond barnai fod y rhan fwyaf o'r gwrthddadleuon yn sylfaenedig ar gamddealltwr" iaeth o amcanion y Llywodraeth. Yr oedd Arg- lwydd Kimberley yn gwrthwynebu y ddarpariaeth mai y tenant oedd i dalu y degwm dan y Mesur. Rhaid oedd iddynt gofio fod y tenantiaid, yn groes i ddarpariaeth Act 1836, wedi addaw, y rhan fwyaf o honynt, dalu y degymau. Yr oedd y Mesur hwn yn gwneyd addewidion o'r fath yn anmhosibl yn y dy- fodol; ond mewn perthynas a'r tir-ddaliadau pre- senol yr oedd yn rhaid i'r addewid hono gael ei chyf- lawni a rhaid i'r arian ddyfod oddiwrth y tenant- iaid. Yr unig gwestiwn, gan hyny, ydoedd, pa fodd y gallent sicrhau cyflawniad y rhwymedigaeth hono os na wnai y tenantiaid hyny yn wirfoddoL Yr oedd y owrs presenol yn un annymunol iawn ar gyf- rif y gwastraff amser, y draul, a'r anhawsderau ag oedd yn achosi i'r clerigwyr, ac hefyd ar gyfrif y canlyniadau difrifol o beryglu y berthynas heddych- ol cydrhwng yr offeiriad a'i braidd. Nid bwriad y Llywodraeth oedd rhyddhau y tenant oddiwrth ei rwymedigaeth i dalu y degwm, ond sicrhau cyflawn- iad y rhwymedigaeth heb osod y clerigwr mewn sef- yllfa eiddigus ac eithriadol. Yr oedd tri o bersonau a allent godi y degwm-y clerigwr, y tirfeddianydd, a barnwr y Ilys sirol. 0 dan y Mesur presenol yr oedd y Llywodraeth yn gosod y ddyledswydd o godi y degwm ar y tirfeddianydd yn lie y olerigwr. Yr oeddynt yn oynyg fod y degwm i gael ei dalu cyn derbyn yr ardreth, ac os gwrthodai y tenant dalu y degwm, byddai yn ofynol i'r tirfeddianydd, er ei fantais ei hun, ei dalu a'i ychwanegu at y rhent. Nid oedd Arglwydd Salisbury yn yetyried yr adran oedd yn newid y cyfartaledd o saith i dair blynedd yn un anghyf. iawnder i'r clerigwyr, ac felly yn anghytuno ag Archesgob Canterbury. Byddai yn anmhosibl iddynt wybod anfantais i bwy fuasai heb wybod cwrs y prisiau yn ystod y tair neu y pedair blynedd dyfodol. Yr oedd ei arglwyddiaeth o'r farn y profai y triennial valuation yn fanteisiol, ao yr oedd yn dda ganddo ddeall ar awdurdod uchel y byddai y newidiad yn dderbyniol gan y clerigwyr. Ar ol ychydig eiriau gan larll Selborne, darllen- wyd y Mesur yrlail waith. Yr wyf wedi ymdroi mwy gyda'r Mesur hwn nag a fwriadwn yn y cychwyn ar gyfrif ei bwysigrwydd. Pa fwyaf y deallir ei ddarpariaethau, mwyaf i gyd y cymeradwyir ef. Cynyg rhagorol yw symud y cyfrif- oldeb o godi y degwm oddiar yr ofEeiriad a'i osod ar y tirfeddianwr. Nid rhyw lawer o wrthddegymwyr anystywallt Cymru a ddewisai ymgyfreithio &'u meistri tir.
LLYWODRAETH LEOL I'R IWERDDON.
LLYWODRAETH LEOL I'R IWERDDON. Nos Fercher, cynygiodd Mr. Carew ail-ddarlleniad Mesur Llywodraeth Sirol Wyddelig. Cynygiodd Mr. Smith Barry welliant i'r perwyl nad oedd yn ddiogel yn bresenol i wneyd eyfnewid- iadau cyfansoddiadol pwysig yn llywodraeth yr Iwerddon. Dywedodd y gwnai y Mesur ysgubo ymaith y lleiafrif teyrngarol o bob bwrdd yn yr Iwerddon, gan adael llywodraeth achosion lleol yn nwylaw y Nasiwnaliaid. Boneddwr o Cork yw Mr. Barry, ond yn cynrychioli rhan o Sir Huntingdon, ac y mae yn deall holl ystrywiau y gwladgarwyr Gwyddelig. Cefnogwyd y Mesur gan Mr. Gladstone, ond nid oedd yn credu y gwnelai llywodraeth sirol rhyw lawer o les i'r Iwerddon hyd oni sicrheid y sefydliad mawr hwnw a alwai yn Llywodraeth ganolog, wrth yr hyn y meddyliai yn ddiddadl, Parliament yn Dublin. Home Rule sydd ar ymenydd Mr. Glad- stone yn barhaus. Dywedodd Mr. A. J. Balfour na wnaeth Mr. Glad- stone erioed un ymgais i sicrhau llywodraeth leol i'r Iwerddon. Yr oedd ef (Mr. Balfour) yn gwrth- wynebu y Mesur, nid yn unig am nad oedd amser i'w basic, ond am ei fod yn anamserol. Yr oedd y blaid Nasiwnalaidd dros y Mesur, nid er iawn lyw- odraethiad eu hachosion lleol, ond er cario allan chwyldroad cymdeithasol. Cefnogwyd y Mesur gan Arglwydd Randolph Churchill ar y tir fod y Llywodraeth yn 1886 wedi ymrwymo y gwnaent gyda'r cyfleusdra cyntaf estyn yr un Mesur o lywodraeth leol i'r Iwerddon ag a ganiateid i Loegr a Chymru. "Rbybuddiodd" y Llywodraeth yn erbyn y cwrs a gymerent ynghanol taranau o gymeradwyaeth oddiwrth y Parnelliaid a'r Gladstoniaid. Dyn hollol ddiymddiried yw Arglwydd Randolph, ac ni wyr yr un dewin pa le y ceir ef. Mae rhyw fits rhyfeddol arno. Beth oedd amcan ei araith ? Yr oedd y Mesur yn rhy ddrwg iddo allu pleidleisio drosto; ond, ar yr un pryd, yr oedd yn rhaid iddo gael ymosodilar y Llywodraetb, ac ymrwbio yn y Parnelliaid I Dywedodd Mr. Chamberlain y gwnai efe gyca chalon yegafn fotio yn erbyn y bill, am mai Mesur drwg oedd, ac am ei fod yn afresymol tybied y gallai y Llywodraeth basio mesurau o lywodraeth leol i Loegr a'r Iwerddon yr un Senedd-dymor. Yr oedd y Mesur yn gynamserol. Wedi i Mr. John Morley ac eraill siarad, ym- ranodd y Ty- Dros yr ail ddarlleniad. 195 Yn erbyn 282 Mwyafrif yn erbyn 87
AIL-AGOHIAD EGLWYS DEEYNOG.
AIL-AGOHIAD EGLWYS DEEYNOG. [GAN HYWEL IDLOES.] Dydd mawr ydoedd dydd Mercher, y 25ain o Ebrill, yn y plwyf hwn; la, red letter day yn nghalender a hanesyddiaeth hen Eglwys Defynog ydoedd. Y mae llawer o adgofion ynglyn a'r Eglwys hon, pa rai ydynt yn anwyl gan bobl Defynog. Hi ydyw y Fam Eglwys yn y rhan hon o'r sir, ac y mae wedi cael ei gwasanaethu gan amryw o offeiriaid enwog yn eu dydd, fel pregethwyr ac ysgolheigion. Yma terfynodd yr anfarwol Parry, Llywell, ei yrfa, ar ol llawer hlwyddyn o waith caled yn ngwinllan ei Arglwydd; a chafcdd ei olynu gan y Parch. R. Evans, yr hwn sydd fwyaf adnabyddus wrth yr enw Evans, Llandebie," oherwydd yn Llandebie, lie y treuliodd flynyddoedd meithion, y gwnaeth ei hun yn enwog fel ofleiriad gweitbgar a llwyddianus, yn ogystal a phregethwr poblogaidd a dylanwadol. Yn wir, y mae Defynog wedi bod yn ffodus er's blynydd- oedd lawer i gael ficoriaid galluog ymhob ystvr. Dydd Mercher, Ebrill 25ain, ail-agorwyd yr hen Eglwys hanesyddol ar ol adgyweinad trwyadl, a hyny ddim diwrnod yn rhy fuan, oherwydd yr oedd wedi myned yn anghysurus ac anaddas i addoli ynddi. Tua blwyddyn yn ol, oydymgynghorodd y ficer a'i wardeniaid pa fodd, y gallent ymgymeryd a'r fath waith pwysig, a phenderfynasant nad oedd dim i wneyd ond anturio a dechreu yn ddioed. Felly y gwnaethant, a galwasant yr arobadeiladydd, Mr. Kempson, o Henffordd, i ystyried pa beth oedd yn ofynol i gael pethau mewn trefL. Tynwyd y cyn- lluniau, a rhoddwyd y contract i Mr. Cullins, Hen- ffordd. Gorphenwyd y cwbl yn foddhaol iawn, yr hyn a gostiodd tua £1,400, ao y mae'n ddywenydd genyf ddweyd nad oes ond ychydig iawn, os dim, o ddyled yn sefyll ac yn pwyso ar ysgwyddau y ficer a'i wardeniaid. Yr oedd dydd yr agoriad yn hynod oer i'r amser hyn o'r flwyddyn,. eto daeth canoedd o bobl ynghyd, nes oedd pentrei gwledig Defynog fel tref boblogaidd yu cynal gwyl. Dechreuwyd y gwasanaeth boreuol am 11 o'r gloch. Darllenwyd y gweddiau gan y Parch. R. Evans, ficer parohus y plwyf; y llithiau gan y Parch. Prebendary Garnons Wxiliams, a'r Parch. D. Price, caplan Aberhonddu; ac yna esgyn- odd yr Archddiacon Griffiths, Castellnedd, y pwlpud, a chawsom bregeth wrth fodd ealon pawb. Ni raid i'r Arcbddiacon wrth air o ganmoliaeth oddiwrthym ni-y mae yn ddigon adnabyddus drwy yr holl eg- Iwysi fel pregethwr ac areithiwr. Yna gweinyddwyd y Cymun Sanctaidd i liaws o gymunwyr. Yr oedd yr offeiriaid canlynol yn bresenol yn eu gwenwisgoedd Y Parchn. D. Price, Aberhonddu: D. Saunders Jones, curad Aberhonddu W. Howell, Garthbrengi; Rees Price, St. David's, Aberhonddu Prebendary Garnons Williams. Rees Evans, ficer y plwyf; a'r Archddiacon Griffiths, Caatallnedd. Hefyd yn y gynulleidfa yr oedd y Parchn. Canon Walters, D.D.: W. Bowen, Llangorse; M. Powell Williams, Llansantfread J. Price, Llanfeigan; T. Jones, Llywell J. Williams, Trallong J. Davies, St. Illtyd; T. H. Hughes, Aberhoddu; Thomas Price, Prestatyn, J. Davies, Llansamlet D. Griffiths, Cwmamman; W. Evans, Cray; H. Jones, Manordeifi W. Williams, curad Llywell; D. Jones' Ystradfellte ac eraill. Y wardeniaid oeddynt Mr. Morgan Thomas, Aberrenny, a Mr. Jones, Cefnfedwfawr. Ar ol y gwasanaeth cafwyd luncheon ardderchog yn rhad ac am ddim yn y Club Room ey'n perthyn i'r Blue Hotel. Cawsom areithiau dyddorol iawn gan yr Archddiacon Griffiths, Canon Walters, v Parch. Rees Price, y ficer, ac hefyd gan Mr. Kemp- son ac eraill. Yn y prydnawn, am dri o'r gloch, cawsom bregeth dda iawn gan y Parch. Rees Price, St. David's, Aberhonddu, a phregeth alluog dros ben gan y Parch. Canon Walters ar hanes yr Eglwys. Yn yr hwyr darllenwyd y gwasanaeth gan y Paach. J. T. Powell, Panscallog; y llithiau gan y Parch. W. Howell, Garthbrengi a phregethwyd yn Gymraeg gan y Parch. D. Griffith, Owmamman, a'r Parch. Henry Jones, Manordeifi. Y mae'n ddigon dweyd eu bod ill dau yn eu hwyliau goreu. Mewn gair, yr oedd yr oil o'r pregethwyr wedi rhoddi bodd- lonrwydd cyffredinol i'r torfeydd a ddaethant i'r gwasanaethau drwy y dydd. Gallwn longyfarch y ficer a'i wardeniaid eu bod wedi llwyddo ymhob ystyr i ddwyn y gwaith pwysig hwn i derfyniad mor foddhaol. Yr oedd, ys dywed y Sais, yn 4, perfect success." Casglwyd trwy y dydd zC24, Y mae'r c6r yn deilwng o sylw. Canasant drwy'r dydd yn hynod o dda, ac y mae Mr. Thomae Thomas, eu harweinydd, yn haeddu canmoliaeth nid bychan am ei lafur gyda'r c6r. Cyfeiliwyd vn wir dda ar yr harmonium gan Mr. Powell, yr ysgol- feistr. Gadewch i ni roddi gair o gyngor i'r cantor- ion. Peidiwch a llaesu dwylaw a myned yn ddi- fater, oherwydd ni raid i chwi ofni cael eich cyd- maru ag un cor yn y sir; y mae defnyddiau campus ynoch fel cantorion i wneyd c6r a all fod yn enwog tu allan i sir Frycheiniog, yn neillduol y bass a'r treble. Gobeithio y cawn wyl gerddorol yn Eglwvs Defynog cyn bo hir gan gorau yr ardal. Efallai y cawn amser eto i sylwi ar y rhoddion costfawr a gyf- ranwyd gan y plwyfolion ac eraill.
Family Notices
0imrtit0artljau, ríobasau, a ifflartoojagtaw, GENEDIGAETHAU. Jones—Ebrill 20, priod Mr. Hugh Jones, Fronbxnnoe Gyffylnog, ar efeIlliaid-ruerched. Jones.—Ebrill 25, priod Mr. Robert Jones, Cynwyd, ar fab. Richards.—Ebrill 21, priod Mr. Thomas Richards (Dosbarthwr Y LLAN), 9, Dare Street. Aberdar n.r fab, a gelwir ei enw ef Evan. ar Thomas.—Ebrill 23, priod Mr. J. Thomas, Hand Inn Bettws G.G., ar fab. Thomas.—Ebrill 19, priod Mr. Evan Thomas Mia ffordd, Derwen, ar fab. MARWOLAETHAU. Davies—Ebrill 22, yn 60 mlwydd oed. Elizabeth Davies, Weirglodd Goch, gynt o Rhyd U cha, Fron- goch. Bala. Freme. Ebrill 21, yn 43 mlwydd oed, Mr. James. Freme, Bryndedwydd, Maerdy, Corwen.
IAWN-LYTHYRENIAETH YR IAITH…
IAWN-LYTHYRENIAETH YR IAITH GYMRAEG. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." 11 ?yr)-—Gan nad yw Mr. Od eto wedi taflu y goleuni *eia £ ar y pwnc dan sylw, ac nad yw yn dilyn rheol- au rheswm na rhesymeg, ni a ddisgwyliwn bethau awrion oddiwrtho yn ei lith nesaf, yn ol ei addewid bi hun Yr eiddoch, &c., JOHN DANIEL. Moyllteyrn.
YR EGLWYS YN MLAENAU FFESTINIOG.
YR EGLWYS YN MLAENAU FFESTINIOG. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Os ydyw Ewyllysiwr Da yn teimlo cy- !na.int o ddyddordeb yn llwyddiant ei gyd-Eglwys- Jfyr, hwyrach y bydd mor garedig a danfon ei enw Ptiodol a'i breswylfod i ysgrifenydd yr Ysgol Sul, ao caiff yr ysgrifenydd y fraint naill o alw arno yn neu ddanfon cyfrifon cyflawn iddo fel y TOEDR eu cyhoeddi yn Y LLAN.—Yr eiddoch, &c., J. HARRIES.
UNDEB YR EGLWYS A'R ENWADAU…
UNDEB YR EGLWYS A'R ENWADAU YMNEILLDUOL. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Mewn cyfarfod blynyddol yn Llandilo-fawr J1 achlysur ymweliad blynyddol Archddiacon «**«, bu y pwnc uchod dan sylw. Dywedai un Qeiriad ei fod yn bwac newydd braidd yri Nghymru, jyod llawer o ddadleu wedi bod yn ei gylch yn j7l°8gr, a bod cymdeithas wedi ei ffurfio yno dan offeiriaid a lleygwyr enwog i geisio »cyraedd amcan clodwiw hwn. Adnabyddid y gymdeithas Wztla yr enw Y Gymdeithas Adundeb Cartrefol £ he Home Reunion Society.") Yr oedd lliaws o ^bawsderau yn ddiau ar y ffordd o du yr Eglwys ac hvfl enwa<^aU» on<i diflanai lliaws o honynt pe ydd&i arweinwyr y bobl o'r ddwy ochr o ddifrif yn ^gymeryd a'r gwaith o nesau at eu gilydd. Bu yr | Srifenydd oddeutu ugain mlynedd yn ol yn gohebu ftida ° weiQidogion blaenaf y Methodistiaid Calfin- a: -Bef Dr. Charles, Dr. Jones, o Drefecca, ac 11.111 ynghylch yr amcan hwn. Oroesawyd ei jirtygion ar y pryd gyda gwresogrwydd brawdol. jyfaddefai pawb fod yr amcan yn glodwlw ac i'w Wr ddymuno, er nad oedd cydsyniad perfiaith am V^odd i'w ddwyn i weithrediad. Oa bydd iddo gael fc«fraedd cyfaddefai llawer y byddai hyn trwy fod ^glwys yn ganolbwynt yr undeb. Mae math o jj? S,'r Eglwys heb gydymffurfiad, ond fod yr holl ar y dechreu yn cadw at eu cyfundrefnau hn -Sig' eu fiarf-lywodraeth a'u ffurf-wasanaeth eu **in trwy fath o confederation yn idea ag sydd r* udiohonadwy ei weithio allan, fel y gwelwn ni yn ac yn Prwssia gyda golwg ar lywodraeth ^iwriaethol. Mae gwahanol dalaethau America amrywio oddiwrth eu gilydd—rhai o honynt yn fiurf-lywodraeth ac eto, mae undeb perfiaith ^yagddynt a chydweithrediad, nes gwneyd i fyny yr gyfundrefn fawr—Unol Dalaethau America, y Liywydd Amaricanaidd, ag sydd yn cael ei 6thol gan fwyafrif y pleidleisiau. 0 A ydyw yn anmhosibl dwyn i weithrediad ryvrbeth yfatebol i hyn gyda golwg ar yr Eglwys a'r n ^_u YmnolUduot ? A yw yn ddichonadwy cael undeb heb gydymffurfiad ? A yw y byd crefyddol Y" fwY aughymraodlon na'r byd gwladwriaethol ? orefvddnl 9 yw °ynyrch ein holl ymdrechiadau gweled vn na,i eraill fod elfenau ail-undeb i'w crefvddni f gWeit^io yn rymus yn yr enwadau asos m i y eu boii yQ efely°hu yr E§lwys mor amlw^6f ? °ynnifer 0 bethau, a bod arwyddion Mftfh • • Prophwydoliaeth un o sylfaenwyr y Vn J r;lstiai(i ar gael ei chyflawni—fod y gwenyn h y°"Welyd i'r hen gwch." Barnai arall nad oedd y*1 Un arwydd o ail undeb corphoriaethol.—Yr eiddoch, &c., TYST.
DADL WYDDELIG GYNHYRFUS.
DADL WYDDELIG GYNHYRFUS. Cynygiodd Mr. Justin M'Carthy ohiriad y Ty i alw sylw y Ty at ymddygiad barnwyr y Llysoedd Sirol yn yr Iwerddon yn ychwanegu at ddedfrydau (sentences) mewn achosion o apêl, a chafwyd dadl gynhyrfus ddychrynllyd. Dywedodd y Cyfreithiwr CySredinol (Iwerddon) fod barnwr y llys sirol yn ail wrando yr holl achos, ac yn gweithredu yn hollol annibynol ar ddyfarniad y llys israddol. Sylwodd Mr. Shaw-Lefevre nad oedd braidd yn bosibl i dri o farnwyr ddyfod i benderfyniad i ychwanegu at ddedfrydau oddieithr iddynt dderbyn rhyw awgrym oddiwrth y Llywodraeth! Wel! well ni bydd marw doethineb tra byw y pensioner rf1- rri. -ma 'L. Ul&UbUUilfcUUU liWJU* Gwnaeth Syr William Harcourt ymosodiad fiyrnig ar y Llywodraeth, a chyhuddodd y barnw: Gwydd. elig o ymddygiad barbaraidd, angheiaidd, a chreulawn." Yr oedd hyn yn ormod i'r Prif Yagrifenydd ei oddef, a chododd i'w ateb ar unwaith. Dywedodd Mr. Balfour ei fod wedi cymeryd dy. ddordeb mawr ynngyrfa. y boneddwr gwir anrhyd- eddus oddiar ei ddirywiad a'i gwymp." Yr oedd wedi sylwi gyda gofid ei fod yn efelychu arddull areithyddol y.Parnelliaid, ac nid hyny yn unig, ond yr oedd wedi mabwysiadu eu moesoldeb," sef moesoldeb United Ireland. Cabldraeth gwarad- wyddus oedd awgrymu fod barnwyr y Llysoedd Sirol yn cael eu dylanwadu gan y Llywodraeth Weinyddiadol. Yr oedd y barnwyr hyny yn awr, fel ag yr oeddynt wedi bod bob amser, yn hoUol an- nibynol ar y Llywodraeth, ao yr oedd y gallu a arferent wedi ei roddi iddynt gan y Sanedd mor ddiweddar a'r flwyddyn 1879. Yr oedd araith Mr. Balfour yn finiog, ymresymiadol, ac yn orlethol. Yr oedd yr Hercwlff yn gwingo, yn malu ewyn, ac yn ysgyrnygu yn ofnadwy, ond dim use-yr oedd Mr. Balfour yn dal ei fys yn dyn yn y vice, ac yn ei wasgu yn ddychrynllyd I Condemniodd Mr. Gladstone yn llym y driniaeth anghyfartal a dderbyniai yr Iwerddon yn ngweinydd- iad y gyfraith, a dywedodd fod ymddygiad y barn- wyr Gwyddelig yn fawaidd a dirmygus." Atebodd y Twrnai Cyffredinol ef i bwrpas. Dangosodd fod Llywodraeth Mr. Gladstone yn euog o'r un peth yn union, a gofynodd a oedd ymddygiad Syr George Trevelyan yn 11 fawaidd a dirmygus (mean and contemptible.) Addefodd Mr. Gladstone fod ei Lywodraoth ei hun yn euog o'r un peth, ond nad oedd hyny yn newid dim ar ei farn. Addefodd yn gyhoeddus nad oedd genddo ddim hawl i ddwyn ei gyhuddiadau yn erbyn y Llywodraeth. D.yma ei eiriau: I am complete- ly out of court." Golygfa druenus oeddhon; ond nid dyma y tro cyntaf i Mr. Gladstone fwyta. y geninen. Gobeithio y gwna les iddo. Ymranodd y Ty— Dros y gohiriad 165 Yn erbyn 219 I Mwyafrif yn erbyn 54 1
DIWYGIAD TY YR ARGLWYDDI.
DIWYGIAD TY YR ARGLWYDDI. Cymerodd dadl ddyddorol le yn y Ty U chaf, ddydd Iau, ar ail dearlleniad Mesur a ddygwyd i mewn gan Iarll Dunraven i ddiwygio cyf- ansoddiad Ty yr Arglwyddi. Cynygiai y Mesur greu corff yn y Ty dan yr enw "adran gynrychioliadol," yr hwn oedd i gynwys 224 o bendefigion etifeddol, heblaw un pendefig i gael ei ddewis gan bob cyngor sirol, esgobion, cynrychiolwyr trefedigaethol, pen- defigion o waed Brenhinol, pendefigion am eu bywyd, ao arglwyddi y gyfraith. Cynwysai y Ty hefyd gynrychiolwyr o'r gwahanol enwadau crefydd- ol heblaw yr Eglwys, a chynrychiolwyr gwyddon- iaeth a llenyddiaeth. Y fath gabolfa I Cynygiodd Arglwydd Denman wrthodiad y Mesur ar y tir ei fod yn cynyg gormod ac yn anymarferol. Dywedodd Arglwydd Salisbury ei bod yn an- mhoBibl cefnogi yr ail ddarlleniad. Addefai fod y Mesur yn cynwys Ilawer o gynygion da, yn enwedig y cynyg i ddwyn i mewn y life peers. Yr oedd y cwestiwn hwn wedi bod dan sylw y Llywodraeth, a bwriadent ddwyn i mewn fesur yn oymeryd y mater i fyny. Dylent hefyd feddu gallu fel Ty y Cyffredin i ddiarddel aelodau. Ar ol ychydig sylwadau pellach gan Arglwydd Granville ac Arglwydd Harrowby, y rhai a aralygas- ant foddhad yn y datganiad a wnaed gan y Prif Weinidog, tynwyd y Mesur yn ol.
MESUR Y GYLLIDEB.
MESUR Y GYLLIDEB. Bu Mesur y Gyllideb dan sylw y pwyllgor ddydd Iau a dydd Gwener, a phasiwyd amryw adranau. Dywedodd Mr. Goschen y gwnai ddydd Llun gynyg penderfyniad newydd ynglyn & threth y troliau a'i r olwynion, i'r perwyl na fyddai i'r un íèn dan 10 cant gael ei threthu, ac mae y doll ar bob troliau uwch- law y pwysau hwn fyddai-dwy olwyn 10s,, a phedair olwyn -el.