Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CLEDDYF DAU-FINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CLEDDYF DAU-FINIOG. YR ydym wedi cyfeirio, yn y colofnau hyn, fwy nag unwaith, at y mawr berygl o lygru moesau gwlad. Hawdd, medd yr hen ddiareb, ydyw ymlithro i lawr tua'r ceu- nant. Hawdd hefyd, ydyw enyn teimladau drwg, ac anog gwehilion cymde^chas i dreisio iawnderau eu cymydogion. Ond, fel y dangoswyd genym, dro ar ol tro, nid hawdd ydyw cadw y nwydau aflywodraethus hyn o fewn terfynau ar olSunwaith rhoddi y ffrwvn iddynt. Gall y cynhyrfwr politicaidd fedi cynhauaf bras am dymor trwy anog y werin annysgedig i ddial eu Hid ar yr Eglwys. Ond, nid yw yn debygol y byddant yn foddlawn i aros yn y fan yna. O'r ochr arall, y mae yr hyn a wyddom am y natur ddynol yn ein dysgu y deuant heibio i'r cynhyrfwr ei hunan yn ei dro. Y mae wedi rhoddi yn nwylaw yr anwybodus a'r di- gymeriad, gleddyf dau-fmiog. A chyn bo hir bydd yr ymyrwr rheibus yn gorfod teimlo min y cledd hwn. Dyma yr hyn a ddywedwyd genym ar ddechreu y cyffro gwrthddegymol. Y mae genym heddyw y gorchwyl gofidus o alw sylw ein darllenwyr at y profion sydd wrth law o wirionedd ein geiriau. Nid oes ond ychydig fisoedd er pan oedd dynion gonest, crefyddol ein gwlad, o bob enwad, yn gwrido o gywilydd wrth ddarllen am ymddygiad y cynhyrfwyr Radicalaidd yn Eglwyswen, Dyffryn Clwyd, Hendy Gwyn ar Daf, a rhai o blwyfi Sir Fôn. Safai pob perchen rheswm yn fud wrth feddwl fod rhai a alwent eu hunain yn grefyddwyr yn gallu ymddarostwng i ddefnyddio dichellion ac ystrywiau mor annynol. Ni phetrusent anog y werinos aullythyrenog i enllibio yr offeiriaid, ac i gamdrin eu cyd-ddynion gyda chieidd dra fuasai yn peri i ganibaliaid Mor y Dehau wrido. Ychydig feddylient ar y pryd y byddai yr ysbryd dieilig a gyfodwyd ganddynt gyda y fath rwyddineb, yn eu rhwygo hwy eu hunain mor fuan. Ond, fel y rhag-ddywedwyd genym, dyna a ddi- gwyddodcl. Erfyniwn ar ein cydwladwyr ddarllen yn bwyllog y dyfyniad a ganlyn o lythyr gohebydd yn y Western Mail, am ddydd Mercher diweddaf. Y mae yn ddigon hysbys i bawb, bellach, fod ymrafaelion cywilyddus wedi cymeryd lie yn Hermon, capel yr Annibynwyr, Conwil, sir Gaer- fyrddin. Ar ol desgrifio yr hyn a gymerodd le yn y capel ddydd Sul, dyma a ddywed y gohebydd Derbyniodd yr Heddgeidwad DANIEL, gan rai o aelodau rresenol y capel, nifer o bastynau preffion, rhai o honynt yn llwythog o blwm. Darganfyddwyd y pastynau hyn, meddant hwy, o dan y seti yn y capel: a haera y rhai a'u dygasant i'r Heddgeidwad fod rhai o gyfeillion Mr. OWEN (yr hen weinidog), wedi eu cuddio yno fel y byddent yn gyfleus i'w defnyddio pan ddigwyddai ymladdfa rhwng y ddwy blaid. Nos Sul, aeth yr Heddgeidwad DANIEL gyda Mr. DAVIES, Rhydyceisiad, y gweinidog fu yn gwasanaethu yn ystod y dydd, cyn belled a Ghonwil, a phan oeddynt yn myned heibio i fferm a ddelir gan un o ddilynwyr Mr. OWEN, dywedasant fod saith neu wyth o bersonau wedi d'od o'r tu cefn i'r clawdd fel pe am eu dilyn. Clywodd yr Heddgeidwad un yn sibrwd wrth y lleill- Peidiwch, peidiwch; dyna DANIEL. Dyma yr addysg a roddwyd gan y terfysg- wyr gwrth-ddegymol yn siroedd Dinbych, Mon, a Phenfro, yn cael ei chario allan yn llythyrenol. Ond gyda hyn o wahaniaeth, fod min cleddyf yr anwariaid anystyriol yn cael ei droi yn erbyn ffyddlonidid y Ty Cwrdd c nid yn erbyn aelodau yr Eglwys. Ar ol codi y llif-ddor er mwyn gollwng allan ddiluw ffyrnigrwydd aflywodraethus yn erbyn yr Eglwys, bwriadai yr aflonyddwyr crib-ddeilgar atal gweddill cynddaredd y genllif heddyw y maent fel y meddwyn ar ol spree yn "Cashau bwyd, cosi ei ben, Ymwingo mewn llurn angen," oherwydd teimlant fod y dyfroedd ffyrnig- wyllt yn brysur gludo ymaith seiliau y Ty Cwrdd. Pa bryd y daw ein cydwladwyr i weled nad oes a ddwg heddwch a thangnefedd i wlad ac unigolion ond athrawiaethau yr Hen Lyfr a bregethir gyda'r fath ffyddlon- deb gan yr Hen Eglwys. Perchwch bawb; carwch y frawdoliaeth; ofnwch DDUW: anrhydeddwch y Brenin."

.TRIDIAU Y GWEDDIAU