Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
GARN, DOLBENMAEN.
GARN, DOLBENMAEN. Cynhaliwyd cenbadaeth blwyfol yn y lie uchod yn y ty cenhadol, ac yn eglwys St. Mair, Dolbenmaen, yn dechreu ar ddydd Sul, 22ain, ac yn diweddu ar y 29ain cynfisol. Y cenhadon oeddynt y Parchn. H. J. Manley, Talsarn, ac M. Roberts, rheithor Llanllyfni. Cafwyd pregethau nodedig o effeithiol gan y ddau, ac nid oeddym yn fyr o deimlo nad oedd yr Arglwydd yn ein canol, ac a'i holl ysbryd yn ein bendithio. Ein dymuniadaa mwyaf aiddgar a difrifol yw ar i Ben Mawr yr Eglwys fendithio yr ymdrechion byn a wneir yn y plwyf hwn fel eraill, er llwyddiant a chynydd ei Eglwys ar y ddaear.-Gohebydd.
PORTHMADOG.
PORTHMADOG. CAFARFOD DFONIAFTHOL.-Cynhaliodd Siapter Eifion- ydd y cyfarfod nchod yn Porthmadog. ar yr 17eg cynfisol. Yr oedd yn bresenol y Parcbn. J. Lewis, Deon Gwladol; J. Lloyd Jones, Criccietb; D. Ll. Jones, Porthmadog; J. Williams, Beddgelert; Roberts, curad, Porthmadog; Mri. Hughes, lay reader, Prenteg; Williams, Merton College, Oxon. Darllen. wyd y foreuol weddi yn eglwys St. loan, am 11.30 y boren, wedi hyny darllenwyd rhan apwyntiedig o'r Testament Newydd yn Groeg. Ymdriniwyd hefyd a'r materion canlynol:—Pa le i gynal yr wyl gerddorot ?- Penderfynwyd fod y cyfryw i'w chynal ar ddydd Llun Snlgwyn yn Mhwllheli. Ni ddaethpwyd i benderfyniad pa le i gadw y llyfrgell ddeoniaethol. Wedi hyn aeth- Swyd i anedd-dy Mr. Lloyd Jones, ficer, i giniawa. Yn Silynol darllenodd y Parch. J. Lewis, D. G., bregeth o eiddo clerigwr yn Llundain ar Sosialism; a Mr. Hughes, Prenteg, hefyd a ddarllenodd bapyr ar "Waith Eglwysig," am yr bwn y diolchwyd iddo gan y gwydd- fodolion. Wedi gweddio, ymwahanwyd.—Gohebydd.
DINBYCH.
DINBYCH. CHURCH HISTORY CLASS.-Daeth y dosbarth buddiol hwn i derfyniad nos Fawrth cyn y diweddaf. Bnwyd yn ei gynal yn wythnosol yn ystod y gauaf dan lywydd- iaeth ein hoffus gurad, y Parch. D. Griffith. Yn ystod y tymor cafwyd yn ychwanegol magic lantern lectures ar yr un mater gan y gwr parchedig, y rhai fn yn.fodd- ion i oleno y lliaws oedd yn mynychu y cyfarfodydd o berthynas i darddiad, parhad, ac ymledaeniad yr Eglwys yn ein gwlad. Hefyd darllenodd y Parch. Canon Lewis, rheithor Trefnant, bapyr ar Y Diwyg- iad," yn yr hwn y dangosodd ei darddiad, a'r llesiant a ganlynodd, yn enwedig cyfieithiad o'r Ysgrythyrau Sanctaidd i iaith y bobl; a chan Mr. P. P. Pennant ddarlith ar Ddechreuad y degwm, a ffurfiad plwyfi. Y oyfnod yr ymdriniwyd ag ef ydoedd o ddechrenad Cristionogaeth yn ein gwlad hyd y Diwygiad. Cyn terfynu y cyfarfod cododd Dr. Turnour a chynygiodd bleidlais o ddiolchgatwch i Mr. Griffith am lywyddu, ac am y modd y dygodd y dosbarth ymlaen. Eiliwyd gan Mr. C. Cottom, o swyddfa y Free Press. Cydna- byddodd y Parch. D. Griffith y bleidlais, a mynegodd os caffai fywyd ac iechyd y bydd iddo gymeryd mewn llaw y gauaf dyfodol yr hanes dilynol, sef o'r Diwygiad i lawr hyd yn bresenol. Felly terfynwyd nn o'r cyfar- fodydd mwyaf dyddorol a fwynhasom erioed. Dylid sefydlu dosbarthiadan o'r fath ymbob plwyf. CASGLU Y DEGWM.—Bn Mr. Peterson a'i osgorddlu yn ein bro yr wythnos ddiweddaf yn casgla degwm y Dirprwywyr Eglwysig. Er fod rhai ngeiniaa o bobl wedi dyfod ynghyd, trwy swn padellan ffrio, hen dyniau, a cbyrn, pasiodd pob peth yn foddhaol beb derfysg. Talwyd ymhob fferm yr arian dyledus.-T. Y.u-- I.
1,,1. HIRWAUN.
1 ,,1. HIRWAUN. NoLnn, Ebrill 23ain, cynhaliwyd y pumed cyfar- fod adloniadol yn ystafeil ddarllen y Jle uchod, pryd yr etholwyd y Parch. W. Rhydderch, ficer, i'r gadair. Asthpwyd trwy y rhaglen ganlynol :-Adroddiad, Mr. A. Nicholas can, Miss M. J. Davies; adroddiad, Mr. W. Nicholas; can, I- Yn iach i ti, Gymru," Miss H. J. Janes; adroddiad, Mr. R. Smart; adroddiad, T. Gamblin; deaawd, Miss Aubrey a Mr. R..Connd ad- roddiad. Miss M. A. Davies; can, Miss Edith Jones; can, J. A. Davies adroddiad, Mr. Mark Martin; can, Mr. W. Walters denawd, Miss Anbrey ac A. J. Davies; adroddiad, Mrs. Lewis. Cafwyd cyfarfod da dros ben, ac yr oedd llaweroedd yn gorfod troi yn ol oherwydd diffyg lie. Canwyd Daw gadwo y Frenhines ar y terfyn.B. J.
"TREFLYS, GER CRICCIETH.
TREFLYS, GER CRICCIETH. Mae yr eglwys hon wedi bod yn adfeiliedig er's blyn- yddau, ac heb yr an gwasanaeth ynddi ar y Sal. Mae cynwrf mawr yn ngwersyll y dadgysylltwyr o'r achos, ndgorn rhyddid Pwllheli yn bloeddio dros y wlad am i'r Senedd glywed hyn, a Tanysgrifiwr yn y Gwalia yn holi am y gwasanaethan ai y Sul cyn talu ei gyfran. Ond mae Rbeithor parchus y plwyf wedi casglu swm digonol i'w hadgyweirio, a'r gwaith wedi ei osod i Mr. G. Roberts, adeiladydd, Penmorfa. Ceir clywed swn ein a moliant eto yn mhyrth merch Seion ymhen ychydig fisoedd. Dyma gyfleustra iawn i blwyfolion Treflys i ddychwelyd yn ol o gorlanau caethiwus Ym- neillduaeth, gan ddywedyd, Y maglau a dorwyd, a ninan a ddiangasom. Eglwys wig oedd hon yn cael ei chyfrif, ond o hyn allan eglwys lawn, gan fod Eglwys Criccieth yn cynydda yn rhif ei gwrandawyr a'i chymunwyr o dan weinidogaeth y Parch. J. LI. Jones, M.A., ac yr ydym yn gobeithio y bydd i Treflys gynyddn yr un modd.
IPONTARDAWE.
PONTARDAWE. CYFAEFOD LLENYDDOL.—Nos Iau, y 26ain cynfisol, cynhaliwyd cyfarfod cystadlenol yn Ys^oldy Cenedl- aethol y lie, dan lywyddiaeth y Parch. T. E. Davies, carad St. Pedr. Beirniadwyd y canu gan Mr. J. Wil- liams (Asaph Godre'r Graig) a Mr. W. Jones (Asaph Glantawe), a'r farddoniaeth a phethau eraill gan y Parch. N. Marlais Thomas, ficer Llanddarog. Daeth liri chor i'r gystadleuaeth, sef Rhydyfro, Alltwen, a Pontardawe. Enillwyd ar y prif ddarn gan Rhydyfro. Rhanwyd yr ail rhwng Rhydyfro a'r Alltwen. Palla amser a gofod i ni nodi y manylion Prif destyn y beirdd oedd Marwnad i'r diweddar G. Lewis, Ysw., Alltacham." Daeth tri chyfansoddiad i'r gystadleu- aeth, pa rai, yn ol sylwadau y beirniad, oeddynt yn dwyn 61 llafur. Dywedodd fod cyfansoddiadau can waeled a'r gwaelaf wedi derbyn gwobr cyn hyn fod yr ail yn meddo mwy o iaith y bardd yn ei eiddo, er iddo syrthio i ychydig amryfnsedd mewn dau neu dri o fanau; ond am y trydydd, sef y goreu, a'r goreu o ddigon, dywedodd fod hwn yn dangos llawer o alia yr awen a thlysineb, ac yn wir deilwng o'r wobr, yr hwn gawd allan fod yn eiddo Eos Wyn, Alltwen. Tafolwyd llawer o bethau eraill llai pwys mewn areithio ao ad- rodd ond nid llai digrif. Hefyd, chwareuwyd amryw ddarnau yn ardderchog gan ddisgyblion Mrs. Kirk- bonse, Alltwen Hill. Da genym allu dweyd i'r Asapb- iaid gyflawni eu rhan yn ganmoladwy fel beirniaid y canu. Cafodd y buddugwyr dameidiau, a'r grwgnach- wyr arferol fodd i gnoi cil am ysbaid. Goddefer i E.i dalu gair o deyrnged yn y fan hon i'n hanwyl gyfaill Marlais Thomas, am iddo ef a'i anwyl briod ddyfod i'n heisteddfod, a chyfiawni ei waith fel beirniad mor fodd- haol a digrifol. Yn sicr nis gallasai gwynebpryd mwy derbyniol wneyd ei ymddangosiad yn Mhontardawe na gwynebpryd hawddgar a siriol Marlais. Darfa iddo yn amser ei arhosiad yn y weinidogaeth yn y lie ymgiymn cymaint yn y trigolion fel ag y tnae ei enw yn anwyl a'i weled yn dreat nid bychan. Dyaiunwn hir oes iddo ef a'i briod. Llanwodd y Parch. T. E. Davies ei waith fel llywydd yn neillduol dda. Ymadawyd drwy ganu yr Anthem Genedlaethol. Ymwelwyd a'r ardal yr wythnos o'r blaen a dechreu hon gan Llinos y De. Ba yn cymeryd rhan yn yr wyl gerddorol yn Eglwys yr Holl Samt ac yn y cyngerdd yn y Music Hall. Gwelsom a chlywsom Llinos y De o'r blaen flynyddau yn ol yn Mhontardawe, ond Llinos y De oedd hi y pryd hwnw, ond Llinos y Byd yw hi beddyw. Y mae ei llais a'r gallu o'i lywodraethu uwch- law dycbymyg. Gobeithio y cawn glywed y Llinos eto cyn hir. Hir oes a llwyddiant iddi. Ymhlith yr holl bethau da sydd yn cael eu cynal yn y lie, y mae yma rai pe than amheus eu natur yn cael eu cynal hefyd. Gwn fod yr hen bobl yn arfer dweyd yn erbyn y ddawns a gwyliau'r nos, ond y mae gallu y bobl ieuainc, ond odid fagad o honyut, i ddweyd gyda'r Wy§§Fyn ^Ir^^ySrSTl^ydd^ i'r diweddaf, ac ynglyn a hwynt y mae ambeil i wyinos yn cymeryd Ile. "Llunier i gall haner gair," Diau y gellir dweyd rhywbeth o'u plaid fel ymarferiadau corff- orol a meddyliol, megis fod galla dyn yn dyfod yn fawr iawn drwy ei ymarferyd i weithio mewn rhyw gyfeiriad neillduol a pbriodol, canys y mae pa beth bynag y rhoddo dyn ei fryd yn benderfynol ar ei gyraedd neu ei gyflawni braidd yn sicrwydd y bydd iddo lwyddiant yn y peth hwn. Diau y gellid dwyn digon o ffeithiau ac esiamplau gerbron yn dangos fod dynion, drwy nerth ymarferiad corfforol a meddyliol, wedi cyflawni gorch- estion arnthrol mewn pob math o gampian gwageddus ac anianol; ond pa nifer o'r cyfryw sydd wedi gwneyd n6d o lesiant mewn hyrwyddiad masnachol a chelfydd- ydol, moesol a chymdeithasol, neu wareiddiol a chref- yddol ? Pa wlad ag sydd wedi gosod ei brpd ar wagedd a rho'i ffrwyn i nwydau sydd yn llwyddianus ac uchel ei bri ? Beiddiwn ddweyd nad oes yr un. Canys y mae y galluoedd ag y mae dyn wedi gael wedi eu gosod i weithio mewn cyfeiriad gwrthwynebus i Jwyddiant a chysur y cyfryw. Rhaid terfynu, gan addaw dweyd gair pellach ar y pen hwn yn lied fuan os byw ac iach fyddaf.-Ednagyn.
LLANFABON.
LLANFABON. "lR EGLWYS AC YMNEILLDUAETH.—Nos Lun, y 23ain cynfisol, cynhaliodd aelodau y Primitive Methodists entertainment yn Ysgoldy Cenedlaethol Nelson, yr elw oddiwrth ba un oedd i fyned tuag at adeiladu eglwys newydd yn y lie uchod, yr hon eisioes sydd wedi ei dechreu. Cymerwyd y gadair gan y Parch. J. M. Evans, B.A., curad, a chafwyd gwasanaeth rhai o brif gerddorion a llenorion y gymydogaeth. Protodd y cy- farfod yn llwyddiant hollol ymhob ystyr. Gobeithiaf na ddaw swyddogion y War Office "yn Dinbyeh i wybod am hyn, onide bydd yn sier z) greu cynwrf cyff- redinol, wrth weled fod mutiny yn tori allan ymysg y milwyr. Na chyhoeddwch hyn ychwaith yn nghymyd- ogaeth y Seren, neu bydd yna ddiffyg rhanol yn sici o gymeryd lie, gweledig yma, ac amddifada hyn ni o'i goleuni llachar. Tithau, Oleuad disglaer, gyda'th ar- wyddair clodwiw, "Delenda est carthago," na cbyth- rybler di, Because there are tides in the affairs of men." Terfynaf gyda diolcbgarwch i'n cyfeillion y Primitive Methodists yn y lie hwn am yr ysbrvd Crist- ionogol ag y maent bob amser yn ei fabwysiadu.— Amicus Amicitiae.
HENDY GWYN AR DAF.
HENDY GWYN AR DAF. Er ein bod yn teimlo yn wir ddiolcbgar am y gwlaw maethlawn, eto yr oedd y Sul diweddaf dipyn yn anghyfleus i'r rhai hyny o'r plwyfolion ag y mae gan- ddynt lawer o ffordd i bresenoli eu hunain yn y gwas- anaethan. Ond y mae y Sulian gwlyb yma yn ateb y diben i brofi ffyddlondeb ein cynulleidfaoedd. Dangos- wch i ni Eglwyswr egwyddorol a goleuedig, nid yW hwnw fel ceiliog y gwynt (yn troi gyda'r gwynt), nid yw cawod o wlaw yn ddigon i'w rwystro ef; nid oes dim ond afieohyd neu amgylchiadau anorfod eraill a'i ceidw ef o'r cynteddoedd-gellwch ymddiried ynddo ef. Digon hawdd adwaen pwy sydd wedi arfer darllen Y LLAN a'r wasg Eglwysig-y maent hwy yn zelog ac yn benderfynol yn inghymortb gras i fod yn ffyddlon hyd angau, ac i bara hyd y diwedd. Yr ydym wedi ceisio lloffa ychydig o hanes cyfarfod cnwarteroi nnaeo ein itysgolion bul a gynhaliwvd yn St. Clears, ddydd Sadwrn, yr 21ain cynfiBol o daO lywyddiaeth ein parchus Ddeon Gwladol. DeallwU ddarfod i afiechyd rwystro y Parch. C. R. Davies, Arolygwr Ysgolion Eglwysig yr Esgobaeth, i fod yno, a darfod i Mr. T. Davies, Bank, neidio i'r adwy » gwneuthur sylwadau rbagorol ar y pwysigrwydd 0 ymdrechn gyda r Ysgolion Sul am fod llai o ddarlle" Gair Daw a galw ar ei, enw yn deuluaidd nag oedd- Siaradwya hefyd i'r an perwyl gan ficeriaid Llan* ddowror, Llanwono, a Cyffig a Marros. Yr oedd sylwadau yn gyfryw ag sydd yn creu awydd ynom aD1 ei weled yn dechreu yn ei blwyfi fel y caffom dipyo o hanes ffrwyth ei lafur yno eto. Gwnaeth Mr. David Wilkins, o Llanddowror, sylwadau cynes a charedig am y Ficer a'i briod hawddgar. Da iawiil. Wilking- Dewch am dro weitbiau heibio i'n brodyr a minan. yr ydym yn earn yr ysbryd yna yn fawr. Ewch ymlae" gan ddal breichiau eich Moses i fyny, fel y caffer budaugoliaeth ar Amalec. Deallwn ddarfod penderfyf.11 talu ymweliad a Lacharn yn ystod yr haf. Bydd yn braf i'r plant bach (a'r plant mawr hefyd) drenho diwrnod yno. Cofiwn fod yn rhaid i ni ymbarotoi ein Hysgolion Sul cyn y byddwn barod i fyned yno. awr, ynte, codwn ati a dysgwn ein gwersi yn dda aiB J tri mis dyfodol. Bydd Mr. Helm ac Afonwyson yma ddydd Mercbe^' y 9fed, am 2.30. Amser anghyfleus o'r dydd fydd i Dl' ond am unwaith gadewch i ni adael y cyfan a dyfod & ein gilydd i gael ychydig o hanes yr Eglwys Bydd gwfr mawr yn y gymydogaeth yno. Yr ydym weled pob dosbarth a phawb yn an a chytun yn yr,^ lie. Bydd yr anerchiadau yn dra sicr o wnenthn lleshad i ni, gan fod cymaint o anwybodaeth yn ar bynciau fel hyn ymhlith y werin bobl, a rbywrai y cymeryd mantais ar hyny i'w harwain ar gyfeibo^ Dylasai y ddau foneddwr hyn lefaru yn Whitlana, y anad dim. Bydd gedym air i'w ddweyd ar y pwnc nw yn y nesaf, gyda chaniatad y Golygydd care° Rhodd wn ein hysgrifell heibio y tro hwn et°> obeithio cael mwy o hamdden i ymdrin & Iwysig a chartrefol rywbryd eto. Y mae yn fodof rwydd mawr genym fod mwy o ddarllen ar Y J
SoABERERCH, PWLLHELI.
So ABERERCH, PWLLHELI. CYARFOD CYSTADLEUOL.—Cynhaliwyd cyfarfod eys- tadlenol blynyddol perthynol i ysgol Sul. Eglwys St. Cawrdaf, Abererch, nos Iau, y 26ain cynfisol. Cym- erwyd y gadair gan Mr. 0. Lloyd Eyans, Broom Hall, yr hon a lanwodd yn dra deheuig. Gwasanaethodd y boneddigion canlynol fel beirniaid ;—Traethodau, Parch. D. Jones, Llanystumdwy barddoniaeth, Parch. D. Morgan (Mynyddawc ap Ceredig), Pen- rhyndeudraeth; darlleniadau ac adroddiadau, Parch. R. T. Jones, Pwllheli; cerddoriaeth, Mr. W. L. Thomas, game dealer, Pwllheli; llawysgrifau, Mr. W. Roberts, ysgolfeistr, Piasgwyn. Aed trwy y rhaglen dan arweiniad y ficer, y Parch. J. Morgan Jones, pryd y gwobrwywyd y buddugwyr canlynol:—Traethodau, John Jones, Tai Ship, a Mrs. Anne Owen, Care? Cath barddoniaeth, David Davies (Dewi Erch), a Edward Owen (Iorwerth Tudno), Careg Cath; adroddiadau, Lizzie Adelaide Jones, Shop, Thomas Owen, Richard Evans, ac Anne Davies darlleniadau, Lizzie Adelaide Jones, Laura Jane Parry, a Jane Rhoda Jones; am- rywiaeth, Rachel Pritchard, L. A. Jones, Thomas Owen, a Richard Evans; llawysgrifan, L. A. Jones, Richard Evans, a Thomas Owen; cerddoriaeth, enill- wyd gan bartion perthynol i Ysgol Sul yr Eglwya ar y corganiad o Salm cl., chant Woodward; tônan Andrew of Crete," ac I Inn ocents, "Toriad y dydd," "Bugeilio'r gwenith gwyn," a'r tonan efylychiadol (action songs), "The cat and the kittens," "The fleaner," a "Little Dolly," gan blant yr ysgol ddyddiol. )adganodd Mr. Ellis Williams, y Feiin, Mi gollais y tren," yn bur ddoniol, a chanodd St. Cawrdaf's Glee Party y canigau, "Gwanwyn," a "Gwenau y Gwan- vryn," yn swynol a chwaethus dros ben dan arweiniad Jot. William Roberts, Piasgwyn. Ar ol talu y diolch- iadau i'r beirniaid, y llywydd, yr ysgrifenydd, MIBSI Agnes J. Parry, a Mr. W. Roberts am eu liafu'' a'u diwydrwydd yn addysgu y plant mor dda, diweddwyd drwy ganu yr Anthem Genedlaethol..
GLYNTAF.
GLYNTAF. Nos Wener, yr 20fed cynfisol, traddododd Mr. Helm ddarlith yn YEgoldy Cenedlaethol y plwyf uchod. Ei desyn oedd Yr Eglwys yn NgLymru ei dechreuad, ei hanes, ei gwaith, a'i eafle." Dilynodd banes yr Eg- lwys i lawr o'r amser boreuaf hyd yr oes bresenol, a phrofodd tu hwnt i bob dadl mai yr nn yw yr Eglwys yn awr a'r Eglwys yn yr oesoedd borenaf. Cafwyd darlith faith, feistrolgar, ac adeiladol. Y. cadeirydd oedd Mr, L, Gordon Lennox.
LLANNEFYDD.
LLANNEFYDD. Y DEGWM.—Clywir yn fynych fod amaethwyr y plwyf a'r plwyf yn barod i daiu en degwm ond cael ychydig yn ol. Nid yw hyny ond cocbl, gan mwyaf, i guddio gwarth eu hymddygiad, a thwyllo y gwirion. Yr oedd Ficer y plwyf uchod ymysg y rhai cyntaf yn Ngogledd Cymru i droi deg y cant yn ol, a mawr y clod oedd iddo yn y plwyf, ac allan o'r plwyf hefyd, am ei gxredigrwydd. Ei arfer oedd troi yn ol, a'i law ei hun,, pbaoddygid tocynau iddo ar ol i'r arian gael eu derb^yn llawn gan ei oruchwyliwr. Ni bu cwyn yn orbyw. ei drefn am dair haner blwyddyn. Yn mis Mehflfti diweddaf gofynwyd iddo a fyddai mor dda a throijyn ol ar ddiwrnod y talu. Ei ateb oedd, ei fod yn barod i wneyd hyny. Pan ddaeth dydd y talu cafodd pawb, oddieithr dau, yn ol deg y cant yn ol. Yr oedd y ddau hyny yn trin en tyddynod eu hun. Gwelodd y Ficer un o honynt prydnawn yr un diwrnod, a dywed- odd wrtho nad oedd yn werth ganddo wneyd gwahan- iaeth rhyngddo ef ag eraill, er gwrthod o hono ei docyn y boreu hwnw. Dymunodd arno ar yr un pryd ddweyd yr un peth wrth ei gyfaill. Ni welodd docyn y naill na'r llail byth ar ol hyny, er dweyd fel yna wrth un o honynt. Paham ? Caiff y darllenydd dynu ei gasgliad. Tua chanol mis Rhagfyr anfonodd at ei or- uchwyliwr i ohirio dydd y taln yn mis Ionawr byd ar ol ffeiriau Dinbych, am fod y farchnad y mis o'r blaen wedi bod morfarwaidd. Oddeutu'r Nadolig, derbyniodd lythyr, yn enw y degwm-dalwyr, neu rai o honynt, yn cynwys cais ar i ddydd y talu nesaf gael ei ohirio hyd ar ol ffeiriau Ebrill yn Dinbych. Ni anfonodd ateb i'r llythyr yna, am ei fod yn cyfrif y cais yn ddi alw am dano. Yr oedd pawb, am lawer blwyddyn, wedi bod yn cael talu len degymau bryd y byddai yn gyfleus iddvnt, rhai yn talu ar y diwrnod, eraill ar ol hyny, ymhen mis, dau fis, pum' mis, ac hyd yn nod blwyddyn. Dywedodd y Ficer wrth gyfaill paham nad oedd yn bwriadu ateb y cais a anfonwyd ato, a dymunodd arno wneyd hyny yn hysbys i'r gwrth-ddegymwyr, ond waeth iddo dewi. Dyna gyfarfod yn cael ei alw a phenderfyniad yn cael ei basio nad oedd y degwm i gael ei dalu hyd ar ol ffeiriau Ebrill yn Dinbych. Daeth dydd y talu yn Ionawr oddiamgylch, a chafwyd swm lied dda o arian, ac aur hefyd o ran hyny, ond yr oedd gwyr, a gwragedd hefyd, yn gwylied yn ddyfal pwy oedd yn dyfod i'r Llan y prydnawn hwnw, a daliwyd hwy i fyny, braidd wrth eu henwau, mewn iaith sarhans mewn newyddiadur dimai yr wythnos ganlynol. Tua diwedd mis Chwefror anfonodd y gor- uchwyliwr ail apel am y degwm at y rhai oedd heb daln ar y pryd, a chafodd lythyr yn bur fuan mewn ffordd o ateb. Ysgrifenydd y llythyr oedd Thomas Salisbury. Yr oedd yn amgau penderfyniad wedi ei lawnodi gan N. C. Ellis, cadeirydd. Gallesid meddwl o bosibl fod y naill a'r Hall yn dioddef yn drwm dan faich eu degymau. Na, ond dosbarth o'r lath yna sydd yn uchel eu cloch yn y cyfarfodydd ar bwnc y degwm a dadgysylltiad yr Eglwys. Felly yna, llanc o deiliwr yw T. Salusbury, ni thalodd ddimai o ddegwm erioed na'i dad o'i fiaen. Wei, beth am y cadeiryod, N. C. Ellis ? Crydd oedd hyd yn ddiweddar, a chlywais ddweyd mai crydd fyddai byd yma i bob tebygolrwydd oni bai i bertbynas i'w dad, cotta da am dano, adael iddo dyddyn bychan o ryw deuddegacer ar ben mynydd y Gyrt. Pob parch i'r "wydd" ac i'r "lapston" hefyd, end y mae yn anhawdd dyfalu beth sydd a fynont a mater y degwm. Yr ydym ni, degwm- dalwyr y cwr gorllewinol Llannefydd,, yn nnfrydol yn dal," &c. Dyna ran o'r l'enderfyniad. Nid oedd o bwys fod llawer wedi talu.- Na, ni untrydol raid osod i lawr. Ni yw pobi cwr gorllewinol Llan- nefydd." Tybed fod ni fawr cwr gorllewinol Llannefydd yn dal perthynas a'r tri teiJiwr yn Llun- dain gynt ? Ni, pobl Prydain Fawr, dywedent hwy, a ni nnfrydol y cwr gorllewinol yw iaith T. R. E, & Co. -Antilmmbug.
GARTHBRENGI.
GARTHBRENGI. Nos Iau, y 26ain o Ebiill, cawsom gyngerdd ar- dderchog yn Ysgoldy Llandefaelog-fach, i'r diben o gael funds i brynu stove, &c., i eglwys Garthbrengi. Cadeiriwyd gan y Parch. W. Williams, D. G., ac yr oedd yr ystafeil yn llawn, a'r cantorion yn eu hwyliau goreu; mewn gair, ni chawsom erioed well canu, yr hyn a werthfawrogid yn fawr gan y dorf. a ddaeth ynghyd i. ddangos eu cydymdeimlad &'r symudiad clodwiw. Heblaw y cantorion lleol, cawsom gynorthwy prif gan- torion Aberhonddu, a Mias Thomas, Rbeithordy, Lian- wrtyd. A ganlyn oedd y rhaglen :—March, Drum and Fife Band can, Edward Grey,' Mr. C. Bell; can, Leap Year,' Miss Thcmas,Llanwrtyd: can, 'Yeoman's Wedding,' Mr. H. Watkins pedwarawd, The StarB that above us are shining,' Parch. W. Howell a'i barti; can, I Katey's latter,'Miss A. Thomas, DaDyllan; can, Anchored,' Mr. Evan Jones, Aberhonddu; can, 'Children's Home,' Miss A. Pric j can, 'John and Jane,' Mr. Rbys DavieFi; deuawd, The Land,' Mr. a Miss Bell; qidck step, y Seindorf; unawd ar y berdoneg, Miss Bell; can, Over the Sea with a Sailor,' Mr. Hando can,' The Golden Path,' Miss Liz. Howell; can,' Acoross the far blue Hills. I Mr. Hadley Watkins can, When the robins nest in Spring, Miss A. Parry; alawon Cymreig ar y crwth, y Parch. W. Howell; can, The Village Blacksmith,' Mr. Evan Jones; can, The Little Mountain Lad,' Miss Thomas, Llanwrtyd; canig, When first 1 Baw youi !Face,' y Parch. W. Howell a»'i barti; deuawd, Tell gentle stranger,' Misses Parry a Price can, The Hando can, 'The Romany L%es,' Mr. Hadley Watkfes; can, The Jubilee Day,' Mr. Rhys Davies march, y Sein. dorf. Diweddwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaetbol. Y flwyddyn ddiweddaf cawsom gyngerdd er mwyn pwrcasu llestri arian er gwasanaeth y Cymun, yr hyn a tu yn llwyddianus; felly o dipyn i beth yr ydym yn cael pethau mewn gwell trefn yn ein Heglwys. Mae'r Parch. W. Howell, ficer y plwyf, wedi ciiiio y ddyled ar ol yr adgyweiriad er's llawer dydd, ond y mae eisiau llawer o bethau eto arnom, er mwyn caei pob pethyn drefnus a cbysurus. Nid yw poblogaeth y plwyf ond 140, yn capl eu gwneyd i fyny o ffermwyr sydd ar eu goreu yn cael dau ben ynghyd rbywffordd, ac heblaw hyny nid oes un tirfeddianwr yn preswylio yn y plwyf, fel yr ydym i raddau helaeth iawn yn ym- ddibynol ar gynorthwy allanol. Y mae ei parchus Lyj I'a I Ficer newydd gyfansoddi a chyhoeddi anthem Gymreig, a byeld Y1 cllT T« ci ro> uo aciiuulon ein HeglwyB yn y plwyf hwn, a gobeithiwn y gwna y corau Cymreig dd'od allan i gefnogi en hen arweiniwr, Hywel Idloes, yr hwn sy'n adnabyddua i'r rhan fwyaf o gorau Cymreig Cymru.
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. BWRDD Y GWARCHEIDWAID.—Dydd Gwener diweddaf cynbaliwyd y bwrdd cyntaf ar olyr etboliad diweddar, ac ail etholwyd yr oil o'r hen aelodan oddietbr un, yr hwn a ymddiswyddodd. Etholwyd y Parch. Prebendary Garnons Williams yn gad«irydd am y deunawfed tro; ac hefyd etholwyd Mr. William Perrott, Llangorse, a Mr. John Evans, Mount View, yn is-gadeirwyr. Daeth llawer o'r ex-officios ynghyd y tro hwn, oherwydd yr oedd etholiad cofrestrwr genedigaethan a marwolaetb- I an am ddosbarth Aberhonddn, yr hwn sy'n cynwys tua dwsin o blwyfi, i gymeryd lie. Dyma'r unig amser yr ydym yn cael gweled gwyneban llawer o'r boneddigion hyn. Byddai yn dda pe baent yn rhoddi eu presenol- [ deb ar achlysuron eraill i gynorthwyo y bwrdd i gario en gwaith ymlaen. Yr oedd nawo ymgeiswyr, a dis- ) gynodd y goelbren ar Mr. James Moses, Libanus. Yr ydym yn llongyfarch Mr. Moses ar ei benodiad, ac yr ydym yn deall fod y penodiad wedi rhoddi boddlon- r rwydd cyffredinol. Bydd yn golled i Eglwys St. Illtyd i golli Mr. Moses o'r ardal, oherwydd yr oedd yn Eg- lwyswr ffyddlawn, ac yn gynorthwy mawr i'r ficer liafurus, y Parch. J. Davies. Y mae y Parch. J. S. King wedi dechreu ar ei waith fel curad Ssisnig y dref, ac y mae wedi cael derbyniad croesawgar gan yr Eglwyswyr. Y mae'n dda genym ddweyd fod yr achos Cymreig yn flodeuog dan ofal y Parch. Saunder Jones (mab Rheithor Manordeifi). Y mae'r gynulleidfa wedi cynydda yn fawr yn ddiweddar, ac y mae llwyddiant yn argraffedig ar weinidogaeth Mr. Jones. Yn wir, nid ydym yn gwybod am un plwyf lie y mae'r Eglwys mor gryf ymhob ystyr, yr hyn sydd i'w briodoli i'r ficer gweithgar a'i gnradiaid ffyddlawn, ac hefyd j parochial visitors. Nid dyn o lawer o eirian a stwr yw Ficer Aberhonddu, ond gweithiwr distaw a diwyd, a hollol ddidramgwydd, ac felly yn cael ei barchu gan bawb yn gyffredinol.
CWMAFON.
CWMAFON. Mae y gweithfeydd yn edrych ar i fyny, masnach yn bywiocau, a'r hen Gwm yn penderfynu cadw ei deitl, sef Modern Arcadia." Independia yn stormio'r am- ddiffynfa, Shon Gorph yn parotoi ar gyfer assault arall, y Batis yn cymeryd stock, a Cilcarn yn blaenllymu'r cwilsyn. Ond beth, tybed, am yr Hen Eglwys ? Wel, syr, mae yn dda genyf gael ar ddeall nad ydyw yn tynu ei thraed ati, ac nad ydyw yn bwriadu marw heb roddi cic eto. Mae wedi bod yn clafycbu er's talm, ac yamae yn bwriadu rhoddi bywyd arall yn y Cwm. Beth ddywed y Lewisiaid, yr Edwardiaid, a'r Griffisiaid am y stroke of business yn y Festri ddiweddaf, nie gwn; ond hyn a wn, y bydd i'w doluriau ymffyrnigo yn ofnadwy* Mae peswch dadgysylltiol Corpbyn y Terrace i'w glywed hyd yn Pwllygwlaw, ac asthma Sentar y Pwli yn gwichian yn ol i'r Terrace. Clywais eu bod wedi gyru am ddwy botelaid o Liberatio Balsam. Mae y Penueliaid yn flinderog oblegid yr hen obenydd gareg;, ond y mae yn ffodaa iddynt fod guardian yn eu plitb. Ond ow I ow I beth yw y rheswm am y cynwrf ? Wel, dyna i gyd, meddai Hopkin Morris wrthyf n, fod y ficer a'r gweddill o feibion yr Hen Fam yn bwriadu estyB cortynau en preswylfeydd, ac yn meddwl adeiladn Mission Room mewn cwr o'r lie; ac oblegid y symud- iad y symudiad hwn mae cenfigen wedi ymfflamychn, a gwaeddant o Gapel Isaf i fyny heibio'r Efail Fach hyd Benrbys, Dadsefydler a dadwaddoler hi," ac yna "Cawn fara, cawn oferedd,-O I cawn hwn, Cawn winoedd ddigon; Cawn fir gwlad, cawn fri a gwledd, Cawn y cwbl yw can cabledd."
LLANON, ABERTEIFI.
LLANON, ABERTEIFI. Nos Fercher, y 25ain cynfisol, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn ysgoldy yr Eglwys yn y lie hwn i gyf- lwyno tysteb i'r Parch. John Evans, diweddar ficer Llansantffraid, ar ei ymadawiad oddiyma i'w faes llafur newydd, sef bywoliaeth unedig Llandeloi a Llanhowell, air Benfro.' Yr oedd y dysteb yn gynwysedig o oriawr aur, brass writing set, gwydr ddrychau anr, pwrs o anr, a Beibl. Cymerwyd y gadair gan Major J. G. p. Hughes, Alltlwyd, gan yr hwn y cafwyd anerchiad agoriadol. Cyflwynodd yr Hybarch Mr. Herbert yr oriawr aur i Mr. Evans mewn ychydig eiriau pwrpasol. Mrs. Hughes, Alltlwyd, a gyflwynodd y pwrs a'r aur i Mrs. Evans. Cyflwynwyd y Beibl i Mrs. Evans (rhodd ei dosbarth yn yr Ysgol Sul) gan Miss Jones, Dauntless House. Miss Annie Lillian Maud Jones a gyfiwynodd i Mr. Evans y brass writing set (rhodd ei mham, Mrs. Jones, Cadivor Villa). Miss Jones, Rose Villa, a gyf- lwynodd i Mr. Evans bar o wydr-ddrychau aur. Caf- wyd anerchiadau gan Mr. Daniel Jones, Penlone Farm, churchwarden y plwyf Mr. Evans, Post Office; Mr. William Williams, Chapel Street; Captain Richards, Pant-teg; Mr. William Arthur Jones; Mr. J. Davies, Brittania House; Mr. Francis Evans, grocer, y rhai a dvstiolaethent i weitbgarwch Mr. a Mrs. Evans. Y Parch. Mr. Evans, wrth ddychwelyd diolcbgarwch ar ei ran ei hun, Mrs. Evans, a'r teulu, a ddywedodd fod yn anhawdd iawn iddo siarad yno y noson hon, ac nid oedd neb yn disgwyl iddo siarad nemawr. Gallai en sicrhau ei fod ef a Mrs, Evans yn dra diolchgar iddynt am yr arddangosiad hwn o batch. Yn ystod y tair blynedd a haner y bu yn llafurioyn en plitb yr oeddynt wedi casglu dros X500 at wahanol achosion, a chafodd hyn oil ei gasglu yn y plwyf. Hyderai y byddai iddynt wneyd eu goreu i ddal breichian y fioer newydd, Mr. Lewis, fel yr oeddynt wedi dal eifreichiauef. Gobeith- iai gaeleu cyfartod eta yma hob fod yn hir. ond os na. chaent gwrdd yma, ymgyfarfyddent yn y wlad lie nad oedd neb yn ymadael mwy. Wedi talu y diolchiadau arferol terfynwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol. Cyfeiliwyd yn y cyfarfod gan Miss Herbert, Dole. Mae clod neillduol yn ddyledus i Mrs Jones, Cadivor Villa, a Miss Jones, Rose Villa, am eu llafur a'u hymdrech ynglyn a'r dysteb hon.-Gohebydd.
BRYNAMMAN.
BRYNAMMAN. Xii.wvr>r>xAMT CI.UDBOHOI. ■— J.) a, genym fod ein rliwT-" A wedi dyfod i hysbysu yn ngliolotpan YI,r »« amlwydd- f lant y cyfaill ieuanc, a'r Eglwyswr zelog, vn ei ar- holiad diweddaf yn y Tonic Solffa College", sef Mr Theophilns Evans, Brynamman, a'i fod wedi enilliddo ei hun yr A.C. Nid ydyw yn <,wr ond ieuanc iawn, ond t,r hyny yr ydym wedi cael y tJeaer o wrando a mwyn- hau ffrwyth ei lafur yn yr Eglwys hon, a gobeithio y cawn weled ei alluoedd yn caei ei dadblygn yn fwy yn y dyfodol Un o'i brif ymdrechion ydyw dyrohafu cerddoriaeth y cysegr, ac y mae bob amser yn mwyn- hau mewn gwneyd daioni. Gobeithio y caiff i-ierth I wasanaethn ei Ddnw yn y cyfeiriad hwn, ac enill iddo ei hun enw da. Yr wyf yn dymnno iddo bob llwydd- iant i fyned rhag ei flaen i wasanaethu ei Eglwys a'i genedl, a bydded ei arwyddair y canlyn, "yn gwneuthur daioni na ddiffygiwn."—Gohebydd.