Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Amynedd sydd nerth; diffyg amynedd sydd did- • Mia*'1 — Un peth ag y mae yn fwy bendigedig ei roou dderbyn.—Cyngor. egjd — Sut y mae y byd yn debyg i berdoneg ? 00 ei fod yn llawn o flats a sharps, ppd — Tuedd amheuaeth yw anesmwytho y medaW > tnedd ffydd yw ei dangnefeddu.
.L. PIG ION O'R VlASG GYMREIG,
.L. PIG ION O'R VlASG GYMREIG, (GAN VEBITAS.] TYSTIOLAETH GWEINIDOG Y BEDYDDWYR AM LWYDDIANT YR EGLWYS. '(Seren Cymru, Mai 4yd.) Er cymaint ydyw nerth Anghydfiurfiaeth yn Nghymru, nis gallwn fforddio i anwybyddu ymdrech- ion yr Eglwyswyr y dyddiau hyn. Y mae cymaint wedi ei ddweyd a'i ysgrifenu ar1 fethiant' yr Eglwys yn Nghymru, fel un o'r rhesymau penaf dros Ddad- gysylltiad, nes y mae'r Hen Fam wedi penderfynu gwneyd ei goreu i ddiddymu argument y methiant' drwy ddwyn ffrwyth eto yn ei henaint. Credwyf fod mwy wedi ei wneyd o ddadl y « methiant' nag a ddylid pe byddai Eglwys Loegr wedi arfer bod yr enwad mwyaf llwyddianus yn Nghymru, buasai fy aiddgarwch dros Ddadgysylltiad yr un mor frwd- frydig ag ydyw yn awr. Camsyniad dybryd, tybiwyf, oedd religious census 1887. Nid oedd ei eisiau o gwbl. Nis gall y crafius lai na gweled fod yr Eglwys Sefydledig yn cynyddu mewn rhif y dyddiau di- weddaf hyn, yn enwedig mewn rbai partbau yn Nghymru. Gwyddom am eglwysi ag oeddynt yn gydmarol wig ychydig amser yn ol, ond yn awr yn gydmarol lawn. Bo amser pan nad oedd y mwyaf- rif o'r ofieiriaid yn blino dim wrth weled yr eglwysi yn weigion, a'r capeli yn llawnion. Pa fodd y mae cyfrif am bresenoldeb meibion a merched llawer o deuluoedd cyfoethog Anghydffurgol Cymru yn Eglwys Loegr ? Cydnabyddwn fod rhai o honynt yn myned yno er mwyn ymgymysgu a, chymdeithas mwy anrhydeddus a boneddigaidd, ond gwyddom fod amryw yn cael eu hud-ddenu yno drwy ddichell a swyngyfaredd yr ofieiriaid. Dylai rbieni Anghyd- ffurfiol wneyd mynediad eu plant i Eglwys Loegr yn beth anmhosibl ond oddiar dir hunan-ewyllysgarwch a hunan-argyhoeddiad. Y mae braidd yn anghred- adwy meddwl fod diaconiaid ein beglwysi yn oaniatau i'r periglor neu'r ourad ddyfod i'w tai, dal pen rheswm i'w plant, ac yn y diwedd eu proselytio i Eglwys Loegr. Dylai yr eglwysi ar bob cyfrif alw y rhai hyn i gyfrif am eu hanffyddlondeb i'w heg- wyddorion. Os yw y clerigwyr yn llwyddo i broselyt- io mewn teuluoedd cyfoethog a dysgedig, pa ryfedd eu bod yn gwneyd felly ymhlith y tlodion a'r an. wybodusion. GWEINIDOG METHODISTAIDD AR YR IAITH GYMRAEG. (Y Goleuad, Mai 3ydd.) Nid yn gallu gweled pa fodd y gellir cyfrif iaith yn un o hanfodion cenedlgarwch. Ac os nad ydyw yn un o'r hanfodion, yna mi allaf fod yn Gymro trwyadl er peidio arfer yr iaith Gymraeg. A byddai yn dda genyf weled ychydig mwy o le i ewyllys weithredu y dyddiau hyn ynglyn a'r iaith Gymraeg. Cydnabod y gall y Cymro aros yn Gymro er gwrthod yr iaith. Gwyddoch nad ydym ni fel teulu yn ei gwrthod-yr ydym yn ei harfer am ein bod yn credu llawer ynddi; ond y mae llawer o Gymry o'n ham- gylch yn meddwl am dani fel arall, ao oherwydd rhesymau digonol iddynt hwy, y maent wedi ei gadael yn iaith farw. A ydynt oherwydd hyn yn llai gwladgarol na mi ? Nid wyf yn gweled eu bod. Cydnabyddaf fy mod yn credu eu bod yn colledu eu hunain a'u teuluoedd drwy beidio dal at yr iaith Gymraeg ond os nad ydynt yn gwelod hyn, pwy wyf fi na neb arall i ymgymeryd &'u difiio, a dweyd eu bod yn fradwyr, ie, yn waeth na phublicanod Judea. Mae canoedd o'r cyfryw i'w cael yn Nghymru y dyddiau hyn—yn llawn ysbryd a than Gymreig, ond yn cydwybodol gredu nad ydyw yr iaith i aros yn hir fel iaith ymarferol Cymru. Yn ngwyneb hyn beth yw ein dyledswydd ? Ai crawcian yn dragywyddol am yr iaith yn y cyhoedd a thrwy y papyr, a siarad dim ond Saesneg yn y teulu ac wrth fasnachu ? A raid i hen iaith ein gwlad wrth fiyn baglau pwdr ? Onid yw ei thlysni, ei phrydferth- woh, a'i nerth yn cael eu anmharu gan ddwylaw bryntion llawer a geisiant ei dal i fyny ? Ac onid priodol fyddai gadael iddi weithio ei hunan i fyny yn nghwrs naturiol pethau, a chredu fod ouddiad ei ohryfder a dirgelwch ei llwyddiant ynddi ei hun, ao nad ydyw y dydd ymhell pryd yr ymddangoso yr hwn y mae ein tadau wedi prophwydo am dano— gwr a gynyrcha ddarnau o'r fath fri ag i beri nid yn unig pob Cymro, ond Saeson, ao eraill, ddysgu hen iaith ein gwlad er mwyn daillen ffrwyth ei athrylith. IAWN I DAFARNWYR. (Baner ac Amserau Cymru, Mai 5ed.) Na fydded y dirwestwyr yn hyderus o gwbl y bydd llwyddiant ar eu croesgad presenol yn erbyn yr iawn i dafarnwyr. Gofid calon i ni ydyw gorfod edrych ymlaen yn dra diobaith am fuddugoliaeth. Y mae yr oil o'r blaid Doriaidd (gydag ychydig eithriadau) wedi eu tynghedu i gadw y llywodraeth. Yr un peth sydd i'w ddweyd am y corph mawr o'r Undeb- wyr yn ogystal. Gwell gan rai o honynt hwy fyddai oydnabod haner cant o egwyddorion pwdr o'r nodwedd hwn na gweled eu gelynion," y Rhydd. frydwyr, yn dyfod at y llyw. Hanerog, ysywaeth, ydyw y blaid Ryddfrydig ei hun hefyd ar y mater. I chwanegu at y drwg hwn, ni cheir gan Mr. • Gladstone arwain yn y cad hwn. Rhwng pob peth, yr ydym yn ofni mai cadarnhau yr ormes newydd hon a wneir gan y senedd bresenol. Y PAB A'R PARNELLIAID. (Gwalia, Mai 2fed.) Y mae y Pab o Rufain o'r diwedd wedi d'od allan gyda tharanfollt ar bwnc yr Iwerddon sydd wedi gosod y Parnelliaid a'u ddilynwyr Gladstonaidd mewn penbleth. Gwyr pawb mai y grefydd Babaidd sydd yn oruchaf yn yr Iwerddon, a gwnaeth Mr. Gladstone ei oreu i hyrwyddo hyny trwy ddadgys- ylltu yr Eglwys Brotestanaidd, yr hon a ddylasai, pe wedi ei meithrin yn briodol, fod wedi dwyn y wlad anffodus i drefn. Mae ugain mlynedd er pan wnaed hyny, a disgwylid yr adeg hono y byddai yr Iwerddon wedi ei gwneyd yn ail baradwys yn hir cyn hyn. Y mae un gallu cryfach yn yr Iwerddon na gallu Parnell a'i blaid, a hwnw yw dylanwad yr offeiriadaeth Babyddol. Onibai am yr offeiriaid Pabyddol, ychydig, os dim, fyddai dylanwad Mr. Parnell, oherwydd drwy offerynoliaeth y blaenaf y mae efe yn gallu cyraedd a dylanwadu ar y bobl. Mae y Gwyddelod yn ofni cymaint ar yr offeiriaid Pabaidd, ao yn dilyn eu cyfarwyddiadau, fel nad oes nemawr gyfarfod gwleidyddol na chynygreiriol na bydd un o honynt wrth y llyw. Dyma y dos. barth sydd yn cyfarwyddo boicottio a'r lloerganwyr. FeHrheol, yr offeiriad a geir yn cadeirio mewn oy- farfodydd, ac yn ceryddu pawb fyddo wedi troseddu deddfau y cyngrair, a thrwy ei ddwylaw ef y mae tanysgrifiadau y bobl at gronfa y oyngrair yn cael eu casglu. Yr wythnos ddiweddaf, daeth allan lythyr swyddogol o'r Vatican wedi ei gyfeirio yn un- iongyrchol at Gardinaliaid ac Esgobion Pabyddol yr Iwerddon, yn mynegu condemniad mwyaf llym y Pab yn erbyn boicottio, lloerganwaith, y Plan of Campaign, a'r fiurfiau eraill sydd gan y Parnelliaid i argraffu eu syniadau ynghylch cyflwr yr Iwerddon. Y sawl ni chredo yn y Pab ac yn ei anfiaeledig- rwydd, nid yw Babydd mwyach, ac felly gellir dis- gwyl gweled ofieiriad Pabaidd yr Iwerddon mewn penbleth. Nid yw yn debygol y gwrthryfelant yn erbyn y Pab, yn neillduol pan y gwyddant fod y condemniad a rydd efe yn erbyn troseddau o bob math yn berffaith gyfiawn. Beth a wnant, ynte ? Amser a ddengys. Y maent wedi bod yn ymladd yn galed gyda'r Cyngrair Tirol gan ddylanwadu ar y ffermwyr Gwyddelig, ac yna gyda'r Cyngrair Cenedl- aethol er cael Home Rule i'r Iwerddon. Pe cawsent hyny, yna deuai eu hamser hwythau i dderbyn eu gwobr, a'r hyn y maent yn edrych ymlaen ato fel eu cyfiawn" wobr am eu rhan yn y gwaith o siorhau y tir am ddim i'r ffermwyr fydd math o doll neu ar- dreth ar y tir wel, ni a'i galwn yn ddegwm, ac o dipyn i beth, pwy a wyr na ddeuai y tir yn waddol i'r Eglwys Babyddol Sefydledig yn yr Iwerddon ? Byddai y Pab mor hoff o hyny a neb; ond, cbwareu teg iddo, nid yw yn credu yn y moddion yr oedd ei blant yn ei ymarfer er sicrhau hyny. Y mae wedi d'od arnynt fel huddugl i botes, ac y mae Mr. Par- nell a Mr. Gladrtone mewn pendro beth i'w wneyd yn awr. CYNRYCHIOLAETH LLAFUR. (Y Gweithiwr, Mai 3ydd.) Mae canlyniad etboliad Mid-Lanark yn wir siom- edig. Gorchfygwyd y cynrychiolydd llafur, Keir- Hardie, gyda mwyafrif mawr. Er mai Gladstoniad oedd yr etholedig-yn barod i bleidio mesur eang o Ymreolaeth i'r Iwerddon, mae yn ddigon posibl y pleidleisia ar fwyafrif pynciau cysylltiedig a llafur yn wrthwynebol i fuddianau y gweithwyr. Yr oedd ymddygiad yr aelodau Gwyddelig yn hollol annheg, yn gweithio &'u holl egni yn erbyn cyprychiolydd llafur, ond yr oedd yr aelod dros Gower yn ei gefn- ogi. Bydd brwydrau etholiadol y dyfodoi i gael eu hymladd gan gyfalaf a llafur, oherwydd dyma y ddadl fawr sylfaenol i ddiwygiadau pwysicaf a mwy- af Radicalaidd y dydd. Cynhaliodd glowyr dosbarth Aberdar gyfarfod cyhoeddus y Llun diweddaf, ond ni ynganwyd gair ar y priodoldeb o barotoi gogyfer ag etholiad. Mae hyn yn offdus fod yn debygol, pan y oeir etholiad, y bydd un fil ar bymtheg o weith- wyr y fwrdeisdref heb neb yn barod fel ymgeisydd. Cofiwch drybini yr etholiad diweddaf. FFUG-IEITHWYR. (Y Drych, Ebrill 19eg.) Dosbarth sydd wedi gwneyd niwed annhraethol i ni fel cenedl yw y rhai sydd wedi tod yn gwneyd honiadau eithafol, disail, eto annysgedig, am hen- afiaeth, gwreiddiolder, a holl-ddigonolrwydd y Gymraeg. Odid na chafodd y demagogiaid llen- yddol hyn eu gwobr, sef cael eu mawrygu gan an- wybodusion fel ieithwyr ac hynafiaethwyr rhyfeddol, ac amddiffynwyr gwrol eu hiaith, eu gwlad, a'u oenedl. Ond unig effaith gwrhydri y eyfryw gamp- wyr ar genhedloedd eraill yw gwneyd "Taffy," druan, yn ohwerthinbeth. Ond yn ffodus, y mae dydd yr ymhonwyr hyn yn tynu tua'r terfyn, a'r amser wedi dyfod pan droir oddiwrthynt yn Nghymru i wrando beth sydd gan rai fel D. Silvan Evans a John Rbys i'w ddweyd ar bynciau ieith- yddol. Y mae yr amser wedi pasio i neb allu dar- bwyllo hyd yn nod y werin wledig ei fod yn "medruGroeg, Lladin, Hebraeg," a bron bob aeg arall, yn unig am ei fod yn cario rhyw hen lyfr llawn o lythyrenau dieithr iddynt hwy, neu am ei fod yn yngan ambell air neu. frawddeg nad ydynt hwy yn ei deall. Yn y dyddiau hyn nid yw haeriad Cymro agos i uniaith am darddiad gair, yn ddigon i wrthbrofi tystiolaeth ysgolorion eang-ddysg a dwfn- ddysg fel Johnson, Perry, Walker, Smart, Wor- cester, Cooley, Webster, Stormouth, Nuttall, &c., am darddiad yr un gair. Er engraifit, pe myntumiai rhyw lenor a esyd ei hun allan fel safon terfynol ar faterion Cymreig, mai Cymraeg pur yw y gair barbariaid yn hanu o bar, chwarddid am ei ben gan bawb a feddai rywfaint o ddeall. Ffordd hollol an- feirniadol yw taeru mai o'r Gymraeg y tardda bob gair ag y ceir ynddo debygrwydd damweiniol mewn sain neu ffurf i ryw sill Cymreig. Gwnaeth Deon Swift wawd effeithiol iawn o'r cynllun hwnw, gan ddangos fel y gellid profi trwyddo ef mai Saeson oedd y rhan fwyaf o enwogion Groeg a Rhufain. Yn ol cynllun y ffug.ieithwyr dan sylw, gellid dangos mai gair hollol Gymreig yw shanty-ty Shan, bid SiWl; mai Brython, wedi y owbl, oedd Hengist, oblegid o ddau air Cymreig, hen a cist, y gwneir ei enw i fyny; mai Cymro oedd y cerddor Sebastian Bach, canys y mae bach yn enw ac yn ansoddair Cymreig diledryw; ac mai gair yn perthyn i ni yw anarchy, er gwaethaf y Geiriadurwyr a enwyd uchod, oblegid cynwysa y sill Celtaidd archi Mewn gair, gellid.taro ar ddigon o eiriau o gyfielyb gyd- ddigwyddiad swn, i wneyd cyfrol drwehus. MR. SPURGEON A'R BEDYDDWYR. (Tarian y Gweithiwr, Mai 3ydd.) Buasai ei enciliad parhaus oddiwrth Undeb y Bedyddwyr yn golled anadferadwy. Buasai yn dwbio ar bawb a arosent yn yr Undeb y gwarth o fod yn amheuwyr, neu yn haner araheuwyr, ac o fod yn ddifater am y gwirionedd uniongred. Ac o bosibl y buasai ei enciliad yn symud ymaith y rhwystr sydd ar ffordd rhai i brysuro yn gyflymach ao ymhellach, ar y cyfeirlad anffodus ar ba un y mae eu hwynebau. Nis gallwn yn awr alaru am y ffrwgwd. Er ei fod wedi cynyrchu teimladau anhapus, ac wedi achosi pryder, fwy na mwy, yn mynwesau dynion da, eto credwn ei fod wedi bod yn foddion i atal rhyw gymaint ar y llifeiriant. Ao y mae genym ffydd ddiderfyn yn y gwirionedd. Yn barod, dywedir wrthym fod dylanwad gwenwynig y Christian World yn lleihau; fod dynion ieuainc Lloegr yn decbreu d'od i ddeall nad ameu y gwir- ioneddau dros ba rai y gwaedodd eu tadau yw y ffordd i fawredd, yn feddyliol nac yn foesol. Nid yw rhif yr eglwysi na'r gweinidogion sydd ar linell y Downgrade yn gymaint ag a fuont; ac ond i'r gwir- ionedd gael hamdden i weithio, lleiha eu nifer yn fwy fyth. Da genym fod yr heddwch rhwng yr Undeb a Mr. Spurgeon wedi cael ei ffurfio ar delerau sydd yn anrhydeddus i'r ddwy ochr. Gwnaed datganiad o'r newydd fod yr Undeb yn glynu wrth yr hen wirioneddau mai athrawiaethau y Diwygiad Protestanaidd sydd i gael eu pregethu yn mhwl- pudau y Bedyddwyr yn y dyfodol fel yn y gorphenol. GYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG. (Y Parch. Michael Jones yn Y Celt, Mai 4ydd.) Buais yn nghwrdd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ddiweddar yn Bangor, ac y mae'n ymddangos i mi nad yw llawer o'i phleidwyr yn teimlo fod y Saeson am oresgyn Cymru a'u jhiaith, ar ol iddynt fyned a'n gwlad oddiarnom, a phroffesa'r gymdeith- as mai cynllun mwy effeithiol i wneyd hyny fydd dysgu y Saesneg drwy y Gymraeg, na'i dysgu heb hel y Gymraeg. Dymunol yw dysgu pob iaith, ac arfer pob moddion cyfreithlon at hyny, ond y mae'r gymdeithas yn ymwrthod a phob moddion celfydd. ydol i goledd y Gymraeg neu i ledaenu ei chylcb, i tra y mae y Ilywodraeth Seisnig yn arfer pcb modd-1 ion celfyddydol, cyfiawn ao anghyfiawn, i ledaenu cylch yr iaith Seisnig. Hyn nid yw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn proffesu ei atal. Cymraeg yw gwir iaith ein cenedl, ond y mae'r Saesneg, drwy rym y cledd, yn mynu bod yn yr orsedd. Y Saes- neg yw'r frenhines yn y palas, ac nid yw'r Gymraeg yn cael dyfod o fewn y muriau, er mai hi yw gwir etifeddes y deyrngadair. Mae Oymdaithas yr Iaith Gymraeg yn dadleu am i'r forwyn fach Gymreig gael d'od i fewn, i fod yn llances weini wasanaeth- gar i'r teyrn mawr Seisnig, a dyna'r cwbl, ac y mae llawer yn synu at ryfyg y bobl yma, nad yw fy nall- ineb mawr i yn gallu gweled rhyw wrolder mawr ynddo. Pe buasai gwyr Cymdeithas yr Iaith Gym- raeg yn dadleu am gael y Gymraeg i'r llysoedd, yn anog y werin Gymraeg i osod arwyddfyrddau Cym- reig uwchben eu drysau, a gwneyd eu biliau yn Gymraeg, a chael ysgolion cwbl Gymreig mewn ar- daloedd gwledig nad oes obaith y dysga'r plant Saesneg, buaswn yn gweled y gymdeithas yn deil- yngach o'r enw a wisga. Mae miloedd o blant Cymru na fuddia ysgolion Seisnig iddynt o gwbl, am fod rhy fach o amser i feistroli'r iaith. Hefyd gellir penderfynu mai amcan y Saeson yw difodi ein hiaitb. Os ydynt hwy am fasnachu a'r Cymry, boed iddynt sefydlu dosbarthau Cymreig yn ysgolion Seisnig Lloegr i'w galluogi i wneyd hyny, a glynwn ninau yn ein hiaith, drwy anfon pob archebion am nwyddau i fasnachdai Seisnig mewn Cymraeg glan gloew. Sicr wyf y gwrthryfelai y Saeson yn erbyn y syniad o halogi eu hysgolion ag addysg Gymreig. Paham nad allai y Llywodraeth wthio Cymraeg i lawr eu gyddfau hwynt, fel y mat:nt hwy yn gwthio Saesneg i lawr gyddfau pobl eraill ? Fodd bynag, y mae Cymry lawer yn cusanu eu cadwyni, ac yn ein cyrddau cyhoeddus mae lliaws am ddangos y tipyn Saesneg a wyddant, fel hogiau deg oed yn dangos eu horiawr geiniog bob munyd.
NODIADAU O'R DEHEUBARTH
NODIADAU O'R DEHEUBARTH [GAN BHEIDIOL.] WILLIAMS PANTYCELYN, A'R EGLWYS. Mae yn arferiad gyffredin ymhlith ysgrifenwyr Ymneillduedig i haeru i'r ofieiriaid, sef tadau y Methodistiaid, ymneillduo o'r Eglwys oherwydd nad oeddynt yn cytuno a'i hathrawiaethau a'i chredoau, &a. Mae hyn mor bell oddiwrth y gwirionedd ag yw y pegynau y naill oddiwrth y Ilall hyn fu yn achos, meddir, i yru y Perganiedydd allan o'r Eglwys. Dywed ysgrifenydd dan yr enw Noncon. Quill yn y Weekly MaiZ, i Williams dori ei gys- ylltiad a'r Eglwys oherwydd yr achwyniadau bychain oedd yn cael eu gwneyd, a'r erledigaeth oedd ef yn ddioddef. Mae genyf awdurdod dda dros ddywedyd na fu Williams erioed yn Eglwyswr cydwybodol. Cafodd ei urddo yn ddiacon a'i benodi yn ofieiriad Llanfihangel, Abergwessin, a Llanwrtyd. Yn ystod yr amser y bu yn gweinyddu yno, yr oedd ef yn byw gyda'i dad a'i fam yn Ceincoed, ger Llanymddyfri, pymtheg milltir o'i blwyfi; dim ond un gwasanaeth ar y Suliau, dim gwasanaeth nao ymweliadau wythnosol. Arferai bregethu yn Cilcwm, Llan- ddeusant, a Gogledd Cymru. Am fyned allan o'i blwyfi y cafodd ei geryddu, ac yna ymunodd &'r Methodistiaid. Dyna y gwirionedd plaen. Nid oes un amheuaeth am dduwioldeb y P6r-ganiedydd, ond nid oedd yn ofieiriad plwyfol da. Ysgrifenodd ei enw ar ei ewyllys William Williams, Clerk," ar ol y cwbl. EGLWYS DEFYNOG. Yr oedd yr eglwys hynafol uchod flynyddoedd yn ol yn dadfeilio, a phenderfynodd y Ficer a'r warden- iaid ei hadferu, a chasglwyd XI,400 at y gwaith, ao ail-agorwyd hi ddydd Mercher cyn y diweddaf. Pregethodd Arddiacon Llandaf bregeth hyawdl yn y boreu, a siaradodd am weithgarwch yr ofieiriaid, a chyfeiriodd at y cyn-ficeriaid, y Parchn. T. Davies a David Parry. Nid oedd nemawr o'r offeiriaid mor adnabyddus a Parry, Llywel" ddeugain a haner can' mlynedd yn ol. Yr oedd yn un o bregethwyr enwocaf I Cymru yn ei amser. Nid oedd braidd un cyfarfod ofieiriadol yn gyflawn os na fyddai Parry, Llywel, ynddo. < ARDALYDD BIPON. Bu Ardalydd Ripon yn clera dros ei arweinydd, Mr. Gladstone, a'i ysgraglywiaeth, yr wythnoa fldi- weddaf yn Nghaerdydd. Faint o ymddiried a ellir roddi mewn Radicaliaeth wallgof ein boes-mae mor gyfnewidiol, ac mor ansefydlog & Mr. Gladstone eu harweinydd. Gwir yr hen ddihareb, Tebyg i ddyn fydd ei lwdn." Dwy flynedd yn ol yr oedd Radioaliaid Llanelli a Chaerdydd yn cynal cyfar- fodydd i gondemnio Ty yr Arglwyddi, ac i gondemn- io yr Arglwyddi. Nid oedd dim un o'r arglwyddi yn werth dim-dynion di-dda oeddynt un ac oil. Ar ol y cwbl, yr ydym yn cael ymwahanwyr Llanelli a Chaerdydd yn rhedeg ar ol pendefig, yr aelodau seneddol ar dori eu gwynt am ymrwbio ynddo, ac yn talu swllt am ei glywed yn siarad. Peth digon chwith oedd clywed un na wyddai ddim am yr Eglwys yn Nghymru, yn siarad mor hunanol am ddadgysylltiad. Nid oedd ei sylwadau ar y pwnc ddim ond ail-adroddiad o araith un o'r aelodau seneddol yn Llanelli. Ni wyddai y naill dim mwy na'r llall am yr Eglwys. BHYFEL Y DEGWM YN TY GWYN AB DAF. Yr wythnos ddiweddaf cymerodd arwerthiad am y degwm oedd yn ddyledus i foneddiges o'r enw Miss Jones, Abertawe, le yn Egremont. Yr oedd y mob yn ymddwyn fel anwariaid, lluchiwyd yr heddlu 4 wyau. Fel arferol, yr oedd nifer o bregethwyr yno, ac ar y diwedd oynhaliwyd oyfarfod digofus yn erbyn yr Eglwys. Nid oedd y degwm yn perthyn i'r Eglwys o gwbl. Cymerodd cynhyrfiadau gwrth- ddegymol le yn ardal Llangeitho hefyd, Mecca Cymru, lie yr oedd y Parch. Daniel Rowlands yn gweinidogaethu, ao y mae yn debyg mae un o bregethwyr y Corph oedd yn ohwareu flwlcyn y fiair. Yr oedd y degwm yn ddyledus i gynrychiolwyi Syr Richard Greene Price, un o bleidwyr ffyddlonaf Mr. Gladstone, pan oedd ef yn fyw. Ymosodwyd M yr Eglwys ar y diwedd, ond nid oedd dim a fynai y1 Eglwys yma ychwaith si'r degwm. Yr oedd y cy^0 yn rhy dda i'w golli i luchio ceryg at fienestri yi Eglwys. Mae cyfnewidiad mawr wedi cymeryd Hfl yn ardal Llangeitho. Pa fodd y syrthiodd S cedyrn ? Pa fodd y llychwinodd yr aur ? Pa. fodd yr anghofiodd y Corph Daniel Rowlands ? TWYLLWR MEWN DALFA. Dydd Sadwrn, cyhuddwyd un Evan Charles Valentine Evans, o flaen ynadon Casnewydd, o gael bwyd a llety drwy dwyll yn y Maindee, CasneWY cÍ Yr oedd rhagor nag un cyhuddiad yn erbyn, oca nid oedd digon o dystiolaeth yn ei erbyn, a chafodd ei ollwng yn rhydd. YB ESGOB SMYTHIES. Cafodd yr Esgob poblogaidd uchod dderbyniad croesawgar gan ei hen blwyfolion yn Roath ystod ei ymweliad k maes ei lafur biaenorol. oedd yr Eglwysi lie y bu ef yn pregethu yn orlaWI1 ymhob gwasanaeth. Ni fu un ofieiriad erioed Nghaerdydd yn fwy poblogaidd na'r Esg°b Smythies. CABLEDD GLADSTONAIDD. Nis gall neb lai nag arswydo wrth welei 81 chlywed am y fath gabledd a chanu c&n Glad aidd ar, neu arall-eiriaid o'r emyn Christian Soldiers," yn y Park Hall, pan Ardalydd Ripon yn areithio yno. Yr oedd hyny yn warthus ac yn rhyfygus, ac nid yw yn lewyrchu llawer ar y personau oedd yno ytJ gwrando. Mae Gladstone-addoliaeth yn ffiidd-dt" yn y wlad. Nid oes dim llawer o amser erp81! gyffelybodd pregethwr Mr. Gladstone i Iesu Griet1' Mae Ymneillduaeth Radicalaidd yn suddo Ya ddyfnach ddyfnach mewn llygredigaethau a W- addoliad, Telir mwy o barch, fel mae gwaethaf)1 greadur meidrol a ffaeledig nac i'r Creawdwri oes ofn gwneyd gwawd o bethau cysegredig yOe heulun addoliad. CYNGBAIB Y PBIALLEN. ° Mae yn dda genyf ddeall fod Cyngrair y Frialle5 yn Neheudir Cymru yn llwyddo ao yn rhagddi er cymaint o wawdio fu ami ar ei cbyc^j wyniad. Mae 670,000 o aelodau yn perthyn heddyw. Credwch fi, bydd i ddylanwad y cyngr^* effeithio yn fawr ar yr etholiadau yn y dyfodoi Deyrnas Gyfunol. Ni ddylai un piwyf yn Ngbyfl^? esgeuluso ymuno 5,'r cyngrair, a dylai yr olaf iawn ddefnydd o'r wasg Gymreig i daenU 1 hegwyddorion. Mae llawer o blwyfi yn y Deheud1* yn cael eu gorlifo gan gyhoeddiadau Radicalaidd gwrth-Eglwysig, ond dim un papyr Eglwysig y» ? iaith Gymraeg. CAPEL HEEMON YN SIANSEBI. Mae yr | Ymneillduwyr yn arfer firaenochi enbyd pan y mae yr Eglwys yn apelio at y gyfral Mae achos yr ymrafael yn Hermon yn awr o Cwrt Sianseri, er penderfynu pa un a all y gweinid0" a'i barti wahardd yr wrthblaid i gadw meddiant 0 capel. Dim rhagor o firoenochi a chondemniO ? gyfraith a'r Eglwys os gwelwch fod yn dda, fone; igion. Os gwelwch fod yn dda, meindiwoh ei1* busnes eich hunain yn gyntaf, mae genych ddigV waith gartref.
AIL-AGORIAD EGLWYS COITY,…
AIL-AGORIAD EGLWYS COITY, PENYBONT. Dydd Ian, ail-agorwyd Eglwys henafol Cof,t ger Penybont, sir Forganwg, ar ol eihail-adeiladi^' gan Arglwydd Esgob Llandaf. Saif yr Egl*f henafol, &'r hon y mae llawer o adgofion byfijfj rhwng Pencoed a Llanilid, a chafodd ei hadeiM" yn amser yr apostolion. Er's rhai blynyddau Y oedd rhan o'r adeilad oysegredig, a fu gynt. harddwych, ac yn destyn edmygedd pawb, yn feilion, a phenderfynodd y rheithor, y Parch. Llewelyn, y gwnai ymdrech egniol i'w hail-adeilftd'j' a'i dwyn i'w sefyllfa gyntefig. Yn hyn o beth dae*^ y plwyfolion yn unfrydol i'w gynorthwy, ond oedd y tanysgrifiadau yn haner digon i ymgymerf* a'r draul, ond yn fiodus daeth Arglwydd DunraV^ ymlaen, a ohyda'i haelioni arferol hysbysodd X byddai iddo wneyd i fyny y gweddill, yr hwn ow ymhell uwchlaw mil o bunau. Dechreuwyd ar waith ar y gwaith, ac y mae yn awr yn un o'r lwysi harddaf yn y Dywysogaeth. Bu y Barchedig Thomas Richards, y Cymreigiwr en«og yn gweinidogaethu ynddi am ddeugain mlynadd, bu farw yn y flwyddyn 1790, yn 80 mlwydd 00 Ei olynydd ydoedd y Parch. David Jones, yr s adnabyddir drwy y byd hyd heddyw fel J°De.s Llangan," ao y mae ei goffadwriaeth yn fendige<*}gJ gan ei fod yn un o'r pregethwyr mwyaf hyav?% fagwyd yn Nghymru erioed. Y nesaf ydoedd 1 Parch. Richard Pritchard, gyda'r hwn yr ydoedo y Hybarch Archddiacon Griffiths, Castellnedd, F gurad, ac yr oedd amryw bobl oedranus yn cysur gan yr archddiacon ar ddydd yr agoriad,» yn dda ganddynt ei weled yn eu plith unwaitk 1 rhagor. Drwg genym hysbysu nad oedd y Llandaf oherwydd gwaeledd yn alluog i breget^u jj. boreu, a phenododd y Parch. C. J. Thompson, ^°.b Caerdydd, i bregethu yn ei le, yr hyn a wna^ gyda'i hyawdledd arferol, ac efe hefyd a ddarlleno". y gweddiau. Darllenwyd y llithoedd gan yr ^rCri' ddiaoon Griffiths. Ar ol gwasanaeth y cafwyd gwledd, pryd y cafwyd anerchiada pwrpasol gan Esgob Llandaf ac amryw eraill. ~y haliwyd gwasanaeth Cymraeg yn yr hwyr, oedd yr Eglwys yn orlawn. Darllenwyd y gw0d^f, gan y Parch. Charles Llewelyn, rheithor y P aIgt a'r llithoedd gan y Parch. H. J. Humphreys, 0 Llangan, a Ficer Eweni. Traddodwyd pregeth dderchog gan yr Archddiacon Griffiths, yE hw» 0 ff yn ei hwyliau goreu, ac nid oes angen dweyd x gan fod ei alluoedd anghydmarol ef yn adn»by« drwy Gymru. Yr oedd y canu yn ystod y Lt hynod dda, ac yn adlewyrchu y clod uchaf a arweinydd a'r aelodau.-B.H.S.