Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

YMHA LE YN NGHYMRU Y MAE'R…

CYMDEITHAS LENYDDOL DEON-LAETFL…

MYFANWY HOFF OEDD HI.

Plainer mrtnn 'bJ1l1(g.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Plainer mrtnn 'bJ1l1(g. Siaredir 587 o ieithoedd gwahanol yn Ewrop, — Rhifa gwahanol enwadau crefyddol y byd tua phymtheg cant. Cyfartaledd oedran yr holl drigolion sydd yn Lloegr yw 27 mlwydd. Yn y flwyddyn 1749 y sefydlwyd y wyddor i addysga y mud a'r byddar. Anfonir gwerth chwe' mil o bunau o ymenyn bob blwyddyn o'r Iwerddon i wahanol wledydd. Dywedir fod uwohlaw cant o foneddigesau yn gweithredu fel meddygon rheolaidd yn Chicago. — Nid oes unrhyw sail i'r adroddiad am wenwyn- iad miloedd o bobl yn Brazil ychydig amser yn ol. Sefydlwyd llythyrdai yn Paris yn y flwyddyn 1462; yn Lloegr, 1581; Germani, 1641; Twroi, 1740. Disgwylir y bydd i'r ohwareuyddes enwog Miss Minnie Palmer gyraedd i'r wlad hon ar y 4ydd o'r mis nesaf. Drwy fwyafrif o 9,437 mae trethdalwyr Glas- gow wedi penderfynu na fynant lyfrgell rydd yn y ddinas hono. Mae Llywodraeth Lloegr wedi caniatau i'r cyn-frenin Ja-Ja a'i deulu breswylio yn Ynys Grenada, West Indies. Cyflawnwyd 50 o hunanladdiadau yn Monte Carlo gan hapchwareuwyr a gollasant eu harian yn ystod y tri mis diweddaf. China ydoedd y deyrnas gyntaf yn y byd i ar- graffu newyddiaduron, gan ei bod wedi cyhoeddi rhai o leiaf ddeg canrif yn ol. Y trefedigaethau Prydeinig iacbaf yw New Zealand a Tasmania, lie na chyrhaedda y marw- olaethau ond 11 y fll yn flynyddol. Amcangfrifir fod 27,000 o ddarllawyr yn y deyrnas hon, a'u bod rhyngddynt yn cynyrchu miliwn o alwyni o gwrw yn flynyddol. Collodd 24,831 o bersonau eu bywydau yn Hindostan yn ystod y flwyddyn 1886 drwy gael eu lladd gan anifeiliaid a'u gwenwyno gan nadrodd. Llwyr ddinystriwyd Central City, Montana, America, gan dan yr wythnos ddiweddaf, ac y mae y trlgolion, tua mil mewn nifer, yn dioddef dirfawr dlodi. Telir ar gyfartaledd 910 yn flynyddol tuag at gynal pob pauper yn Mhrydain Fawr, yr hyn sydd yn llawer uwoh nag a delir mewn unrhyw wlad arall. Mae dyn yn America wedi ei gymeryd i'r ddalfa ar y cyhuddiad o briodi 17 o wragedd, y rhai sydd oil yn fyw, ac yn bwriadu tystiolaethu yn ei erbyn I Dywedir mai y tirfeddianydd Prydeinig mwyaf yn America yw Ardalydd Tweedale, yr hwn sydd yn berchenog tua dwy filiwn o erwau o dir yn y wlad hono. Amcangyfrifir fod gwerth P,20,000 o eiddo yn cael eu gadael mewn cerbydau yn Llundain bob blwyddyn, y rhai a-gymerir gan y cerbydwyr i'r awdurdodau. Ymdreoha Mr. Michael Davitt gasglu tua 9700 er cynorthwyo ei gydwladwyr a breswyliant yn Ynysoedd Arran, Iwerddon, lie y dywedir fod tua tair mil ar fin newynu. Hysbysir fod y Duo o Marlborough ar fedr ym- briodi a gweddw gyfoethog o'r America. Gadawodd ei gwr y swm o bum' miliwn o bunau iddi, ac y mae ei derbyniadau blynyddol yn £250)000. Derbyniodd Mri. Scott, llong-adeiladwyr, Greenock, archebion gan y Llywodraeth i adeiladu dwy long ryfsl anferth mor fuan ag sydd yn ddiohon- adwy. Pwysa pob un 850 o dunelli, a bydd y peir- ianau yn 1,250 gallu ceffyl. Heblaw y rhyfeddodau a hysbyswyd eisioes fel darganfyddiadau Americanaidd, hysbysir am y rhai canlynol yu yohwanegol :-Areithydd chwe' mlwydd oed yn Kansas; traethodwr deng mlwydd oed yn Newark; golygydd pymtheg mlwydd oed yn Ne. braska tra y oeir oerddorion o dairj ddeuddeg mlwydd oed, a phregethwyr ieuengach na hyny— pan yn eu cryd I Beth nesaf ?

.CYBIBITHIAD 0 " GOD SAVE…

V YR EGLWYS YN NGHYMRU."

Y CASGLIAD GOREU 0 DDIM LLAI…

" HANES RUTH."

I"HANES Y TRI CHREDO."

JSIMUTI r AJFDLKSKIIII.

[No title]

AT Y BEIRDD.

Y LLYTHYR- GRLUDYDD.

ARIAN YW ASGWRN Y GYNEN.

APOSTOL Y DADGYSYLLTIAD.

OFER YMRESYMU A FFOL.

[No title]