Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
S M.-Diolch i chwi am eich addewid. Gwell oedd trosglwyddo yr ysgrif flaenorol i'r fasged. Da genym eich bod yn cydweled â ni ar y pwnc. Y mae y cyn. llan newydd yn sicr o wneyd llawer o les. Dylai pawb ymddwyn yn yr un modd. CWMAFON.—Nis gallwn addaw cyhoeddi eich hysgrif, ond caiff ystyriaeth ddyladwy. Da chwi, peidiwch pregethu ein dyledswyddau i ni pan ysgrifenu, ond ewch at y pwnc heb ragymadroddi cymaint. Gall- asech hefyd oaod yr byn a ddysgir genych yn Nameg Mali a'r Gwenyn mewn rhyw ddwy linell, yn lie cymeryd i fyny ddwy dudalen neu rhyw haner colofn. Os yr ydych am ein cynghori ni gwnawn ddychwelyd y compliment drwy eich hanog i fod y tro nesaf yn fyr, yn eglur, ac yn gywir yn eich silleb- iaeth. Nid oedd yr hyn y cwynwch o'i blegid ond rhyw gellwair (banter) di-ddrwg. Nid oedd yr ysgrifenydd am i chwijgymeryd eieiriau ynllythyrenol. LLWYDFOR.—-Synasom lawer gwaith pa beth oedd wedi digwydd i chwi yn ystod y deunaw mis diweddaf. Moeswch eto. CARWR CYJIAWNDEB.—Gweler tudalen pedwerydd o'r argraffiad presenol. Diolch i chwi am y cyfraniad.
Advertising
m11Uotbbiabau, &r. RHESTR 0 LYFRAU A THRAETHODAU CYMRAEG AR WEBTH GAN GYMDEITHAS TRAETHODAU ESGOBAETH BANGOR, I'W CAEL GAN MRI. NIXON AND JARVIS, BANK PLACE, BANGOE, Tr rhai y dylid anfon pob archebion ac arian. Adenedigaeth yn y Bedydd. 4c. Ail Gatecism. tc. 2 Amddiffynydd yr Eglwys, 1874 a 1875. Anerchiadau allan o'r Brutusiana." ie. Arweinydd i'r Anllythyrenog. 2e. Arweinydd i Eglwy s y Plwyf. 4c. Baptismal Cards. 6s. y cant. Bugeil-lyfr Eglwysig (yn y wasg). Byr Weddiau Beunyddiol. lte. Cartref yr Hen Wr. 3e. Confirmation Prayer, on Cards, 3s. y cant. Cydymaith yr Atliraw, Rhan I. a II. 3c. yr un. Gan y Parch. Daniel Edwards. Cyfaill i'r Claf. Ie. Cyfarwyddyd i ganlyn Gwasanaeth Eglwys Loegr. tc. Cymdeithas Milwyr y Groes. Ie. Cymun Bendigaid, Ridley. 3c. Cymru dan felldith Babel (H. T. Edwards). 4c Dadl fer ar Fedydd Babanod. Ie. Diolch am y Cynhauaf. ic. Dydd Cyntaf o'r Garawys (H. T. Edwards). ae. Eglwys Crist (Daniel Jones). Enbydrwydd pechod. ic. Esboniad ar Erthygl XI. lie. Esboniad ar Erthygl XXVII. 2e. Esboniad ar Erthygl XXVIII. IgC. Ffordd Gul, Llawlyfr cyflawn o ddefosiwn i'r ieuanc. 6c., ac 8c. gilt. Ffydd achubol. ls. 6c. y cant. Ffurf Derbyniad Darllenwyr Lleygol. Ie. Blwyddyn Eglwysig (Nicander). Is. 6c. Gweddi a Mawl yn Ysgolion Sul yr Eglwys. lc. Gweddiau Teuluaidd. Cloth, 9c. Gwersi Hawdd, Rhan I. a II. 3e. yr un. Hanes y Groes a Thon i'w chanlyn. 9c. y dwsin. Holiadur Eglwysig (G. Roberts). lc. Holwyddoreg Gristionogol (Sadler). Cloth, Is. Eto eto Rhan II., 4c. Rhan IV., 3c. Hyfforddwr a'r Gan Eglwysig, Rhan I. Caniadau a'r Psallwyr. 3s. 6c. Llwybr Edifeirwch. Is. 6c. y cant. Llyfr Gweddi i Dy Gweddi. Ie. Llythyrau C. Cadfan. Ie. Morgan (Esgob William), Byr hanes. Ie. Pardwn. Is. 6c. y cant. Pedwar Nod y Wir Eglwys. 3e. Pregeth y Parch. P. C. Ellis. te. Pregeth y Parch. J. Wesley. 3c. Rhestr o Wersi ar gyfer y Suliau a'r Prif Wyliau yn y Flwyddyn Eglwysig. 4s. 6c. y cant. Rhybudd yn erbyn Anniweirdeb. lc. Rhybudd yn erbyn Celwydd a Thwyll. ie. Trueni Pechod. ie, Tystiolaethau Ymneillduwyr a Threfnyddion o blaid Eglwys Loegr. 2c. Udganwr bychan Cassassin. 2c. Welsh Clergyman's VadeMecum (H. Rees). 2s. 6c. Wythnos y Genhadaeth. 3s. y cant. Y Ddwy Fil. Ie. Y Grefydd Barliamentaidd. lc. Y Llawlyfr (Heygata). 6c. Y Weinidogaeth. 4c. Yr Inffirmari. Ie, 2 Yr Olyniaeth Apostolaidd. ic. LYFRAU, &c., PERSONAU UNIGOL A WERTHIR DYWY Y GYMDEITHAS. Allor yr Aelwyd (Deon Edwards). 6c., lliain, 9c. Apostolion y Dadgysylltiad (Parch. E. Williams). 2c. Caniadau ac Emynau yr Eglwys (Thos. Jones). 2c. yr un, neu Is. 6c. y dwsin. Church Endowments (D. R. Thomas). le. Conffirmasiwn (D. R. Thomas). 3c. Dadgysylltiad (Thos. Edwasds). le. Ffyrdd yn Nghrist (D. R. Thomas). 4c. Hen Eglwys ein Tadau (D. R. Thomas). 4c. Letters to a Dissenting Minister (P. C. Ellis). 9c. ,Olyniaeth Apostolaidd (Deon Lewis). 2s. 6c. Pethau fy Nhad (D. R. Thomas). ie. Pregethau y Parch. G. Edwards. 4s. Trefn a Dullwedd y Gwasanaeth Eglwysig (W. Wil liams). 6c., lliain, Is. Trefn a Dullwedd y Gwasanaeth Dwyfol (Evans a Davies). ge., lliain, Is. Yr Athraw (D. R. Thomas). 6c. Yr Eglwys ai Ymneillduaeth (J. L. Meredith). 2s. HYMNAU A THONA U gan y Parch. Daniel Evans:- Limp Cloth, sprinkled edges. Is. lie. Cloth Boards, sprinkled edges, gold lettered. 2?, 8c. Itoan Boards, red edges. 3s. 5c. Tonic Sol-fa Edition (without words). Is. 6c, docket Edition Tonic Sol-fa, with words, imp cloth. Is. 11c. Eto eto eto cloth boards, 2s. 3c. Eto eto eto Levant, red edges. 3s. Cerddor yr Eglwys, Limp cloth. 2s. 8c. Etc cloth boards. 3s. 5c. A HYMNAU y Parch. Daniel Evans.- Cloth limp, sprinkled edges. Hic. Cloth boards, sprinkled edges, gold lettered. Is. lc. Roan boards, red edges. Is. 6c. I Pocket Edition, limp cloth. 9c. Eto, cloth boards. ll|c. HYMNAU A THONAU gan y Parch. S. Pryce:- Limp cloth, sprinkled edges. Is. llc. Cloth boards, red edges. 2s. 3c. Roan boards, red edges. 3s. Tonic Sol-fa Edition, limp cloth. Is. llc. Eto eto, cloth boards. 2s. 3c. Limp cloth, sprinkled edges. 9c. j Cloth boards, gilt edges. Is. Boan boards, red edges. Is. 6c. WELSH CHURCH TUNE AND CHANT BOOK gan y Parch. Thomas Jones, Rheithor Llanengan:- Limp cloth, red edges, gold lettered, 16mo. (pocket size). Is. 10c. Eto eto Tonic Sol-fa eto. Is. 9c. Eto eto eto paper covers. Is. 2c. HYMNAU YR EGLWYS gan y Parch. Ellis Roberts. Llian, 9c. gernts for Abbtrtising. I Class of Advertisements. f^fons. £ £ ? s. d. Parliamentary Notices ) 6D. per Line Legal and Public Notices ) per Insertion Auction Announcements > 4D. per Line > perlnsertion Religious Services and Lectures 1 to 5 2 0 Bazaars, Concerts, & Eisteddfodau fl 6 to ] 1 I 6 Publishers and Educational >< 12 to 25 I 3 Announcements I I Business Addresses 26 and up. | Q PKEPAID ADVERTISEMENTS. TO One Three Six Insertion. Insertions. Insertions. s. d. s. d. s. d. 20 1 0 2 0 3 0 30 1 6 3 0 4 6 40 2 3 4 6 6 9 THESE CHARGES, which must be prepaid, apply only to consecutive insertions of the following classes of advertise- ments: Situations Wanted, Situations Offered, Apartments to Let, Apartments Wanted, Money Wanted, Partnerships, Businesses for Sale, Lost and Found, Miscellaneous Wants, Houses, Shops, Offices, Specific Articles for Sale by Private Contract. ADVERTISEMENTS must reach the office not later than Thursday morning. NOTICES of Births, Marriages, and Deaths are charged 1/- each, if not exceeding 20 words, and 6d. for each additional 10 words. In all cases the Notices must be authenticated by the Signature and Address of the sender. IF THE INSERTIONS be not consecutive, or if payment be not made previous to publication, the business rate will be charged, but no order will be booked for less than three shillings. THE GREATEST CARE is taken to insert advertisements on the dates ordered, as well as to secure their being correctly printed; but we cannot be responsible for inaccuracies in either of these respects, nor for any consequences arising therefrom. CHEQUES and POST OFFICE ORDERS should be made payable to DANIEL OWEN & Co., Ltd., Publishers. "Y Llan" Offices, Cardiff, Ar M. trth. ,+, TO be Disposed of by Private Contract, an JL Advowson in a picturesque part of Wales. In- come, about X280 per annum, together with a good house and garden and a few acres of land. Population, small. Early possession might be arranged for. A knowledge of the Welsh language is indispensable.— For particulars apply to Mr. Gery, Solicitor, Town Hall, Aberdare. 291 <!tllbotbbiabaut &t. ANTHEM, "MAvVR YW YR ARGLWYDD YN SION," SALM XCIX. 2, 3 SALM CIII. 1. GAN Y PARCH. WM. HOWELL (HYWEL IDLOES), FICER GARTHBRENGI. ENT. STA. HALL. Pris, Hen Nodiant, 3c.; Sol-ffa,2c. One Dozen Copies and upwards, prepaid, Post Free. All Orders to be sent to the Author, Garthbrengi Vicarage, near Brecon. 293
[No title]
Dymunwn alw sylw ein darllenwyr, trohebwyr, a dosbarth- wyr at y cyfnewidiadau canlynol sydd wedi eu gwneyd mewn cysylltiad a dygiad allan Y LLAN. 0 hyn allan cyfeirier;- NEWYDDION LLEOL A HYSBYSIADAU fel y canlyn THE EDITOR, LLAN Office, St. Mary Street, Cardiff. BAEDDONIAETH Rev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, Llanddarog, Carmarthen. CYFANSODDIADAU, YSGRIFAU, A GOHEBIAETHAU cyhoeddus a chyfrinachol, &c., ynghyd a Llyfrau i'w hadolygu Rev. LL. M. WILLIAMS, The Vicarage, Beaufort, Mon. Dylai yr oil fod mewn liaw ddim yn ddiweddarach na boreu ddydd Mawrth. DALIER SYLW.—Oherwydd prinder gofod nis gallwn addaw gosod i fewn ysgrifau meitliion; a chan fod nifer ein goheb- wyr caredig mor lliosog, erfyniwn arnynt fod yn fyr a chryno. Rhoddir y flaenoriaeth bob amser i adroddiodau a newyddion lIeol. Buasai yn dda gan y Cyhoeddwyr benodi dosbarthwyr i werthu Y LLAN lie nad oes rhai eisioes. Am y telerau anfoner i'r swyddfa.
[No title]
— Mam,' ebai merch fechan wrth ei rhieni sydd yn cymeryd dyddordeb mawr mewnsefydliadauelusengar Mi garwn pe bawn yn blentyn amddifad Paham hyny, fy anwylyd ?' «Oherwydd cawn weled rhagor o honocb, oblegid yr ydych yn myned byth a hefyd i noddle yr amddifaid.' Fel y mae rhai menywod yn newid en barn am eu gw?r. Yr oedd Mrs. J yn dragywyddol ddweyd wrth ei g^r nad oedd yn werth ei halen; ond pan y cafodd ei ladd mewn gwrthdarawiad ar y rheilffordd, erlynodd y cwmni am Rlto00 o iawn-
YiVl NEILLDLAETH YN GYSYLLTlEDIGr…
YiVl NEILLDLAETH YN GYSYLLT- lEDIGr A'R LLYWODRAETH. Y MAE yn berffaith hysbys bellach i ddar- llenwyr lliosog Y LLAN, nad ydym wedi nac yn clywed dim gan wrthwynebwyr yr Eg- lwys ond ei bod wedi ei sefydlu gan y Llywodraeth. 0 ganlyniad, y mae yn y llyfetheiriau mwyaf, yr hyn, medd y dad- gysylltwyr, sydd yn peri iddynt wneyd eu goreu i'w rhyddhau a'i gwneyd yn Eglwys rydd. Ond pan ofynir iddynt ddangos y weithred Seneddol, a'r flwyddyn y sefydl- wyd hi, ni fedrant ddangos y weithred na'r flwyddyn y cymerodd hyn le, am y rheswm syml nad oes y fath weithred mewn bodolaeth. Pe byddai, buasai y dadgysylltwyr wediei dangos er's blynyddau er mwyn rhoddi taw ar yr Eglwyswyr. Yn ol hyn, fe welwn fod y dadgysylltwyr wedi bod yn cynhyrfu y wlad am dros 40 mlynedd, ac wedi gwario ugeiniau o flloedd o bunau ar bwnc nad oes ganddynt y sail leiaf dros hyny, ac na fedrant byth mo'i brofi. Ceisiwn ddangos fod cysylltiad mor agos rhwng Ymneillduaeth a'r Llywodraeth fel na fedro symud Haw na throed heb gan- iatad y Senedd, neu'r gyfraith i gael ei newid. Pan adeiladir capel i ryw enwad, y peth cyntaf wneir yw prynu darn o dir, ac wedi gwneyd hyny, a'r blaenoriaid at dwrnai i ofyn iddo wneyd gweithred gyf- reithiol er mwyn dangos fod y tir a bryn- wyd yn eiddo cyfreithlon i'r enwad crefydd- 01 hwnw. Y mae yn rhaid gwneyd hyn, onide gall rhywun ddyfod ymlaen, gan fyned a'r darn tir oddiwrth y corph cref- yddol. Dyna'r agwedd ddaearol o'r cwestiwn. Y peth nesaf yw, Pa athrawiaeth a bre- gethir yn y capel ? Y mae y corph crefydd- ol, gan nad beth fydd ei syniadau, yn pen- derfynu pa bynciau ffydd a bregethir ganddo; ac wedi gwneyd hyn y mae yn rhaid myned at dwrne, neu at y gyfraith, er mwyn rhoddi grym i'w penderfyniad, a chyn gynt- ed ag y gwneir hyn, y mae eiddo personol yn dyfod yn eiddo cyhoeddus, sef i'r corph crefyddol sydd yn addoli ynddo. Yn unol a'r telerau yma, y mae y corph crefyddol i gael y capel at ei wasanaeth ac os cwynir gan rai o'r aelodau fod y gweinidog, y blaen- oriaid, y diaconiaid, neu ryw rai o'r aelodau wedi tori rhai o'r pynciau a benderfynwyd, nid gweinidogion y cyfundeb, y diaconiaid, na'r gynulleidfa sydd i benderfynu hyny, ond barnwr yn y llys gwladol, a neb arall, yr hyn sydd yn profi tuhwnt i bob amheu- aeth eu bod yn rhwym, draed a dwylaw, wrth y Llywodraeth, er cymaint a haerir ganddynt i'r gwrthwyneb mewn gair, ni fedr yr un corph crefyddol fodoli heb hyn. Drachefn, er mwyn i'r corph crefyddol hwn gael tawelwch a llonyddwch i bregethu yn y capel, gan nad pa enwad bynag y bo, y mae yn rhaid i rai o'r aelodau fyned at y cofrestrydd cyffredinol, i'r hwn y mae yn rhaid talu am y breintiau a nodwyd, ac nid yw hwn eto ddim amgen na gwas y Llyw- odraeth. Ac os byddant am briodi mewn unrhyw gapel, y mae yn rhaid cael gwas y Llywodraeth i weinyddu, bydded ef an- ffyddiwr neu un hollol digymeriad. Y mae yn ddigon gwir fod y gweinidog yn bresenol bob amser, ond i gyfreithloni y briodas ni fedr roddi mwy o rym ynddi na phlentyn mis oed. Beth y mae hyn yn ddangos ond fod cysylltiad agos iawn rhwng Ymneilldu- aeth a'r Llywodraeth ? Cyn y gall gweini- dog unrhyw gapel briodi ynddo, y mae yn rhaid newid y gyfraith bresenol, ac y mae yn rhaid iddo yntau gael ei awdurdodi gan yr un gallu. Dyma gaethiwed Aiphtaidd y mae cyrph crefyddol ynddo; le, y rhai sydd yn ymffrostio ac yn haeru mai cyfundebau rhyddion ydynt Peth arall, nid oes gan neb hawl yn ol eu tyb gyfeiliornus hwy, i aros yn ol yn y seiat ond yr aelodau, ond y ffaith yw, y mae hawl gyfreithlon gan hyd yn nod yr anffyddiwr, neu un math o gref- yddwr i fod yn bresenol, a chymeryd nodiadau, os myn, o'r holl weithrediadau, a'u cyhoeddi i'r byd ac os beiddiant eu troi allan byddant yn agored i gael eu di- rwyio o t20. Dyma'r bobl sydd yn am- gylchu mor a thir," gan daenu yr anwir- eddau mwyaf cywilyddus am yr Eglwys a'i meddianau, ac yn gwneyd eu goreu i'w cymeryd hwynt oddiarni. Dyma'r fath gref- ydd a moesoldeb sydd yn cael eu dysgu gan ddysggwdwyr crefyddol y genedl! Onid oes ganddi gystal hawl i'w meddianau ag sydd gan yr Ymneillduwyr i'w L60,000,000, y rhai sydd yn eiddo iddynt, neu y X10,000,000 sydd yn perthyn i'r Wesleyaid ? Paham yr ysbeilir yr Eglwys, ac y gadewir llonydd i feddianau yr Ymneillduwyr ? Y gwir yw, ni wna yr un Eglwyswr ddioddef y fath ladrad am un foment, a goreu i gyd po gyntaf y bydd yr Ymneillduwyr politicaidd a diegwyddor yn ddistaw ar y pwnc hwn, oblegid os yw yo iawn i ladrata eiddo yr Eglwys, ar yr un tir y mae yn iawn i ladrata eiddo yr Ym- neillduwyr. Y mae y Deg Gorchymyn yr un yn bresenol ag yr oeddynt pan y rhodd- wyd hwynt i MOSES gan DDUW ar fynydd Sinai, ac mae pob dyn sydd yn dwyn yr enw Cristion yn rhwym o'u hufuddhau a'u mabwysiadu fel rheol bywyd, Cyflwyuwn y ffeithiau uchod i ystyriaeth Ymneillduwyr Cymru. Dau o arwyddeiriau Cristionogaeth ymhob oes hyd ddiwedd amser ydynt, "Na ladrata," ac Na chwenych eiddo dy gymydog.
Y MESURAU DEGYMOL.
Y MESURAU DEGYMOL. TRADDODIR moes-chwedl Ladinaidd i'r perwyl ddarfod i'r ddewines SYBIL yd* weled a brenin Rhufeinig o'r enw TARQUINIUS* gan gynyg iddo naw llyfr am bris penodedig- Gwrthododd ef eu prynu; aeth SYBII" ymaith er mwyn llosgi tri; yna dychwel- odd gan ofyn yr unrhyw swm am Y chwech. Gomeddwyd drachefn ei chais, ac weithian, wedi llosgi o honi dri yn ychwaneg, gofynai y cyfanswm gwreiddiol am y tri llyfr oeddynt yn weddill- Ar hyn enynwyd chwilfrydedd y brenilit prynwyd y llyfrau, ac fe'u trysorwyd yn nheml y prif dduw. 0 bryd i bryd, trwy dreigliad amser, mewn cyfyngau cenedl' aethol, ymgynghorid a'r llyfrau er datguddio trwyddynt o'r duwiau eu cyfrinach i'r genedl. Cyffelyb i'r SYBIL ydyw Arglwydd SALISBURY ynglyn a'i fesurau degymol. Yo 1887 darparodd fesur ydoedd yn tra rhagorl ar eiddo 1888, prif nodau yr hwn oeddynt trosglwyddo taliad y degwm i'r tir- berchenog. Ac fel cydnabyddiaeth o'r ym- rwymiad adnewyddol ar y tir-berchenog, rhoddid ad-daliad iddo o 95 y cant. Derbyniwyd yr adran gyntaf gyda ehym- eradwyaeth; eithr nid felly y gostyngiad, a'r canlyniad fu llesteirio y Mesur. OS caled Mesur 1887, mwy felly y ddau bre- senol. Yn y cyntaf adnewyddir yr adran berthynol i daliad y degwm gan y tirfedd- ianydd, er nad oes a wnelo ond a'r dyfodol yn unig. Lie y mae eisioes gytundebau, megis prydlesoedd, mewn grym, rhaid yrn* foddloni ar bethau fel ag y maent. Cyfeir' nod yr ail yw cyfnewid cyfrwng gorfodaetb y taliad ;—gwneyd y llys sirol yn gyfrwng taliad yn lle cymeryd meddiant o gynyrck y tir. Trwy hyn amcenir tynu ymaith golyo y cynwrf, a'r hyn sydd yn awr yn achlysur ymladdfeydd merthyrawl a fyddant rhag" Haw yn achlysur sarhad. Ofnwn, er hyny, nad cywilydd gan y sawl a fynant ymorcli- estu fel merthyron ddioddef gwaradwydd Y County Court. Yn hytrach, po mwyaf Y cywilydd er mwyn cydwybod, mwy gwertb' fawr yn ngolwg dyn arwyddlun yr Hunaii' Aberth. Hefydhyderiryffynatrwyhyn well teimlad cydrhwng yr offeiriad a'r plwyfol- ion. Eto, os gwrthnysig y tirfeddianwr* onid gwrthnysig hefyd y tenantiaid hwythau? Yn mhellach, yn adran oj* ddyledion degymol y perchenog rhoddif archeb i'r tenant am y swm, i'w dalu allall o gynyrch y tir fel cyfran o'r ardreth. OS gomeddir gwneuthur hyny gosodir y cyfrlf- oldeb am y degwm drachefn ar y tenant yfJ. bersonol. Yn ngwyneb hyn nis canfyddVVn ddim ond rhwystrau yn cymeryd tro cwp:l- pasol, er dychwelyd i'w cyfrwng cyntefi Bwriedir hefyd am y dyfodol gymeryd cyfartaledd symiau am dair, ac nid fel y».? gorphenol am saith mlynedd. Pe hyn ar gyfer y tenant sydd o flwyddyn 1 flwyddyn mewn meddiant o'r tir, dilys 1 byddai yn esmwythad uniongyrchol iddo Ond gan mai parhaol yw buddianau y berchenog, nis gwneir trwy hyn nera&^lj wahaniaeth yn y taliadau. Os y cyffraW^ yn Nghymru ydoedd achlysur uniongyrchoi y ddeddfwriaeth dan sylw: os er lleddfu Y cynwrf yn ein gwlad ni eu dygir yn avvt ymlaen, ofnwn mai ofer disgwyl oddiwrth* ynt esmwythad sylweddol. Fel y syIVVa. Esgob BANGOR, ynglyn a'r ddirprwyaeth a Arglwydd SALISBURY:—"Ni bydd gwneu" thur y tirfeddianwr yn gyfrifol yn 1 sicrhau tawelwch i'r plwyfydd mor be ag y canfyddais yn bersonol, y man dirj feddianwyr a'r dosbarth amaethydd {yeomen) ydynt arwyr gerwinaf y cyffraW yn Nghymru." 's
Advertising
A CARD.—AN IMPORTANT Discov-guyd, announced in the Paris Figaro," of a valuable for nervous debility, physical exhaustion, and .n aI-y complaints. The discovery was made by a nCe in Old Mexico it saved him from a miserable ^eSf and premature decay. The Rev. Joseph & ndoP> Bloomsbury Mansions, Bloomsbury Square, l^0 0o W.C., will send the prescription, free of cb&gfooP, receipt of a self addressed stamped envelope. this paper.