Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
GWRECSAM.
GWRECSAM. MAGIC LENTEBN.—Rhoddwyd treat i aelodau ysgol Sul yr Eglwys Gymraeg nos Fercher diweddaf, trwy garedigrwydd y Parch. T. Lloyd Williams, yr hwn a arddangosodd iddynt ddarluniadau o wlad Burmah. Eglurhaodd y darluniadau trwy roddi hanea gwaith y Genhadaeth er lledaeniad yr Efengyl yn y wlad ddydd- orol hono. AMDDIFFYNIAD YR EGLWYS.—Bu Mr. Helm yma eto 5rn traddodi ei ddarlith y tro yma ar" Waith yr Eg- wys yn y gorphenol a'r presenol." Yr oedd tua 600 yn gwrando arno yn Ysgolion Cenedlaethol Madeira Hill. Dyma'r drydedd a'r olaf o'r darlithiau a rodda Mr. Helm yma. Gwerthfawrogwyd hwy yn fawr gan bawb, ac yn ddiameu y maent wedi bod o les dirfawr i oleuo y bobl yn hanes yr Eglwys.
HIRWAUN.
HIRWAUN. Y DIWEDDAR MF. A MRS. POWELL.-Prydnawn dydd Gwener, y 27ain cynfisol, cynhaliwyd gwasanaethau yn Eglwys St. Lleurwg, yn y He uchod, ynglyn a gosod ffenestri lliwiedig er coffadwriaeth am y diweddar Mr. a Mrs. Powell, Maesydderwen, Hirwaun. Yr oedd dwy o'r ffenestri wedi cael en rhoddi gan aelodau yr Eglwys, ac wedi cael eu gosod un bob ochr i'r Eglwys. Dynoda un Dorcas yri cyfranu elusanau i'r tlodion, a'r llall y Samariad da. Gosododd plant yr ymadaw- edig hefyd ddwy ffenestr arall, yn dangos yr Adgyfod- iad, a'r angel yn mynegu i Mair nad oedd efe yno, ei fod wedi cyfodi. Daeth tyrfaoedd mawrion 0 gyf- eillion o bell ac agos, ynghyd ag aelodau y teulu, pryd yr intoniwyd y Litani gan y Parch. W. Rhydderch, ficer, a phregethwyd gan y Parch. R. B. Jenkins, M A., ficer Aberdai. Yn yr hwyr, am 7.30, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. Morgan Powell, B.A., a phregethwyd gan y Parch. R. B. Jenkins, ficer Aber- dar. Yr oedd y gwaith wedi cael ei wneyd yn ar- dderchog gan Mri. Bell a'i Feibion, Bryate.-R,J.
MAESYGROES, LLANLLECHID.
MAESYGROES, LLANLLECHID. CYFARFOD DIRWESTOL.-Nos Iau diweddaf cyn- haliodd cangen gymdeithas ddirwestol plwyf Llan- llechid gyfarfod yn y lie hwn. Llywyddwyd ac ar- weiniwyd gan Mr. Roberts, Maesygroes. Aed ymlaen yn y drefn a ganlyn.-Ton gynulleidfaol; anerchiad dyddorol a chynwysfawr gan y llywydd; yn nesaf cafwyd adroddiad manwl o safle y gymdeithas yn y lie gan ei hysgrifenydd, Mr. Hugh Roberts, Glan Bethlehem; canig, Coron i mi,' y cor; adroddiad dirwestol gan Mr. Edmund Griffith Thomas, Talybont; can, Geneth y meddwyn,' Miss Ruth Anne Roberts, Glan Bethlehem dadl, Clwb y gweithwyr,' Misses Ruth Anne Roberts, Glan Bethlehem, Anne Jones, Groeslon, a Jane Edmunds, Plas Hwfa, ynghyd a. Mri. Joseph Jones, Talybont, Hugh Roberts, Glan Bethlehem, Price Williams, Tyddyndicwm, a David Richard Hughes, Half-way House; can,' Gwnewch i mi feddrod,' Mr. William Henry Jones, Talybont; sylwadau addysgiadol gan yr Hybarch Archddiacon Evans; can, Myfanwy hoff oedd hi,' Mr. J. Hughes Roberts, Glan Bethlehem sylwadau gan y Parch. W. Morgan Jones, B.A., ymha rai y cyfeiriodd at ei ym- adawiad o'n plith i St. Mair, Bangor canig, 0 paid a myned i'r dafarn,' y cor. Yn ystod y cyfarfod talodd Mr. Roberts, Maesygroes, warogaeth i lafur ac ym- drechion difiino y Parch. W. Morgan Jones, yn neill- duol fel gweinidog a bugail gofalus. Ategwyd hefvd yn wir daoniol gan Mr. William Henry Jones. Wedi i'r Parch. W. Morgan Jones ateb mewn modd teilwng terfynwyd. Gwasanaethwyd wrth yr harmonium fel arfer gan Mr. Hugh Roberts, Glan Bethlehem. Ym- ddengys fod saith o bersonau o'r newydd wedi ym- restru a'r gymdeithas.-Gohebydd.
NIWBWRCH, MON.
NIWBWRCH, MON. Dywenydd genym ddeall fod y Parch. Richard Evans, curad Llanddanielfab, wedi cael ei benodi yn rheithor y plwyf hwn, a mawr obeithiwn y bydd yn olynydd teilwng i'r Parch. David Jones, yr hwn sydd wedi ei benodi i fywoliaeth Llanfair P.G. a Llandysilio. Y mae Eglwyswyr y plwyf yn teimlo yn berffaith fodd- haol ar y penodiad presenol, am eu bod yn cael bugail o'u dewisiad eu hunain yn hollol, a mawr obeithiwn y bydd yr Eglwys mor llwyddianus, mewn undeb a chyd- weithrediad, yn y dyfodol ag y mae wedi bod yn y gorphenol.—Gwilym ap Huw.
KILVEY, ABERTAWE.
KILVEY, ABERTAWE. CYFARFOD DIRWESTOL.—Nos Iau diweddaf cynhaliwyd cyfarfod dirwestol yn Ysgoldy Pentre-chwyth, danlyw- yddiaeth Mr. Stephens. Yr oedd yr ysgoldy wedi ei orlenwi, ac y m, ddangosai y gynnlleidfa. fel yn teimlo y dyddordeb dylnaf yn y gwaith. Cafwyd caneuon gan Misses Bow en, Leyshon, Tucker, a Stephens; deuawd ar y flageolets gall Mr. E. Griffiths, ac unawd ar y crwth gan Mr. H. Collard. Hefyd adroddwyd darnau gan Misses Williams, Jones, Boyd, a .Richards, a Master Tom Howell. Chwareuodd Miss Phillips yr accompaniments yn ddeheuig drwy'r cyfarfod, a throdd y cyfan allan yn llwyddiant tuhwnt i'r disgwyliadau penaf. Y mae y gymdeithas hon wedi bod yn hynod lwyddianus yn ystod yr ychydig fisoedd y mae wedi bod mewn bodolaeth, ac y mae ei llwyddiant yn y gorphenol yn galondid i'w ffurfwyr. Ar ddiwedd y cyf- arfod, daeth nifer ymlaen i ymuno a'r gymdeithas. EGLWYS YR HOLL SAINT, KILVEY.—Y Sul diweddaf cynhaliwyd cyfarfodydd chwarterol yn yr eglwys hon, pan y pregethwyd yn y boreu a'r hwyr i gynulleidfa- oedd lliosog gan ein parchus ficer, y Parch. T. Wil- liams. Yn y gwaBanaeth boreuol dadganodd y cor yr anthem Tlwn round about the starry throne," dan arweiniad Dewi Samlet. Yn yr hwyrol wasanaeth dadganasant "Worthy is the Lamb" o'r Messiah mewn modd ysblenydd. Am dri o'r gloch yn y prydnawn cyfarfyddodd aelodau Ysgolion Sul Kilvey a Phentre. chwyth yn y Music Hall, pryd y cynhaliwyd gwasan- aeth priodol gan y Ficer, ac y dadganwyd emynau ■ melus gan y dorf liosog o ieuenctyd, yna cafwyd anerchiad dyddorol a phriodol gan Mr. Thomas. Teg ydyw nodi fod yr Ysgol Sul yn flodeuog iawn yn y lie hwn.
HENDY GWYN AR DAF.
HENDY GWYN AR DAF. Wythnoslled dawel ar y cyfan ydyw hon wedi bod gyda ni yma. Bydd cyfarfod y Mri. Helm ac Afon- wyson ddydd Mercher yn rhy ddiweddar i ni ddanfon tipyn o'i hanes i'r LLAN yr wythnos hon, ac felly bydd- wn amyneddgar hyd y nesaf, fy nghyfeillion hoff. Yr oeddym wedi methu'n lan a tharo wrth destyn lleol cyn i'r LLAN dd'od i law ddydd Gwener. Wedi troi i gongl y golygydd cawsom rhywbeth tebyg i Saul, mab Cis, pan y cafodd afael yn asynod ei dad er's llawer dydd. Drnain o'r ddau fod I Y ddau hen garau (chwedl pobl yr Hendy Gwyn)! Yr oeddynt wedi bwriadu bod yn ddau Wyddel am unwaith. Saethu cymydog trwy'r berth, a rhedeg ymaith! Na, gan bwyll, "Silgotyn" bach! Dysgwch ysgrifenn Cym-raeg eich hunain, ac ymddygwch fel boneddigion trwy ym- ddiried eich (gwir) enwau priodol i'r swyddfa. Ofer i chwi a minau feddwl am dwyllo'r golygydd llygad- graff. Deuwch allan 0 dan eich henwau a'ch cyfeir- fadau personol, ac addawn i chwi gystal curfa, cosfa, neu grasfa (yr un a fynoch) ag y medr ysgrifell ddigrif- ol, ag inc cariad brawdol ar ei blaen hi, wneyd yn Haw hen gyfaill a'ch adwaen chwi yn bur dda. Tra y bydd- och chwi yn ymbarotoi i'r frwydr (er y buasai yn hawddach genym gredu fod Herod aPhilat wedi myned yn gyfeillion eto, na llynca'r dyb fod yn bosibl i bysg- otwr a silgotyn (minnow) fod ar delerau cyfeillgar. Bydd hyn yn ormod i'w ddisgwyl pan ddeio'r mil- fiwyddiant, Mr. Golygydd. Twyllo'r silgotyn mae y pysgotwr yn gyffredin, onide ? Y tro hwn y mae y ddau yn cytunoi dwyllo eraill. Hynod fel y darfu i'm cyfeiriad byr at wyniaid Ebrill" y dydd o'r blaen gynhyrfu bustl ein brodyr tua gian yr afon yna. Gweddiwn drostynt. Gadewch i ni ysgrifenu rhyw- beth a fyddo o les i gymdeithas. Cefais bleser ac adeiladaeth nid bychan wrth ddar- llen yr erthyglau arweiniol yn Y LLAN olaf, y newydd- ion tramor, y llith o'r Bwthyn Gwledig. Da iawn genym fod Hen Domos yn fyw ar ol ystormydd y gauaf. Gofaled am gadw t6 da ar y bwthyn, oblegid beth wnaem ni heb y trigianydd ? Hefyd, y Pab a'r Plan of Campaign, gan y gwleidyddwr; adgofion, gan Gwarffrwd; llith Hywel IdloeEi ar agoriad Eglwys Defynog. Nid drwg, wir, ond da iawn, Hywel bach Rhed ein meddyliau ni yn ol at y flwyddyn 1864. Pigion o'r Wasg Gymreig (Veritas); nodiadau senedd- 01: y farddoniaeth ragorol, o dan olygiad ficer da Llan- ddarog; y gohebmethau; ynghyd a newyddion Cym- reig 0 amrywiol fanau. Y mae yn dda genym gael cyfleustra trwy'r LLAN i weled yr hyn a wneir mewn plwyfi eraill, a mabwysiadu y cynlluniau, os yn rhagori ar yr eiddom ni yma. Da chwi, fy mrodyr anwyl, danfonwch linell i'r LLAN weithiau yn rhoddi hanes eich plwyfi a'ch gweithrediadau Eglwysig, a dosbarth- wch hi ymysg pobl eich gofal. Byddai fy hen reithor anwyl yn yr Ystrad, er's tua ugain mlynedd yn ol, yn arter rhoddi gwersi ymaTferol da i ni y cnradiaid. Dy- wedai yn fynych wrthym yr aiff pysgodwn marw i lawr gyda'r dwr, ond fod yn rhaid cael pysgndyn byw i fyned yn erbyn y dwr. Dro arall cawsom wers ganddo ar y geiriau hyny, "Better wear out than rust out." Y mae y Canon Walters mor llafurus heddyw ag ydoedd yr amser hwnw, ac yr ydym 0 dan rwymau mawr iddo am ei ymdrechion llwyddianns o blaid y wasg Gymreig a'n Heglwys.
TROEDYRHIW.
TROEDYRHIW. LLWYDDIANT.—Da genym gofnodi llwyddiant dan fab hynaf y Parch. William Green, B.D., ficer Pentre- bach, Merthyr Tydfil. Ymddengys fod yr hynaf, sef Mr. T. Mortimer Green, wedi ei ethol i fod yn lieutenant yn y fyddin, ac fod Mr. W. W. Green wedi sicrhau, yn yr arholiad diweddaf, certificate yn y dos- barth blaenaf fel mining engineer. Dymunwn o galon Iwyddiant i'r ddau foneddwr hyn i esgyn pinacl uchaf enwogrwydd, ernes o ba un sydd wedi ei ddangos gan- ddynt yn barod.-Cyfaill.
MAENTWROG.
MAENTWROG. CLEKIGWYB A LLEYGWYR YN CYDWEITHIO YN LLWYDD- IANus.-At y Uiaws 0 engreifftiau sydd i'w cael 0 fan i fan yn Ngbymru o'r cydweithrediad effeithiol rhwng gwyr lien a lleyg yr Eglwys, dichon y bydd yn ddy- ddorol i ryw rai gael byr ddarlun o'r gwaith sydd yn myned yml&en yn y plwyf gwledig uchod. Poblogaeth wasgaredig (850 o nifer) sydd yn mhlwyf Maentwrog; ond gweithir yn egniol ynddo o blaid yr Eglwys. Yr wythnos hon boddheir Eglwyswyr pen isaf y plwyf trwy fod Mr. Oakeley yn gwyngalchn ac yn lliwio yr eglwys ar ei diaul ei hun yn gyfan. Tra y mae rhai Ymneillduwyr yn dirmygu ac yn gwawdio yr Hen Fam, y mae ei phlant yn tosturio wrth ei llwch hi." Peth mawr ydyw fod Person ac Yswain y plwyf yn cydweithio mewn cariad. Tra y mae y cwn ynanos y defaid, y maent hwy yn ymwasgu fwy-fwy at en gilydd. Flynyddau yn ol adeiladodd Mr. Oakeley ddau ysgoldy yn y plwyf—un yn y pen ucbaf a'r llall yn y pen islf-ar y draul o tua phymtheg cant o bunau, a chynhalia ddwy ysgol genedlaethol ynddynt ar y draul iddo ef o dros gan' punt bob blwyddyn cynorthwya yn ebelaeth i gynal lay reader i weini yn yr ysgoldy sydd ddwy filldir oddiwrth yr eglwys; a chyfrana lawer 0 elusenan i'r tlodion, a'r cwbl dan ofal Person y plwyf. Y mae prif ornchwyliwr ystad Tanybwlch eilwaith yn darllen y llÜhoedd, a'i briod yn arwain y cann yn y gwasanaeth Saesneg. Ond er mor werthfawr ydyw cynorthwyon yr uwchraddolion, dichon fod rhoddion a llafur y werin bobl yn fwy gweithgar o'r ddau er dwyn ymlaen y gwaith Eglwysig yn llwyddianus. Cynhelir pump gwasanaeth a phregeth bob Sul—tri yn yr Eglwys a dan yn yr eglwys. Y mae y lleygwyr yn cynal un gwasanaeth a phregeth 0 leiaf yn yr ysgoldy bob Sul, yn darllen y llithoeddd a'r Salmau, yn cynal dwy Ysgol Sul, a chyfarfodydd gweddi, cyfarfod y plant, a chyfarfod cann, ac yn ymweled a'r cleifion, ac yn y blaen. Y canlyniad o'r cydweithio egniol hwn ydyw fod un 0 bob pedwar o'r plwyfolion yn Eglwys- wyr, ac un o bob saith yn gymunwyr. Y mae y cynull- eidfaoedd Cymreig wedi bron ddyblu, a'r cymunwyr bron dreblu yn ystod y blynyddau diweddaf, yr hyn sydd yn enyn llid a chenfigen rhai o'r Ymneilldnwyr yn enbyd. Y mae gan Berson y Plwyf ei safle, ac y mae gan y lleygwyr eu safle; ond yn Maentwrog y mae pob dosbarth yn cydweithio yn un a chytun o blaid hen Eglwys eu tadau. Ond er cymaint a wneir, y mae tir lawer eto i'w feddianu yn y plwyf. Nid oes yma ddim i ymffrostio ynddo; ond y mae yma ddigon 0 gefnog- aeth i fyned ymlaen, gan ymddiried ar Dduw am fendith.
LLANDYSILIOGOGO.
LLANDYSILIOGOGO. Y DIWEDDAR MR, JONES, PEN'RALLT.- Dydd Mercher, yr 2il cyfisol, oedd dydd claddedigaeth y di- weddar Mr. David Jones, Pen'rallt, Llandysiliogogo, yr hwn a fu farw yn 80 mlwydd oed, ar ol cystudd byr. Daeth. tyrfa fawr ynghyd ar yr achlysur. Gadawodd yr ymadawedig weddw, pump 0 feibion, a dwy ferch i alaru ar ei ol. Darllenwyd a gweddiwyd yn y ty, cyn cychwyn, gan y Parch. D. Richards, ficer Llandysiliogogo, darllenwyd y Salm a'r llith yn yr Eglwys gan y Parch. James Jones, rheithor Clydey, pregethwyd gan y Parch. D. Lewis, ficer Llansant- ffread, a darilenwyd y gweddill o'r gwasanaeth ar lan y bedd gan Ficer y plwyf. Y dydd Sul canlynol, cyf- eiriwyd at nodweddion da y brawd ymadawedig gan y Ficer yn Eglwys y plwyf, yn ystod y foreuol weddi, ganeylfaenn ei sylwadau ar y geiriau, "Wedi marw, yn llefaru eto (Heb. xi. 4.) Yr ydys wedi cael colled drom ar ol yr ymadawedig yn Eglwys Llan- dysiliogogo, gan ei fod yn Eglwyswr ffyddlon, cymer- adwy, a dylanwadol. Heddwch i'w lwch yn mhridd- ellau oerllyd y bedd, yn Llandysiliogogo, hyd nes y byddo Dorau beddau y byd, Ar un gair yn agoryd.
BRYNAMMAN.
BRYNAMMAN. "GWILYM HIBAETHOG."—Traddodwyd darlith yn y lie uchod nos lau, Mai 3ydd, gan yr enwog a'r galluog Hwfa Mon. Y testyn oedd "Gwilym Hiraethog." Cymerwyd y gadair gan Dr. H. Rees, Y.H., Tirbach, Cwmamman, yr hwn aeth trwy ei waith, fel arfer, yn sanmoladwy iawn.) Cawsom ddarlith ardderchog, ac yr oedd y darlithiwr yn ei hwyliau goreu. Yr oedd yn dwyn gwrthddrych ei sylw megis gerbron ei wrandawyr, y rhai oedd yn mwynhau eu hnnain wrth edrych i mewn i'r cymeriad godidog, a thystiolaeth pawb oedd eu bod wedi cael darlith yn ol gwir ystyr y gair. Trneni na faasai Cymrn yn gwneyd mwy 0 sylw o'i dewrion, gan eu harddangos gerbroi y werin bobl. Beth pe buasai rhywun galluog yn dyfod allan i ddarlithio ar yr enwog Esgob Morgan, i ddal y cymer- iad hwnw gerbron y bobl. Ffrwyth llafur y cyfryw sydd ar hyd ein gwlad, a'r gwrthddrych dan len yn guddiedig, Deffrown, ynte, gan roddi sylw i'r rhai y mae parch yn ddyledus. CYFARFOD ADLONIADOL —Nos Sadwrn, Mai 5ed, cyn- haliwyd cyfarfod adloniadol yn ysgoldy y lie dan ar- weiniad y ParJh. John Marlaia Jones. Cymerwyd rhan gan y rhai canlynol:—Misses S. A. Reea, J. Owen, S. A. Thomas, a Mrs. Jones, Mri. M. Phillips, T. Davies, W. Jones, E. Thomas, L. Owen, T. Evans, a Mri. Gray a Jenkins, Pontardawe. Cipiwyd y wobr am araith ar y pryd gan Mr. T. Davies. Cafwyd cyf- arfod cydmarol dda; yr elw i drysorfa yr ysgoldy.— Gohebydd.
LLANDDAROG.
LLANDDAROG. YR IFORIAID.—Bu aelodau y clwb hwn yn cynal eu cyfarfod blynyddol yn Butcher's Arms eleni ar y dydd cyntaf 0 Fai. Gorymdeithiasant o amgylch, a Brass Band Llanddarog yn en blaenori. Daeth nifer pur lew ynghyd, a gwnaed y pentref yn fywiog. Drwg genyf nad yw y clwb hwn yn arferot o ddechren y dydd trwy fyned i dý Dduw. Paham na byddent yn gwneyd hyn ? Nid dynion anfoesol ac anystyriol yw yr aelodau, ond y maent yn rhai parchus. Ni welais glwb erioed ond hwn na buasai yn dechreu gwaith y dydd yn grefyddol. Cymered yr aelodau yr awgrym yn garedig. YR YSGOL GE x r, -NT,AFT]NOL.-Pasiodd hon arholiad da iawn eleni eto, a chafwyd X73 10s. o grant. Enillwyd ychwaneg. Nid yw yr arholydd esgobaethol newydd wedi talu ymweliad â ni eto.-Pen.
LLANBEDROG.
LLANBEDROG. CYNGEBDD MAWREDDOG.-Nos Wener, y 4ydd cyfisol, cynhaliwyd cyngerdd mawreddog yn Ysgoldy Cenedl- aethol y lie uchod. Llywyddwyd gan y Parch. J. Row- lands. Wedi cael anerchiad pwrpasol ganddo, aeth rhagddo i alw yn ol y rhaglen hirfaith, ond hynod chwaethus, ar y boneddigesau a'r boneddigion canlynol: —Deuawd ar y berdoneg, Miss Caldeout a M.r. King can,' 0, love, hear me,' Mr. Tempest; can, A summer shower,' Miss Stubbs c&n,' Lion Hearts of England,' Mr. Blades deuawd, The Rhine Maidens,' Misses G. a M. Jones can, I'll place it in the hands of my solicitor,' Mr. Brock; unawd ar y berdoneg, Mrs. Angerstein; cAn, 'Chwifiwn Faner,' Mr. Williams (Cwylym); unawd ar y crwth, Miss Z. Angerstein ein, Does your heart beat true to me ?' Mr. Willis can, ',North Countree,' Miss L. Angerstein can, The Cat, the Pigeon, the Duck, and the Dog,' Mr. Roberts (Eos y Nant); can, My Margaret,' Mrs. Parker; can, Our Jack's come home to-day,' Mr. Benskin c&n, Hen wlad y cymanfaoedd,' Mr. Jones deuawd ar y berdoneg, Miss Caldecot a Mr. King; cAn, I Four Jolly Smiths,'Mr. Wallis can, Golden love,' Miss Z. Angeratein can, The Boas'ns story,' yr Eos can, 'Home again,' Miss Stubbs can, 'I'll never make a gentleman of you, John,' Mr. Blades unawd ar y ber- doneg, Mrs. Angerstein can,' Y bwthyn ar y traeth,' Mr. Williams; deuawd, I'd rather not,' Misses Z. a L. Angerstein can, Every buliet has its billet,' Mr. Ben- skin can, It is my wedding day,' Miss M. Jones can, He is'nt a marrying man,' Mr. Brock; can gysegredig, 'Ifye love me keep my commandments,' Mrs. Parker. Yr oedd y canu o'r gradd uwohaf o'r dechreu i'r diwedd, a phawb yn ymddangos fel yn gwledda o'r cyfryw, er o dan beth anfantais, set prinder lie, yr hyn hefyd oedd yn cael ei wneuthur yn oddefol gan wybodaetb o amcan y cyfarfod, Bef elwa gogyfer a'r draul o helaechu yr ysgoldy. Tuag at hyn gwnaeth y cyngerdd £ 9 3s, 9c. Pedair blynedd yn ol buwyd yn ych wanegu darn helaeth, ond y mae llwyddiant rhag- orol sydd wedi dilyn gwasanaeth Mr. H. King, yr ys- golfeistr, wedi dwyn yr adeilad i lwyr angen yr un feddyginiaeth eto. Daeth y cyfarfod i derfyn wedi diolch yn y modd arferol trwy ganu yr Anthem Genedl- aethol. DIRWEST.—Nos Lun, y 7fed cyfisol, 0 dan nawdd y G.D.E., cynhaliwyd un o'r cyfarfodydd hyn yn yr ysgoldy uchcd, yr hwn a lywyddwyd yn hynod foddhaol gan y brawd Mr. H. Jones, Eivion Terrace. Wedi canu emyn a gweddio, cafwyd anerchiad gan y Ilywydd, yna aeth rhagddo i alw yn ol y rhaglen tel y canlyn:— Can, Y fam weddw yn disgwyl ei John, yr hwn oedd feddwyn,' Mr. R. Jones; anerchiad gan Mr. W. Roberts; can, Addysgu y Tonic Solffa,' gan Mri. E. a H. Jones; anerchiad gan Mr. H. Hughes; canig gan fyfyrwyr y tonic solffa, dan arweiniad eu hathraw, Mr. H. Jones (y llywydd); adroddiad gan Ernest Russell; can gan Mr. W. Williams adroddiad, Ymgom plant y meddwyn,'gan Miss E. Burton; ein a chydgan gan Mr. F. Toon a'i gyd-fyfyrwyr; anerchiad gan Mr. W. Russell a chan Mr. W. Heighway, goruchwyliwr ao ysgrifenydd y Llanbedrog Granite Quarry. Cawsom gyfarfod ihagorol, a chynulliad da.-Tywotyn.
BARGOED, GELLIGAER.
BARGOED, GELLIGAER. CEIDWADAET.H.-YMWeladd Mr. Croston, 0 Mancein- ion, &'r lie hwn, nos Ian diweddaf, i draddodi araith ar egwyddorion Ceidwadaeth. Mr. Gordon Lennox, Pontypridd, oedd yn y gadair lywyddol, yr oedd hefyd ar y llwyfan Mr. J. Vye Parminter. Cafodd Mr. Croston wrandawiad astud a brwdfrydig, ac eithrio dau neu dri o fechgynos di-farf ymhen draw y nenadd. Doeth fyddai i'r boneddigion sydd yn trefnu y cyfarfod- ydd hyfforddiadol hyn, i ymohebu a rhaio Geidwadwyr y lIe y bwriedir cynal y cyfarfod, fel na byddo iddo ddyfod i wrthdarawiad a. chyfarfodydd eraill yn yr ardal, fel y digwyddodd yma y tro hwn. Yr oedd corau Eglwysig y plwyf yn ymarfer erbyn gwyl y Dyrchafael. fel nas gallent bresenoli eu hunain yn y cyfarfod gwleidyddol byd yn agos y terfyn.
CAERDYDD.
CAERDYDD. CYMDEITHAS EGLWYSIG DEWI SANT.—Nos Lun, y 7fed cyfisol, cynhaliodd y gymdeithesluchod yr ail o'i chyfarfodydd rheolaidd. Daeth nifer dda ynghyd, a threuliwyd noswaith fuddiol a difyrus Oros ben. Ar ol myned trwy y gweithrediadau arferol, darllenwyd papyr dyddorol ac addysgiadol gan Mr. W. Jones, ar y Tair gradd yn y Weinidogaeth." Yna cafwyd ym- ddiddan ar gynwysiad y papyr, ac ar gynygiad Mr. Tudor Eyans, ac eiliad Mr. Richard WilliamB, pasiwyd pleidlais wresog o ddiolchgarwch i Mr. Jones am ei bapyr. Cynhelir y cyfarfod nesaf, yr hwn a gymer y ffurf 0 gyfarfod adloniadol, nos Iau, y 24ain o'r mis hwn, yn ysgoldy Bute Terrace, am fod y noson rheol- aidd yn syrthio ar nos Lun Sulgwyn.—Dewi.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. YNAD HEDDWCH.—Y mae Mr. James James, Ffynon Howell, Llanrhystyd, wedi cael ei benodi yn ynad heddwch dros y sir. CONFFIRMASIWN.—Gweinyddwyd hon yn Eglwys y Drindod Sanctaidd gan yr Arglwydd Esgob ar ddydd Iau, pan yr oedd yr adeilad yn orlawn a'r gwasanaeth yn ddyddorol anghyffredin, oherwydd cynifer o bobl mewn oedran pell a gyflwynwyd i'r Esgob am y ddefod. Y rhifedi ooddynt :-37 0 Eglwys y Drindod, 22 0 St. Michael, 16 0 St. Mary, a 1930 Lladbadarn cyfanswm, 94. Cynorthwywyd yr Esgob gan y Parch. J. Pugh a'r Prebendary Williams; ac hefyd yr oedd yn bresenol y Parchn. D. W. Jenkins W. Evans, St. Michael; Davies, St. Mary T. Parry, Llanbadarn a'r ddan warden, Dr. J. M. Jones, a Mr. Young. Yn y prydnawn cynhaliwyd gwasanaeth cyffelyb yn Eglwys Llanflhangel y Creuddyn.
PENBOYR.
PENBOYR. Bydd yn dda gan Eglwyswyr wybod fod yr Eglwys yn enill tir dan ofal y Parch. J, Lloyd yn y plwX hwn. Cyflwynwyd 31 o ddynion ieuainc perthynol i'r Eglwys yn y plwyf uchod 0 flaen yr Esgob i'w con- ffirmio ychydig wythnosau yn ol yn Nghastellnewydd Emlyn, 5 o ba rai oeddynt gyflawn aelodau yn flaen- orol. Derbyniwyd y gweddill braidd yn ddieithriad yn aelodau cyflawn y Sul diweddaf. Cymunodd 1 0 bob 10 o boll boblogaeth y plwyf yn Eglwys St. Barnabas boreu y Sul diweddaf. Pe tynem allan o gyfanbvv-a poblogaeth y plwyf nifer y plant sydd dan oedran pwyll, ymddangosai y cyfartaledd yn fwy boddhaol; a phe buasem yn cyfrif yr Eglwyswyr hyny ac ydynt yn mynychu Eglwysi Castell-newydd a Henllan, oherwydd eu ftbod yn fwy cyfleus i drigolion ymylon y plwyf, byddai y cyfartaledd yn fwy boddhaol fyth. HeblaW hyn, yr oedd yn bresenol yn ysgolion yr Eglwys y Snl diweddaf 1 o bob 8 o gyfanswm y boblogaeth. Nid oedd dim anarferol yn cael ei ddwyn ymlaen y diwrnod hwnw yn wahanol i Suliau eraill. Mae hyn yn galon- ogol pan ystyriom bellder ffordd yn rhwystr i nifer helaeth o'r aelodau i fod yn bresenol yn yr ysgol ar 01 gwasanaeth maith y borea.-Y mae y dadgysylltwyr yn dechreu rhagweled y bydd gorfod arnynt yn fuan roi heibio cyfrif penau, ac y maent yn dechreu newid eu c§,n gan waeddi dadgysylltiad on principle. Rboi ffordd mae y tir odditan eu traed. Nid gwir, fel myn Mr. Dillwyn i Barliament Lloagr gredu, fod yr Eglwys yn fethiant yn Nghymru. Bydded i bob EglwyBWf wneyd ei ran yn ei gylch-" All hands upon deck fel ag i sicrhau, trwy gymorth Duw, ddiogelwch ein Heglwys yn y blynyddau stormllyd hyn. Mae digon 0 wsith i bawb, a bydded i bob un wneyd ei oreu yn ei gylch ei hun.—Eghoyswr.
LLANGENDEIRNE.
LLANGENDEIRNE. Drwg genym bysbysu ddarllenwyr Y LLAN am farw- olaeth Mr. James Griffiths, Pencelly, un 0 wardeniaid Eglwys y plwyf uchod. Cafwyd ef wedi marw yn ei wely boreu dydd Iau diweddaf. Aeth i'w wely nos Fercher yn bur iach fel arfer, ond gresyn yw meddwl iddo agor ei lygaid mewn byd arall cyn y boreu. Yr oedd yr ymadawedig yn 89 mlwydd oed, ae felly wedi cyraedd oedran teg. Nid wyf yn meddwl iddo gym* eryd un diwrnod segur erioed, ond ba yn ddiwyd hyd ei fedd. Daliodd yn ei gof yn dda yr hyn a ganlyn, Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara." Ni wnaetb ddrwg i neb erioed, yr oedd hyny yn mhell 0 fod yn ei ddymuniad. Ei ymdrech bob amser oedd ymwahanO oddiwrth bawb, a byw yn ol ei drefn ei hun. Ceir llawer amaethwr yn ceisio dyrchafu ei hun ymhlith ei gydwladwyr, a dymuna i bawb i'w ddilyn ymhob peth, ond am yr ymadawedig uchod, ei brif ymdrech oedd cadw ei hun yn ddigon isel fel na fyddai yn rhoddi lie i unrhyw ymgom gyfodi yn ei gylch, ac yn ol fy marn i llwyddodd i raddau helaeth. Claddwyd ei weddillion marwol yn mynwent Eglwys y plwyf. Gweinyddwyd gan y Parch. D.Jones, ficer. Daeth torf liosog ynghyd i wneyd iddo y gymwynas olaf. Heddwch i'w lwch. Yr oedd yr ymadawedig yn dad i'r enwog Mr. J. Griffiths, M.A., proffeawr mathematics yn ngholeg YT. leau. RLydychain.
GELLI AUR.
GELLI AUR. Prydnawn dydd Mawrth, y laf cyfisol, ymgynullodd llawer o wahoddedigion i balas yr Anrhydeddus Ar. glwydd ac Arglwyddes Emlyn (Gelli Aur), i'r diben 0 ffurfio yn orymdaith i fyned i Eglwys y lie uchod gyda'r amcan o weled a chlywed ymrwymiad mewn glan briodas rhwng Mr. Thomas Cooper (butler Arglwydd ac Arglwyddes Emlyn), a Mrs. Elizabeth Benham, teuluddes yn yr un palas, y rhai fu yn eu gwasanaeth am flynyddan. ao mewn parch mawr. Aeth yr or- ymdaith i'r Eglwys, lie y gweinyddwyd gan y Parch. D. Davies, ficer Llandebie (yn absenoldeb y Parch. -m. Jones, ncery lie, oherwydd marwolaeth ei anwyl dad). Dymunwn bob llwyddiant i'r par priodasol. Mae yma bethau chwerwon iawn wadi cyni- eryd lie yn ddiweddar trwy weinidogaeth angau- Dydd Mercher, yr 2il cyfisol cymerodd cynhebrwng Mr. Evan Jones le. Yr oedd yn frawd ieuanc gobeithiol iawn gyda chrefydd er yn blentyn, ac yn hynod dawel- Pan y buasai rhyw un o'i gydysgolheigion yn ei ddif; enwi ef neu un arall o'i gyfeillion, buasai yn ei anog1 fod yn dawel, a gadael iddynt alw beth a fynent, gall nad oeddynt yn gwneuthur unrhyw niwed iddo ef nD amser, ond byddent yn dianrhydeddu eu hunain yn fwy. Er nad oedd wedi cyraedd 18 mlwydd oed, gwnaeth waith da yn ystod ei fywyd byr. Torodd lestr gwaed yn Rhagfyr diweddaf, ac ar ol hyn bu yfl gwanychu hyd nos Sadwrn, yr 28ain 0 Ebrill, pryd yr hunodd mewn heddwch. Claddwyd ef y dydd Mercher canlynol yn mynwent Gelli Aur, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. D. Davies, ficer Llandybie. Mae yma gor canu yn parotoi ar gyfer yr wyl fawr gerddorol a gynhelir yn hen Eglwys St. Pedr, Cael* fyrddin, ar y 12fed o Fehefin nesaf, pryd y bydd lliaWS o gorau yn cydgyfarfod i ganu o dan arweiniad arweio' ydd yr undeb, Mr. H. Radcliffe, Abertawe. Mae hefyd adfywiad gyda'r Ysgol Sul, fel mae pob doabartb yn cymeryd dyddordeb ac ymdrech i hyfforddi y to ien' anc mewn gwybodaeth o air y Gwirionedd. Mae es- geuluso y dyledswyddau hyn, sef cau gwybodaeth Feibl- aidd 0 Ysgolion y Byrddau yn galw ar bawb i ddeffro at hyn, sef hyfforddi y plant yn addysg ac athrawiaetb yr Arglwydd.—Meilwch.
GLYNCEIRIOG.
GLYNCEIRIOG. Mae genym y gorchwyl gofidus 0 gofnodi marwol- aeth y Parch. W. D. Rees, fleer Pontfadog, yr hwn oedd wedi gwasanaethu yn y plwyf am ysbaid o ddengOiO mlynedd, yn ei 69am mlwydd oed. Anhawdd fydd un ilenwi lie yr ymadawedig ymhob cylch Yr oedd yn Gristion ymLob ystyr, ac yn ateb i'r dim beth ddj" wed Iago," Crefydd bur a dihalogedig gerbron Duv? a'r Tad yw hyn ymweled &'r gwragedd gweddwon yfl eO. hadfyd, a chadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth 1 byd." Bydd yn golled fawr i lawer hen wraig, ac 0 r hyny i lawer hen wr, ar ol y diweddar ficer. Bydd51 yn arfer ymweled a phob un pan mewn afiechyd, ac eu cynorthwyo mewn modd sylweddol. Byddai hefy" yn gweithredu yn ol y gorchymyn, "Na wyped dy la^ ae au. aswy pa beth a wna dy law adehau." Nid hyawdl yn y pwlpud, ond byddai yn bur efengylai?, Yr oedd ei fuchedd yn ddifrycheulyd, ao yn un 1.r. efelychu mewn diniweidrwydd. Gwnaeth ei orefl ysgol ddyddiol yn y lie pan yr oedd mewn amgylchi»< au isel iawn. Hebryngwyd yr hyn oedd farwol o i'w hir gartref ddydd Llun,!Mai|6ed. Gwasanaethwyd 8* y pryd gan y Parch. E. R. James, B.D„ Llangol1 D. Jones, M.A., Glynceiriog. Heddwch i'w Iwol- Edmygwr.
LLANFACHRETH, GER DOLGELLAI1.
LLANFACHRETH, GER DOLGELLAI1. CYNGBAIR Y FRIALLEN.—Nos lav, y 26ain cynhaliwyd cyfarfod hynod lwyddianus gan y Cyngrair uchod yn yr Ysgoldy Llywyddwyd yn ddeheuig fel arfer gan y Vaughan, Nannau, ac ar ol araith benigamp cadeirydd, aethprwyd drwy y rhaglen ganly £ 0J-.6 Dauawd ar y crwth a'r berdoneg, Mri. Henry «|, a T. Thomas oan, « Sweethearts,' Miss Vaugh oan, The Parade of the Primrose Knights, John Rogers adroddiad, You don't know bom,' Mr. White c&n, Yr hen amaer gy^iJlrefl 5 Owen Pugh; cydgan, Infant School 0miar