Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Crotyn bychan, yn edrych i fyny oddiwrth newyddiadur: "Ewythr, beth ydyw 'Y cwestiwn menywaidd mawr,' y mae y papyrau yn dweyd cymaint am dano ?" Yr ewythr, yr hwn oedd yn hen lane sarng, Y cweBtiwn menywaidd mawr a ddywedasoch chwi?" Rwyln sposo mai dyna ydyw, 'Beth oedd hi yn ei wisgo.' Y mae'r dunell lo yna yn edrych yn rhyw ddau gan' pwys yn fyr o bwysau,' ebai dyn teuluol,' a chyn wired a fy mod yn fyw mi fynaf ei bwyso. Y mae'r modd y mae y creadnriaid hyn sydd yn gwerthu glo yn twyllo yn bechadurus i'r eithaf.' Wedi iddo ei bwyso, dywedodd wrth ei wraig, Y mae pob peth yn iawn- mae'n pwyso tna chau' pwys dros ben.' I Fadnt a dal- wch am y pwysau extra, John ?" Dim. En cam- syniad hwy yw hyny, nid eiddof fi."
CYSEGRIAD EGLWYS Y GROES,…
CYSEGRIAD EGLWYS Y GROES, ABERGWILI. Diwrnod o lythyren goch hir-gofiadwy yn ardal Capel y Groes, yn mhlwyf eang a phwysig Abergwili, oedd dydd Mawrth, yr 8fed eyfisol, pryd yr ymgasgl- odd torfeydd lliosog o wyr lien a lleyg o wahanol barthau o'r wlad ynghyd, i fod yn llygaid-dystion o gysegriad yr eglwys newydd dlws gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi, trwy gyfarwyddyd yr Hybarch Archddiacon James, M.A., ficer gweithgar y plwyf. Bydd yr eglwys yma (a adeiladwyd yn mhen uchaf y plwyf, tua phum' milldir o du y^gogledd-ddwyrain o dref Gaerfyrddin, ao mewn cymydogaeth boblog) yn gofgolofn adnewyddol o'i ymdrechion difiino ynglyn a gwaith yr Eglwys yn y plwyf, yn gystal ag yn yr archddiaconiaeth. Am 11, wedi i r holl offeiriaid ymddangos yn eu gwenwisgoedd, ffurfiwyd yn orymdaith i'r eglwys, pryd yr ymwahanodd y dorf i'r Esgob flaenori, yr hwn aeth trwy Wasanaeth y Cysegru gyda dwysder gweddus i'r amgylchiad. Llafarganwyd y Gwas- anaeth Boreuol (yr hwn oedd yn gerddorol) gan y Parch. T. R. Walters, ficer St. David's, Caerfyrddin, a chyfeiliwyd yn fedrus gan Mr. Thomas, Capel Cynfab. Gwnaeth y cor eu gwaith yn ganmoladwy, o dan arweiniad Mr. Davies, ysgolfeistr, Abergwili. Canasant anthem Gwyl Gorawl Caerfyrddin am y flwyddyn hon. Traddododd yr Esgob bregeth bwr- pasol a dyddorol oddiar Rhuf. xv. 30. Prif bwnc ei ymdriniaeth oadd cyd-weddio," ac adgofiai pawb o bwysigrwydd y ddyledswydd yn yr oes hon, er sicr- hau llwyddiant a bendith y nefoedd ar ein holl ym- drechion orefyddol. Yn nesaf, aeth ei arglwydd- iaeth (yn cael ei ganlyn gan y dorf drefnus a defosiynol) i'r fynwent, lie y darllenwyd y gwasan- aeth apwyntiedig ar achlysur eysegriad claddfa Eglwysig. Ar ol hyn ymwahanodd pawb er diwallu angenrheiniau corfforol, mewn fierm gyfagos, lie yr oedd darpariaeth helaeth ar gyfer pawb. Gweinydd- wyd wrth y byrddau gau Mrs. a Miss James, Aber. gwili Mrs. Roberts, High School, Caerfyrddin; Mr. Phillips, London House, Caerfyrddin, &c. Am 4, cynhaliwyd gwasanaeth, a phregethwyd gan y Parch. A. Britten, ficer Penrhyn ac yn yr hwyr gan y Parch. S. Davies, curad Llanelli, Yr oedd y cynulleidfaoedd mor lliosog fel yr oedd yn angan- rheidiol pregethu yn yr awyr agored yn y prydnawn a'r hwyr. I goroni gweithrediadau y dydd, tra- ddododd Mr. Britten anerchiad grymus ao effeithiol ar waith cenadaethol yr Eglwys, mewn plwyfydd gwledig yn neillduol. Gwnaed casgliadau ar ddiwedd y tri gwasanaeth at y gronfa adeiladol. Yr oedd yn bresenol, heblaw y rhai a enwyd yn barod, y Parchn. A. G. Edwards, Deon Gwladol a Chaplan yr Esgob John Evans, Deon Gwladol a Ficer Llanymddyfri S. Jones, Llangunor W. Davies, Llanllawddog E. Thomas, Llanegwad; J. Lloyd, Llanpumsaint; T. Thomas, Capel Cynfab T. Lewis, Llangynog E. Jones, Golden Grove D. James, Ferryside; D. Jones, Merthyr; D. S. Davies, Llanybri; W. Davies, Llandeilo-Abercowin; J. Evans a D. M. Davies, Abergwili; E. M. Roderick a T. B. Williams, Sant Pedr, Caerfyrddin; J. Davies, Llanllwoh; J. Davies, St. Anne's, Cwmffrwd, &e. Gohebydd arall a ysgritena,- Dydd Mawrth, yr 8fed o'r mis hwn, oedd dydd cysegriad Capel y Groes, neu fel yr adnabyddir ef yn y gymydogaeth, Capel Bach, yn y plwyf uchod. Bu eglwys o'r blaen ar yr ysmotyn hyn, a mynwent yn gysylltiedig a hi, ao yr oedd ychydig o'r muriau yn ganfyddadwy yn nghof rhai sydd yn fyw yn awr ao y mae dwy ywen fawreddog, olion beddau, a hen groes yn dystiolaethau gweledig yn bresenol o gys- egredigrwydd y fan. Ond bu am ugeiniau o flyn. yddoedd, os nad oanoedd rai, heb fod sain can a moliant yn esgyn i fyny o fewn i furiau yr hen adeilad, ond erbyn heddyw, trwy ymdrech egniol a ohanmoladwy yr Hybaroh Arohddiacon James a'i gydlafurwyr, canfyddir eglwys hardd i gynwys rhyw 140 o addolwyr, wedi ei hadeiladu ar yr un fan yn hollol ag a safai yr hen eglwys gynt. Y mae y gwaith yma yn debyg i Nehemiah gynt (fel y cyfeir- iwyd yn dlws dros ben yn y prydnawn gan y Parch. A. Britten, Penbryn) yn adgyweirio muriau Jerusa- lem. Wrth gyfeirio ein camrau boreu dydd yr agor- iad at gymydogaeth Capel y Groes, daeth yn ddi- symwth i'n golwg yr eglwys newydd yn sefyll yn nghanol tlysni anian mewn dyffryn prydferth, a'r meusydd oddiamgyloh wedi gwisgo mantell wyrdd, mor wahanol i'r hyn oeddynt ychydig ddyddian yn 01, pan oedd gwyntoedd oer y gogledd a'r gorllewin ynrhwystro tyfiant ac yn diserchu y tir. Ai nid oedd dechreuad y gwanwyn eleni yn rhyw ddarlun o sefyllfa grefyddol yr ardal mewn ystyr Eglwysig er pan y darfyddodd gwasanaeth crefyddol yn Nghapel y Groes ? Wedi bod yn hir yn dir anial, wele heddyw amlygiad o wawr newydd yn tori allan, a gwanwyn ysbrydol Eglwysig, tebyg mewn modd naturiel i ddydd y cysegriad, yn deohreu ym- agor yn Hawn gwyrddlesni yn rhoddi gobeithion o haf ffrwythlawn a thoreithiog. Trwy fod eglwys y plwyf mewn un owr, a chapel anwesLJanfihangel mewn cwr arall, yr oedd y trigolion a breswylient yn nghanol y plwyf yn anghyfleus iawn i gael modd. ion orefyddol Eglwysig; ond erbyn heddyw y mae yr anghyfleusdra yma wedi ei Bymud, trwy fod Capel y Groes yn sefyll mewn man canolog o'r plwyf, gyda drws yn agored i bawb a dd&l i mewn. Perthynai yn yr hen amseroedd i'r plwyf poblog ac eang hwn bedwar capel heblaw y fam Eglwys, ond gadawyd i'r oil oddigerth eglwys y plwyf fyned 1 ddadfeiliad ond wele un o honynt wedi adgyfodi, fel pe byddai, i fywyd newydd, a gobeithiwn o ddef' nyddioldeb mawr. Y mae yn bresenol yn y plwyf bedwar man lie y cynhelir gwasanaethau Eglwysig, a da genym fod yr Eglwys, trwy ymdrechion y ficer gweithgar a'i ddau gydlafurwr egniol, yn estyn ei chortynau, a hyderwn y bydd i'r un llwyddiant eu canlyn yma ac yn Ysbytty, lie y dechreuwyd oynal gwasanaethau crefyddol rhyw un flynedd ar ddeg yn ol, ac am yr wyth mlynedd cyntaf rhoddwyd eynorthwy gan weinidogion y plwyfi canlynol, sef Brechfa, Llanegwad, a Llanpumsaint. Ond i fyned at weithrediadau y dydd. Ar ol ffurfio yn orymdaith o ryw 25 o weinidogion yn eu gwenwisgoedd, a myned trwy y rhan o'r gwasanaeth a signio documents a ddalient gysylltiad a chysagriad yr eglwys gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi, llafargan- wyd y gwasanaeth mewn llais eglur a swynol gan y Parch. T. R. Walters, Caerfyrddin a chwareuodd Mrs. Thomas, o Ficerdy Llanfair-ar-y-bryn, ar yr harmonium yn fedrus dros ben. Gwnaeth y c6r o dan arweiniad Mr. Davies, ysgolfeistr Abergwili, eu gwaith yn dda. Yroadd y chants, yr anthem, &c., o'r llyfr a barotowyd erbyn y Gwyliau Cerddorol yn yr Archddiaconiaeth hon eleni. Darllenwyd y ddwy lith gan y Parchn. J. Evans, D.G., Llan- ymddyfri, ac S. Jones, Llangunnor. Pregethwyd yn alluog gan yr Esgob ar weddi, yr hyn oedd mor briodol i'r amser yma o'r flwyddyn, sef tridiau y gweddiau (Rogation Days), ac hefyd i'r amgylchiad o neillduad adeilad i fod yn Dy Gweddi. Ar ol gweinyddiad y Cymun Bendigaid aeth yr Esgob a'r offeiriaid yn orymdaith i'r fynwent i neillduo rhan o'r tir amgylcbynol yn gladdfa y meirw, ac yr oedd y gwasanaeth yn ddwys ac addysgiadol dros ben. Yr oedd y fynwent wedi ei threfnu yn y modd mwyaf destlus, a phob path oddif ewn ae oddiallan i'r eglwys yn edrych yn brydferth a threfnus, yr hyn a ddengys 01 llafur mawr ar ran yr Archddiacon James a'i gyd-lafurwyr. Yr architects oeddynt y Mri. Middle- ton, Prothero, a Phillott, o Cheltenham, a'r adeil- adwyr y Mri. J. a D. Evans, Llanddewi Bren, ac y mae y gwaith yn dyst o alluoedd medrus yr architects, ac o ddidwylldra yr adeiladwyr adnabyddus o Gered- igion. Ar ol y gwasanaeth mwynhaodd yr Esgob, Y clerigwyr, a'r dieithriaid eu hunain a'r danteithion a barotowyd mor helaeth ar eu cyfer yn Ffoesygestj ac er fod canoedd yn cyfranogi, eto ymddangosai fod y darpariadau bron yn annherfynol. Diolch yn fawr i chwi, gyfeillion caredig Abergwili, am eicil caredigrwydd. Yn y prydnawn, gorfu i Mr. Britten, oherwydd lliosogrwydd y cynulliad, bregethu yn yr awyt agored, a rhyfedd mor astud y gwrandawai y dyrfa liosog ar ei hyawdledd, a llawer deigryn a gollwyd o dan ei apeliadau difrifol. Yn yr hwyr yn yr eglwys, pregethwyd yn swynol ac addysgiadol gan Mr- Davies, Llanelli, ac ar ol hyny rhoddwyd rymus a thoddedig gan Mr. Britten, a theiml&<j calon y gwrandawyr lliosog oedd, Da yw i ni fo" yma." Deallwn fod cenhadaeth am ddeg diwrnod yn X plwyf, o dan arweiniad Mr. Britten; a bydded I fendith y nefoedd fod ar y gwaith da, fel ag y byddo i Ysbryd Duw gyffroi y rhai sydd yn ysbrydol farwi a dyfnhau'r had da yn nghalonau y sawl sydd yn barod wedi ei dderbyn, Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr yn mis Hydrsi» 1886, gan Mrs. Llewellyn, Penlle'rgaer, a chafwy" anerchiadau grymus ar y pryd gan yr Eagob, lUt, Llewellyn, yr Arohddiacon, ac eraili. Costiodd yr adeilad tua Xl,200, a da genym ddeall fod swm a.J1' rhydeddus wedi ei chasglu yn barod. Ymhlith Y tanysgrifwyr canfyddwn enw yr Esgob am 2250 9 Mr. Llewellyn am ;e100, heblaw y tir, yr hyn Byd yn brawf pellach o haelioni yswain Penllergaer bob achos da, lie y mae ganddo feddianau. Gwy11 fyd na bai mwy o fawrion ein gwlad yn sylweddoli Y gwirionedd pwysig fod meddianau yn dwyn at, cyfrifoldeb mewn ystyr foesol a chrefyddol yn ogystal a thymhorol. Ymhlith y lleygwyr a gymerasant ran a dyddorcle1 yn y gwaith oeddynt Capt. Phillips, Cwmgwilii t Capt. Dalrymple. Deallwn fod amryw filoedd WOdi eu casglu yn y plwyf hwn tuag at achosion Eglwys1^ er pan y mae y Ficer presenol yma. Aed ymlaenj gwaith da ydyw dymuniad llawer heblaw yr ysgrl1' enydd.
[No title]
Barnwr: I A oeei genych rhywbeth i ddweyd fod y Ilys yn pasio dedfryd arnoch?' Carcharor: y cyfan sydd genyf i'w ddweyd ydyw fy mod 3 beithio y gwna eioh anrhydedd ystyried ieae» oithafol fy nghyfreithiwr, a'm dedfrydu mor ysf?ft sydd modd. — 'Y wraig i mi,' ebai efe, ydyw y ferC^neYd ffaaiwn er's llawer dydd—y ferch sydd yn gwraig dda yn y ty, un wedi cael ei dwyn i lyny i hvPy ac i goginio, i olchi dillad ac i smwddio—y o ferch a ayferid ei chael cyn bod mercbetacn myned i mewn am ryw ffiloreg ffasiynol a llawef bethau diwerth.' 'Rwy'n deall. Fy nghynllanifl^ nJj» o \vr sydd un o'r hen ffasiwn. Y mae arntif wna ysgubo yr eira, gosod y glo o dan dd, etl euro y carpedi, a gwneyd pob peth yr arferai & -1 s0 0 gwneyd cyn en bod yn myned i mewn am heti»a r8ill' chlybiau, cyngherddau, a phethau gwaelioo cyij Wedi'r siarad bu tawelwch mawr, a bu ef yn dyfod i'w Ie. ad ý Yr oedd geneth fach saith oed, yr hon bit cael ei haddysgu bob dydd gan chwaer benac Qgp wedi dysgu testyn y pregethwr y Sul o'r ^fecb0^ dystiolaethu i tychan a mawr,' &c. Meddai y fW wrth ei chwaer un diwrnod, • Yr ydych wedi yP nag awr yn fy nysgu heddyw, ac y mae yr 1% aao dweyd mai dim ond awr y dylech fy nysga. w0g J sydd. yn dweyd hyny?' gofynodd yr at^f0'ly^ fechan; atebodd hithau, 11 fychan am oedd hi wedi deall y geiriau.
PIGION O'R WASG GYMREIG.
PIGION O'R WASG GYMREIG. [GAN YEEITAS.] BARN Y PARCH MICHAEL JONES AM Y SAESON. (Y Celt, Mai lleg.) Pa wahaniaeth sydd mewn lladd pobl gyda gwen- wyn i ladrata eu gwledydd, rhagor eii lladd & chleddyfau, bwledi, a bidogau ? Cof genym am fagad o hcgiau segur tref yn cwrdd fiermwt yn dychwelyd o flair, ac yn tynu cynen ag ef, a'i hectro i ymladd, er mwyn ei yspeilio, fel y bydd Llywodr- aeth y Saeson yn gwneyd a gwledydd anwar, er mwyn eu goresgyn, Buwyd yn hir yn rhedeg Llyw- odraeth Burma a'i brenin i lawr yn y papyrau! Seisnig, i addfedu barn y bobl i gael goddefiad i ym- osod ami. Gwnaethpwyd hyny o'r diwedd gan y Senedd Doriaidd a Uofruddiog bresenol, a lladdwyd llawer mwy na 3,800, y chwedleuir eu bod wedi eu gwenwyno yn Brasil. Mae nifer mawr o bendefigion y Senedd yn meddwl os tynir pobl i ryfela, ao iddynt gael eu gorchfygu, y gellir myned a'u gwlad, a threfnu eu heiddo fel y mynir, ac mai iawn yw eu lladd ag arfau rhyfel yn ddiarbed. Ond mai ysgeler yw lladd dyn os na fydd yn paffio. Yn ol golygiad. au Sion Bwl y mae paffio yn wrol yn gwneyd y pechod ysgeIer o lofruddio yn rhinwedd canmol- adwy! Ond y mae lladd pobl heb baffio yn ddistaw gyda gwenwyn yn drosedd yageler, a haeddai y dyn a'i gwnelo ei grogi. Ond y dyn a lofruddia bobl wrth y miloedd drwy baffio, ac a'u gorchfygo, ac a a a'u cyfoeth yn yspail, dylid canu ei glodydd, a chodi cofgolofn i anfarwoli ei enw Mae yn debyg y bydd rhywun am anfarwoli enw Balfour, 6 herwydd ei fod wedi trefnu ymosodiad gwaedlyd yn Mitshelstown ar y Gwyddelod, a manau eraill aneirif, lie mae dynion wedi eu lladd. Pe buasai yn gwneyd hyny trwy wenwyn, buasai pot. SaiB am ei grogi. Gall drefnu i gadw Gwyddeled i rynu i farwolaeth mewn carcharau oer a llaith, ond nis gall eu gwenwyno. Os yw dyn am ladd yn ddi- gosp, rhaid iddo astudio syniadau goleuedig yr oes, a lladd mown swydd, lladd yd ol trefn ac enw y Llyw- odraetb, ac wedi hyny bydd nid yn unig yn ddi- gerydd, ond caifl ei dalu yn iawn am ladd, yn enwedig os lladd efe filoedd lawer mewn rhyfel. Dyna beth yw Cristionogaeth Prydain Fawr. Y PAB A'R GWYDDELOD. (Y Tyst, Mai lleg). Cwestiwn a ofynid yn fynyoh y dyddiau diweddaf oedd, beth a wna y Gwyddelod os condemnia y Pab y Cynghrair ?' I'r neb a wyr rywbeth am y Babaetb, y mae yn hysbys fod cenadwri ar fater yn ddeddf. Nid yw Bulls y Pab i'w troi o'r neilldu yn ddisylw. Mae ei felltith ef yn beth i'w fawr ofni gan bob Pabydd. Bernid y buasai yr offeiriaid Pabaidd mewn cyfyngder mawr, ac mai anhawdd iawn fuasai iddynt hwy barhau yn gefnogwyr gweledig i'r Cynghrair; ond am y bobl y gallasent hwy fforddio sefyll yn ffyddlon iddo. Daetbai yn ddydd prawf arnynt oil, a phrawf tanllyd fuasai hefyd. Ond hyd y gellir deall oddiwrth ymadroddion cynil, eto eglur, thai o'r arweinwyr, sefyll wrth y Cynghrair a wnanfc. Dy- wedant eu bod yn barod i dderbyn eu crefydd o Rufain, ond dim o'u gwleidyddiaeth. Siaradant gyda'r parch mwyaf am y Pab, ae eto safant yn benderfynol dros eu gwlad a'u cenedl. Gwell i'r Pab beidio cario pethau yn rhy bell. Gwnaeth Rhufain ymgais i daflu dwfr oer ar dystob Parnell flynyddoedd yn ol, ond symbyliad ac nid rhwystr a fu i'r symud- iad. Buasai yn dda genyf weled hollt yn y Babaeth, ac nid yw yn anmhosibl nad o gyfeiriad yr Iwerddon y daw gyntaf. Pwy a wyr? Pe dechreuai yr Iwerddon, byddai yn rhwym o ymledu i Amerioa, Awstralia, a phob gwlad lie byddo Gwyddelod Pab- yddoL Nis gall Leo fforddio gwneyd hyn, ao am hyny gwell iddo ymbwyllo. Nid oes dadl nad yw pethau yn dyn iawn yn Rhufain ar hyn o bryd. Galwyd am Archesgob Walsh o Dublin yn bur sydyn, ac yn Rhufain y mae. Sibrydir fod pethau mor ddifrifol fel y sonia Walsh am ymddiswyddo. Mae efe yn Ymreolwr cadarn, ac yn gefnogydd selog i'r Cynghrair. Teimlir ei bod yn adeg bwysig, a'i bod yn gyfyng o'r ddeutu ar y Pab. Bemir fod ei Gynulleidfa yn rhanedig iawn ar y mater, ond gwna yr holl helynt a'r petruso yn ei gylch i anffaeledig- aeth y Pab edrych yn ysmala a dirmygiedig iawn, ac nid oes eisieu cyflymder a chraflder GwyddeUg i waled hyny. HR. GAMALIEL ROWLANDS YN FARNWR. (Gwalia, Mai 9fed.) Yr oeddym ni bob amser, efallai yn ein diniweid- rwydd, yn arfer edrych ar y Traethodydd fel cyfnod- olyn hollol anenwadol ac anmholiticaidd, ymha un y ceid yr hufen o gynyrch ymenyddol y dynion mwyaf dysgedig a galluog yn Nghymru, boed hwynt yn lleygwyr neu yn wyr o'r brethyn. Am flynyddau y bu yn dal ei dir a chyfiawn hawl ganddo i'w alw yn brif gyhoeddiad y genedl, ond ofnwn ei fod yn awr, am ysbaid o leiaf, yn gorfod boddloni ar y sefyllfa ail-raddol. Efallai mai ar y tir ei fod yn gyhoeddiad dysgedig, i'r dysgedigion, y penodwyd Mr. Daniel Rowlands, prifathraw Coleg Normalaidd Bangor, i fod yn olygydd, gan y tybid fod y bonedd- wr hwnw yn un o alluoedd neillduol fel ysgolor, fel meddyliwr coeth, yn ddyn perflaith, rhadlon, a chymwys i hyfforddi neu i oleuo gwyr ieuaino a'u gosod ar ben eu hiawn ffordd ar gyohwyniad gyrfa bywyd. Y mae gan Mr. Rowlands berffaith hawl i'w opiniynau politicaidd fel pawb arall, ond priodol iddo ef yn fynych fyddai eu pooedu. Yn lie hyny wele ef, yn rhinwedd ei swydd fel golygydd y Traeth- odydd, yn gosod ei hun i fyny fel oracl politicaidd heb ei wahodd gan neb, ac yn ymostwng yn awr ac eilwaith o'i sefyllfa ddyrchafedig i'n gosod ni feidrol- 0 ion y llawr a'r wasg yn ein lie parthed ein crwydr- iadau ar wleidyddiaeth. Swm a sylwedd yr erthygl orddysgedig yn y Traethodydd ydyw dangos nad oes ond ynfydrwydd a phob twyll a drygioni yn nod- weddu Ardalydd Salisbury a'i Weinyddiaeth, tra y mae pob rhinwedd a daioni yn ymgorphoredig yn Mr. Gladstone, Mr. Bradlaugh a Mr. Daniel Rowlands. CYMDEITHASFA OASTELLNEDD. (Y Goleuad, Mai lleg.) Cafwyd Cymdeithasfa ddigon clymanol yn Nghastellnedd wedi y owbUDruoganasal y proffwydi, sef y bodau deallgar sydd yn cymeryd arnynt wybod y dirgelion oil, y byddai y Gymdeithasfa yn oael ei nodweddu gan ddadleuaeth frwd, y byddai teimladau yn rhedeg yn uchel, ac hefyd y byddai y bwriad o uno ein hathrofeydd yn cael ei daflu drop y bwrdd, fel na chlywsid son am dano mwyaoh. Fel arall y trodd allan. Gyda'r eithriad o un amgylchiad gofidus, yn yr hwn nid oedd ond ychydig yn cyfran- ogi, pasiodd y cynadleddau heibio oil yn y modd mwyaf tawel a heddychlawn. Ac y mae yr undeb heb gael ei droi y naill du na'i gondemnio. Ar yr un pryd, rhaid addef fod nifer wedi dyfod i'r Gym- deithasfa dan gamargraff tybid fod rhywrai, oherwydd malais at Trefecca, yn barod i aberthu anrhydedd y De. Cynyrchwyd yr argraff hon mewn rhan gan y llythyrau sydd wedi ymddangos ar y mater mewn gwahanol newyddiaduron, o ba rai y ma3 y nifer liosocaf uwchben ffugenwau. Gweddus ddigon oedd gwyntyllu y mater trwy gyfrwng y wasg ac y mae rhai erthyglau wedi eu hysgrifenu ar y mater hwn yn glod i'w hawdwyr y maent yn gryf o ran ymresymiad, yn oleu o ran arddull, yn bur o ran chwaeth, ac heb un cyfeiriad parsonol anmharchus. Ond am lythyrau eraill, y maent mor enbyd o sur, fel pe eu tefiid i lyn y Bala, y gwnelent ddigon o finegr i holl drigolion y ddaear hyd ddiwedd amser. Amlwg yw fod awdwyr y llythyrau hyn yn ysgrifenu mewn cyd-ddealltwriaeth dechreuasant mewn tri neu bedwar o newyddiaduron tua'r un adeg dyfynant yn helaeth o'u gilydd, neu gan eu bod yn gwerthfawrogi talent y naill y llall gymaint. Yn naturiol ddigon, yr oedd rhai wedi cael dylan- wadu arnynt gan y llvthyrau yma, ao nid rhyfedd felly eu bod yn teimlo yn ddigofus. PENODIAD DR. JOSEPH PARRY. (Tarian y Gweithiwr, Mai lOfed.) O'r diwedd y mae Dr. Parry wedi cael ei benodi i fod yn ddarlithiwr ar gerddoriaeth yn, Ngholeg y Brifysgol yn Nghaerdydd. Ni lwyddwyd i sicrhau hyn heb lawer iawn o wrthwynebiad: bu raid ym. ladd brwydrau poethion, swn pa rai yn ddiau sydd heb ddiflanu o glustiau ein darllenwyr. Poerai y Saeson sydd yn aelodau o'r oyngor ar y peth byth. eiriai y wasg Seisnig bob llysnafedd ar y genedl ac ar y Doctor a gwawdiai hil Die Shon Dafydd y syniad fod unrhyw ragoriaeth cerddorol yn perthyn i'r Cymry. Ond yr oedd y bobl wedi gosod eu bwriad ar gael Dr. Parry i Gaerdydd; a'r bobl a orfu gwiriwyd y ddiareb, Treoh gwlad nag arglwydd." Ond nid yw y dull y sicrhawyd y pen- odiad yn adlewyrchu un gradd o anrhydedd ar awdurdodau Coleg Caerdydd yn hytrach, a ymhell i brofi mai gwrth-Gymreig ydynt o ran teimlad ac anian. Gwrthodwyd yn bendant ystyried y Owes. tiwn o gael darlithiwr cerddorol i'r coleg heb i ryw rai o'r tu allan ymgymeryd a'r draul am bum' mlynedd. Y rheswm a roddid dros hyn oedd diffyg arian. Ond y mae arian i'w cael i ddysgu Groeg, a Lladin, a Ffrancaeg, a gwahanol ranau gwyddon. iaeth a phaham na ellid oael arian lawn cystal at ddysgu cerddoriaeth? Y gwir yw fod y Saeson sydd wedi dyfod i Gymru yn tybio eu bod yn meddu hawl i'n llywodraethu fel y gwelont yn dda mai ein dy- ledswydd a'n braint ninau yw cael ymostwng dan yr awdurdod; ao os na wnawn byddant ar eu heithaf yn ein camddarlunio fel creaduriaid oulion, llawn rhagfarn. Pa fodd bynag, trwy garedigrwydd ych- ydig o wladgarwyr pur, cafwyd yr arian, a siorhawyd y lie i'r Doctor athrylithgar. Dywedir na feddwn yr un cyfansoddwr cerddoriaeth sydd a'i glod wedi ym- estyn tuall&n i derfynau y Dywysogaeth; neb ag sydd wedi gadael ei faro ar gerddoriaeth yn Lloegr, ac at y oyfandir. Pa mor wir yw y dywediad, nid ydym am ymgymeryd A phouderfynu. Ondrhaid i ni gyfaddef nad ydym wedi codi yr un Handel, na'r un Haydn, na'r un Mozart. A phaham ? Nid diffyg talent; y mae Duw wedi ein bendithio yn helaeth a thalent gerddorol. Y rheswm yw diffyg ymdrech diffyg ymroddiad. Ni edrychir gan lawer ar gerddoriaeth ohd fel defnydd mwynhad; ym- gymeryd a'r gelfyddyd er mwyn pleser; nid ydynt am ymgymeryd ag unrhyw lafur. Ni wna y dduwies odidog fynegu ei ohyfrinach wrth y dosbarth hwn gwyr hi yn dda pwy sydd yn cellwair a hi, a phwy sydd yn ei charu o ddifrif; ac wrth y diweddaf yn unig y mynega 9i dirgelion. YMDDISWYDDIAD YR HYBAROH DDR. ROBERTS, PONTYPRIDD. (Seren Cymru, Mai lleg.) Deallwn mai y Sul cyntaf yn y mis nesaf fydd Sul diweddaf Dr. Roberts fel gweinidog Tabernacl, Pontypridd, Y mae Dr. Roberts wedi bod yn pregethu am 47 o flynyddau, ac yn weinidog am 41, a threuliodd 29 yn Pontypridd. Dengys hyn mai nid symudol iawn ydyw wedi bod, ond ei fod yn meddu ar y dawn anfynyoh o fod yn weinidog sef- ydlog. Ni raid i ni ddweyd am allu, safle, a gwas- anaeth Dr. Roberts i'r enwad, mewn cysylltiad &'r wasg a'r areithfa, o herwydd gwyr Cymru hyn yn dda er's blynyddoedd. Gresyn, yn ein barn ni, na fuasai yn llanw cadair dduwinyddol yn un o golegau ein henwad. Y mae terfyniad bugeiliaeth ein hanwyl frawd yn gyfnod neillduol yn ei fywyd ac yn hanes y cyfundeb. Dihuna fyfyrdod ac adgofion yn mhob meddwl. Teimla y Dr. yn awr ei fod yn haeddu gorphwys i raddau, ac fod Pontypridd o herwydd cynydd y boblogaeth yn gofyn am ddyn ieuengach i weithio y maes, ac am hyny yr ymneill- dua. Mae. hyn yn glod i'w ben a'i galon, a da genym fod ei amgylchiadau yn caniatau iddo wneyd hyny. Y mae yna lawer—rhai o orfodaeth a mwy o wirfodd, yn gorfyw eu defnyddioldeb gan "ladd yr achos heb bechu fel y dywedir, ond mewn gwirion- ede dyma y pechod mwyaf y medr hyd yn nod pregethwr ei gyflawni; ond y mae ein brawd yn foddlon ao yn alluog ei osgoi. Ond er rhoddi i fyny y fugeiliaeth, ni fwriada roddi i fyny y weinidogaeth. Y mae ei nertb a'i iechyd yn dal ynjgryf, ac yr ydym yn cymeryd yr hyfdra o'i sefydlu yn weinidog sir Forganwg, ac yn weinidog cynorthwyol Cymru. Gwyddom y bydd yn dda gan lawer o eglwysi gael ei wasanaeth gwerthfawr, o herwydd yn sicr gall bregethu yn awr mewn rhai ystyron yn well nag erioed. Yr hyn a gollodd mewn yni a enillodd mewn profiad. Dymunwn o galon iddo brydnawn hit a dedwydd, a chlywn Gymru yn dweyd Amen."
RHAI 0 GAMSYNIAÜAU MR. W.…
RHAI 0 GAMSYNIAÜAU MR. W. I GLADSTONE. ETHOLIADAU SENEDDOL ODDIAR PHENAF, 1886. d Yn ystod anorchiad Mr. Gladstone yn Nghynadl0^ Ryddfrydol Marylebone, dywedodd foa ei blaid ef bod mor llwydianas yn ystod y pymtheg mis J1' weddaf fel ag i enill mwyafrif mawr o'r etbol1 seneddol a gymerodd le, er holl alln undebol y ceh wad wyr a'r Undeb wyr. Beth yw y ffeithiau ? ystod y pymtheg mis diweddaf, enillodd ei bedwar ar ddeg o etholiadau ymgeisiol, trayr enill^f yr Undeb wyr ddeuddeg. Ai ay ma y mwya'^8 mawr yr ymffrostia Mr. Gladstone gymaint ynd^o Yn ystod y deuddeg mis diweddaf, y mae yn tvwy1]? ar yr arweinydd (?), oherwydd y mae yr enilliaclatf/!i gyfartal o'r ddwy ochr. Os awn ni yn ol i'r Cyffredinol, gwelir fod y blaid Undebol wedi enill datl ar bymtheg o etholiadau a'r blaid Gladstonaidd 1111 bymtheg trwy frwydrau etholiadol. Enillivyd gan Umkb- wyr. Antrim, Gogledd Camberwell, Dulwich Deptford Hants, Gogledd Hunts, Gogledd King's Lynn Lambeth, Brixton Lancashire, Blackpool Lancashire, Newton Middlesex, Brentford Middlesex, Hornsey Paddington, Gogledd St. George's Hanover- Square Taunton Tower Hamlets (St. George's) Winchester Yorkshire, Doncaster Enillwyd gan Glad' stoniaid, Burnley Cheshire, Northwich Cornwall, Mid. Coventry Derbyshire. Ilkeston Donegal, Deheudir Dundee Edinburgh, W. Glamorgan, Gorllewin Glasgow, Bridgeton of Gloucestershire, Foree Dean Leith Lincolnshire, Spalding Liverpool Southwark, W. Staffordshire, Burton