Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y SULGWYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y SULGWYN. DYDD Sul nesaf bydd Eglwys DDUW dros yr holl ddaear yn cadw gwyl fawr y Pentecost Cristionogol. Oddiar amser yr Apostolion, cenhadon cyntaf Cristionogaeth, y mae yr Eglwys wedi dathlu yr wyl hon. Ymhob tD oes, er. pan y tywalltwyd yr YSBRYD GLAN yn unol ag addewid IEsu GRIST ei Hun, y mae parch dyladwy wedi ei dalu gan yr Eglwys i wyl y Sulgwyn. Un amser yn wir, cymaint ydoedd awydd yr Eglwys i barchu yr wyl mewn dull priodol, fel yr arferid cadw y cyfnod rhwng y Pasg a'r Sulgwyn fel tymhor i lawenhau am y ben- dithiou ysbrydol ydynt yn gysylltiedig a'r Sulgwyn fel cyflawniad amcanion Dew yn Adgyfodiad ac Esgyniad yr IACHAWDWR 0 bendigedig. Yn yr wyl hon, fel yn ngwyl we y Pasg, gwelir pa fodd y mae yr efengyl yn sylweddoli cysgodau yr Hen Destament, a pha fodd y mae yr Eglwys Gristionogol yn ddadblygiad o'r Eglwys luddewig. Na thybiwch fy nyfod i dori y gyfraith, neu y prophwydi; ni ddaethum i dori ond i gyf- laivnimedd CRIST; ac fá y Sulgwyn gwelwn fel y mae y datganiad yna o eiddo CRIST yn cael ei wirio. Sefydlwyd y Pente- cost er mwyn coffau rhoddiad y Ddeddf ar Fynydd Sinai, ac fel diwrnod er talu diolch am y cynhauaf; felly, coffheir gan y Sul- gwyn dywalltiad yr YSBRYD GLAN ar yr Eglwys, a chyd-gasgliad blaenffrwyth y cynhauaf ysbrydol fel canlyniad pregeth yr Apostol ST. PEDR. Olrheinir rhyddid gogon- eddus yr efengyl yn ol hyd at lyfetheiriau y Ddeddf; gwelwn y cymylau duon oeddynt yn hongian uwchben Sinai yn ymagor ac yn cilio er mwyn rhoddi lie i ddisgleirdeb ben- digedig mynydd Seion. Yn mhellach drwy roddiad a derbyniad y Ddeddf, ffurfiwyd yr Iuddewon yn genedl, a thrwy dywalltiad yr YSPRYD GLAN ffurfiwyd disgyblion yr IESU yn Eglwys yn y byd, byth mwy i fod yn annibynol oddiwrth bethau bydol, ac ar wahan oddiwrth yr hyn sydd yn perthyn i'r cnawd. Daeth caethiwed y Ddeddf a rhyddid yr Efengyl oddiwrth yr un Duw, a thrwy ddylanwad yr YSPRYD, ac felly nid gwrthwynebol y naill i'r llall, ond gwasan- aethodd y cyntaf "ein hathraw at GRIST." Yn yr Eglwys foreuol yr oedd yn arferiad derbyn aelodau newyddion i'r gorlan yn y cyfnod h wn drwy Fedydd, a dywed rhai dysgedigion fod cysylltiad rhwng yr enw Sulgwyn a'r gwisgoedd gwynion a pha rai y dilledid yr ymgeiswyr. Yn y maes cenhadol dilynir yr arferiad hwn i raddau helaeth yn yr oes hon, a thrwy hyn cysylltir y Sacra- ment o Fedydd yn uniongyrchol a derbyn- iad yr YSBRYD GLAN. Gresyn fod cyn lleied o bwys yn cael ei roddi ar yr wyl hon yn Nghymru. Bostia y Cymro mai ei wlad ef ydyw y wlad fwyaf grefyddol o dan haul; os gwir hyn, yna gwir n hefyd ydyw hyn, fod crefyddwyr Cymru yn talu llai o barch i wirioneddan a ffeithiau yr Efengyl nag unrhyw genedl arall. Y gwir- ioneddau a'r ffeithiau hyn ydyw sylfaen bywyd duwiol, ac os esgeulusir hwynt y mae duwioldeb—nid crefyddoldeb-yn sicr 0 ddirywio. Gallwn gael digon o grefyddol- deb yn Nghymru heb yr un gronyn o dduwioldeb. Gwelwn Ymneillduaeth ar bob llaw yn dewis ei dyddiau penodedig- rnegis gwyliau cerddorol, anniversaries, cymanfaoedd, cwrddau mawr, &c., ond ni thelir unrhyw sylw o gwbl i ddyfnion wir- ioneddau yr Efengyl fel ffeithiau perthynol i drefniant dwyfol a ddylasid ei barchu a'i gadw gan yr holl fyd Cristionogol. Nis^gall Cristionogaeth sydd wedi dadgysylltu ei hun oddiwrth athrawiaethau a threfniadau yr oes Apostolaidd fyw yn hir, ac nis gall ychwaith wneuthur cyfiawnder tuag at eneidiau y bobl sydd wedi eu mabwysiadu. I hyn y priodolwn i raddau helaeth y dirywiad truenus a thorcalonus sydd i'w ganfod heddyw yn y cyfundrefnau Ym- neillduol yn ein gwlad. Ar y Haw arall, fel y mae amser yn treiglo yn y blaen, y mae Eglwys DDUW, er holl gynddaredd anffyddiaeth a phob gwrth- wynebydd arall, yn ymegnio i gyhoeddi i'r byd ymhob rhyw fodd pa beth yw gwir- ioneddau Efengyl CRIST. Hyderwn y bydd i BEN MAWR yr Eglwys dywallt o'i LAN YSBRYD yn helaeth ar ei Eglwys y tymor hwn. Yr YSBRYD hwn a nerthodd yr Eg- lwys yn erledigaethau pob oes, a'r YSBRYD hwn yn unig all ei galluogi i ddioddef erled- igaethau chwerwon y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Advertising

Advertising

DEDDFWRIAETH EGLWYSIG.

-------YlVIGAIS AT BYWYD CZAR…