Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
DR. WALTERS YN GYRU Y PARCH.…
DR. WALTERS YN GYRU Y PARCH. EMLYN JONES I GORNEL. GOHEBIAETH ADEILADOL. Er's peth amser mae ymdrafodaeth wedi cy- meryd lie mewn gwahanol newyddiaduron o berthynas i nifer y pregethwyr Ymneillduol sydd wedi gadael eu capeli ac ymuno a'r Eglwys. Ymhlith y rhai a anfonodd lythyr i newyddiadur Radicalaidd a gyhoeddir yn Nghaerdydd, ceir y Parch. W. Emlyn Jones, Treforis, yr hwn a haerai ei fod yn gwybod am bregethwr Ymneillduol oedd wedi cael ei anog i ymuno a'r Eglwys, ac hefyd fod addewid wedi ei gwneyd y ceid dyrchafiad. Pan ymddangosodd y llythyr yn y South Wales Daily Neivs ddydd Mawrth cyn y diweddaf, galwyd sylw yr onwog Parch. Dr. Walters, periglor Llansamlet, ato, ac anfonodd y gwr parchedig lythyr yn ddioed atiy Parch. W. Emlyn Jones, a dengys yr atebiad a gafwyd pa mor ddisail yw haeriadau rhai pregeth- wyr Ymneillduol yn y newyddiaduron Radicalaidd. Ofnwn niweidio y gwreiddiol drwy gyfieithu y llythyrau, ac felly dodwn hwy yn Saesneg fel y cawsant eu cyhoeddi yn y Western Mail ddydd LIun diweddaf:— The Vicarage, Llansamlet, Glamorganshire, 9th May, 1888. Dear Mr. Jones,—I had overlooked your letter in the South Wales Daily News of yesterday till my attention was called to it to-day. May I ask you for a more defi- nite description of the offices held by those Church officials by whom Welsh Nonconformist ministers Oi late years, have been invited to deny their Noncon- formity, and to seek Holy Orders." Promises of im- mediate ordinatijn could only have effect when made by a bishop. Your assertion, as it stands, seems to me very vague and indefinite. I ask this on public grounds, with the view of ascertaining the value and weight of the "invitations and promises" to which you refer. If you caniiot give them all, you say that you know of one to whom such an invitation has been given, and that you are prepared to produce the name." Such being the case, I need no further apology.—Very truly yours, THOMAS WALTERS. The Rev. W. Emlyn Jones. Memorial Hall, Farringdon Street, London, ilch May, 1888. Dear Dr. Walters,—By "Church officials I meant clergymen of the Church of England. By promises of immediate ordination I meant assurances that there would be no difficulty in the way. I am sorry I could not, owing to absence from home, reply per return to your letter.—I am, yours very truly, W. EMLYN JONES. Rev. Dr. Walters. The Vicarage, Llansamlet, Glamorganshire, 11th May, 1888. Dear Mr. Jones,—Inasmuch as I asked you for in- formation on public grounds," you will not, perhaps, be surprised that I send our correspondence for publica- tion, and the more especially so as it has arisen from a published letter of yours on a public question, for which you thought the time had now arrived when publicity should be given to it." I thought it well, in the first place, to try to ascertain from you the basis on which your statement was founded, with the view of determining the value to be attached to it. The public will now have an oppor- tunity of foiming a judgement as to the nature and character of the "invitations" and "promises of im- mediate ordination alleged to have been given. I might add that, while every effort seems to be made to throw discredit on the statement that a large num her of Welsh Nonconformist ministers have of late years expressed a wish to be admitted to Holy Orders in tLe Church," the impression on my mind is that nothing has yet been advanced to disprove that allegation. The number of those who have realised that wish may be comparatively few, while it might be very possible that the number of those who applied for admission might be many. It does not necessarily follow that the one bears any given proportion to the other. Be that, however, as it may, no clergyman of the Church of England has the power or the authority to promise immediate ordination;" and the "assurances that there would be no difficulty in the way might, therefore, be taken for what they are worth. I can only regret that your first letter should have been published with no more solid or substantial foundation whereon to rest.— Ever sincerely yours, THOMAS WALTERS. The Rev. W. Emlyn Jones. Nid oes angen i ni wneyd unrbyw sylwadau ar y llythyrau uchod ar hyn o bryd diau y cawn gyf- leustra i drafod yr holl gwestiwn cyn hir, er gwrthbrofi haeriadau gelynion yr Eglwys. 0
[No title]
I Dydd Llun gorymdeithiodd tua 300 o bobwyr ar hyd rhai o heolydd Llundain i wrthdystio yn erbyn I yr oriau meithion y gorfodir hwynt i weithio, ac hefyd i hawlio ychwaneg o gyflog. Ymunodd can- oedd o bobwyr eraill yn ystod y dydd, ao ofnir y bydd canlyniadau alaethus yn dilyn os na fydd i'r meistradoedd ganiatau cais y gweithwyr.
ADGOFION CYFFKEDINOL.
ADGOFION CYFFKEDINOL. [GAN GWARFFRWD.] Byddai yn ddyddorol iawn i mi wybod, ac nid wYf yn credu y byddai yn hollol annyddorol Graill wybod, pa effaith a gafodd fy adolygiad ar bethau fel yr oeddynt gynt, ac fel y maent y^ kresenol yn Llanafan a Gwntvs, ar y ficer a'i bobl ya gyffredinol. Un peth sydd sicr, os y cafodd ei ddylanwad priodol, nid oes yr un ddadl genyf nad oes archeb wedi dyfod i'r swyddfa yn barod am Qifer luosog o'r LLAN i'w ddanfon i'r plwyfydd Uchod yn wythnosol yn y dyfodol, o herwydd os Mai yn eu hanwybodaeth yr oeddynt wedi esgeu- lugo eu dyledswydd cyhyd, diau eu bod yn teimlo Yn wir ddiolchgar i mi am alw eu sylw at y peth, bod erbyn hyn wedi deffroi o ddifrif at eu SWaith. Ond os mai musgrellnia difaterwehym. Wybodol oedd yr achos o'u diffyg dybryd ac 41lesgusidol, dylai fod cywilydd wyneb wedi eu ^Dabylu at eu dyledswyddau cyn hyn. Os ydynt °r ochr arall, mor ddigyvvilydd a pharhau yn YstYfnig yn eu hesgeulusdod, heb deimlo un eywilydd o'i herwydd, na gwneuthur yr ymgais Ueiaf tuag at symud ymaith y camwri, nid oes genyf ddim yn mhellach i wneyd a hwy, ond yn \1nig deimlo y tosturi mwyaf tuag attynt o eigion y Qghalon. Y mae eu colled hwy yn bersonol yn fe.wr, ond y mae y golled i'r Eglwys yn eu plwyf- yfld yn fwy• Nid oes yr un offeryn o ddyfais ^ol a chymaint o allu ganddo i ddylanwadu ar Y werin a'r wasg. Y mae dylanwad yr areithfa Yn ac wedi bod yn hynoi fawr yn Nghymru yn ] j^tod y ganrif ddiweddaf, ond beiddiaf ddweyd 0ci dylanwad y w&sg yn fwy yn y dyddiau hyn. Ae os ydyw yr offeiriaid plwyfol yn awyddus i lWYddo yn eu llafur, ac am adeiladu eu plwyfolion |^9Wq egwyddorion Eglwysig, a gwrthweithio dy- ^Wad gwenwynig y dyhirod ymyrgar sydd ar eu yn gwneuthur ymosodiadau ysbeilgar ar yr Slwys yn feunyddiol, nid yw yn ddichonadwy ynt wneuthur hyny yn fwy et'feithiol mewn un °*dd :<na thawy yraorchestu ymhob modd i Y^Wyddo cylchrediad Y LLAN. Y mae newydd- "Ur gweawynig ac unochrog Dinbych yn cael ei 4rllen ymhob cwmwd trwy holl Gymru, a'c y 1.1;la.e ei haeriadau enllibaidd ac anwireddus o %tthynas i'r Eglwys a.'i meddianau yn cael eu e*edu hyd yn nod gari lawer o Eglwyswyr, ^erwydd nad ydynt byth yn cael eu gwrth- ywedyd a'u proii yn anwireddus. Prif amcan asg Eglwysig yw gwneuthur hyny, a rhoddi Fllyboclaeth bur a diragiarn i'r werin ar y pync- au sydd mown dadl rhyngom a'r ymosodwyr ysbeilgar hyn. A„ hyny svdd J m&6 offem £ ud P^yfol offeryn esgeuluso gwneuthur defnydd o'r 8jlw e ^Ter^awr hwn, trwy ddwyn Y LLAN i Qewvd^i^01!011' yn euog 0 8efnogi y Faner\a eu acluron iselwael ac anwireddus eraill yn y pe'^?l0S0^a^au ar yr Eglwys. Ac os yw y rhai 6§Uiol yn eu swydd i fod yn effro ac la,^ t^n y cyfeiriad hwn yn penderlynu cyf- "nanladdiad moosol er pob rhybudd ae aegaeth, nid gwiw ceisio eu hatal—mae yn bob tod snidde yn eu natur foesol, a rhaid i hid Cochan ferwi yr hyn sydd ynddo. Am hyny ^la, aPe^° at ieygwyr o dduwioldeb, dysg, a i lamu i'r adwy mewn pryd. Pa le y Jtj ^r- Price, gynt o Danyrallt ? Clywais ef Jj, y llithiau yn ardderchog y tro diweddaf Hn We*a*a a Llanafan. A wna y cyfaill hynaws H mor Sare(3ig ag ymgymeryd &'r gwaith V doskarthiad Y LLAN yn Llanafan a'r N^°"aeth ? Yr ydwyf yn cael fy nhemtio, y \X>t ^°n' *'W anerck yn y geiriau a arferir yn ^"k ^an y "Preoet,hwyr pan yn anerch yr "^ere at Ay waith, wnai di." Dra- 0' I0 y mae Mr. E. Williams, Broncaradog? ?^la hyn°d ddefnyddiol ac yn fawr ei I tto Wad er daioni yn Gwnws pan nad oeddwn ^%i&^ bachSenyn bychan. A pha le y mae yr b ^U^es' 0 Bantyddafad ? Gwn nad yw J, yn y plwyf, ond y mae ar y cyffiniau,' °6s. j?e We^i bol yn aelod yn Gwnws trwy ei Nw a8 yu feddianol ar diroedd lawer hefyd yn ej y kyn sydd yn rhoddi cyfrifoldeb mawr ^IOQ Y mae ef yn foneddwr twymn- Hodd0 r ^awn ryw'ac y mae arter _aiddgar i bob achos daionus er pan yr °l. p 61 gyntaf fwy na deugain mlynedd a Wn ata rai ydynt yn awr mewn safleoedd ^\l\v ac urddasol yn ngweinidogaeth ef. Nghymru yn unig trwy ei gynorth- C, at fy ^ien gyfaill ffraeth a pheror- j fn a^' ^orQag Jones, gynt o'r Ynysfach, yr Q.. y c y^yddoedd lawer yn arweinydd can- Jfg a^S0^r ^wnwB> y bu 0i hoffus dad y by^(l genyf amryw bethau lniwed, i'w dweyd ryw dro. Yn Y boaeddigion uchod, ac eraill y gallaswn eu henwi, ganiatau i'r LLAN fod] yn newyddiadur anadnabyddus yn Gwnws yn hwy, Yr ydwyf yn cael fod sefyllfa pethau yn llawn mor dorcalonus yn Ystrad Meurig ag ydynt yn y plwyfydd uchod. Ond yr ydwyf yn disgwyl mwy o fanylion i law cyn rhoddi hanes pethau fel y maent yno. Bydd genyf hefyd lawer i'w ddweyd am ysgol henafol Ystrad Meurig, lie y magwyd y rhan fwyaf o enwogion yr Eglwys Gymreig. Ni a gawn weled beth yw ei sefyllfa yn bresenol, a chaiff y gwir ddyfod allan beth bynag fydd ei liw. Os y bydd yn annymunol i rai pobl nis gallaf oddiwrth hyny, oherwydd arnynt hwy y bydd y bai-hwy sydd yn gyfsifol am setyllfa pethau.
LLJTH O'R BWIHYN GWLEDIG.
LLJTH O'R BWIHYN GWLEDIG. Mae Hen Domos, di'r help, wedi dychwelyd o Ddyffryn Tawe, ac wedi cael llawer iawn o glee yno, ond y mae pwnc arall pwysig yn galw am ei sylw yr wythnor hon. Ami y clywir lleygwyr yn galw sylw yr offeiriaid at eu dyledswyddau, ac efallai mai nid afresymol yn adeg llwyddiant mawr yr hen Fam, fyddai dangos eu dyledswydd- au hwythau iddynt. Y blaenoriaid yn eu plith ydynt y wardeniaid a'r sidesmen. Ni ddylai y rhai hyn ddal swyddi segur. Nid ydynt yn cael eu talu yn arianol am eu gwaitb, ond y mae eu eyfi-ifoldeb yn llawn cymaint a phe byddent yn derbyn cyflog. Y mae yr agwedd sydd ar y cysegr yn dangos yn bur amlwg beth yw cymeriad a gweithgarwch y swyddogion hyn. Pan y byddont hwy yn cyflawni eu dyledswyddau yn briodol, y mae trefn a gweddeidd-dra yn yr eglwys ac yn y fynwent. Y mae pob peth yn gryno yn ei le. Oddiallan y mae pob bedd yn lân a phrydferth— pob carreg a cholofn uwchben y marw yn cael sylw—y rhodfeydd yn ddichwyn trwy y flwyddyn —caerau y gladdfa yn ddifwIchpob ffenestr yn y deml yn gyfan-pob llech ar nen y ty yn iawn —a phob rhan o'r mur heb le i ddyferyn o wlaw dreiddic trwyddo. Oddifewn i'r lie cysegredig y mae pob congl yn lftn-dim dadfeiliad yn" y nen- fwd na'r llQwr-dim gwe y pryf gopyn yn hongian fel cwrleni sidan dros y ffenestri-y llyfrau yn gryno yn y sedlaa-digon o'r rhai hyn mewn llaw i'w hestyn i ddieitbriaid-rhywun yn wastad yn barod i groesawu a dangos lie i ymwel- wyr eistedd-a chysur, hvfrydwch, a threfn i'w gweled trwy yr holl adeilad. Gwaith y warden- iaid a'u cynorthwywyr yw hwn, ac y mae eu cyfrifoldeb yn fawr os na wnant ei gyflawni. Y mae llawer o'r difaterwch a'r diogi sydd yn perthyn i rai wardeniaid i'w briodoli i ddiffyg trefn yn yr amser a aeth heibio. Ni cbawsant erioed eu dysgu i ddwyn rhan rhan o'r baich gan offeiriaid yr hen ffasiwn," oherwydd y parch- edigion hyn oedd pen, corph, a chynffon pob peth mewn cysylltiad a'r Eglwys Ond y mae yr amser wedi cyfnewid yn fawr, ac mewn pob plwyf trefnus y mae y wardeniaid yn teimlo dyddordeb yn yr achos, ac yn cyflawni eu gwaith. Ni ddylai yr un diogyn gael ei benodi i'r swyda, Nid yw dyledswyddau y swyddogion hyn yn diweddu yn y fan yna. Dylent fod yn frwd o blaid yr Eglwys ar bob achlysur. Byddai yn fuddiol iddynt gymeryd dalen o lyfr y "set fawr ar y pen hwn. Yn hytrach na chyhoeddi beiau yr Eglwys a'i hoffeiriaid, dylent fod yn siarad y goreu am danynt bob amser. Nid y ffordd i gynorthwyo un achos yw dangcs ei wendidau yn wastad, a siarad yn wangalon am dano. Y mae Hen Domos, di'r help, yn gwybod am ddynion di-zel a digalon sydd yn anfwriadol wedi taflu dwfr oer ar lawer mudiad crefyddol, ac wedi rhwystro eraill i ymuno a'r Eglwys. Ymaith a'r claiarineb gwir- ionllyd yma, a byddwn oil yn ddewrion. Y mae'r pysgod marw yn nofio gyda'r lli, ond y rhai byw a weithiant eu ffordd yn erbyn y llifeiriant. Dylai swyddogion yr Eglwys fod mor ofalus i gyflawni eu gwaith a blaenoriaid y capel. Er mwyn hyn, dylent fyd yn brydlon ymhob addol- iad, a gofalu fod ymddygiad pawb yn deilwng yn y ty ac yn y fynwent. Nid yw yn iawn ymddi- ddan a chwedleua am fasnach a helyntion bydd. arol y byd o fewn cynteddau ty yr Arglwydd. Dylai y wardeniaid a'r sidesmen weled fod yr hogiau a'r llancesau gwamal ac anystyriol yn ym. ddwyn yn weddaidd. Y mae hyn yn rhan arbenig o'u gwaith yn ol eu hymrwymiad wrth gymeryd y swydd. Y mae llawer o bethau eraill genyf i'w ddweyd wrthych, fy mrodyr anwyl, ond rhaid peidio myned tros y terfynau heddyw. Byddai yn dda cael rhestr y wardeniaid a'u gwaith trwy y flwyddyn o bob plwyf. A fydd yr offeiriaid mor garedig a chadw cyfrif o bob peth a wneir gan y swyddogion hyn am y flwyddyn, fel y gallo y byd wybod am y rhai gweithgar a diog. Nid ymhelaethaf. Bendith arnoch oil. HEN DOMOS.
CANIBALYDDIAETH YN MON.
CANIBALYDDIAETH YN MON. Yn ffair Llangefni, ddydd Mawrth, Mai yr 8fed, cafwyd prawf ychwanegol nad ydyw yn ofynol myned i fysg pagmiaid er cael golwg ar ddyn- fwytawyr. Ymddengys fod amryw o "w"Jr y wlad yn cydyfed y diodydd meddwol yn y Ship Inn, ac yn eu mysg yr oedd John Rowlands, dofwr ceffylau o Lanerchymedd, a Thomas Williams, 'Refail, Llan- grietiolus. Cododd yr olaf yn sydyn, gan gymeryd arno ei fod eisiau sisial yn nghlust y blaenaf, ond yn lie hyny gafaelodd a'i ddanedd yn ei glust, ac nis gollyngodd hyd nes tori tamaid o honi. Wedi iddo boeri darn clust y truan allan, Ilwyddodd i gael ei fysedd i'w geg drachefn, ao fe ddarfu iddo eu cnoi yn arswydus. Cymerwyd ef i orsaf yr heddgaidwaid, a dygwyd John Rowlands i surgery y meddygon Owen a Jones, lie y gweinyddwyd arno. Dywedir na fu yr un o'r yn siarad gair a'u gilydd erioed, ac nad oedd y gradd lleiaf o ddrwgdeimlad yn bqdoli rhyngddynt â'u gilydd.
ACHOS 0 DDYFFRYN NANTLLE YN…
ACHOS 0 DDYFFRYN NANTLLE YN YR UCHEL LYS BARN. JOHN LLOYD JONES YN ERBYN CWMNI CHWAREL DOROTHEA A CHWMNI CHWAREL PENYBRYN. Gwrandawyd yr achos hwn y dydd o'r blaen ger- bron Meistr y Rolls a'r Barnwyr Lindley a Bowen. Apel ydoedd yn erbyn dyfarniad y Barnwr Denman yn ffafr y cwmniau mewn dau achos a ddygwyd ger- bron brawdlys sir Fon, i hawlio ardreth a honid oedd yn daladwy yn ol cytundeb mewn perthynas i droi ffrwd a elwir fel y gwlaw." Y mae ein darllenwyr yn gydnabyddus eisoes & manylion yr achos. Ym- ddangoaai Mr. S. Hall, Q,C., Mr. Marshall, a Mr. Malcolm Douglas (yn cael eu cyfarwyddo gan Mr. Ivor Parry, Pwllheli), dros yr apelydd, a Mr. Henn Collins, Q.C., a Mr. E. H. Lloyd (yn cael eu cyfar- wyddo gan Mr. Charles A. Jones, Caernarfon), dros gwmni y Dorothea a Mr. Henn Collins, Q.C., a Mr. Herbert Williams (yn cael eu cyfarwyddo gan Mr. Mr. Charles II. Rees, Caernarfon), dros Gwmni Penybryn.—Wedi cryn ddadleu ar y naill ochr a'r llall, penderfynwyd fod dyfarniad y Barnwr Denman i sefyll.
TLODI LLUNDAIN.
TLODI LLUNDAIN. Yn eiateddiad diweddaf pwyllgor Dunraven ar diodi Llundain, synodd y Parch. W. Adams, ofteiriad Old Ford, y pwyllgor pan yn eu hysbysu fod mantelli sidan goreu y West End yn cael eu gwneyd am 7-c. yr un—2U. o ba rai sydd yn myned i'r cyflogydd. Dywedai hefyd eu bod yn ami yn cael eu gwneyd mewn tai aflach a heintsu. Fod dillad gwrywod hefyd yn ami yn cael eu gwneyd mown tai budr ac anaddas i fyw ynddynt. Mai un achos o'r gostyngiad sydd wedi cymeryd lie yn ngwnauthuriad blychau matches i ltc. y deuddeg dwsin, oedd fod y Salvation Army wedi ymgyraeryd a'u gwneyd yn eu milwrdai. Fod yr Army hefyd wedi tynu i lawr bris y golchi yn yr East End.
CYNRYCtliOLAETH BWRDEIS-DttEFI…
CYNRYCtliOLAETH BWRDEIS- DttEFI ARFON. Y mae y si arJed fod yr Anrhydeddus Frederick t, Wynn, mab ieuengaf Arglwydd Newborough, yn barod i ddyfod allan yn erbyn Mr. Swetenham am gynrycbiolaeth y bwrdeisdrefi, ond deallwn nad oes unrhyw sail i'r sibrwd.
Family Notices
<§cnfliigattfjau,$not>a&iu, a iHatfuolartljau. GENEDIGAETHAU.~ Nightingale—Mai 7fed, yn Crynfryn-buildings, [Aber- ystwyth, priod Mr. W. D. Nightingale, ar ferch. Thomas—Ebrill 27ain, priod Mr. Joshua Thomas, tea. merchant, Lamb's Conduit Street, Llundain, ar fab. MARWOLAETHAU. Edwards-Mai laf, yn 78 mlwydd oed, Martha. Edwards, gweddw y diweddar John Edwards, crydd Prospect Street, Aberystwyth Field-Mai 4ydd, yn 66 mlwydd oed, Jane Field, Chalybeate Terrace, Aberystwyth. Jones-Mai 8fed, yn 36 mlwydd, Thomas Charles Jones, ysgolfeistr, Cwmparke, ger Aberystwyth. Jones—Mai lOfed, yn 24 mlwydd oed, John Humphrey Jones, ysgolfeistr, Llanbadarn Fawr, ger Aberys- twyth. Williams.—Mai 5fed, yn 2 mlwydd a 6 wythnos oed' Sarah, anwyl blentyn Griffith a Sarah Williams, Arthur Terrace, Penisa'rwaen.
LLOFRUDDIAETH ECHRYDUS YN…
LLOFRUDDIAETH ECHRYDUS YN LLUNDAIN. Prydnawn ddoe, llofruddiwyd boneddiges a drigianai yn Canonbury, Llundain, gan ddau ddyn, y rhai a lwyddasant i ddianc, ond hydera yr awdurdodau y llwyddir i'w dal.
DARGANFYDDIAD. YCHWANEG 0…
DARGANFYDDIAD. YCHWANEG 0 AUR YN NGOGLEDD CYMKU. Ddoe darganfyddwyd swm helaeth o aur ar dir Mr. Cliarlas Owen, Friog, ger Dolgellau, ond nis gellir myned ymlaen &'r gwaith nes y penderfynir pa beth a fwriada y Llywodraeth wneyd ynglyn & gweithiau aur Mr. Pritchard Morgan, yn Gwyn- fynydd, y rhai sydd i gael eu cau i fyny ddydd Sadwrn.
PRIFYSGOL CYMRU.
PRIFYSGOL CYMRU. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Llundain ddoe, penderfynwyd sefydlu Prifysgol yn Nghymru, ac C, y mae cynrychiolwyr dros bob un o'r colegau sydd eisoes yn Nghymru i ymgyfarfod yn fuan i drafod y pwnc.