Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

flGION 0'£ WASG GYMREIG.:

AT Y BEIRDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT Y BEIRDD. Ehaid i ni erfyn ar sin cyfeillion barddonol fod mor garediar a thalu sylw i'r rheolau canlynol 0 hyn allan 1. Defnyddier note paper, ac ysgrifener ar un tu i'r ddalen. 2. Ymdrecher dewia testynau 0 ddyddordeb cyftredinol, ao astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 3. Nis gallwn ddychwelyd cyfansoddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol. J. D. (Aberdar).—Yr ydych chwi yn ddiddadl yn berchen ar yr awen wir, ac yr ydych o fewn i ychydig i fod yn feistr ar sillebiaeth a chystraweniaeth yr iaith Gymraeg. Daliwch ati am ychydig bach, a byddwch yn fardd tlws iawn. Mae eich llawysgrif yn eglnr, a dengys eich nodyn eich syniad gostyng- edig am danoch eich hun. Rhoddir eich ein i fewn mor fuan ag y byddo modd. GWAENYDDWK.—Nid yw "wedd" a "nef" yn odli. Newidiasom ddau air yn y penill er mwyn odl. Cymeradwy. ALLTUD ARFON.-Natnriol iawn, ond mwy priodol i gyhoeddiad crefyddol. Caifl ymddangos.

Y FONWENT.

DEIGRYN

EIRIOLAETH CRIST.

" GLANFFRWD " A'I GYHUDDWYE.