Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
NODIADAU SENEDDOL.
NODIADAU SENEDDOL. GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] Y DIWEDDAR YMERAWDWE FREDERICK. Yn y ddau Dy, ddechreu yr wythnos ddiweddaf, darllenwyd cenadwri oddiwrth Syr E. Malet, Llys. I negesydd ei Mawrhydi yn Berlin, yn hysbysu fod yr Ymerodres Victoria wedi ei awdurdodi yn bersonol i ysgrifenu afcefciad i'r anerchiad o gydymdeimlad a anfonwyd iddi gan y Parliament Prydeinig ar farwolaeth yr Ymerawdwr. Dymunai yr Ymerodres ddatgan ei diolehgarwch mwyaf diSuant am yr arwyad hwn o gydymdeimlad yn ei dygn drallod a'i hamddifadrwydd, gan obeithio y byddai i goffadwr- iaefch y diweddar Ymerawdwr, ei hanwyl briod, gael ei achlosu am oesau lawer. YR ARGLWYDDI AC ETHOLIADAU. Cymerodd ymdrafodaeth ddyddorol le yn Nhy yr Arglwyddi ar adroddiad o bwyllgor datholedig o Dy y Cyfireain, mewn perthynas âg ymyriad pendefigion a phreladiaid mewn etholiadau Seneddol. Amheuai yr Arglwydd Ganghellydd a oedd pen- derfyniad Ty y Cyff redin yn golygu na ddylai yr Arglwyddi ymyraeth mewn etholiadau. Pa fodd bynag, yr oedd o'r farn nas gallai penderfyniad o eiddo Ty y Cyff redin rwymo Ty yr Arglwyddi mwy nag y galiei Ty yr Arglwyddi rwymo Ty y Cyffredin. Nid oedd yn bosibl i benderfyniad un Ty newid dim ar y gyfraith. Dywedodd Arglwydd Esher, un o'r oyfreithwyr a'r barnwyr enwocaf yn y deyrnas, fod gan Arglwyddi berfiaith hawl i ymyraeth mewn etholiadau. Yr oedd Arglwydd Herschell o'r farn mai gwell gadael y mater yn Ilonydi. Ymddangosai Arglwydd Granville hefyd fel o'r un farn. Ond barnai Ardalydd Salisbury y gallai yr Ar- glwyddi weithredu fel y mynent mewn etholiadau Ssnedclol, ac os nad oeddynt yn meddu hawl i bleid- leisio, fod ganddynt berffaith hawl i ddatgan eu syniadau ar unrhyw faterion gwleidyddol. Nid yw y Radicaliaid yn foddlon canidtau rhyddid i neb ond iddynt eu hunain. Y casgliad a ellid dynu oddiwrth yr ymdrafodaeth ydoedd fod gan y pendefigion fwy o ryddid a mwy o ddylanwad mewn etholiadau Seneddol nag a dybir yn gyffredin, a'u bod yn benderfynol i'w ddefnyddio. GWAITH Y TY. Gwnaetli Mr. W. H. Smith fynegiad ddydd Mawrth mewn perthynas a gwaith cyhoeddus y Ty. Dywedodd eu bod yn penderfynu myned ymlaen gyda Meaur Llywodjtaeth Leol, hyd yn nod y rhanau perthynol i'r Brif-ddinas. Gallai yr adranau yn dwyn perthynas a'r cynghorau rhanbarthol (district councils) gael eu gadael heibio hyd y Senedd-dymor nesaf, gan na. ddelent i weithrediad cyn Tachwedd y flwyddyn ddyfodol. Hyderai y boneddwr gwir an- rhydeddus y byddai Mesur y Llywodraeth Leol drwy y pwyllgor yr wythnos yma, neu y nesaf. Llongyf- archai y pwyllgorau sefydlog ar y gwaith rhagorol oeddynt wedi gyflawni, ao hyderai y gosodid lliaws o fesurau gwerthfawr ar y deddlyfr oyn diwedd y tymor Seneddol. Da iawn oedd geDym gael ar ddeall fod Mesur y Degwm ymysg y mesurau y bwriedir ou gwthio ymlaen. Mae Mesur Addysg Ganolradd i Gymru, Mesur Addysg Gelfyddydol, a rhai mesurau eraill, ymysg y Claddedigion." Dywedodd Mr. W. H. Smith os gellid pasio Mesur y Llywodraeth Leol, Cyflenwad, a dau neu dri o fesurau eraill yn gynar yn Awat, y gellid gohirio y Ty hyd ddiwedd mis Hydref neu ddechreu Tach- wedd. Cynygiodd fod y flaenoriaeth i gael ei rhoddi i fesurau y Llywodraeth yn ystod y gweddill o'r tymor. Y CYHUDDIADAU YN ERBYN MR. PARNELL. Dydd lau, gofynodd Mr. Parnell a wnai y Llyw. odraetb apwyntio pwyllgor detholedig i wneyd ym- chwiliad i'r cyhuddiadau a ddygwyd gan y Times yn ei erbyn. Yr oedd y "Branin Anghoronog" yn awyddus i gyfynga yr ymohwiliad i awdariaeth y Uythyrau a briodolid iddo ar a prawf. Dywedodd Mr. Smith y buasai pwyllgor detholed- ig yn hollol anghymwys i wneyd ymchwiliad i'r cy- huddiadau, ao mai y owrs priodol i'r aelodau oedd yn teimlo dyddordeb yn yr achos ydoedd apelio i'r llysoedd cyfreithiol er gwneyd ymchwiliad trwyadl i'r cyhuddiadau difrifol hyn. Ond yr oedd y LJyw- odraeth yn barod i basio Act i apwyntio Comisiwn, cyfansoddedig yn hollol, neu yn rhanol, o farnwyr. Tra yr ydym yn ysgrfenu nid oes sicrwydd eto a wna Mr. Parnell gymeradwyo y ddirprwyaeth gyn- ygiedig. SENEDD-DYMOR HYDREFOL. Cyfarfu y Cabinet ddydd Sadwrn, ac yr ydym yn deall mai canlyniad eu hymgynghoriad fu i beidio d'od i benderfyniad yn bresenol mewn pertbynas i ohirio y Parliament hyd yr Hydref. Barnent y byddai ganddynt well mantais ymhen pythefnos. Penderfynwyd, fodd bynag, i barhau y Senedd- dymor hyd y drydedd wythnos yn Awst. Mae hyny yn ymddibynu yn hollol ar faint a gymer Mesur y Llywodraeth Leol i fyned drwy y pwyllgor. Nid oes dadl na oheir eiateddiad yn yr Hydref.
ADGOFION CTFEEEDWOL.
ADGOFION CTFEEEDWOL. [GAN GWAEFFRWD.] Ddarllenydd hoffus, mae arnaf chwant yn fy nghalon ymgadw yn ofalus rhag dweyd^un gair am ysbrydion y tro hwn, er y byddwn trwy hyny yn tori fy addewid; oherwydd gallaf dy sicrhau na chefais fawr o lonyddwch na dim hapusrwydd er pan yr ymdclangosodd fy ysgrif ar hanes ysbryd yr hen wr llariaidd a charedig o Ty'nyfron. Un nos- waith, yr wythnos ddiweddaf, yr oeddwn yn dyfod adref oddiwrth fy ngwaith yn bur hwyr, a'r fwyell ar fy ysgwydd, wedi bod yn tori coed ar Talfan trwy gydol y dydd, a phan oeddwn ar y ffordd unig yna rhwng llidiard y Trawsgoed ac Eglwys brydferth a pharadwysaidd Llanafan, clywais furmur mwyn myrdd o leisiau peraidd yn yr awyr uwch fy mhen a'r funyd nesaf yr oeddynt o fy amgylch ar y ffordd fel gwenyn. Canfyddais ar unwaith mai mintai o ysbrydion oeddynt, ac wedi edrych o gwmpas am beth amser adnabyddais rai o honynt. Y cyntaf a adnabyddais ydoedd Joseph, y gweuydd; ac er i mi gael fy nychrynu yn ofnadwy ganddynt ar y cyntaf, aeth ymaith yn union yr adnabyddais yr hen bercrin llariaidd a charedig hwnw. Gwyddwn trwy brofiad personol nad oedd achos i ofnillawer yn ei bresenol- deb ef, o'r hyn lleiaf, mor belled ag y byddai ei allu a'i ddylanwad ef ei hun yn myned. A gwyddwn hefyd nad oedd ef byth pan yma ar y ddaear yn cael ei gylchynu gan gymdaithion drwg, ae o ganlyniad nad oedd achos ofni ei gymdeithion. presenol yn fawr iawn. Cefais lawer o afalau ac eirin ganddo o'i ardd ffrwythlawn pan oeddwn yn hogyn bychan. Un peth a'm synodd yn fawr oedd gweled fod yr holl fongamrwydd aIr afluneiddrwydd a'i hynodai ef pan yma ar y ddaear wedi ei adael am byth, a'i fod yn awr yn edrych yn ieuainc, lluniaidd, a hoew. Yn ymyl yr hen sant hwn canfyddais ysbryd Shon, Panbont. Yr oedd ef yn dangos ei gwils i mi mown modd dychrynllyd iawn, &c yn chwytnu yn chwerw a bygythiol arnaf am i mi feiddio dweyd un gair am ymweliadau chwarous ysbryd ei hen gyfaill o Ty'ny- fron a'r gymydogaeth wedi ei ymadawiad â'r ty o bridd. Atebais ef, cred fi, ddarllenydd, yn wylaidd a gostyngedig iawn, ac yr oedd peth cryndod yn fy llais, rhaid i mi addef. Yr oedd fy atebiad yn debyg i hyn :—((0 ysbryd cadarn a nerthol, paid a digio. Nid oeddwn i yn meddwl dim drwg nad oeddwn yn wir. Ysgrifenais y cwbl am dy hen gyfaill mwynaidd a charedig, gynt o Ty'nyfron, yn y diniweidrwydd puraf. Nid oedd genyf y bwriad lleiaf i ddolurio teimladau ei gyfeiUion. nac yn y byd hwn nac yn rpyd yr ysbrydion. Ac ysbryd hynaws, paid a digio am fy byfdra yn beiddio ymresymu a bod mor aruchel; end gyda gostyngedig barch a gwyleidd-dra cyd- weddol a'm sefyllfa alaethus bresenol yr ydwyf yn dymuno dy sicrhau nad wyf yn gweled fy mod wedi dweyd dim am dano sydd yn haeddu dy gerydd, llai fyth dy ddigofaint. Onid ysgrifenais yn barchus am ei hynawsedd, ei garedigrwydd cyffredinol, yn enwedig ei gydymdeimlad a'r tlodion ? Ac oni ddatgenais fy ngobaith mwyaf duwiolfrydig am ei wynfydedig- rwydd presenol gyda chwi yn myd yr ysbrydion ?" "Do, do." Atebodd yr ysbryd, a'i ddau'lygadfel dwy belen o dan yn fflachio yn ei ben, a dyma lie mae y drwg yn gorphwys." Yna tywynodd y gwir- ionedd arnaf mewn amrantiad, a chanfyddais fod soriant yr ysbrydion hyn wedi ei enyn tuag ataf, nid am i mi ysgrifenu o gwbl am ymweliadau Jac Tynfron a'i hen gartref, ac a'i hen gymydogaeth, end am i mi ei ganmol, a siarad mor uohel am dano, ac am na ddywedaia ddim am danyni hwy. Gwnaeth y darganfyddiad hwn i fy holl ddychryn gymeryd ei aden ar unwaith, ac am nad osdd arnaf eu hofn mwyach, dywedais wrtbynt oil, O'r giwed gnafus mi welaf mai cenfigen, ac nid eiddigedd, sydd wedi "eich dwyn chwi yma i ysgyrnygu danedd arnaf fel hyn. Ond gallwch roddi eich cenfigen yn llogeilau eich peisiau cwta, a dychwelyd adref pryd y mynoch chwi, oherwydd gwnaf eich sicrhau y bydd i mi roddi hanes pob un o honoch, yn ei dro, yn ngholofnau Y EDAN, achewch chwi eich hunain benderfynu tro pwy fydd yn nesa.f, o wythnos i wythnos. Pwy all ddisgwyl gwell chwareu teg na hyn ?" Ond gyda fod y gair allan o'm genau clywais y chwerthin mwaf gwawdlyd ac annioddefol am y berth a mi, fel pe byddai haid o ddallhuanod wedi' ymgyfarfod a'u gilydd i'm gwawdio yn fy ninysk Edrychais trwy y gwrych, a phwy oedd yno debygat ti, ddarllenydd anwyl ? Neb llai na. Vulcan, "Pumlumon," "Jupiter," "Penybigws," ac "Ysbryd Alexander y gof copr," a llaweroadd gyda hwynt. Yr oedd Alexander am ei fywyd yn gwneuthur delwau prês. Yr oedd ganddo un ddelw fawr ac anferth o'r Gwcolia, ac yr oadd yn gwneuthur ymdrechion grymus i fyned a hon i fewn i'r LLAN, ond methodd yn deg a chyr- haeddyd ei amcan. Aeth pob ymdrech o'i eiddo yn y cyfeiriad hwn yn ofer. Un tro cafodd ei daflu ar draws mur y Llan gyda'r fath nerth nos dryllio ei ddelw dawdd yn ddarnau mån. Dro arall daeth ffrwd o ddwfr grisiaiaidd allan o dan hinio drws y Llan ac a'i cariodd ef a'i ddelw ymaith gyda rhyferthwy dychrynllyd. Suddodd y ddelw, mass o law, yn y llaid, ond Alexander, oherwydd ei fod wedi ei wneuthur o ddefnydd mwy ysgafn na phres, a gafodd ei ysgubo i lawr am rai milldiroedd ya mhellach, yna cafodd ei daflu i fyny ar gors foohnog ymhlith y mawn i sychu. Yr oedd Vuloan yn chwythu y tan a'i holl egni, a Jupiter yn eistedd ar ben y pentan, a chetyn cwta rhwng ei ddanedd, yn mwynhau pibellaid o fyglys. Ond yr oedd Vulcan yn parhau i chwythu y tan nes oedd y gwreichion eirias yn esgyn i fyny megis cymylau o flaen pig y fegin, nes oedd yn annichonadwy i mi weled na llun na lliw yr ysbrydion cynddeiriog gan ba rai yr oeddwn yn cael fy nghylchynu. Ond yr oeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nirwasgu yn ofnadwy o beryglus ganddynt. Yna daeth awel Iem i Bental- fan ao a chwythodd y gwreichion a'r mwg ymaith am enyd, a gwelais wynob hyll yr hwn a ymddang- osai yn arweinydd y Ilu ysbrydol, ac apeliais ato yn y modd canlynol, Os mai ysbrydion drwg ydych chwi, yr ydwyf yn hyderus na wnewch chwi ddim niwed i mi er mwyn fy llysfam, oherwydd mae yn rhaid ei bod hi yn berthynas agos i chwi. Am hyny, os ysbrydion aflan ydych chwi, gadewch fy mywyd i mi er mwyn eich chwaer, fy llysfam. Ond os mai ysbrydion da ydych chwi yr ydwyf yn teimlo yn sict na wnewch I mi ddim anaf er mwyn Sam, fy mrawd. Mae ef yn offeiriad ac yn wr da. Ond os mai dynion ydych, fcyngbedaf chwi ar unwaith roddi y traed yn y tir, neu mi alwaf am gynorthwy Hen Doraos a'i Son gnwpa, yna gwae chwi fydd hi, yn ddynion ac yn ysbrydion. Gwr glew yw ef." Ond ni wnaeth hyn eu tarfu, y giwed gas. Ac ni ddy- wedaf y tro hwn sut y cefais eu gwared; ni chan- iata Mr. Gol. cfod i mi. Am hyny rhoddaf ddiwedd yr helynt dyddorol a chyffxous yn y nesaf, pryd y daw ysbrydion amryw hen gymeriadau adnabyddus iawn i'r llwyfan.
" Y GWENYN YN DYCHWELYD."
Y GWENYN YN DYCHWELYD." Dywed newyddiadar Cymreig fod un o bregethwyr mwyaf adnabyddus un o'r enwadau Ymneillduol yn parotoi i ddyfod drosodd i'r Eglwys. Yn ddiau y mae mwy eto i ddyfod.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Ar yr 8fed cyfisol penodwyd y Parch. W. Gwynne Vaughan, diweddar o Goleg St. Dewi, Llanbedr, i guradiaeth Machynlleth. Dechreuodd Mr. Vaughan ar y gwaith y Sal diweddaf.
CROESOSWALLT.
CROESOSWALLT. YR EGLWYs GyilRBIG.-Ar y Sul cyntaf or mis bwn cynhaliwyd cylchwyl flynyddol yr eglwvs uchod, pan v pregethwyd gan y Parch. W. Richards, ficer Cemmaes. Arwemid y gwasanaethau gan y Paich. J. Morris. curad, ac yr oedd cynulleidfacedd rhagorol yn yr holl gytarfodjdd.
URDDIAD ESGOBION.
URDDIAD ESGOBION. Y Sul diweddaf, yn Eglwys St. Paul, L'undain, urddwyd y Parch. Dr. H. C. Billing, yr hwn am lawer ofiynyddoedd sydd wedi bod yn Rheifchor Spitalfields, ar Hybarch F. H. Thicknesse, Leicester, yn Esgobion. Y mae Dr. Billing i gynorthwyo Esgob Llundain, ac adwaenir ef o hyn allan fel Esgob Bedford, tra y mae Dr. Thicknesse i lafurio yn esgobaeth Peterborough, o dan y teitl Esgob Leicester. o EsgobVorr^l,l7#mffilmiWSra ya3
[No title]
ciddiwrth hysbysiad mewn colofn arall y bwI aetlda Arglwydd Esgob Llandaf gynal cyfarfod or- &r J 23ain o Fedi. Dylai ynugeiswyr -°n yn cldioedi am ganiatad i gynyg en tan. air pob tysbysrwydd ynghylch pyncian yr ^rwy ddanfon at y Parchedig Ganghellydd J J>a Ij^ndevand, Caerleon, Mynwy, nea oddiwrth St. Mary's Gate, Cambridge, cap- ^thQliadol yr Esgob. Am wybodaeth bellach hera o at ^r- Robert W. Griffiths, Herbert Oham- j,' ^aerdydd. IACHUSOII WyNwYN.-Gresyni meddai y ^e8id fod i wynwyn y fath arogi anhyfryd, gid odd aent yn hynod rinweddol fel ymborth a ^p'oiaeth. Y maent, naill ai wedi eu berwi eu r^08'iOi yn ardderchog ar gyfer peswch, ?ia,Q v'v10^ rwystrau yn mhibellau y gwddf. Y 1 ^al wynwyn wedi bod yn eSeithiol cyn hyn eCCtrlettfn:?t rhag syrthio yn aberth i diptheria a,
Advertising
V IMPORTANT DISCOVERIT is o0t tieryn-n Paris Figaro," of a valuable remedy i^Plaintsf mu Physical exhaustion, and kindred sS. MpJ- discovery was made by a missionary Jii^ Prp?r! l?° xt saved him from a miserable existence W^^sbn^ AT0 d.ecay- T'1C Rev. Joseph Holmes, •» will Mansions, Bloomsbury Square, London, Lpeipt Of o se"d the prescription, free of charge, on 6aPer, ddressed Stamped envelope. Mention
ESGOBAETH TY DDEWI.
ESGOBAETH TY DDEWI. Gwnaed y penodiadau canlynol yn ddiweddar yn EagobaethTy Ddewi :-Y Parch. Griffith Roderick, B.A., gynt curad Llanfihaagel-genea'r-glyn. Aberteifi, i fioeriaeth Llancynfelin, Aberteifi, yn rhodd yr Esgob; y Parch. William Evans, i gapelaeth. dosbarthol St. Thomas, Abertawe, yn rhoddymddiricdolwyr y Church Patronage Society; y Parch. Owen Jones Thomas, • fleer Kyffig, Caerfjrddin, i ficeriaeth Marros, Caer- fyrddm, yn rhodd y Parch, J. N. Harrison, fiber Laugharne y Parch. John Evans, i garasiaeth Llan- deilofawr a Llandefeisant, Caerfyrddin; y Parch. E. J. Hughes, i guradiaeth St. Martin, Hwlffordd; y Parch. C. B. Huleatt, B.A., i gnradiac-tu S: Mair, Abertawe y Parch. J. P. Poole Hughes, B.A., i gurad- iaeth Llanflhangel-geneu'r-glyn, Sir Aberteifi; y Parch. Henry Lloyd, i guradiaeth Coekett, Abertawe; y Parch. J. Griffith Matthias, i gnradiaeth Cookett, Abertawe- y Parch. John Lewis, i guradiaeth Llangeitho, Sir Aberteifi; y Parch. Waiter Williams, i gnradiaeth ■Llanauo rfan gyda Llanfihangel, Nantbran, Sir Frych. einiog. J
ARHOLIADAU YSGOLION EGLWYSIG.
ARHOLIADAU YSGOLION EGLWYSIG. UPPER BANGOE.—Arholwyd yr ysgdl hon dydd lau diweddaf gan y Parch. Thomson Jones, yr hwn a ddwc dystiolaeth ffafriol iawn i'r gwaith da a gyflawnir ynddH Yr oedd y canu yn hynod o dda, ac yn y pyncian eraill yr cedd y safon wedi ei chadw i fyny. Yr oedd yn bresenol yn yr arholiad 208 o blant. Da genym ddeall fod cynydd pwysig wedi cymeryd lie yn niter mvnvch- wyr yr ysgol yn ystod y flwyddyn aeth heibio. Yr oedd y Parchn. T. Edwin Jones a D. Richards yn bresenol. BANGOR.—Yr un gwr parchedig gynhaliodd yr ar- hohad yn Mangor, a dengys ei adroddiad fod nifer y plant yn yr holl ddosbarthiadau yn 343. Teimla y P^t ddyddordeb yn eu gwersi ac yn ngwaith yr ar- holiad fel ag i roddi llwyr foddlonrwydd i'r Parch. Thomson Jones. Derbyniodd Mr. Gotts, athraw y u bechgyn, ganmoliaeth uchel oblegid ei lafur diflino gyda'r plant. Diolchwyd hefyd i'r Parchn. W. Edwards, a W. Morgan Jonea am y dyddordeb a gy m- ) erant yn yr ysgolion hyn. CAEBNABFON,—Yr oedd 581 o blant yn bresenolyn arholiad yr ysgol hon, ac am y gwahanol ddosbarth- iadau nid oes gan yr arholydd, y Parch. Thomson Jones, ond geiriau o ganmoliaeth. Dywedai yn yr adroddiad fod Miss Parry, athrawes y nlant ieuainc, yn dylanwadu ar y plant fel mam ac fel meistres, ac yr oedd yr, ysgolheigion yn weddaidd ac yn lan. Mae Miss Jones, at.hrawes y merched, a Mr. Kees, athraw y bechgyn, yn cael eu henwi fel yn haeddu clod. Yr ydym yn llawenhau yn fawr oblegid llwyddiant yr oil or ysgolion, a gobeithiwn y bydd iddynt fyned yn y blaen yn y dyfodol.
PABNELLIAETH A TIIROSEDDAU.
-= GWnaed parotoadau helaeth ar gyier y prawf. Gwir nad oedd gan Mr. O'DONELL and un dadieuydd, a hwnw yn wr dinod, tra yr oedd gan y Times bump o ddadleuwyr enwog. Pan agorwyd y treial, prophwydai thai y caem waith darllen yr adroddiadau dair wythnos o leiaf. Yr oedd dros "edwar ugain a deg o dystion i'w holi o blaid 0 Y Times. Cawsom ein siomi. Daeth y Prawf i derfyn disymwth. Yr oedd yr oll 4rosodd mewn pedwar diwrnod. Barnodd i 1Ir. O'DONELL ei bod yn ddoethach iddo adw allan o'r witness box. Cynghorwyd ef beidio myned dan groesholiad, rhag ofn lddo fyned i ddyryswch, a datguddio pethau ag yr oedd yn well eu cadw yn ddirgel. ystal iddo braidd gael ei groeshoelio a ^ael ei groesholi. Er hyny, cymerodd Syr pCHARD WEBSTEK, wrth amddiffyn y Times, j^tais o'r achlysur i ddwyn yr holl gyn- 'luiau i oleu y dydd. Parliaodd ei araeth 4111 ddau ddiwrnod, yn wir am ran o dri (hwrnod. Dangosodd, trwy lythyrau ag JJW Mr. PARNELL wrthynt, nad oedd ef adwylaw hollol lan oddiwrth y gwaed dywalltwyd yn yr Ynys Werdd, eithr ei ad yn cydsynio a'r Ilofruddiaethau mwyaf r6ulon. Dywedodd ei fod yn barod i brofi gair a ddywedodd. Nid oedd Mr. ^ONELL yn aelod o'r Cyngrair, a chan nid oedd y cyhuddiadau a ddygid yn '"yn y Cyngrair yn cyffwrdd dim a'i gy- jptiad ef. Aeth achos Mr. O'DONELL i'r a-Wr yn y fan hon, Yr oedd ef yn rhydd j^jwrth y cyhuddiadau, a'r Times yn rhydd .^iwrtho yntau. Gwawd a ddaeth i'w ran He haner can' mil o bunau. Ond am Mr. PAKNELL, daeth yr holl ^odaeth yngtyn ag ef o flaen y cyhoedd rHewydd, a hyny yn fwy cjfiawn a mwy oeth nag o'r blaen. Rhaid iddo ddweyd y b et a gwneuthur rhywbeth, er clirio el Bymeriad, a phroli i'r byd nad oedd ti ^aw> na chynt nac wedy'n yn llof- /^iaeth Phoenix Park. Efe a wadodd y ya Nhy y Gyffredin, gan dystio mai edi eu ffugio yr oedd y Uythyrau a ddar- ^lasid yn y ilys. Efe a ofynodd am j, yllgor o Dy y Cyffredfn i ckwilio i mewn ^ater. Gwrthododd y Wein^ddiaeth. y i.3,18 hwn. Ond y mae wedi cynyg creu tiewydd i brofi yr achos sydd rhyngddo i r Times. Bydd y llys yn gynwysedig o heb reithwvr. Gall Mr. PAKNELL ?}f S-!?2'iraes gerbron y llys hwn, ond och Praw1^ 7n gyflawn ac nid naill- Ehaid rhoddi chwareu teg i'r Ochr, fel ymhob llys barn arall. ra VV Yrhaid fftirfio Ilys barn newydd er r* PARNELL mwy na rhyw ddeiliad o'rdeyrnas? Mae'r llysoedd presenol ^ydd "iddo. Mae'r Times fwy nagj: Waith wedi ei herio i ddyfod wyneb yn Ivrf mawn barn, a chymeryd y can- ladau. Ni wnaiff ymchwiliad hanerog con^ mor ^ro- Nid ydym yn rhyfygu ^7? ^arn na dedfryd rhwng Mr. PAKNELL fiw ales> on^ gwyddom mai hawdd yw a, P°b peth ar lawr Ty y Gyffredin. w'? r ^yQ sydd yn rhydd i wnenthur drwg, hollol rydd i wadu y drwg; a'r hyn sydd YP %Uffafriol i Mr. PARNELL ydyw ei fod §wa^u r-^ai pe^a^ ag ydynt pf1 eu profi yn wirionedd. ym yQ ysgrifenu, nis gwyddom pa a ddywed Mr. PAKNELL am y llys &an yn rhy gynar- yneb y pethau sydd wedi eu datguddio, tyf tu ^wnt aniheuaeth, un o n eadodau yr oes hon ydyw gweled Mr. ^ST°ne a Syr WILLIAM HAECOUET, ac Cv yn cerdded law yn llaw ^g aelodau y rair Tirol a'r Cyngrair Cenedlaethol. 4elit yn perthyn yn rhy agos i'r In-