Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
DEONIAETH UCHAF LLANDAF.
DEONIAETH UCHAF LLANDAF. Dydd Mawrth, y 24am cynfisol, cynhaliwyd cyfarfod o offeiriaid a wardeniaid y ddeoniaeth nchod yn y Vestry Hall, Pontypridd. Dibcn y cynhulliad oedd ethol dirprwywyr i fod yn bresenol yn Nghynhadledd yr Esgobaeth. Dechreuwya trwy weddi gan ein Deon Gwladol parohus a llafurns, y Parch. W. Lewis, Ficer Ystradyicaws. I gynrychioli y clerigwvr etholwvd v Ptarchedigion oanlynol Lloyd Mountain Aah S. Eowlaud Jones, Giyntaf; G. Roberts, Dowlais W. Green, Troedyrhiw D. Francis, Ynyshir; J. Rees, Ferndale, a H. H. J. Williams, Pontypridd. I gynrych- ioli y lleygwyr ethoiwyd y boneddigion canlynolDr. Cresswell Dr. Dyke; Mr. Smyth; Mr. Lenox, Giyn- taf; Mr. M. Morgan; Mr. Hosborn; Mr. Wm. Thomas, a Mr. clrover Pontypridd.
LLANF AUt. IS. GAER.
LLANF AUt. IS. GAER. Yn YSGOL DDYDDIOL.—Cynhaliwyd yr arholiad esgob- ol blyuyddol yn yr ysgot nchod dydd Gwener, yr 20fed cynfisol, gan y Parch. T. Thomson Jones, B.A. Cafwyd adeyddiad canmoladwy iawn. Dywed Mr. Jones:— "The nrat group acquitted themselves creditably; they did not seem to understannd the Catechism although they repeated it accurately. Great pains must have been taken with the Catechism in the second group. Every subject in the programme had been worked up by the senior group with results that reflect great credit upon Mr. Roberts. The children were very neat, and sang very well." Yr oedd yn bresenol y Ficer, y Parch. H. Parry, a'r Parch. J. Salt, Yr oedd 160 o blant yn bresenol. Mae y rhai by chain canlynol yn deilwng o'u henwi fel wedi gwneyd en gwaith yn anrhydeddus :— W. F. Williams, J. P. Jones, W. M. Parry, D, Owen, E. J. Hughes, C.E.Jones, Elizabeth Evans, Jane E. Davies, Hugh H. Jones, Thomas Jones, Catherine A. Williams, Maggie H. Davies, Richard Williams, John H. Michael, Edith Agnes Bennett, Amy Moss, Kate Jones, a Winnie Owen.
EGLWYSFUDD PENBRYN.
EGLWYSFUDD PENBRYN. Hysbysir fod y Parch. T. Jones, Ficer Cilgerran, swydd Benfro, wedi derbyn yr Eglwysfudd uchod. Y mae Mr. Jones wedi treulio yn agos yr oil o'i yrfa weinidogaethol yn ngbymydogaath Aberteifi, ac y mae yn sefyll yn uchel iawn ymhob ystyr gyda thrig. olion yr ardal. Y mae wedi profi ei hun yn weithiwr cyson a chaled, ac y mae yn bregethwr ardderchog yn y Saesneg yn gystal a'r Gymraeg. Fel curad Aberteifi ac fel ficer Cilgerran y mae wedi anwylo ei hun i gylch eang o gyfeillion. Nid oes neb sydd yn fwy derbyniol gan Eglwyswyr Aberteifi heddyw na Mr. Jones, ao y mae yn ddiameu genym fod Eg- lwyswyr Cilgerran yn teimlo yr un fath. Yn Penbryn y mae gwaith mawr yn ei ddisgwyl, ond teimlwn fod y dewisiad yn un doeth a chymwys. Yr Arglwydd Ganghellydd ydgdwr Cilgerran. Y mae Ardalydd Tredegar wedi eyfrann £50 tuag at y gronfa er adeilada Eglwys newydd yn Beaufort. Y mae y derbyniadau blynyddol yn St. Peter's, Eaton Square, Llundain, oddiar y flwyddyn 1883 wedi bod yn £ 16,635 ar gyfartaledd. Y mae y casgliadau blynyddol yn cyraedd XG,410, a'r rboddion a'r cyfraniadau yn gwneyd £7,430 arall. Cesglir XI,960 o renti seddau. Llywyddodd Arglwydd Powis mewn cyfarfod perth- ynol i'r Clergy Distress Fund, yn yr hwn y talwyd allan 91,150 tuag at achosion teilwng. Gwneir ymgais i adgyweirio yr eglwys blwyfol yn Is-y-Coed, y-r hon sydd yn eefyll mewn mawr angen am hyn. Cyflwynwyd tysteb cynwysedig o oriawr aur i'r Parch. J. Daniel,.B.A., curad Llanfair, gan V plwyfol- iion ar ei waita yn ymadael i gylch newydd o wasan- aeth.
.CYFLAFAN YN KERRY.
CYFLAFAN YN KERRY. Bump o'r gloch brydnawn ddydd Sul diweddaf cafodd John Forham ei saethu yn angeuol yn Mount Cole, ger Listowel, tra yn dychwelyd o Tralee, lie yr oedd wedi bod yn eyflogi llafurwyr. Yr oedd y rhai hyn gydag ef mewn cerbyd pan y bu i ddau ddyn, wedi ymrithio o ran eu gwisgoedd, neidio dros V gwrych a'i saethu yn farwol. Yr oedd Forbam yn driugain mlwydd oed, a chafodd ei foycotio am gy- maryd tyddyn allan o'r hwn yr oedd y tenant wedi ei yru ymaith. Yr oedd efe yn preswylio yn Tulla- more, rhwng Ballylongford a Listowel. Nid oes neb wedi ei gymeryd i'r ddalfa. Gwnaeth y llafurwyr bob brys i roddi hysbysrwydd i'r heddgeidwaid am y llofruddiaeth, y rhai a wnaethant bob ymchwiliad am y llofruddion.
Family Notices
Vriobat;au, a iHartoolactfcau. GENEDIGAETHAU. Roberts.- Gc;rphenaf 23ain, yn Brynawel, Aberyst wyth, priod y Parch. T. Roberts, M.A., H.M.b. Neptune, ar fab. Wriglit.-Gorphenaf 27ain, priod 1\Ip. Sam Wright, cysodydd, 27, Lower Cathedral Road, Canton, Caerdydd, ar ferch. MARWOLAETHAU. Davies. -Gorphenaf 21ain, yn Tegid Street, Bala Ellen, merch Mr. William Davies, tailor and draper, yn 18 mlwydd oed. Evans.- Gorphenaf 13eg, yn 83 mlwydd oed, Mrs. Hannah Evans, Glandwr, Llanwenog. Francis—Gorphenaf 23ain, yn Wallog, Claraob, Catherine Jane Fmncis. yn 19 mlwydd oed. draper, yn 18 mlwydd oed. Evans.—Gorphenaf 13eg, yn 83 mlwydd oed, Mrs. Hannah Evans, Glandwr, Llanwenog. Francis—Gorphenaf 23ain, yn Wallog, Claraob, Catherine Jane Francis, yn 19 mlwydd oed. Hawkins.—Gorphenaf 21ain, yn Marlborough, Henry Plummer Hawkins, Aberystwyth, yn 43 mlwydd oed.
DEONIAETH GRONEATH (UPPER…
DEONIAETH GRONEATH (UPPER WESTERN DIVISION.) Cynhaliwyd cyfarfod o offeiriaid ac etholwyr Ueyg plwyfydd y ddeoniaeth nchod yn Neuadd y Dref, Castellneftd, dydd Mercher diweddaf, am 12 o'r gloch, er ethol cynrychiolwyr i fyned i'r Diocesan Conference, yrhwn sydd i'w gynal yn Nghaerdydd mis Hydref. Cymerwyd y gadair gadair gan y Paich. John Griffiths, ficer Cwmafon. ac vr oedd vr offeiriaid n. cranlvn xm bresenol:-Parchn. David Lewis, M.A., ficer, JosephjH. Thomas,IM.A., curad, Briton Ferry; Henry Morris, ficer, John Morgans, B.A., Thomas Harris, B.A., curadiaid, Aberafon; Peter Williams, E. B. Pryce, B.A., Henry Williams, curadiaid, Castellnedd; William Edwards, curad, Crynant Thomas Jenkins, curad, Cwmafon Morris James Marsden, B.A., Llangattwg, Nedd. Etbolwyd y Parchn. Lewis Jones, ficer Llangattwg, Nedd Henry Morris, ficer Aberafon Peter Williams, curad Castellnedd; a Morris James Marsden, B.A., curad Llangattwg, Nedd, i gynrychioli yr offeiriaid, a Mri. R. P. Morgans, Castellnedd; J. E. Moore, Dyffryn; G. H. Davey, Briton Ferry M. Tennant, Aberafon; a G. H. Lloyd, KUlybebyli, yn gynrvchiol- wyr lIeyg. Penderfynwyd fod y cyfarfod- ne-saf o'r ddeoniaeth i'w gynal yr ail ddydd Iau yn mis Tachwedd nesaf, a bydd y Deon Gwladol yn darllen papyr ar y Wasg Gymreig.
DEONIAETH (UCHAF) I,&NDAF-DOS.…
DEONIAETH (UCHAF) I,&NDAF-DOS. BARTH DEHAU DDWYEEINIOL. Cynhaliwyd cyfarfod o etholwyry fwrdeisdref nchod ya ystafell yr uch-reithwyr Nenadd Tref Caer- dydd, dy$d Sadwrn diweddaf, er ethol cynrychiolwyr i fyned i'r Diocesan Conference, Cymerwyd y gadair (fan V Parch. Charles Parsons. M.A. (D.G.). n. At.hnl. wyd y personau cnlynol; F. J. Beck, H. A. Coe, J. E. Davies, G. A. Jones, L. Usk Jones, R. J. Ives, J. W. Ward a'r Mri. Coles, G. David, Dobbin, S. Fletcher, Thatcher, Nicholas, Dr. Sheen, a Major Pitman.
CRICCIETH.
CRICCIETH. DEONIAETH EIFIONYDG.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r Siapter dydd Iau diweddaf, yn y lle uchod, a chym- erwyd amryw bynciau. dan ystyriaeth. Ar ol rhoddi gwasanaeth yn Eglwys St. Catherine, treuliwyd cyf- ran o'r amser gyda'r Testament Groeg, a chafwyd pleser nid byohan wedi hyny uwchben yr ymdrech i gael gafael ar y darlleniad cywiraf o gyfran o'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn Gymraeg. Buwyd yn ymdrin hefyd ynghylch y lie a'r dull mwyaf cyfleus i'r Siapter i ymgynull ynghyd, yn ogystal a pharotoi lie i'r lleyg- wyr. Dewiswyd pwyllgor i wneuthur y trefniadau angenrheidiol ar gyfer yr wyl gerddorol nesaf.
Y CEYNWYE A CHYNHADLEDD LAMBETH.
Y CEYNWYE A CHYNHADLEDD LAMBETH. Y mae Cymdeithas y Crynwyr wedi danfon llyth- yr neu gofeb at yr Archesgobion a'r Esgobion sydd wedi ymgynull yn y gynhadlodd uchod yn ostyng- edig erfyn arnynt i ystyried y pwysigrwydd o gyd- weithrediad er mwyn dwyn cyflafareddiad oddiam- gylch yn lie rhyfel. Yn y llythyr gosodir allan res- ymau pleidwyr y cyfnewidiad. Nid oes un amheu- aeth o gwbl nad yw y pwnc o bwvs dirfawr. ac v mae rhesymau y llythyr uchod yn rhai cadam. Ond nid yn awr y gwelsant oleu dydd gyntaf, ac nid yw yr Eglwys wedi anghofio ei dyledswydd yn y cyfeiriad hwn. Y mae yn fiaith gwerth sylwi ami fod Cymdeithas y Crynwyr yn addef dylanwad a safle aruchel y gynhadledd bwysig a ddygodd ei gwaith i derfyn ddydd Sadwrn diweddaf.
Y DIRPRWYWYR EGLWYSIG.
Y DIRPRWYWYR EGLWYSIG. Ar ol gwasanaethu y Ddirprwyaeth uchod fel ys- grifenydd am yn agos i bum' mlynedd a deugain, ymddiswydda Syr George Pringle ar ddiwedd yr eisteddiad presenol. Ei olynydd ydyw Mr. A. De Bock Porter, yr hwn sydd wedi gwasanaethu y ddirprwyaeth fel is-ysgrifenydd am saith mlynedd.
LLOFRUDDIO LLAFURWR.
LLOFRUDDIO LLAFURWR. Yn Glounamuckle West, ger King Williamstown cafodd llafurwr o'r enw James Roure, ei saethu yn farwol. Dywedir i'r ysgelerwaith gael ei achoai oherwydd cweryl a gymerodd le rhwng amaethwyr a drigant yn gyfagos.
CYNGAWS MR. O'BRIEN, A.S.,…
CYNGAWS MR. O'BRIEN, A.S., AM ATHROD. Dydd Sadwrn dygodd Mr. W. O'Brien, A.S., gyngaws am athrod yn erbyn y Cork Constitution o flaen y Barnwr Harrison yn Mrawdlys Cork. Erlynid ar ran Mr. O'Brien gan Mr. T. Healy, A.S., ac amddiffynid y newyddiadur gan Mr. Wright. Nid oedd Mr. Healy wedi gorphen ei araith pan y gohir- iwyd y llys ddydd Sadwrn,
Y TRENGHOLIAD AR JOHN MANDEVILLE.
Y TRENGHOLIAD AR JOHN MANDEVILLE. Dydd Sadwrn aed ymlaen gyda'r trengholiad ar gorfE John Mandeville yn Mitchelstown. Wedi ym- gynghori am yn ages i awr dychwelwyd y rheithfarn fod y trancedig wedi cyfarfod a'i farwolaeth mewn canlyniad i driniaeth greulawn ac anghyflawn yn Tullamore. Gwrthdystiai y rheithwyr yn erbyn yr arferiad o ymddwyn at garcharorion gwleidyddol fel traseddwyr cyffredin. «
Advertising
A CAED.—AN IMPORTANT DISCOVERY is announced in the Paris Figaro," of a valuable remedy for nervous debility, physical exhaustion, and kindred complaints. The discovery was made by a missionary in Old Mexico it saved him from a miserable existence and premature decay. The Hev. Joseph Holmes, Bloomsbury Mansions, Bloomsbury Square, London, W.C., will send the prescription, free of charge, on receipt of a self addressed stamped envelope. Mention this paper.
---------..-- ---! 11ELYNT…
11ELYNT Y CLADDU YN LLAN- FROTHEN. DYFARNIAD Y BARNWR BISHOP. Ychydig dros ddau fis yn ol, daeth y Parch. Eichard Jones, rheithor Llanfrothen, yr Arch. ddiacon Evans, a'r Deon Lewis A chyngaws yn erbyn y Mri. Morris Roberts, R. Roberts, ac eraill, am dori i mewn i gladdfa Eglwys Llan- frotben. Gwrandawyd y cyngaws gan y Barnwr Bishop a phedwar o reithwyr. Rhoddodd y rheithwyr eu rheithfarn o blaid y diffynyddion, ond go hiriodd y Barnwr ei ddyfarniad ef ar agwedd gyfreithiol y cwestiwn, hyd y llys sirol yn Porthmadog, ar y 25ain o Gorr)henaf.-Dros yr hawlwyr ymddangosai y Mri. Carter a Vincent, Caernarton; a thros y diffynyddion y Mri. Lloyd George a George. Wrth roddi ei ddyfarniad, dy- wedodd y Barnwr :—" Gan belled yn ol ag 1864 yr oedd dymuniad i gael eangu claddfa blwyfol Llanfrothen. ac yr oedd perchenog (Mrs. Owec) y tir eysylltiol yn barod i roddi darn o'i thir hi at y pwrpas hwnw, a rhywbryd rhwng yr amser hwnw a Gorphenaf, 1869, yr oedd clawdd wedi ei godi o amgylch y tir ac wedi talu am dano drwy gyfraniadau rhydd-ewyllvsiol a gasglwyd gan wardeniaid eglwys y plwyf, yn benaf, pa rai ym- ddangosent fel pe yn arolygu y gwaith, a gwnaeth y wal hon y lie yn un darn amgauedig, ac yn y sefyllfa hon y mae wedi bod, ond ni throsglwydd- wyd y tir gan Mrs. Owen ar y pryd, ni chysegr- wyd y darn, ac ni chladdwyd neb yno hyd 1872, ond claddwyd ychydig yno ar ol y dyddiad hwnw. y Z, Ar Gorphenaf 18fed, 1881, trosglwyddwyd y tir gan Mrs. Owen i'r gotynwyr ar amodau neillduol. Ar Ebrill 28&in, 1888, bu un o'r plwyfolion farw, a datganwyd dymuniad i gael ei gladdu yn y rhan hwnw a amgauwyd cyn 1869, ac a drosglwydd. wyd i'r achwynwyr yn 1881, a rhoddwyd rhybudd y gwasanaethid gan weinidog perthynol i enwad arall. Gwrthododd y rheithor i hyn gael ei wneyd, gan ddweyd fod y rhan hwnw o'r gladdfa beb fod yn rhan o gladdfa y plwyf, ac heb fod yn lie y gallai y dilTynwyr hawlio claddu yr ymadaw- edig gan mai eiddo private y rheithor ac eraill oedd efe. Y diffynwyr, ar y Haw arall, a ddadieu- ent fod y He yn rhan o gladdfa y plwyf, ac y gallent hawlio claddu yr ymadawedig yno, ac aethant ymlaen i claddu y corff, drwy dori clo llidiart y gladdfa, tori y bedd, a chladdu y corff ynddo, oherwydd yr hyn y mae y gofynwyr yn dyfod a'r cyngaws hwn ymlaen. Y mae y diffyn- wyr yn cyfaddef iddynt gyflawni y gweithredoedd a enwyd, odd cyfiawnhant hyny drwy ddweyd nad oedd y tir yn eiddo i'r gofynwyr, ond mai rhan o gladdfa y plwyf ydoedd, a hawliant iawn am i'r gofynwyr ymyryd a • hawl claddu yn y cyfryw fynwent. Yr oedd cyngaws yr erlynwyr yn fyr Rhoddent i fewn y weithred yn cyfleu y tir iddynt, dyddied- ig Gorphenaf 18fed, 1881, a chan y cyfaddefid y trespas terfynai eu eynghaws.-Dros y diffynydd- ion dadleuid mai cwestiwn o hawl ydoedd rhwng y gofynwyr a'r plwyf, ac ymresymai fod y tir wedi ei roddi drwy air y genau yn 1864—5 neu yn 1866, i'r rheithor ar y pryd, at wasanaeth y plwyf- olion i gladdu ynddo a chan ei fod wedi ei amgan oleiafmorbellyn ol ag 1869, yn Gorphenaf, a'i fod wedi cael ei ddefnyddio at gladdedigaethau, fod Mrs. Owen wedi colli ei bawl a'i meddiant o'r tir, a'i fod wedi dytod yn rhan o gladdfa y plwyf, ac nad oedd gan y rheithor ddim hawl i nacau claddu un o'r plwytolion, a chafodd y rbeithwyr yn gyntaf fod tir wedi ei roddi drwy air y genau i'r plwyfolion yn 1864 ac ar ol hyny yn ail, fod wal wedi cael ei chodi o'i amgylch cyn Gorphenaf, 1869; ac yn drydedd, fod y rheithor wedi ei ddefnyddio fel rhan o'r gladdfa blwyfol byth ar ol hyny.—Yna gwnaeth y Barnwr sylwadan helaeth ar ymresymiadau Mr. Lloyd George, a dywedodd fod yn rhaid iddo ddangos ei anghymeradwyaeth o'r cwrs a gymerodd y diffynyddion, a rhoddai ddyfarniad o du y gofynwyr am 1!5 5s.-Gofynodd. Mr. Vincent am y costau ar y scale uwchaf, a chaniatawyd byny.-Dymunai Mr. George i'r barnwr wella ei notes o'r hyn oedd dyfarniad y rheithwyr. Yn ol barn y barnwr nid oedd meddianiad o'r tir wedi dechreu ond yn 1869; pryd yn ol yr hyn y gallai efe (Mr. George) brofi yr oedd y meddianiad wedi cymeryd lie ar y flwyddyn 1864.-Dywadai y Barnwr nas gallai Mr. George ddim myned y tu ol i'r notes.—Wedi ychwaneg o ddadleu rhoddwyd rhybudd o apel. -Yr ydym yn deall fod cymdeithas gref yn Llundain am roddi pob help i gario yr apel ymlaen.
NODJADAU SENEDDOL.
yn fynych y clywyd y fath faldordd erioed yn Nhy y Cyffredin. Gwrandewch am funyd ar y Ffrancwr gwyllt hwn. Dywedodd fod y Mesur wedi ei fwriadu i wasanaethu plaid. Gan fod y fath deimlad angherddol yn Llundain yn erbyn y Nasiwnaliaid Gwyddelig, nid oedd yn syndod yn y byd iddo ef fod Mr. Parnell wedi nacau myned & r achos i lys cyfreithiol yn y Brifddinas, a phe buasai yn gwneyd hyny ni ftiasai ganddo ef (Mr. Labouchere) ddim parch iddo. Dywedodd fod Mr. Balfour wedi cyhoeddi cabldraeth ar hen wragedd yn yr Iwerddon, ac wedi rhedeg ymaith oddiar ffordd y rheithwyr. Er i'r darllenydd gael rbyw syniad am ddyfnder doethineb y digrifddyn hwn, digon yw dweyd iddo awgrymu fod United Ireland yn newyddiadur llawn mor bwysig &'x Times. Dywed un gohebydd, ac nid ymhell o'i Ie, mai clown ddylai Mr. Labouchere fod mewn travelling circus," ac nid aelod o Dy y Cyff- redin. Prif araith eisteddiad ddydd Masvrth oedd eiddo Mr. Chamberlain. Y prit beth ag oedd Wedi siglo ei ffydd yn Mr. Parnell oedd ei an- ^harodrwydd i wynebu ymchwiliad llawn i'r cy- httddiadau. Os oedd ganddo wrthwynebiad gonest i reithwyr Seisnig neu yegotaidd, paham ,nad elai o fiaen rheithwyr yn Nublin ? Nid oedd ganddo ef (Mr. Chamberlain) ddim ffydd' yn Qghymwysder pwyllgor o Dy y Cyffredin i wneyd ynachwiliad i gyhuddiadau o'r fath. Gwrthwyn- ebodd yn yr ymadroddion cryfaf y cyfyngiadau a ddymunai Mr. Parnell wneyd yn yr ymchwiliad a dadleuai os oedd yr aelodau Gwyddelig yn äWyddus i glirio eu hunain ei bod yn anhebgorol aiagenrheidiol fod i ymchwiliad gael ei wneyd i Weithrediadau y Land League. Yr hyn a ddylai y Ty ei ddymuno, a'r hyn a ddylai yr aelodau Gwyddelig fod yn falcli i'w dderbyn, oedd ym- chwiliad llawn, agored, a dilyffethair i'r holl am- gylchiadau. Yr oedd y mater yn awr wedi myned o ddwylaw y Llywodraetb, a dyledswydd y Ty oedd cvmeryd i fyny ac edrych ar fod i ymcliwil- iad trwyadl yn cael ei wneyd i'r cyhuddiadau "Iwyaf dychrynllyd a fa erioed yn crogi uwch benau dynion cyhoeddus. Well donet Chamber- lain, Setlodd hyn y pwnc ar unwaith, ac nid oedd yn bosibl mwyach dynu y Mesur yn ol. Wedi i Syr William Harcourt, Cyfreithiwr CYffredinol Ysgotland, ac amryw eraill, gymeryd fkffcck yn y ddadl, pasiodd y Mesur yr ail ddarllen- lad hob ranu y Ty. %dd y Mesur yn y Pwyllgor ddydd Llun, a _plaiOeu y cynygir llawer o welliantau iddo gan y a'r Gladstoniaid. MESUR Y CLASTIR. DYdd Mawrth, cydunodd Ty y Cyffredin a ^elliantau Ty yr Arglwyddi i Fesur y Tiroedd %lwysig (Glebe Lands Bill,) 14ESUR TEAFNIDIAETH RHEILFFYRDD A CHAMLESYDD. Pasiodd y Mesur pwysig hwn y trydydd dar. lleniad yn Nhy y Cyffredin ddydd Mercher, yn bloeddiadau o gymeradwyaeth. Y mae'r esur, ag eithrio Mesur y Llywodraeth Leol, yn Un o'r rhai pwysicaf a gynygiwyd i sylw y Parlia- ment y Senedd-dymor presenol, ac y mae yn debyg o brofi yn fantais arbenig i fasnach ac am. aethyddiaeth. 0 dan y Mesur hwn gosodir cludiad nwyddau a chynyrchion cartrefol ar yr un tir ag eiddo tramorwyr. Fel y mae'n bysbys i'n ^arllenwyr, y mae cwmniau rheilffyrdd yn codi *ai o dal am glado nwyddau tramor a nwydd- au, neu gynyrchion, Prydeinig. Nid oes dim yn Y byd a fyno y mater a. masnach rydd, masnach dêg, neu ddiffyndollaeth; nid yw ddim ond CWeatiwn o gyfiawnder noeth. Yr oedd y Mesur yn ngofal Syr Michael Hicks-Beach, a gall y bon- y eddwr gwir anrhyaeddus deimlo boddhad ei fod Wedi llwyddo i osod ar ddeddf-lyfrau y deyrnas o fesurau mwyaf gwerthfawr y Senedd-dymor. etbyniodd y llongyfarchiadau gwresocaf. Dyma braWf arall o'r hyn a ddichon Llywodraoth Geid- ^ad°i gyflawni, a bydded ei gelynion yn farnwyr. vyr y wlad pwy y w ei chymwynaswyr, ac os aiff y tlYWodraeth Undebol ymlaen fel byn gallant fOd mewn swydd am flynyddau lawer. Poedfely 1lledd pob gwir wludgarwr. MESUR DIWYGIAD CYFRAITH CABLDRAETH. Pasiodd y Mesur hwn drwy y pwyllor yn Nhy -krglwyddi ddydd Iau, a chyhoeddwyd ef i'r 'l. Gofynodd Ardalydd Waterford y rheawm a am na chymhwysid yr Act i'r Alban. Monkswell a atebodd ac a ddywed- .tQa* am cyfraith cabldraeth Ysgotland yn anol i r hyn ydyw yn Lloegr a'r Iwerddon. ^ed ate^a<* *'r Arglwydd Ganghellydd, dy- ^l°dd Arglwydd Monkswell y dygid gwelliant llefa*611 ar 8yflwyniad y Mesur yn gwneyd wyt mewn c/farfod cyhoeddus yn atebol am ei eiriau pan fyddo y newyddiadur a'i cyhoeddant yn rhydd oddi ivrth gyfrifoldeb. SENEDD.DYMOR YN YR HYDREF. Dydd Iau, hysbysodd Mr. W. H. Smith y Ty fod y Llywodraeth wedi d'od i'r penderfyniad fod eisteddiad Hydrefol yn anocheladwy. Yr oedd yn yrnddangos iddo ef yn anhebgorol angenrheidiol iddynt i ddarfod a'r mesurau oedd wedi pasio y pwyllgorau sefydlog cyn y gohiriad ac yr oedd yn gobeithio hefyd y ceid amser i ystyried y mesurau yn dwyn perthynas d'r amddififyniad Ymerodrol, tollau y Gyllidfa, casgliad degymau, a'r Gyllideb Indiaidd cyn tori 'i fyny. G ofynwyd lliaws o gwestiynau mewn perthynas 4 mesurau aelodau unigol. Dywedodd Mr. Stevenson y byddai yn well ganddo ef gael diwrnod yn yr Hydref i ystyried Mesur Cau y Tafamau ar y Sul. Dywedodd Mr. W. H. Smith ei fod vn eobeithio y byddent yn alluog i ohirio tua'r lleg o Awst, ac y gwnaent ail gytarfod yr wythnos gyntaf o Dachwedd. MESUR LLYWODEAETII LEOL. Gwnaed gwaith mawr gyda Mesur Llywodr- aeth Leol nos Weoer, gan fod y Llywodraeth yn awyddus i'w gael trwy y pwyllgor. Yr oedd Mr. Smith wedi hysbysu yn flaenorol ei benderfyniad, os byddai hyny yn angenrheidiol, i beidio cau am ddeuddeg o'r gloch yn ol y rheol. Am ychydig 0 funydau i un o'r gloch pasiodd y Mesur wedi ei ddiwygio drwy y Ty ynghanol bloeddiadau eyff- redinol o gymeradwyaeth. Llongyfarchodd Syr William Harcourt Mr. Eitehie, ar ran yr Wrthblaid, am ei allu mawr, ei amynedd, a'i tact (beth yw y Cymraeg ?) yn nygiad y Mesur mawr hwn drwy y Ty. Anfonwyd y Mesur yn ddioed i Dy yr Ar- glwyddi, lie y darllenwyd ef y waith gyntaf. Three cheers i Mr. Bitchie, a dyma fi yn tewi. Hwre hwre hwre