Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
— Cymerodd etholiad ffurfiol y Parch. A. G. Stewards, ficer Caerfyrddin, yn Esgob Llanely le aaydd Sadwrn. Diwedd yr wythnos ddiweddaf taenwyd y newydd fod Mr. Edwards mewn afiechyd, ya ddilynol i anwyd trwm a dderbyniodd yn Eg- IWYB Gadeirinl Caerefrog, ar gysegriad Esgob Caer- i "eon. Da genym ddweyd nad oes unrhyw sail i'r *aroddiad. MARWOLAETH ALAETHUS CHWABEUYDDBS. Ddydd Iau, yn Macclesfield, bu Isabella, gwraig Frank v Grady, chwareuwr, farw o achos archoll yn y fron. Ira yn ohwareu yr Eviction," nos Luta, dechreuodd wau rhyw waith tra yr oedd yn disgwyl ar y Uwyfan. ./?10dd chwareuwr heibio ei chefn ac er mwyn Afttv.basi0' c0<*0<^ fyny a nesaodd dipyn ymlaen. <ei nodwydd WftU i naewn i'w bron. Gorphenodd ,n/K y chwareuawd y noson bono, a galwyd oV « t 0nd berQid ei hachos yn anobeithiol ««,Yn y trengholiad pasiwyd rheithfarn arwolaeth ddamweiniol."
[No title]
— Dywed y Record fod Arglwydd Selborne wedi penderfynu peidio myned ymlaen a'r mesur er dar- paru oaplan parhaol i Dy yr Arglwyddi. Hysbysir ymheJlach y eyflawnir gwaith caplan i'w Harglwyddi gan yr Esgobion bob un yn ei dro. Y FARCHNAD HAIARN YN WOLVERHAMPTON DYDD MERCIIER--Haiarn o swydd Lincoln o 45s i 46s yn y gorsafoedd swydd Derby, 44s i 45s yn y gweithfeydd swydd Northampton, 43s 6c i 44s swydd Stafford, 45s i 47a 6c. MARWOLAETH MORWR IEUANC O'R GROESLON YN YR INDIA.—Nid oes ond tair wythnos er's pan oedd- ym yn cofnodi marwolaeth morwr ieuanc o'r blaon o'r ardal hon, yn Neheudir America ac eto y mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth ei gefnder, sef Hugh Henry Jones, anwyl fab Mr. a Mrs. Evan Jones, adeiladydd, Plas Dolydd, Groes- lon, ger Caernarfon, yn 14eg oed. Perthynai i'r agerlong "St. Oswald." Gadawsant Lerpwl am Calcutta wedi cyraedd yno cymerwyd amryw o'r dwylaw yn glaf, ond aymudwyd hwy i'r clafdy yuo, lie y bu i'r anwyl Hugh farw wedi pedwar diwrnod o gystudd trwm o'r diarhcea (colera), ar y 24ain o Ionawr. Yr oedd yn forwr ieuanc gobeithiol, tyner, a hoff, ac yn aelod gyda'r Methodietiaid yn Bryn'r- odyn. Cydymdeimlir yn fawr gyda'i rieni a'i berthynasau oil yn eu profedigaeth lem. Duw lor a roddo nerth iddynt i ymostwng ac i ymdawelu. DYNES WEDI BODDI YN AFON CEPNI.— Dydd Mercher cynhaliwyd trengholiad o flaen Mr. R. Jones Roberts, ar gorff Mrs. Margaret Thomas, Penyrorsedd Road, yr hon a foddodd yn yr afon Cefni ddydd Llun. Yr oedd y drancodig yn 72 mlwydd oed, a dydd Llun yr oedd wedi myned i gasglu coed tan i dir Tregarnedd, a gwelwyd hi gan un Owen Jones oddeutu 5 o'r gloch y prydnawn, tua dwy filltir 0 Llangefni. Yn agos i 6 o'r gloch gwelwyd hi gan un Margaret Evans yn myned i gyfeiriad Llangefni. Gofynodd y tyst iddi fyned yr un ffordd a hi, i'r hyn yr atebodd y drancedig ei bod yn bwriadu croesi y oaeau, ao y byddai hi wedi cael ei the cyn i'r tyst gyraedd adref. Felly gadawodd M. Evans hi yn agos i Penyrorsedd, ond tuag wyth o'r glooh aeth y oymydogion yn bryderus, a rhodd- asant hysbysrwydd i'r heddgeidwaid, ae aeth dau i chwilio am dani. Daethant 0 hyd i'w chorfE yn yr afon Cefni, yn ngwaelod tir Penyrorsedd, He yr oedd y dwfr oddeutu tri chwarter Hath 0 ddyfnder. Dy- ohwelodd y rheithwyr reithfarn 0 "Cafwyddwedi boddi."
Advertising
PARLIAMENTARY PLANS. pARLIAMENTAll Y PLANS. D ANIEL OWJN AND COMPANY (LIMITED), WESTERN MAIL BUILDINGS, Q AliDUl, Are Prepared to EXECUTE PARLIAMENTARY AND OTHER PLANS with Accuracy and Despatch. 90580 JJANIEL 0 WEN AND CO (LIMITED), GENERAL AND FANCY STATIONERS, WESTERN MAIL BUILDINGS ST. MARY-STREET, CARDIFF. DANIEL 0 WEN AND (; 0 (LIMITED) HAVE A CAREFULLY SELECTED STOCK OP USEFUL AND FANCY ARTICLES FOR PRESENTS. urses, Pencil Cases, Pocket Hooks, Card Cases, Cigar Cases. Inkstands, and other Goods.
DEONIAETH WLADOL LLANBEDR.
DEONIAETH WLADOL LLANBEDR. Prydnawn dydd Mercher, wythnos i'r diweddaf, cyfarfyddodd pwyllgor yr adran hon o Gyfndeithas AmddiffynolEglwys Loegr. Llywyddwyd gan y Deon Gwladol, y Parch. Daniel Jones, M.A., ficer Lianbedr, ac ymhlith eraill yn bresenol yr oedd y boneddigion canlynol :—Parchn. D. D. Evans, B.D., Pencarreg H. Jones, Llanybyther D. Morris, Silian Jones, Gellan T. M. Evans, Prifatbraw Ysgol y Coleg Mri. D. Lloyd, Peterwell, Llanbedr D. F. Lloyd, B.A., yr ysgrifenydd; a J. G. Marsden, Duffryn, Silian. Cafwyd cyfarfod brwd- frydig. Penderfynwyd gwahodd Mr. W. Richards i'r ddeoniaeth i draddodi cyfres 0 ddarlithiau ar yr Eglwys yn Nghymru yn ei gwahanol agweddau. Disgwylir y bydd Mr. Richards yn gallu rhoddiyn agos i wythnos o'i amser-or lleg hyd yr 16eg 0 Fawrth-i'r ddeoniaeth a threfnwyd cynllun trwy ba un y bydd iddo ddarlithio yn Llanbedr, Coed- more (Pencarreg), Llanybyther, Cwrt Newydd (Llanwenog), a Chellan, Teimlai pob aelod o'r pwyllgor bwysigrwydd y mudiad. ac addawodd pawb yn wresog wneyd eu goreu er coroni y cyfar. fodydd S llwyddiant. Traether y gwir am yr Hen Faro, a hi a oroesa yr holl ymosodiadau a wneir ami y dyddiau hyn. Doed pobl o bob cred, ac yn enwedig yr Eglwyswyr, i'r cyfarfodydd a gynhelir i glywed beth ydyw y gwir. Yn arfog a'r gwirionedd nid oes eisiau ofni neb pwy bynag.-Gohebydd Achlysurol.
CENHADAETH YN SIR FRYCHEINIOG.
CENHADAETH YN SIR FRYCHEINIOG. Cynhaliwyd cenhadaeth, yr hon a barhaodd am ddeng niwrnod, yn y plwyfydd canlynol, sef Llan- defaelog Fach, Garthbrengi, Capel Isaf, Llanthew, Talachddu, a Battle, Y cenhadwyr oeddynt y Paroh. F. R. Lawson, ficer Clent, yn Saesneg, a'r Parch. A. Britten, ficer Mydrim, yn Gymraeg. Y mae yn dda genym ddweyd, a barnu oddiwrth y cynulliadau lliosog yn y gwaaanol wasanaetbau, fod y genhadaeth wedi troi allan yn llwyddiant per- fiaith, ymhell tuhwnt ein disgwyliadau. Ychwaneg- wyd at rif y oymunwyr ymhob Eglwys, deffrcwyd y difater, a dyfnhawyd y teimlad ysbrydol yn yr holl Eglwysi. Bydd yn dda genym weled Mr. Brittan a'i gyfaill yma eto oyn b'o hir, ac yn ddiameu y bydd ol eu llafur i'w weled yn fwy eto yn y dyfodol. Y mae'r llwyddiant crybwylledig y genhadaeth yn gefnogaeth i blwyfydd gwasgaredig fel yr uchod i gynal y cyfryw, a byddant yn sicr o fedi ffrwyth toralthiog oddiwrthynt, fel ag y mae pob gobaith y cawn ni yn y plwyfydd yma. Ar yr un pryd yr oedd y Parch. F. B, Grassendale yn oynal cenbadaeth yn Llanfrynach, yr hon a derfynwyd gyda'r Cymun Bendigaid boreu dydd Iau, yr 28ain cynfisol. Yr ydym yn olywed hefyd fod Rheithor gweithgar Llanfihangel Talyllyn a Llanwern wedi trefnu cenhadaeth yn ei blwyfydd, yr hon a barhaodd 0 Chwefror 2il hyd y 12fed. Y mae yn dda genym ddeall fod yr Eglwysi uchod oil yn orlawn, a'r gwrandawiad astud yn dangos fod y cenhadon yn cael dylanwad rhyfeddol ar y gwrandawyr. Nid oes un amheuaeth ynghylch oynydd yr Eglwys yn yr ardaloedd hyn, ac hefyd ei bod yn gryfach 0 lawer nag Ymneillduaeth. Ymlaen y mae hi yn myned er gwaethaf Ilid a gwrthwynebiad ei gelynion byddwn oil, yn offeiriaid a phobl, yn ffyddlon a diwyd, gan gofio addewid Pen Mawr yr Eglwys, Wele y byddaf ^yda chwi." "Filwyr ffyddlon Iesn, Ymlaen, ymlaen a chwi."
EGLWYS GYMREIG CAERDYDD.
EGLWYS GYMREIG CAERDYDD. Ychydig amser yn ol oyhoeddwyd fod careg sylfaen adeilad mewn perthynas a'r uchod wedi ei gosod gan Mrs. Lewis, y Palas, Llandaf. Dydd Llun tdiweddaf agorwyd yr adeilad fel Eglwys Genhadol hyd oni alluogir Cymry Oaerdydd i ad- eiladu Eglwys deilwng o'r dref. Dechreuwyd y gwasanaethau drwy weinyddiad o'r Cymun bendigaid gan Arglwydd Esgob Llandaf. Yn y prydnawn pregethodd y Parch. G. Roberts, B.A., Dowlais, i gynulleidfa ardderchog. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. M. Evanson (Merthyr Mawr), A. E. H. Hyslop, Caerdydd, vnghyd fi,'r Esgob. Yr oedd nifer fawro offeiriaid yn bresenol, ymhlith eraill y Parchn. F. J. Beck, J. L. S. Dawson, A. G. Russell, E. J. Jones, G. A. Jones, T. Davies, C. Jones, H. Morgan, Dr. Gibbings, a Proffeswr Jones. Yn yr hwyr pregethwyd gan y Parch, E. Thomas, Sciwen. Chwareuwyd yr organ gan Miss A. Williams, Tresillian-terrace. Hysbysir fod y Parohedig Broffeswr 0. Evans, o Goleg St. Dewi, Llanbedr, wedi ei apwyntio yn gaplan i Esgob newydd Caer. Yr wythnos ddiweddaf bu farw y Parch. B. Edwards, rheithor Ashill, awydd Norfolk, o fewn deng niwrnod i fod yn 100 mlwydd oed. Dyrcbaf- wyd ef i fywoliaeth Ashill yn y flwyddyn 1813. Graddiodd yn Nghaergrawnt 78 mlynedd yn ol-yn y flwyddyn 1811. Ysgrifenodd gohebydd o Zanzibar i'r Church Times yn hysbysu fod Dr. Smythies, Esgob Zanzibar, wedi oyraedd gartref i'r wlad hono ar y 26ain 0 Ionawr. Bwriada yr Esgob gymeryd y Parohn. D. Travers, a H. Geldart i lafurio yn nhir- iogaeth Mogil. Y mae yn penderfynu ymaflyd o ddifrif yn y gwaith yn y rhanbarth hono. Dydd Gwener, wythnos i'r diweddaf, cyfar- fyddodd pwyllgor gweithiol a Seneddol Amddiffyn- iad yr Eglwys, yn Swyddfa y Gymdeithas, 9, Bridge Street, Llundain. Llywyddwyd gan yr Hybarch Archddiacon Emery, yo yr oedd hefyd yn bresenol y Mri, T. Gordon, A.S., R. J. Moore, A.S., y Proffeswr Stokes, A.S., F. S. Powell, A.S., H. F. Nye, a'r Parch. J. Mitchell. Cafwyd ymddiddan ar amryw bynoiau, a ohyfiwynwyd adroddiad yn oynwys taflen o'r penderfyniadau a basiwyd yn ngwahanol gynadleddau esgobol yn ystod y flwyddyn 1888. Trefnwyd fod cyfarfod cyffredinol o'r cynghor i'w gynal ddyddiau Mawrth a Mereher, Mehefin y 4ydd a'r 5ed, yn y National Society House, Westminster. Y mae Mr. G. Woodcock, y cyfreithiwr o Coventry, yr hwn yn ddiweddar a gyfranodd 210,000 tuag at gronfa adgyweiriad Eglwys St. Michael, Coventry, yn awr yn oynyg pedwaredd ran yr holl gostau, yn ogysttrf ag haner yr arian angenrheidiol i adeiladu campanile o amgyloh y twr pcesenoL
! DYDD GWYL DEvVI YN LLANDUDNO.
DYDD GWYL DEvVI YN LLAN- DUDNO. Mae yn anhawdd deall beth yw'r cysylltiad rhwDg y Geninen a Dswi Sant, na'r priodoldeb o'i gwisgo ar Ddydd Gwyl Dewi. Ac y mae yn anhawddach fyth dyfalu pa lea a ddeilliaw oddi- wrth y wag-ymffrost boblogaidd yn y ciniawau blynyddol a gynhelir ar gorn yr wyl. Eled y geninen i'r cawl ac ymborthed y baldorddwyr gwladgarol (?) yma arno, ac yna, ond odid ceir llai o'r ynfvdrwydd—ffrwyth ysbrydoliaeth gan fwyaf y botel a'r cawe-bobi, sydd fel hunlle ar y wlad; a chaiff coffadwriaeth fendigedig yr hen Sant duwiol ei gadw yn fwy teilwng. Gwyl grefyddol Eglwysig ydyw Gwyl Dewi. Y mae yn golled lawr na b'ai Eglwyswyr yn gwneyd gwell defnydd ° honi nag y maenfi yn gyffredin. Mae yn achlysur priodol i ddysgu hynafiaeth yr Eglwys Brydeinig ac i ddangos ei chysylltiad di- dor â'rBrif Eglwys-yn gystal a thalu dioleb i Ben Mawr yr Eglwys am godi amddiffynwyr cedyrn i wirionedd yr Efengyl, ac ymdrechwyr zelog yn mhlaid y ffydd a roddid unwaith i'r saint. Da genym gael gosod gerbron ein dar- llenwyr grynodeb byr o sylwedd pregeth a dra- ddodwyd gan y Parch. W. Morgan (Penfro) yn Eglwys St. George, Llandudno, ar Ddydd Gwyl Dewi, sef dydd Gwener diweddaf. Nid rhaid i ffrwyth meddwl a chalon y bardd wrth lythyr canmoliaeth, oblegid ei fod yn llawn mor adna- byddns fel pregethwr melus, hyawdl, gafaelgar, a difrifol. Gweinyddwyd y Cymun Saectaidd yn yr hwyr, i gynal cyfarfod cystadleuol bychan cyfyng- edig i ysgolion y plw.vf, dan arvveinftd y Parch. W. Lewis (Gwilym Berw), a Penfro yn feirniad. Y llywydd ydoedd Mr. Littler, yr hwn sydd yn ffyddlon iawn i'r Eglwys Gymreig yn y plwyf. Y BREGETH. Trwyddi hi, y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto."—HEB. xi. 4. Cyfeiria y geirit-Li hyn at Abel gyfiawn, y cyntaf ar lechres hir "ardderchog lu y merthyri," a chyfrifir ef gan yr apostol yn mhlith cewri y ffydd dros ba un y rhoddodd ei fywyd i lawr yn aberth. Trwy genfigen a digasedd Cain ei frawd y rhoddwyd ef i farwolaeth, oherwydd i'w offrwm gael ei dderbyn a'i gymeradwyo gan Dduw, tra y gwrthodwyd ei eiddo ef. Y gwir reswm am dderbyniad ei offrwm oedd yr egwyddor ar ba un y'i cyflwynodd. Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain," a thrwy yr unrhyw ffydd, "y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto." Diau iddo offrymu ei aberth a golwg ffydd ar yr un aberth mawr a offrymid gan Oen Duw, yr Hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd." Rhaid i ninau wrth "yr unrhyw werthfawr ffydd ag yntau, cyn y byddo ein hoffrymau yn dderbyniol gan Dduw. Dyna oedd rhagoriaeth aberth Abel, a dyna ddirgelwch ein cymer- adwyaeth ninau gyda Duw. Y mae ymgais a thuedd naturiol mewn dyn am etifeddu anfarwoldeb. Dyma. yr hyn sydd yn enyn medrusrwydd y cerflunydd, yn anog ymchwiliadau y darganfyddwr, ac yn ysprydoli caniadau y bardd. Ond nid oes gwir anfarwoldeb i'w gyraedd ond trwy gyf- rwng ffydd. Etifeddion ffydd yw gwir etifeddion an- farwoldeb. Awgrymir hyn yn ddigon eglur yn yr hyn a ddywedir gan yr apostol am Abel, oblegid trwy ffydd, "y mae efe wedi marw, yn llefaru eto." Mae ei enw mor fyw heddyw ag erioed, a hyny oherwydd fod sel cymeradwyaeth y nef wrth ei weithred. Yr un modd os mynem i ddylanwad ein bywyd ddwyn effeithiau parhaol ar yr oesau dyfodol, fel, wedi ein marw, y byddo i'n gweithredoedd lefaru eto, gweddiwn am gael yr unrhyw ffydd ag a hynodai Abel gyfiawn. Yr ydym yn dysgu, gan hyny, y wers bwysig hon oddiwrth y 'testyn, mai etifeddu ffydd yw sail neu delerau etifeddiaeth anfarwoldeb. Nid gormod, feddyliwn, ydyw cymhwyso geiriau y testyn at y gwr enwog, c6f-wyl yr hwn a gedwir genym heddyw. Mae enw Dewi Sant mor fyw heddyw ag prioed, er fod mwy na 1,300 o flynyddau er y pryd y bu farw, a hyny o herwydd ei fod yn ddeiliad y wir ffydd, yr hon a sicrha. i'r henuriaid air da." Diau, iawn ydyw dywedyd, "y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto." Cawr diysgog ydoedd, ac amddiffynydd diwrth- dro yn mhlaid y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint." Prin y mae yn angenrheidiol nodi hanes ei fywyd, na theithi ei gymeriad gloyw, gan fod yr hyn a wnaeth a'r hyn ydoedd yn dra hysbys, ac yn hawlio yr aurhyd- edd a'r parch mwyaf digymysg. Nid ydys yn gwybod yn sicr pa bryd nac yn mha le y ganwyd ef, ond tybir yn gyffredin iddo gael ei eoi tua chanol y burned ganrif yn ardal Mynyw, neu Ty Ddewi. Yr oedd yn fab i Satdde, wyr i Ceredig, a gor-wyr i Gunedda Wledig. Ei fam oedd Non, merch Ynyr o Gaergawch, gwr enwog am ei dduwioldeb a'i haelioni tuag at wasanaeth crefydd. Ymddengys iddo gael ei addysgu yn more ei oes yn ngholeg Illtyd, ac wedi hyny yn athrofa enwog Pawl hen yn Nhy-gwyn- ar-Daf, lie yr oedd Padarn a Theilo yn gyd-ysgolheig- ion ag ef. Wedi aros fyno am yspaid deng mlynedd, ymneillduodd i'w hen fangre, a ffurfiodd gymdeithas grefyddol yn ardal y Rhos, ger Mynyw, lie y dywedir fod Dewi a'i gyd-aeledau yn nodedig am eu gweddiau, eu dirwest, a'u haelioni i'r tlawd. Ond yr hyn sydd fwyaf dyddorol i ni, a'r hyn a ddyry y bri mwyaf ar enw y gwr clodfawr hwn, ydyw ei ymlyniad wrth y ffydd, a'r ymdrech egniol a llwyddianus a wnaeth o'i phlaid yn yr hen Eglwyg Brydeinig. Oddeutu dechreu y chweched ganrif, ad- fywiodd heresi gyfeiliornus y Morganiaid, yr hon, yn nghylch can' mlynedd cyn hyny, a osodasid i lawr trwy ymdrechion Garmon a Bleiddyn, dau Esgob o wlad Gal, neu Ffrainc, y rhai a ddaethent drosodd i'r wlad hon ar gais Eglwyswyr Cymru i wrthwynebu pleidwyr y gau-athrawiaeth. Galwyd Cymanfa yn Mrefi, sir Geredigion, gan Dyfrig, Archesgob Caerlleon- ar-Wysg, i ba un y daeth goreugwyr yr Eglwys yn nghyd. Ond ni ellid gorthrechu rhesymau yr wrth- blaid hereticaidd hyd nes i Dyfrig a Deiniol, Esgob Bangor, ar awgrym Pawl hen, fyned i Fynyw i gyrchu Dewi i'r Gymanfa, yr hwn wedi ei ddyfod, trwy ei gadernid a'i hyawdledd, a hvyr-orchfygodd y gau-ath- rawiaeth, ac fel hyn a burodd yr Eglwys o'r cyfeil- iornad hwnw a btrasai anghydfod a blinder mawr yn mhlith ei haelodau. Yn ganlynol i hyn, rhoddodd Dyfrig ei swydd i fyny i Dewi, yr hwn felly a ddaeth yn Archeigob Cymru oil, ac a symudodd yn mhen ychydig, trwy ganiatad y Brenin Arthur, sedd yr Esgobaeth i Fynyw, yr hon wedi hyny a elwid Ty Ddewi, mewn anrhydedd i enw prif amddiffynydd y Ffydd Gatholig. Parhaodd yn ei swydd am lawer o flynyddoedd gyda'r dyfalwch mwyaf, ac yr oedd yn enwog am ddiehlynder ei fuchedd, purdeb ei grefydd, ac haelioni ei gymwynasgarweh. Bu farw mewn oed- ran teg tua'r flwyddyn 544, a byth oddiar ei farw; gellir dweyd ei fod, trwy ei ymdrech yn mhlaid ffydd hen Eglwys ein tadau, "yn llefaru eta." Mae bellach yn arferiad pur gyffredin i gadw gwyl St. Dewi mewn gwahanol ft'yrdd gan Gymry yn mhob man lie y byddont, ac ymffrostio ynddo fel nawdd-sant y genedl Gymreig. Ymddengys mai peth cydmarol ddiweddar ydyw ystyried St. Dewi yn y cymeriad hwn, er na raid i neb gywilyddio ei arddel fel y cyfryw, na beio neb am feithrin ysbryd gwladgarwch mewn cy- sylltiad a'i enw. Ond oni ddylid cofio ei fod ef yn rhywbeth mwy a phwysicach na gv7ladgarwr yn unig ? Yr oedd efe hefyd yn Eglwys garwr, ac yn garwr y ffydd yr hon a ymddiriedasid i gadwraeth yr Eglwys. Fel y cyfryw yr ydym yn ei edmygu, ac yn anrhydeddu ei goffadwriaeth, gan ddioleh i Arglwydd mawr yr Eglwys am iddo weled fod yn dda gymhwyso ei was a doniau cymhesur i'r oes derfysglyd yr oedd efe yn byw ynddi. Ac nis gallwn lai na datgan ein go-aitli nad yw y dydd nepell pan y daw Cymru oil, megis yr oedd efe yn Archesgob Cymru oil, i garu yr Eglwys or fronau yr hon y magwyd ef, ac i'r hon y bu efe yii ffyddlawn fab a chadarn amddiffynydd. Nid ydym yn cyfeiliorni wrth ddathlu coffadwriaeth gwyr cyffelyb i hwn. Er esiampl i ni yr ysgrifenwyd hanes eu gwrhydri. A phe na buasai dim arall, onid yw y ffaith fod Eglwys ein henafiaid, trwy en meibion gwro], megis St. Dewi, wedi cadw athrawiaeth iachus i ni yn yr oes hon, yn dywedyd ei bod o leiaf yn haeddu ei pharchu, ei eharu, a'i hamddiffyn ? Llef- ara llais ei meibion wrthym ni-" Mawrhewch eich breintiau, glynweh wrth y wir athrawiaeth, a chofleid- iwch y ffydd a draddodwyd "i chwi trwy ffyddlondeb yr Eglwys o dan gadwraeth Duw." Bydded i ni ym- debygoli fwyfwy i'r hen saint pybyr a fu'n sefyll yn ddewr ar furiau'r Eglwys yn yr oesau gynt. Safwn ninau yn benderfynol dros y gwirionedd, a chawn yn ein hachos ni, fel yr eiddynt hwythau, y byddwn wedi marw, yn llefaru eto." Enillodd Abel gyfiawn anfarwoldeb trwy ei ffydd. Dewi Sant a'i eniliodd trwy ei ymdrech yn mhlaid y ffydd. Boed i ninau ei enill yn yr un modd.
NODIADAU SENEDDOL. .
'wedi hyny galwodd sylw at yr arwerthiadau oeddynt wedi cymeryd lie ar ystad Penarlâg. ac at yr esgus gwag ac afresymol a roddwyd gan Mr. W. H. Gladstone dros beidio gostwng yr ardrethoodd-11 Pa ddiben gostwng yr ardreth a chefnogi y tenantiaid i ymsuddo ddyfnach, ddyfnach mewn dyled. Gofynai y Milwriad dewr—" Paham na wnai cyfeill- ion y tsnantiaid yn yr Iwerddon fyned i Sir Ffiint i ddangos eu cydymdeimlad a gweddw dlawd ?" Yr oedd y cyfeiriadau a wnaeth at yr hyn a ddigwyddodd ar ystad Penarlâg yn ddigymar. A yw yr hyn sydd yn ddrwg moesol yn yr Iwerddon yn iawn mewn ystyr foesol yn Nghymru?" Ni fyddai yn bosibl rhoddi gwell puzzle i'r philsophyddion Gladstonaidd. Yr oedd gwraig weddw yn Mhenarlag yn dal saith erw o dir, ac yn methu talu y rhent. Y flwyddyn ddiweddaf, dywedodd Mr. Gladstone ei bod yn gamwri ao yn greulondeb o'r mwyaf i wneyd i ddyn dalu £ 3 17s am saith acer yn yr Iwerddon, ond disgwylid i'r weddw dlawd yn sir Fflint dalu, nid £3 17s., ond e25 yn y flwyddyn I Yn sicr, y mae yr hen ddiareb Seisnig yn ddigon gwir-" Curses are like young chickens and still come home to roost." Mae y melldithion a ben- tyrwyd gan Mr. Gladstone ar ben y tir-arglwyddi Gwyddelig wedi dyfod adref i glwydo yn Mhenarlag. Siaradwyd yn mhellaoh dros ao yn erbyn y gwell- iant gan Mr. Dillon, Mr. Johnston; Syr George Tre- velyan, Mr. Stanhope, &-c., a gohiriwyd y ddadl hyd ddydd Mereher. PARHAD Y DDADL. Adnewyddwyd y ddadl ar welliant Mr. John Mor- ley dydd Meroher gan Mr. Canning, Is-Iarll Wolmer (yn erbyn), Syr J. Pease, &e. Cafwyd araith.alluog gan Gyfreithiwr Cyffredinol yr Iwerddon. Dygodd ystadegau ymlaen i brofi fod sefyllfa psthau yn gwella yn yr Iwerddon, a heriodd unrhyw aelod i brofi fod gweinyddiad y gyfraith wedi difuddio y Gwyddelod o'u hiawnderau ond yr oedd wadi bod yn oSorynol i adferu rhyddid personol i filoedd oadd wedi eu hamddifadu o hono. Y ptif siaradwr nos Iau oedd Mr. Chamberlain, a thraddododd araith certhol mewn amddiffyniad i wladlywiaeth Wyddelig y Llywodraeth. Ni ddylai tynged yt Ymerodraeth a heddwch yr Iwerddon gael ei adael i ymddibynu ar y owestiwn a oedd gwallt un o'r aelodau Gwyddelig wedi cael ei dori, neu a oedd un arall wedi nacau cymeryd ei bwyso. Yr amcan oedd gan yr Wrthblaid mewn golwg yd- oedd arwain meddwl y cynoedd oddiwrth bwnc mawr y ddadl, sef Home Rule. Yr oeddynt am i'r Ty lyncu y wladlywiaeth hono a'u llygaid yn gauad, ond gwrthodai wneyd hyny. Yr anhawsder mawr oedd Ulster; ao nid oedd gan y Llywodraeth hawl i drosglwyddo nifer mor liosog o'r bobl fwyaf teyrn- garcl i fod dan lywodraeth arall yn groea i'w dym. uniadau. Parhaodd Mr.JBradlaugh y ddadJ, a siaradwyd yn gryf yn erbyn y gwellianfc gan Mr. Mattison, yr aelod galluog dros ranbarth Walton a Wavertree, YB YMRANIAD. Siaradodd Mr. Gladstone nos Wener am yn agos i ddwy awr, ond nid oedd dim yn newydd yn ei araith. Gwadai yr angenrheidrwydd am Ddeddf y Trosedd- all, gwadai yr haeriad nad oedd yr Iwerddon yn gymwys i lywodraethu ei hun, a bod rfodaeth wedi gwella ei sefyllfa. Yr oedd Mr. Gladstone yn awyddus i gael barn y wlad ar driniaeth y earohar- orion Gwyddelig. Mae yr Ysgarwyr yn awyddus yn bresenol i gadw Home Rule yn y background, a gorohfygu y Llywodraeth drwy side-wind. Yr oedd Mr. Goschen yn ei hwyliau goreu, a chondemniodd yn ddiarbed yr iaith a ddefnyddiwyd gan Mr. Gladstone: mewn perthynaa i'r Plan of Campaign." Parhawyd y ddadl gan Mr. Rathbone, Mr. Seton- Karr, Mr. Parnell, ao amryw eraill, ac ymranodd y I Tyambum' munyd i ddeuddeg o'r glooh, pryd y cafwyd- Dros y Llywodraeth 339 Yn erbyn 260 Mwyafrif 79 I Gorchfygwyd gwelliant Mr. John Morley drwy fwy. aftif o 79. Yr oedd amryw o'r aelodau Undebol yn J Aoalluog i fod yn bresenol, aa yr oedd y mwyafrif I dan yr amgylchiadau yn fwy na'r diagwyliad. Bljtaid i'r Ysgarwyr dreio rhywbeth hoblaw cloi3 An i orchfygu y Llywodraeth. Beth nesaf ?