Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. Dydd Sadwrn diweddaf cynhaliodd Cymdeitbas yr Athrawon a Rheolwyr Ysgolion EglwysigArchddiacoD- iaeth Aberhonddu en cyfarfod tri misol yn Yegoldy y Genetbod dan lywyddiad y Parch. H. Williams, ficer y dref. Darllenodd yr ysgrifenydd, sef y Parch. H. Adamson, lythyr oddiwrth yr Archddiacon yn esgnsodi ei absenoldeb oherwydd ei fod yn Llundain yn Con- vocation. Derbyniwyd amryw o aelodan newvddion, ac yna cawsom wledd i'r meddwl gan y Parch. B. J. Burns, Abertawe. diweddar Arholwr Ysgolion. Ei destyn oedd Cynydd addysg elfenol yn ystod y 40ain mlynedd diweddaf." Yr oedd yr aelodan wrth en bodd, a phenderfynasant fod y papyr i gael ei argraffu yn y Brecknock Beacon. Ar of y diolchiadau arferol, terfyn- wyd gyda gweddi. Ciniawodd v rhai oedd yn bresenol yn yr Ystafell Blwyfol (Parish Room), lie yr oedd Mr. John Williams wedi parotoi yn ehelaeth ar eu cyfer.
DINBYCH.
DINBYCH. DYDD GWYL DEWI.-Mae y dref hon fel pob tref arall yn hoff o gadw i fyny yr hen arferiad 10 gynal gwleddoedd ar Ddydd Gwyl Dewi, sef y laf o Fawrth. Grssyn fod yr wyl hon yn cael ei hanmharchn gymaint yn ein plith. Pabam na wnawn fel Eglwyswyr, fel aelodau o'r Eglwys yn yr hon yr oedd St. Dewi yn Esgob duwiol ae enwog, gadw y laf o Fawrth yn wyl grefyddol ? Fath gyfleusdra gawsem i ddwyn ar gôf i'r werin rywbeth yn nghylch Esgob cyntaf Tyddewi, a'i waith fel Pen-bugail yn hen Eglwys ein tadan. Fath gyfleusdra gawsem i ddysgu banes yr Eglwys yn yr oesan boreol, a phrofi i'r cyhoedd nnoliaeth a phar- had hanesyddol yr Eglwys Gymreig. Yna, hwyrach, y clywsem lai gan Mr. Thomas Gee a'i gyfeillion am yr "estrones," fel y galwant hwy yr hen "Fam Eglwys" sydd wedi bod yn ein gwlad oddiar y canrifoedd cyntaf. Pe bai ychydig o offeiriaid a lleygwyr dylanwadol yn cymeryd y mater mewn Haw, deuai yn ddiamhen yn arferiad cyffredinol yn mhen ychydig amser i gadw rhyw fath o wyl grefyddol ar y laf o Fawrth. CLADDEDIGAETHAU.-Mae brenin y dychryniadau wedi bod yn brysar yma yn ddiweddar. Nid oedd dim Uai na phump o gladdedigaethan yn y dref hen yr wythnos ddiweddaf. Yn mhlith ereill, collasom Mr. Isaac Wil- liams. yr hwn a gladdwyd dydd Mawrth, y 26ain o Chwefror, yn hen fynwent Eglwyawen; a Mr. Angel, gweddillion marwol yr hwn a gludwyd i Dremeirchion. Heddwch i'w llwch. V PvnniN TCGT.WYBIG.—Noa Ian diweddaf. Hath .1 Fyddin uchod drwy wahanol ystrydoedd y dref, ac ar ei ffordd i St. Hilary, aroswyd am ychydig amser wrth y "Groes," pryd y cafwyd oynulliad llwyddianua a lluosog. Anerchwyd y dorf yn dra medrus ac effeithiol gan un o'r milwyr—Mr. R. Hughes, ac yr oedd Mr. Joseph Wynne yn arwain y canu yn ei hwyliau goren.
BETHESDA. I
BETHESDA. FICERDY ST. ANN'S.—NOS Lun, Chwefror 25ain, yn yr ystafell giniaw {dining room), lie byddid aiferol o gynal y Shagespeare Class, o dan nawdd Mrs. D. W. Thomas (Morfudd Eryri), cynhaliwyd cyfarfod adlon- iadol gan aelodau y Class, ynghyd & gwahoddedigion eraill, pryd y cafwyd cadroddiadan, ac areithiau diddan ac adeiladol. Y dadgeiniaid oeddynt:—Mrs. Thomas, Miss Thomas, Miss Daisy, Miss Myfanwy, a Miss Smith, y Ficerdy Miss Williams, Bodfeurig; Miss Ellis. Penrhyn House; Mr. a Mrs. T. Parry, Graiglwyd; Mr. Roberts, organydd, Glanogwen Mr. J. Griffith, Mr. R. Jones, H. Williams, a W. Jones. Cafwyd ad- roddiad hefyd-" The Light Brigade," gan y doniol a'r talentog Henry (Llew Ceraint), yr hwn a dderbyniwyd gydag nchel gymeradwyaeth. Y mae y Shakespeare Class yn cael ei gynal yn y Ficerdy, haf a gauaf er's blynyddoedd. Darllenir llawer o lyfrau eraill o nod- wedd uchel yn eu tro, heblaw yr un oddiwrth yr hwn y cymer y Class ei enw; treulir y rhan ddiweddaf o bob cyfarfod i gyfieithn o'r Saesneg i'r Gymraeg, ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Fel rheol. pan fydd y gwaith hwn yn myned ymlaen, bydd Mr. a Mrs. Thomas yn ei arolygu gyda'u gilydd weithiau, bydd oyfieithiadan wedi eu parotoi gartref gan yr aelodau, y rhai a arolygir ar yr un pryd. A phan ystyrir safle Mr. a Mrs. Thomas fel dyegawdwyr, hawdd yw dirnad faint y lies a'r daioni a wnaetharit i ieuenctyd y gymydogaeth hon. Y mae rhai wedi codi o ddinodedd i fod yn aelodau pwysig o gymdeithas, yr oil wedi ymddyrchafu'n nwch mewn dysg, rhinwedd, a moes, a'r oil yn wasanaeth cariad, heb arian ac heb werth." Beth pe byddai y brygawthwyr hyny sydd yn cadw cymaint twrf a stwr ynghylch "Cymru Fydd," yn eu hefelychu, trwy weithio'n dawel ac yn ddidwrf er diwyllio a ofcoethi ieuenctyd ein gwlad. Y fath genedl hardd a dyrchaf- edig a fyddai "Cymry Fydd." Hir oes i Mr. aMra. Thomas, a Duw yn rhwydd iddynt hwy a'u teulu 4edwydd, yw gwir ddymniiiad-.Disgybl. CYFARFOD ANRHEGU MR. A MRS. PARRT.—Dydd Gwyl Dewi, yn yr YstafeU Geidwadol y cynhaliwyd y cyfar- fod nchod. Yr oedd yr ystafell wedi ei haddarno yn brydferth, ac, wedi ei gorlenwi ymhell cyn amser dechreu. Cymerwyd y gadair gan Mr. T. H. Owen, Brynllwyd, a gwnaeth sylwadan ar nniad Mr. Parry a Miss Roberts mewn glin briodas. Gwnaeth sylw o Mr. Parry fel dyn a Cheidwadwr parod bob amser ymhob modd i gynorthwyo pawb, ac nad oedd yr ardal wedi d'od i'w adwaen yn briodol, chwaitbach ei werth- fawrogi. Sylwodd ar allu Mr. Parry fel ysgolor ac areithiwr yn y ddwy iaith, a'i fod yn eofn tros yr hyn a gredai oedd yn iawn. Yna, ar ran y pwyllgor, cyflwyn- odd Mr. Owen oriawr aur ardderchog i Mr. Thomas Parry. Yr oedd yn gerfiedig ar yr oriawr mai ewyllys- wyr da a'r Gymdeithas Geidwadol oedd yn ei rhoddi. —Darllenwyd llythyr oddiwrth y Milwriad West, Bangor, yn datgan ei ofid nas gallasai fod yn bresenol, ond fod cyfarfod arall ag yr oedd yn rhaid iddo roddi ei bresenoldeb ynddo, nen bnasai, gyda phob hyfrydwch, yn rhoddi ei bresenoldeb.—Dr. Lloyd a wnaeth ychydig sylwadan dyddorol a phwrpasol, gyda dymnniadan goraf i Mr. a Mra. Parry.—Mr. M. WilliamB a sylwoid fod rhinweddau a chymwyaderau Mr. Patry wedi cael eu traethu eisoes, ac nas gallasai ef pe y siaradai, ond ail ddweyd yr un peth ond fod cymdeithas Geidwadol Bethesda yn cael ei dyrchafu ymhob man y bu ef ar ol Mr. Pariy, a'r ffaith fod y gymdeithas yn galln anfon allan ddynion mor alluoga Mr. Parry yn profi fod y gymdeithas yn meddu safle ganmoladwy.—Yna cododd Mr. Thomas Parry ei hunan, ynghanol cymeradwyaeth uchel, ond dan deimlad dwys, i ddiolch i bawb am y teimladan da a ddangoawyd tuag ato ef a'i briod yn yr amgylch- iad. Dywedod mai anfynych y mae un o'i safle ef yn cael cymeradwyaeth mor gyffredinol gan wreng a bonedd. Ystyriai nad oedd efe yn teilyngu y fath barcb. Ir oedd yn teimlo yr nn mor ddiolcbgar i'r rhai oedd wedi datgan en hanallu i gyfrann fel i'r rhai oedd wedi cyfranu at ei dyeteb; a beth bynag a wnaeth ei fod wedi ei wneyd yn y golen, ei fod wedi gweithreda yn deg a gonest. Os y gallai fod o ryw wasanaeth yn y dyfodol i'r achos Ceidwadol ac i bereonau unigol, yr oedd yn barod i wneyd.—Mr. Robert Jones, Pen-y-groes, a ddatganai ei adnabydd- iaeth o Mr. Parry er's blynyddau, ei fod yn credn nad oedd un gweithiwr yn Nghymru mor alluog a Mr. Parry i amddiffyn ei egwyddorion. Er nad oedd wedi cael nacjysgol na choleg, ond wedi ymdrechu nea y mae wedi cyraedd safle anrhydeddns, Nid doeth anfon pob dosbarth allan ar Iwyfanau i areithio, fod boneddigion a dysgedigion ymhlith pob cyn- ulleidfa, ond fod Mr. Parry yn allnog i droi ar y llwyfariaa y bydd pob gradd o bendefigion yno. Cododd Mr. Parry yn eBiampi o flaen dynion ieuaiuc i'w ddilyn i ddiwyllio en hnnain.—Darllenwyd llythyr oddiwrth Mrs. Thomas, Ficerdy, St. Ann's, yn gofidio nas gallasai hi a'i phriod fod yn bresenol, a rhoddodd ganmoliaeth uchel i Mr. Pairy. Dywedai fod dyn fel efe yn anrhydedd i'r plwyf. Ymhob peth yr ymaflai Mr. Parry yr oedd ol diwylliad arno.—Yna awd ymlaen a'r rhaglen ganlynol:-Cydgan, I Rhyfelgyreh Gwyr Harlech,' gan y dorf; unawd, 'Codiad yr Ehedydd,' Miss Thomas; unawd a chydgan, 'Dydd Gwyl Dewi,' EOB Ceraint a'i barti; can, 'Bwthyn bach melyn fy nhad,' Miss Ellen. J. Roberts unawd, I Alawon fy ngwlad,' Mr. Thomas Price Thomas; unawd, Llwyn Onn,'Mrs. Sophia Roberts: pedwarawd, I Naiiwaith lawen/ Alaw Llechyd a'i barti, a bu rhaid iddynt ail gann; alawon (cyfaddasiad i'r amgylchiad) gan y String Band; unawd, I Yn iach i ti, Gymrn,' Misa J. Roberts; detlawd, I Hen Forgan a'i wraig,' mewn hen ddiwyg Gymreig, nes cren dyddordeb mawr, a bu raid ail ganu unawd ar y berdoneg, «Clychau Aberdyfi,' Miss Ellis unawd, O, cuddia fi,' Miss E. J. Thomas, a bn raid iddi ail ganu; canu penillion. Nos Galan unawd, I Caru'r Ueuad,' Mr. Robert Jones, Bryn Villa. Chwarenwyd ar y berdoneg gan Mr. John Roberto, Glanogwen, Miss Roberts, Menai Bridge, Meinwen Llechyd, ac Eos Ceraint. Ar ol y diolchiadau arferol i'r llywydd ac i'r ysgrifenydd gallnog, Mr. J. C. Roberts, canwyd 'Tywysog Gwiad y Brynian. Gohclnjdd.
CWMAFON.
CWMAFON. SWPER I GOB EGLWYS YR HOLL SAINT.-Nos Iau di- weddaf rhoddwyd swper ragorol i'r cor nchod yn ysgoldy y bechgyn. Gweinyddwyd wrth y byrddan gan Mrs. Harris, yr organyddea, yn cael ei;chynorthwyo gan amryw foneadigesan perthynol i'r cor. Wedi i bawb o honynt gael eu digoni o'r trngareddau daionua hyn, cliriwyd y byrddan er mwyn cael cyfarfod adlon- iadol. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan amryw o aelodau y cor hwn, megis Mri. Harris, arweinydd y co?, Barrow, Winder, SaunderB, White, a Lewis, Cynygiodd y ficer, y Parch. John Griffiths, D.G., iechyd da Mr. a Mrs. Harris, gan gyfeirio at ffyddlon- deb y ddau mewn cysylltiad a'r canu yn yr Eglwys. Cynygiodd Mr. J. S. Lewis iechyd ein Ficer parchus, ynghyd ag iechyd ei anwyl briod, Mrs. Griffiths, a Mrs. Sinnett, Llandovery, merch ein Ficer. Siaradodd Mr. Lewis am weithgarwch y Ficer, am garedigrwydd Mrs. Griffiths, ac am y pleser mawr o gael gweled Mrs. Sinnatt nnwaith eto gyda y cor hwn. Felly treuliwyd noson ddifyrns iawn a phawb wrth fodd ei galon. I derfynn y cyfarfod canwyd yr Anthem Genedlaethol, ac aeth pawb tua chartref wedi en llwyr foddloni. Melus, moes eto.—John Alaft Davies.
TALYSARN, NANTLLE.
TALYSARN, NANTLLE. Dydd Linn, y 25ain o Chwefror, cynhaliwyd am y waith gyntaf, gyfarfod chwarterol undebol yn Eglwys St. loan. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid am 8.30 yn y boren, gan y Parch. John Hnghes, B.A. Am 10.39 darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. H. E. Williams, Llanaelhaiarn, a'r llithoedd gan y Parch. James Salt, Port Dinorwig, a phregethwyd gan yr olaf. Am 2.30, cafwyd anerchiadau. Dechreuwyd y cyfarfod hwn trwy i'n hoffas reithor, y Parch. M. Roberts. ddarllen amryw golectau, ac yna cyd-gann emyn. Darllenodd Mr. Augustus Jones, Trevor, bapyr ardderchog bl Ddyleaswydd* cynulleidfaoedd Eglwysig i roddi en j presenoldeb yn yr Ysgol Sul." Siaradwyd yn mbeilach ar y testyn gan y rhai canlynol :-Mri. Robert Hnghes, Penygroes; Robert Parry. Talysarn; Evan Jones, Talysarn, a'r Parchn. H. E. Williams; James Salt; R. HugheB, Penygroes; John Hughes, Talysarn, a Morris Roberts.. Terfynwyd y cyfarfod hwyliog a brwdfrydig hwn trwy ganu emyn. Penderfynwyd fod y cyfarfod nesaf i gael ei gynal yn Trevor. Llanael- haiarn. y Parcb. J. Hughes, Talysarn. a Mr. John Roberts, Penygroes (arolygwr yr Ysgol Sul), i ddarllen papyrau ar Cyfarfodydd ysgolion, a'r wodd goreu i'w dwyn ymlaen." Penodwyd Mr. Augustus Jones, Trevor, i fod yn ysgrifenydd yr Undeb. Am saith yn yr hwyr, llafarganwyd y gwasanaeth gan y Parch. John Hnghes, darllenwyd y llithoedd gan y Parch. R. Hughes, Peny- groeB. Rhoddwyd yr emynau allan gan y Parch. M. Roberts, a phregethwyd gan y Parch. R. Williams, Beddgelert. Gwnaed casgliadau tuag at draul y cyfar- fod. Cafwyd cynulleidfaoedd lliosog (yn enwedig yn yr hwyr), cann da, a phregethau grymns a difrifoliawn. Canodd y cdr yr anthem Mor weddaidd ar y mynydd- oedd yn ganmoladwy. Chwareuwyd ar yr harmonium, yn y boren gan Mrs. John Hughes Church View, ao yn y prydnawn a'r nos gan Mr. John Griffiths, Jorganydd. Gwnaeth Eglwyswyr St. loan roddi eu tai yn agored i'r dieitbriaid oedd wedi dyfod i'r cyfarfod, a thrwv hyn yr oeddynt yn arbed arian mawr i'r Undeb. Diolch yn fawr iddynt am en caredigrwydd.
HENLLAN AMGOED, AC EGLWYS…
HENLLAN AMGOED, AC EGLWYS FAIR A CHURIG. Bwriedir cynal gwasanaethan yn yr eglwysi uchod yn ystod y Garawys. Disgwylir offeiriaid dieithr i bregethu yn ystod y tymor.
LLANFAETHLU.
LLANFAETHLU. Nos Ian, yr 21arn o Chwefror, yr oeddwn yn llygad dyst o gyflwyniad tysteb i Mr. Daviea, diweddar gurad Llanfaethlu a Llanfwrog, yn yr ysgoldy perthynol i'r plwyfydd hyn. Yr oedd y noswaith yn braf, y cyfarfod yn lliosog, a'r teimladau yn fwy na hyny. Cawsom anerchiad rhagorol a phwrpasol iawn gan y cadeirydd ar ddechren y cyfarfod, a chawsom areithiau campus gan eraill o'r gynulleidfa, a chan Mr. Davies ei han. Yr oedd y boneddigion a'r boneddigeBau yn llawn o deim- lad rhagorol o garedig. Cyflwynodd y cadeirydd y rhodd yn y modd mwyaf caredig, sef desc yBgrifenu ardderchog a phencil arian hardd. Casglwyd yr arian gan Misa Jones a Miss Maggie Jones, y Western Heights, Llanfaethlu. Gwnaed yr holl waith gan y ddwy. Yr oedd Mr. Davies yn deilwng o'r rhodd hon oddiar einllaw ar ei ymadawiad i Llangefni. Yr ydym wedi colli nn o'r darllenwyr goreu yn yr ynys, a phre- gethwr grymus a hoff droa beu. Un o'r plwyf.
LLANFWROG.
LLANFWROG. CLADDEDIGAETH.—Dydd Sadwrn diweddaf, cludwyd gweddillion marwol Margaret Williams, anwyl briod Edward Williams, clndydd, ar ol cystudd byr, i Eglwys Llanfwrog. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y rheithor, y Parch. J. F. Beece. Cafodd gladdedigaeth fawr, yr hyn oedd yn profi ei bod yn hynod barchus, fel yr oedd mewn gwirionedd. Cerid hi yn fawr gan bawb yn enwedig gan bobl onest, egwyddorol, a theimladwv oblegid yr oedd yr ymadawedig yn hynod ddidderbyn- wyneb, yn ofni Dnw ac yn cilio oddiwrth bob drygioni Pe byddai mwy o'i bath yn y byd, y fath fyd dedwydd a chysurus fyddai hwn. Duw fo'n gysur, yn nerth, ac yn ddiddanydd i'w gweddw, ei phlant, a'ipherthynaaau Y mae hyn yn rhybudd i bawb i fod yn barod."
HENDY GWYN AR DAF.
HENDY GWYN AR DAF. Heddyw (Llun) y mae y ddaear wedi ymwisgo yn ei gwigg wen, a phob argoel y cawn gwmpeini'r eira am ryw gymaint, ond y mae yn naturiol iawn am ei fod yn dymhoraidd. Nis gallwn ysgrifenn lIawer heddyw am fod afiechyd yn y teulu, a'n bod yri disgwyl y meddyg i mewn bob munyd. Da ni, fy nghyd-Eglwyswyr, gwnawn yn fawr o'r adeg. Mewn iechyd gelwir arnom i weithio dros Grist. Fe ddaw selni i'n cyfarfod i gyd. Pryd hyny bydd amser gweithio wedi myned heibio am byth, canys mewn cystudd dioddef yn amyneddgar a ddisgwylir oddiwrthym.
BEESHAM.
BEESHAM. ETHOLIAD BWRDD YSGOL-Dydd Mercher diweddaf y cymerodd yr etholiad nchod le. Yr oedd 13 o ym geiswyr am saith sedd, ac ar gyhoeddiad y p61, saif vr ymgeiswyr Uwyddianus fel y canlyn:—Mr. Jesse ymgeiswyr Uwyddianus fel y canlyn r. Jesse Roberts (C.), Higher Berse, 1,066; Mr. J. Wilcoxon (C.), Coedpoeth, 841; Mr. W. Patteson (C,), Rhos. tryfan, 787; Mr. B. Hamson (R.), Coedpoeth, 665 Mr. Hugh Jones (R.), Coedpoeth, 665; Mr. J. F.Rogers 583; Mr. Ellis Abraham (R.j, Frondeg, 565 Mr. George Gibbons (C.), Adwy, 470; Mr. J. M. Phillips (C.), Aberhafody Fach, 408 Parch. Celynydd Rees (R.), 349; Mr. Thomas Navies (R.), Coedpoeth, 222. Etholwyd y saith blaenaf. Buddugoliaeth ar- dderchog oedd hon i garedigion addysg grefyddol mewn rhanbarth mor Radicalaidd. Na laeBwch eich dwylaw fechgyn, ond addysgwch y genedl trwy ddangos iddynt mai baich costus a distigenrhaid yw y Bwrdd Yegol. <
LLANBEDR.
LLANBEDR. CYMDEITHAS GERDDOROL COLEG DEWI SANT.—Nos Wener diweddaf, cynhaliwyd cyngerdd yn Neuadd Yegol y Coleg gan aelodan y gymdeithas uchod, dan arweiniad y Parch. O. Evans, M.A. Yr oedd yr ystafell wedi ei haddurno yn dlws iawn gan arwydd- eiriau cyfaddas i'r diwrnod, sef Gwyl Dewi Sane, &c Yr oedd yr ystafell hefyd wedi ei llenwi yn gysuruB iawn erbyn amser dechreu. Cafwyd cyngherdd ysblenydd, ac yr oedd y canu bywiog a soniarus yn ad- lewyrchu clod ar yr arweinydd parchus, a'r trefniadau yr un modd ar y pwyligor. Aethpwyd trwy y rhaglen yn hynod o hapua, fel yr ymadawodd pawb wedi eu llwyr foddhau. Yr oedd yn un o'r cyngherddau mwyaf llwyddianus a gafwyd eiioed yn Llanbedr. Yr cedd y rhaglen fel a ganlyn Cydgan, • Nyni yw'r meibion cerddgar,' y Cor (Meibion); unawd, Nid oes aruaf ofn yr un gelyn,' Mr. Charles Jones unawd, 41 dream'd a dream,' Miss C. M. Edmondes cydgan, 'Cydgan y Morwyr,' y Cor (meibion); rhangan, 'Ffarwel i ti Gymru fad,' yCor; Recit. ac Aria, 'Llwybr yr Wyddfa,' Mr. Edward Evans; deuawd, Mae Gymru'n barod ar y wys,' Mri. J. Jones a Evans can, I What tho' I trace each herb and flower,' Miss Lloyd; cavatina, 'Come into the garden, Maud,' Mr. D. W. Evans cydgan, Soldiers Chorus' (Faneit), y Cot unawd ar y berdoneg, Tarantelle,' Miss Evans aria, 'Sound an alarm,' Mr. J. R. PhillipB; can, 'Light in darkness,' Miss C. M. Edmondes cydgan, 'We never will bow down,' y Cor can, The garden of sleep,Miss Lloyd; can, 'Nazareth,' Mr. Charles Jones corawd, Gloria,' 12th Mass, y cor. Cyfeiliwyd yn ardderchog ar y berdoneg gan Miss Evans, ac ar yr harmonium gan Mr. R. E. Owen.-H.
TYDWEILIOG.
TYDWEILIOG. Nid yn fynych y daw i'n rhan i fwynhau cyngerdd uwchraddol a chlasurol yn y wlad o nodwedd yr un a gawsom yn Ysgoldy y lie uchod, nos Wener diweddaf- Dydd Gwyl Dewi Sant. Wedi cael anerchiad hynod bwrpasol i'r achlysnr gan y llywydd, sef y Parch. John HugheB, poblogaidd a pbarchus Ficer y plwyf. Cymer- wyd arweinyddiaeth y cyfarfod gan Ap Morus, Llan- gwnadle, ac aed trwy y rhaglen chwaethus a rhagorol er boddlonrwydd mawr i'r dorf liosog. Cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan y Mri. Benskin, Pwllheli; Tempest, Llanarmon; Renfrey, Bodfean; Owen a'i gyfaill O'r Grasfryn House, Pwllheli; R. Owen Tow T. Roberts, Bryntirion; Thomas Hughes, Pentre; Miss Ellen Roberts, Ficerdy, Aberdaron, a choran meibion dan arweiniad Mr. Williams, ysgolfeiBtr y lie, a Mr. John Roberts, Mynachdy. Chwareuwyd amryw ddarnau clasurol yn awynol iawn gan Miss Hughes, Ficerdy, a dilynwyd y cantorion ar y berdoneg gan Miss Annie Williams, Ysgoldy. Tystiolaeth nnfrydol pawb ydoedd mai hwn oedd y cyngerdd goreu a gynhaliwyd yn y gymydogaeth erioed, oherwydd hyn nid rhaid ychwan- egu i bawb wneyd ei ran yn ganmoladwy iawn, ae i bawb gael boddlonrwydd hollol yn y gweithrediadau oil. Rhoddwyd gwledd ddanteithiol i'r cantorion ar ol y cyfarfod yn yr Ysgoldy a'r Ficerdy, a diamen y bydd cof melus am Ddydd Gwyl Dewi, 1889, adreuliwyd mor bynod ddifyrua yn Tydweiliog gan lawer heblaw eich— dohebydd. [Danfonwyd y farddoniaeth i'r Golygydd Barddol — GOL.].
LLANAFAN-Y-TBAWSCOED.
LLANAFAN-Y-TBAWSCOED. MARWOLAETH.—Noa Wener, Chwefror 22ain, bu farw Mr. David Richards, o Penrhiw, a chladdwydef y dydd Mawrth canlynol yn mynwent eglwys y plwyf. Dar- llenodd y ficer benod, ac aeth i weddi, a chanwyd yr emyn, Mae nghyfeillion wedi myned," ar yr hen don "Eiflonydd," wrth y drws. Yna aethpwyd i lawr tua'r fynwent. Yn yr eglwys canwyd yr hen don "Alexan- der H ar y gair, 0, lachawdwr peohaduriaid," &c., a chwareuwyd yr harmonium gan Mrs. W. J. Williams, y Ficerdy. Ar Ian y bedd canwyd yr emyn, Myfi yw'r Adgyfodiad mawr." Yr oedd lliaws mawr o bobl wedi dyfod ynghyd i dalu iddo y gymwynas olaf. Yr oedd yr ymadawedig yn fab i'r clochydd presenol, yr hwn sydd yn awr yn 20 mlwydd oed. Bu am flynyddau yn glanhau a chadw yr eglwys a'r fynwent mewn trein, a theimlai ddyddordeb mawr yn y gwaith. Bu am un mlynedd ar hugain yn filwr yn y 69ain Gatrawd o Wyr Traed yn yr India a'r Ynysoodd Gorllewinol, a mwyn- haodd ilwydd-dat (pension) am oddeutu ugain mlynedd oddiwrth y Llywodraeth. Cafoddgystudd caled, ond dioddefodd yn amyneddgar a thawel hyd y diwedd. Nos Sul diweddaf traddododd y ficer, y Parch. W. J. Williams, B.A., bregeth angladdol ar y testyn, Yna y dychwel y pridd i'r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at Dduw, yr hwn a'i rho'es ef." Rhoddodd Miss Gardiner groei; o flodau, a Miss Richards, Panty- ffynon, a Miss Richards, Dolauhaidd, blethdorchan ar ei fedd. Heddwch i'w lwcb.
LLANDILO.
LLANDILO. CYFARFOD ADLONIADOL.=NOS Ian diweddaf mwynbas- om an o'r cyfarfodydd adloniadol gorea a gafwyd er's blynyddau gan aelodan dosbarth Beiblaidd yr Eglwys, Ffarnwyd y dosbarth Beiblaiddgan ein carad, y Parch. Mr. Evans, tna naw mis yn ol, yr adeg y daeth ef i'n plith, ac y mae yn awr mewn sofyllfa lewyrchus iawn. Rby fach o gefnogaeth y mae Mr. Evans yn dderbyn oddiar ddwylaw y rhai hyny ag sydd yn proffesu en bod yn gwneuthur daioni. Oddiar yr adeg yr ymsefydlodd yn ein plith, y mae wedi dangos i bawb ei fod yn weithiwr o'r iawn ryw. Yn y prydnawn cafodd y per- formers wledd hyfryd a danteithiol ode a bara brith yn y Brisken Villa, preswylfod Mr. Evans. Gwasanaeth- odd Mrs. Evans a Miss E. M. Davies wrth y byrddan. Ar ol mwynhan en hunain ar y wledd flasus aethant i'r YsgoldyGenedlaethol i barotoi gogyfer a'r enteriain- ment. Erbyn yr amser yr oedd yr ysgoldy eang yn or- lawn 9 wrandawyr astnd, ac aeth pob un o'r, bechgyn trwy. ei waith yn ganmoladwy. Parodd y Mri. M. Morris, Ll. Jones, a F. L. Lafferty gryn chwerthin pan yri actio. Cyfeiliwyd ar y berdoneg gan Mrs. Evans. Ymwahanodd pawb, ar ol canu yr Anthem Genedlaeth- ol, wedi eu llwyr foddloni, a'n dymuniad ydyw cael ey- farfod o'r fath yn fuan eto. Yr ydym wedi oael ar ddeall eu bod ya bwriadn cynal un eto taa diwedd miB EbnlK Y mae clod nid bychan yn ddyledus i Mr. a- Mrs. Evans am ea hegni a'u llafnr dinino gyda'r plant yn en haddysgu ar gyfer y cyfarfod. Nid gwaith bychan a hawdd ydyw dysgu cynifer o ra; mor ienanc i berfformio fel y gwnaethant. Dymnnwn bob illwydd- lant iddynt yn y dyfodol.- Un oedd yno.
EGLWYS NEWYDD.
EGLWYS NEWYDD. Nos Ian wythnos i'r diweddaf, traddodwyd darlith y Parcb. J. C. Owen, yn nghapel tenluaidd yr Hafod, ar y testyn, Y modd y cawsom y Beibl." Elai yr elw at ddilen y ddyled sydd yn aros ar yr eglwys. Canwyd can-gan gan y cor, dan arweiniad Mr. W. Ish- mael, ynghyd â. deuawd gan y Mri. DavidMessera John Ishmael. Cadeiriwyd gan Mr. Waddingbam. Diweddwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. RA? BWRDD SIROL.—-Fel y prophwydwyd yn barod, Dr. Edward Joneavdyw y cadeirydd. Darfn i'r oraelau weithio yn ardderchog, a 11 wyddwyd i droi heibio Mr. Pope, wedi iddo gael tamaid bach blasos o sebon meddal. Wei, diamheu y gwna y Doctor ei waitb cystal a neb. Ei nnig fai yw troi pob peth yn bolitics, ar rhai hyny o'r fatb waethaf. buasai ychydie yn fwy cymedrol yn ei olygiadau, ni bnasai lie i cwyno ond garyr y Doctor yn rhy dda mai ar gefn pethau fel yna y gall efe farchogaeth y dyddiau presenol, a Uiwia y fagi yn gampus i ddal yr adar. DIRWEST.- Y mae cyfeillion dirwest yn gweithio yn egniol yn y dref hon, ac y maent yn haeddn pob cefnog- aeth. Y mae y Temlwyr Da wedi bod ar y maes am amser maith, ac wedi gwneyd eu hoi ar y lie. Yn-ddi- weddar bn Plenydd yn eu plith, a gwnaeth araith beni- gamp, nes gwefreiddio ei wrandawyr. Hen law gyda'r gwaith hwn ydyw Plenydd, ac y mae yn werth gwrando arno bob amser. Ac felly y tro hwn. Gobeithio na fydd yn hir heb ddyfod yma eto. O'r diwedd y mae yr Eglwyewyr wedi deffro ychydig yn y cyfeiriad hwn. Lied hydenr nad yw ond dechreu pethau gwell. Nos laa diweddaf cadwasant gyfarfod, pryd y cadeiriwyd gan y Rheithor. Arwr y cyfarfod ydoedd y Parch. E. Hughes, rheithor Abermaw, yr hwn a driniodd ei mewn agwedd anianyddol. Dangosodd mewn modd eglur, trwy arbrawfion fferyllol, yr effeithiau oedd alcohol yn gael ar y cyfansoddiad a'r corff dynol. Nid oedd, meddai ef, yn faeth na bwyd o un math, ac yn fwy na'r cwbl yr oedd yn niweidiol i iechyd wrth ei gymeryd yn ormodol. Yr oedd ei araith yn ddyddorol, yn addysgiadol, a cbymedrol, a chafodd dderbyniacl croesawgar iawn. Gwnaeth Rheithor y plwyf sylwad- au pwrpasol, a chefnogodd pawb i wneyd a alio ymbob modd er hyrwyddo sobrwydd, ac alltudio meddwdod o'n gwlad. Y mae rhyw sibrwd allan y bydd cyfarfod eto gan yr Eglwyswyr ar nos Iau, y Meg, yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, pryd y disgwylir y Parch. E. 1\ Davies, Aberdyfi, i areithio ar y pwnc. Gobeithio yn fawr y ceir cynulliad da. Bydd Mr. Davies yn sicr o fod yn werth gwrando arno, canys y mae efe yn ei elfen wrth drafod y pwnc hwn: glm ei fod yn llwyrymwrthodwr trylwyr er's llawer iawn o flynyddoedd. Y GARAWYS.—X mae y tymor hwn wedi dyfod yn ei droeto. Nis gwyddis yn iawn hyd Sul nesaf pa gyn- llnniau sydd gan y Rheithor fel cynorthwyon i dreulio. y tymor hwn yn briodol. Anhawdd fydd iddo roddi ychwaneg o wasanaethau a chyfarfodydd, gan fod pob noswaith yn yr wythnos yn llawn, ond nos Sadwrn. Ond y mae yn Bier y bydd digon o gyflensderau eleni. fel pob blwyddyn, i fod yn fynych yn y T a chyda'r gwaith da. Y mae son y bydd dieithriaid yn pregetbn bob nos Fercher. Amser a ddengys. Bydded fod ffyddlondeb yn cael ei ddangos gan bawb ymhob petb. a cheir gweled ff rwyth oyn b'o hir,
FFESTINIOG A'R CYFFINIAU.
FFESTINIOG A'R CYFFINIAU. „ArDD,SlE°TTI^EI,RI0N?nT,~r!i^wyliad mawr oedd yn Maentwrog Uchaf am i'r Parch. G. Ceidiog Roberts, gweinidog y Methodistiaid, gael ei ethol yn gadeirydd. nen o leiaf yn is-gadeirydd, y Bwrdd, gan y meddir fod C? a 1W ,a ^°d yntau yn dlawd; ond ni chafodd, drnan, gymaint a'i roddi ar nnrhyw bwylleor chwaethach yr anrhydedd hwnw. Rbyfeddach fyth fod Mr. Davies, Cae'rblaidd, yn cael ei ethol broll ar bob pwyllgor, ac yntanyn Eglwyawr. PROSRLYTIO.—Dywedir pethau chwerwon iawn am broselytio yn Maentwrog, ac eto y mae pob enwad yn enog o'r amryfusedd. Y mae gan bob un amryw aelodan ag oeddynt nnwaith yn perthyn i enwad araL er y collfarnant y gwaith hwnw yn enbyd os aiff rhyw enwad a rhai o'u haelodau hwynt; Tybir mai yr Eg- lwys sydd waethaf yn y camwedd, er tod y lleill i gyd wedi dwyn ei haelodau hi yn yr araser gynt. J PLWYF EGLWYSIG ST. DEWI.—Teimlir gryn dipyn o ddyddordeb am na chaiff preawylwyr y Blaenau bawl i gladdu en meirw dan y drefn newydd yn hen fynwent y plwyf heb dalu, Nid oes, derfvn ar baerllngrwydd yr Ymneillduwyr politicaidd. Dangosodd y Rheithor eu hawliau iddynt yn ddiweddar, yn ol y dyfarniad yn achos y Bontddn, Abermaw. DEDDF NEWYDD CLADDU YN MAENTWROG.-Dim ond dan deulu a ddarbwyllodd Mr. Ceidiog Roberts i gladdn dan y drefn hon o'r dechren, er defnyddio ei holl ddyfeisiau a'i ddylanwad. Ni fyn y bobl mo honi er gwaethaf adar y cyrph, begeriaid cyrph y meirw & phob peth arall.—Md Mem Nun. ';)
GWRECSAM.
GWRECSAM. f-aJ Cyfarfod Llenyddol EglwysiV yma Dydd Gwyl Dewi Sant. Ac felly yr oedd y tl hefyd yr un diwrnod. Rhoddwyd te i'r plent am dri v prydnawn, ac lr rhai mewn oed um bump yn y C. A. MisaionHall, Hill Street. Yr oedd 63 o blant wrth y byrddan, ac ywhell. Glroa gant o rai mewn oed yn v ti am bump. Am 6.30 y dechreuodd y cyfarfod llenyddol Y Parch. Canon Howell oedd y llywydd. Ac ym^ rhoddwn 1 lawr ganlyniad y gystadleuaethTraetb- awd, Mr. Gethin Jones. Y cor goreu-arweinydd, Mr. f; Parry Unawd i blant-Dosbarth 1, Francis Carter, Willie Cotton, Humphrey Owen: dosbarth 2 Lizzie Hughes, Jennie Baylea, Eliz. A. Richards; dosbarth 3, Walter Jones, Francis Beech, Willie Owen. Corau y plant—1, arweinydd, George Cotton; 2, Francis Carter. Adroddiad i blant dros 12 ond-l- TvrQU, wn™ Jones 2, Eliz. Hnghes; 3, John Pritchard. Eto i rai danl2oedrDo8barth 1, M. E. Jones, Katie Owens! Edw. Hughes; dosbarth 2, Polly Ellis, Edward Carter! Francis Beech dosbarth 3, Katie Lloyd, Verna Rogers E. A. Richards. Adrodd Credo Nicea—1, Humphrey Owen a I barti. Llawysgrifen i fecbgyn dros 12 oed- 1, Jliliaa Jones 2, Arthur Carter; 3, Francis Carter. Eto i enethod dros 12 oed-I, Gwladys Williams; 2, Daisy Thomas; 3, Jennie Bayles. Eto i blant dan 12 oed—1, Richard Davies; 2, Thos. W. Jones-; 3, George Bayles. Llythyr at athraw neu athrawes yn yr Yseol Sol-I, Francis Carter. Llythyr at gyfaill yn egluro y, Flwyddyn Eglwysig-Mgry Jones. a Mary Pritchard yn gydradd. "Twll botwn"-l, Jennie Bayles- 2 Eliz Hughes; 3, Sarah A. Griffiths a Maggie'Hnghesl Marcio ar ganvas '• Yr Iesu a wylodd DosharfVi i" Nellie Priichara, Gwladys Williams, Maggie Hushes dosbarth 2, Eliz. Jones, Selina Roberta. Darllen difyfyr (agored i bawb)—Mary Ellen Jones (11 oed) Areithio diWr-DavidRoberts. Tua ohSf"^rhag- len darllenodd Mr. Gethin Jones, arolygwr vr vnw«I Sul, adroddiad blynyddol yr ysgol. ToJdd ffeithian ynddo yn werth eu cofnodi. Oddiwrthogweliel fod y presenoldeb, y llafar, a r casgliadaujwedi ychwan- egu cryn dipyn. Y mae llafur yr arolygwr ei hunan hefyd yn haeddu clod nid bychan. Y beirniaid oeddynt