Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Y BLAENOR YN FEISTR Y PREGETHWR.
Y BLAENOR YN FEISTR Y PREGETHWR. Y mae y gohebydd hwn yn I dwyn i'm cof banesyn a adroddir am y gweinidog enwog John Evans, Llwynffortun. Yr oedd ganddo forch yn ei wasanaeth, yr "on a ddywedai yn ami ei bod yn benderfynol, os byth y priodai, y byddai iddi briodi pregethwr. Mewn peth amser gadawodd y ferch dý yr hen Weinidog, ac ni chyfarfuasant am rai blynyddoedd. Pan ddaeth adeg eu cyfarfyddiad anerchodd John Evans y fereb, "Wel Mari, ti briodaist, ond che'st ti ddim pregethwr." 0," meddai bithau, diolch i ch'i, meiatir, i ge's i ei feistir o, rni ge's flaenor."
KHYFEL Y DEGWM.
KHYFEL Y DEGWM. Gobeithiaf y bydd i'r adrodd- iadau fod rhyfel y degwm wedi tori allan unwaith eto mewn rhai sir- oedd Cynireig beri i'r Llywodr. fteth symud ymlaen gyda'r mesurfaddawedig. Y flvvyddyn ddiweddaf, oblegid penderfyniad y Glad- stoniaid Seisnig a Gwyddelig i rwystro gwaith y •Ty> darfu i'r Weinyddiàteth adael Mesur y Degwm allan 0'\1 cynllun. Y mae amgylchiadau yr wyth- nosau diweddaf yn uchel alw am i'r pwnc gael aylw buan. Cyhyd ag y bydd y gwrthddegymwyr Yn boddloni ar ymgynull i floeddio, i ganu, ac i areithio, y mae pob croesaw iddynt i gario eu l'hYfel ymlaen, ond pan yr efelychant eu cyfeillion Gwyddelig yn eu dull o derfysgu y mae yn bryd §Wneyd rhywbeth i osod terfyn ar eu gweithred- Qdall. Yr wythnos ddiweddaf cymerodd ffrwgwd e rhwng yr heddgeidwaid a'r terfysgwyr yn Pen- ryQ» 8*r Aberteifi, a daeth amryw allan o'r frwydr Yn dwyn proflon o boethder y ffrae. Da genyf ^■eled fod rhai pobl dda wedi eu Biomi yn Llan- ^irfeohan. Yr oedd disgwyliad y byddai i rhywbeth ddigwydd yn Llanfairfechan dydd Llan wythnos i'r diweddaf, ond pasiodd pobpeth heibio yn ddigynwrf. Atafeiliwyd ar eiddo Mri. William Jones, Plas Uchaf, yr hwn oedd yn nyled y rheithor S8 8s. c.; Richard Jones, Ty'n. llwyfan, oddiwrth yr hwn yroedd 122 yn ddyled- us; a William Owen, Llysgwynt, oddiwrth yr hwn y gofynid £ 14. Dydd Llun wythnos i'r diweddaf, a eth Mr. Carter, y cyfreithiwr, a Phrif Gwnstabl Caernarfon i lawr i Llanfairfechan i gynal arwertbiadau, ond talodd y ffermwyr eu dyledion.
! ADRODDIAD Y " GENEDL.
ADRODDIAD Y GENEDL. Y mae y Genedl yn rhoddi hanes yr belynt, ac y mae darn o'r adroddiad yn werth ei ail gyhoeddi. Dwed y newyddiadur hwn Pan gvrhaeddodd ein gohebydd ni ac un arall i orsaf Llanfairfechan oddeutu dau o'r gloch y prydnawn, yr oedd Mr. Carter yno yn aros cer- bydres i ddychwelyd gartref. Cafwyd allan yn fuan nad oedd arwerthiadau wedi cymeryd lie, on'^ fod yr boll helynt wedi dyfod i derfyniad heddychol. Er cael goleuni psllach ar y pwnc, talwyd ymweliad ag un o'r gwrthddegymwyr, Mr. William Jones, Plasuchaf, yr hwn a ddywedodd ei fod ef a'r ddau amaethwr arall wedi disgwyl yn sicr y buasai rhywbeth yn digwydd, I ond,' ychwanegai, cyfarfyddasom Mr. Carter, gyda r hwn yr oedd y Prifgwnstabl, yn y Queen s Hotel, boreu heddyw, a chytunasom i dalu, gan mai em dymuniad ni a llawer o bobl eraill yn y plwyf ydoedd peidio codi cynwrf yma.' Gyda golwg ar ddigwyddiadau dydd Llun, sylwodd Mr. Jones iddo, oblegid ei fod ef ei hun yn wael ei lechyd, roddi arian yn barod iV wasanaetbydd i brynu i mewn y dds wair yr oeddis wedi atafaelu ami, gan ei fod wedi dyfod i'r penderfyniad mai ar. werthiant a gymerai le. Os y cerid byn i weith- reSiad, yr oedd rhai 5weithwyr yn yr ardal wedi gofyn iddo roddi arwydd, fel y gallent ymgyfran- ogi o'r hwyl;' ond sid oedd ef am un math o derfysg, er nas gallai, w-rthgwrs,leau cegau pobl.' Dengya yr uchod mai nid y ffermwyr sydd yn cynhyrfu. "Ein dymuniad ni a llawer o bobl eraill yn y plwyf ydoedd peidio codi cynhwrf yma," meddai Mr. Jones, ac y maeei eiriau yn werth eu cofio. Y mae y ffaith yn wybyddus er's amser mai tools yw y ffermwyr yn nwylaw ter- fysgwyr politicaidd a gelynion yr Eglwys, ac oblegid hyn y mae yn bwysig i'r Llywodraeth frysio i osod atalfa ar eu ffordd. «$>.
ANUDONIAETH YN NGHYMRU.
ANUDONIAETH YN NGHYMRU. Da genyf weled nad yw cenedl y Cymry mor wael ag y myn rhai pobl dda eu bod. Yr wythnos ddiweddaf rhoddais nodyn i gwyn Mr. Justice Grantham, a thra ya methu eydfyned a/r Barnwr dysgedig meiddiais ddweyd nad oeddwn yn credu tod y Cymry yn waeth na phobl Lloegr yn y cyfeiriad hwn. Gwelaf tod ystadegau yn profi nid yn unig nad ydym yn waeth na'r Saeson, ond (nid Phariseaeth mo'r ymffrost) ein bod ychydig yn well. Nifer yr achosion o'r natur y cwynir o'u plegid a ddaeth o dan sylw yr hedd- geidwaid yn Nghymru a Sir Fynwy, o'u cydmaru &g achosion cyffelyb yn Lloegr yn ystod y flwydd- yn yn diweddu Medi 25ain, 1887, ydoedd 4-1 yn y cant, ac am y puna' mlynedd yn diweddu yr un amser 5-8 yn y cant, tra y mae poblogaeth Cymru a Mynwy yn cynrychioli chwech yn y cant o boblogaeth Lloegr a Chymru. Cader Idris, Boreu dydd Mercher.
NODIADAU WYTHNOSOL GAN IDRIS.…
NODIADAU WYTHNOSOL GAN IDRIS. 1. GORMES DIACONYDDOL. Yr wyf, lawer gwaitn, weal clywed Eglwyswyr yn son yn 11 fychanus am ddiaconiaid Ymneill- auol, ac yn priodoli iddynt fawr- edd ae ucbelfrydigrwydd annherfynol, ond der- byniwn y fath dyetiolaeth yn wastad cum grano talis, ys dywed y doethion, oblegicl-tybiwn fod posibilrwydd i ragfarn ac anwybodaeth gamar- Wain y cyfryw. Yr wythnos ddiweddaf, fodd bynag, bu Nodwr," gohebydd yn y Goleuad, yn traethu ei len ar y pwnc, ac y mae ei eiriau yn Werth eu gosod i lawr yma. Dywed :— Y dydd o'r blaen, mewn Cyfarfod Misol nid anenwog, dywedwyd rhai gwirioneddau ag yr oedd yn hen bryd eu dweyd. Ar ol darllen llyth- yr cyflwyniad gweinidog, ymysg ymadroddion croesawol defnyddiwyd y rhai canlynol Yr ydych yn sicr o gael y frawdoliaeth yma yn bob- peth ag y gallasech ddiegwyl. Gwn y teimlwch gartrefol ymysg y gweinidogion. Cewch bob sirioldeb gan y blaenoriaid oddigerth ambell un feallai. Y mae ambell i flaenor nad yw pregeth- yr yn werth dim ganddo os na bydd yn barod i fod yn was bach ae yn barod i lyfu llwch traed ei fawrhydi.' Diolch i'r brawd hwn am ddweyd yr hyn yr oedd lliaws yn ei greda." 0 hyn allan efallai y bydd ein cyfeillion Ymneill. duol yn llai parod i ffromi pan y beiddia Eglwys- wyr son am ormes y blaenoriaid.
TRAHAUSDER Y BLAENORIAID.
TRAHAUSDER Y BLAENORIAID. Y mae Nodwr yn cael y fath fl&s wrth drin pwne y blaenoriaid iel yr ymhelaetha (chwedl y pregetbwyr), i adrodd banesion am eu trahausder annioddefol. Fel y canlyn y mae ei dystiolaeth Wrth son am flaenoriaid, yn sicr y mae tra- hausder ambell un o honynt yn anhawdd ei ddioddef. Clywais yn ami am y drwg mawr o Wneyd cyhoeddiadau, a gelwir y pregethwyr i gyfrif yn ami am hyn Ai ni wneir rhywbeth gwaeth gan ambell i flaenor ? Er engraifft.- Dyma i chwi lythyr anfonwyd gan flaenor cyfrif- ol (?) heb fod bedair milldir o Aberdar :—' Wrth edrych dros fy llyfr yr wyf yn gweled eich bod i fod yma Sabbath y 24ain o'r mis hwn Gan eich bod yn weinidog yn- yr wyf wedi cael Un arall iddo, felly ni byddwn yn eich digwyl.' Anfonwyd y llythyr hwn o fewn deg diwrnod i'r Sabbath. Y mae'r gweinidog yr anfonwyd ef iddo yn byw o fewn ychydig filldiroedd i'r lie. Tebyg fod ar y brawd eisiau cael rhyw gyfaill am Sabbath, telly rhaid oedd anfon i rwystro un arall. Mae ymddygiad o'r fath yn annheilwng o ddyn chwaithach hen flaenor. Teg hysbysu na wyddai yr eglwys ddim am hyn."
!.\ DEDDF CAU Y TAFARNAU AR…
DEDDF CAU Y TAFARNAU AR Y SUL. Y mae y Llywodraeth wedi rhoddi ystyriaeth i'r ymrafael parthed llwyddiant y Ddeddf Cau y Tafarnau ar y Sul, ac y mae ymchwiliad swyddogol i gael ei II 1 "'rT wneyd. Yr twyl yn taicti i giywea nyn. xr wythnos ddiweddaf datgenais fy marn fod Com- misiwn Breiniol wedi eistedd ar lawer i gwestiwn llai pwysig na dylanwad moesol & sobreiddiol y ddeddf hon, ac yr wyf yn parhau i tedd a1 felly. Nid oes hysbysrwydd eto pa un ai pwyllgor ai Com- misiwn sydd i gymeryd y mater i fyny, ond y mae y rhan fwyaf yn ffafrio yr olafcgan y bydd yr ym- chwiliad yn debyg o fod yn fwy manwl, a bydd mwy o ddylanwad yn perthyn i'w benderfyn- iadau.
ARDALYDDES DONEGAL YN LLYS…
ARDALYDDES DONEGAL YN LLYS YR YSGARIAETH. -Yn Llys yr Ysgariaeth yn Llundain, dydd Iau, daeth Ardalyddes Donegal gerbron, gyda chais am Ymwahaniad cyfreithiol," am y rheswm fod ei gwr wedi camymddwyn tuag ati, a'i gadael. Yntau a wadai hyny yn y modd mwwaf pendant, gan ei chyhuddo hi o gamddygiad, yr hyn a wedid yn bendant. Gwrthodwyd y cais.
^ctogiititoit (CBffteBmol.
^ctogiititoit (CBffteBmol. MARWOLAETH SYDYN YN LLANELLI.—Prydnawn dydd Llan diweddaf digwyddodd marwolaeth ddi- symwth iawn yn ngwaith copr y dref hon. Ar ddiwedd y dydd, wedi gorphen gweithio, pan oedd y gweithwyr yn parotoi i fyn'd adref, syrth- iodd un o honynt o'r enw David Gray, yr hwn a breswyliai yn y Wern, i lawr yn farw. Cyrchwyd y meddyg Dr. Samuel yn ddioed, yr hwn a dyst- iodd ei fod wedi marw o achosion naturiol, sef cfefyd y galon. UNDEB Y GWNEUTIIURWYR PAPYR.-Yr Llun. dain, ddydd Mercher, meddir, bu pedwar-ar-ddeg o'r gwneuthurwyr papyr mwyaf yn y deyrnas mewn dwfn ymgynghoriad A'ii gilydd uwchben y cwestiwn ynghylch y priodoldeb o ffurflo undeb yn eu plith eu hunain, neu "Syndicate," fel ei gelwir. Wedi siarad ol a blaen, penderfynasant ffurflo y cyfryw undeb, gyda cbyfalaf yn oyraedd y swm o ddwy filiwn o bunau. Fel y mae mas- nach y papyr yn cael ei chario ymlaen yn awr, nid yw yn dwyn elw, fe ddywedir a gwaeth na hyny, y mae yn peri colled, ar y cyfan. PLENTYN YN LLOSGI I FARWOLAETH YN NGHAER- GYBI.—Prydnawn Gwoner diweddaf, cynhaliodd Mr. R. Jones Roberts, drengboliad ar gorff plentyn pedair a baner mlwydd oed. Yr oedd gwraig weddw o'r enw Catherine Thomas, Samuel Place, wedi myned allan i weithio gan adael ei phlant yn eu gwely, ond daeth yr ieuengaf, yr hwn oedd oddeutu pedair a baner mlwydd oed, i lawr i'r gegin yn ei ddillad nos, y rhai a gymerasant d&n rhywfodd. Galwyd Dr. O. T. Williams, ond yr oedd y plentyn wedi llosgi mor dost fel y bu farw. Dychwelwyd rheithfarn o "Farwolaeth ddam- weiniol."
DARGANFOD RHAGOR 0 AUR YN…
DARGANFOD RHAGOR 0 AUR YN SIR GAERNARFON. -Hysbysir fod y mwnwyr yn Ngwaith Aur Mynydd y Garn, yn Arfon, wedi dargantod, y dydd o'r blaen, haen arall o fwn aur, yr hon sydd aniryw droedfeddi o led. Anfonwyd darn o'r mwn i Mr. F. Coulson, F.C.S., Assay Office, Fenchurch Street, Llundain, er mwyn ei brofi ac ymhen ychydig ddyddiau derbyniwyd ei ad. roddiad gan Mr. O. Isgoed Jones, Llanrwst un o'r perchenogion. Dywed Mr. Coulson fod yn agos iawn i bedair owns y aur y dunell yn y sampl a anfonwyd iddo ef. Diau y bydd i'r newydd hwn greu llawenydd nid bychan yn mynwesau trigolion sir Gaernarfon.
GWOBRWYO SWYDDOGION BYWYDFAD…
GWOBRWYO SWYDDOGION BYWYDFAD CAERGYBI. -Mewn cyfarfod o'r Royal Lifeboat Institution, a gynhaliwyd yn Llundain, o dan lywyddiaeth Syr Edward Birbeck, A.S., penderfynwyd rhoddi second service clasp y sefydliad i Mr. Edward Jones, coxswain bywydfad Caergybi, a rhoddi medal aur y sefydliad i'r coxswain cynorthwyol (Mr. Robert Jones), er cydnabod eu gwasanaeth gwerthfawr mewn achub bywydau am lawer o flynyddoedd. Y mae Mr. Robert Jones hefyd wedi cael ei benodi yn I coxswain y bywydfad newydd sydd yn d'od i'r lie yn fuan. Y mae ty y bywydfad wedi cael ei helaethu yn fawr hefyd, ac y mae bron wedi ei orphen gan Mr. W. Williams, Tanyrefail.
[No title]
YMDDISWYDDIAD SWYDDOG IECHYDOL CORPHOR- AETH CAERNARFON.—Yn nghyfarfod diweddaf y cyngor trefol, yr hwn a gynnaliwyd dydd Mawrth cynygiodd y maer (Mr. John Jones) yr hwn a lywyddai, fod i'r cyngor fabwysiadu penderfyn- iad a basiwyd gan bwyllgor o'r holl gyngor yn ffafr apwyntio un person i gyflawni dyledswyddau arolygydd bwrdeisiol a swyddog iechydol, oblegid fod Mr. R. Rogers, yr hwn a lanwai y swydd olaf a enwyd, yn ymadael. Eiliwyd hyn gan Mr. j Thomas Williams, tra y Cynygiodd yr Henadur Rees welliant fod i'r swyddi fod ar wahan fel yn flaenorol, gan y bua&ai yn anmhoBibl i un dyn eu llanw yn foddhaol. Yr Henadur Lewis Lewis a eiliodd y gwelliant. Cefnogwyd y cynygiad gan Dr. Parry, yr hwn a gredai y gellid cael dyn a allan lanw y ddwy swydd am XISO y flwyddyn, tra yr oeddis yn awr yn talu £ 170 i'r arolygydd bwrdeisiol, a S80 i'r swyddog iechydol. Cafodd y cynygiad ei gefnogi yn mhellach gan Dr. Griffith, Mri. Edward Hughes, W. J. Williams, a Thomas Williams, tra y gwrthodwyd ef gan Mr. Owen Thomas. Yn yr ymraniad, pleidleisiodd 10 dros y cynygiad gwreiddiol a 9 dros y gwelliant. Cynygiodd Dr. Parry fod i'r cyflog fod yn X100 am wneyd gwaith arolygydd, a £ 80 am gyflawni dyledswyddau swyddog iechydol, a chytunwyd arno. Penderfynwyd, mewn canlyniad i weitb- rediadau y cyfarfod hwn, roddi tri mis o rybudd i'r arolygydd (Mr. R. Lloyd Jones). Y COUNT HERBERT BISMARC.-Y mae y Count Herbert Bismarc ar ymweliad swyddogol a'r wlad hon i ymdrafod ar bynciau trefedigaethol ac hefyd i drefnu ar gyfer ymweliad yr Ymerawdwr Germanaidd i Loegr. CWMNI Y PELLEBRON TAN.FoRAWL.- Dydd Llun cyfarfyddodd Cwmni y Pellebron Tanforawl i ystyried y cynygion a wnaed gan y Llywodr- aeth i bwrcasu yr eiddo. Hysbysodd y Cadeir- ydd nad oedd y pris a gynygid gan y Llywodr- aeth ond tua 25 y cant o'r gost o osod v pellebrau i lawr, ac yn ddilynol penderfynwyd fod cais yn cael ei wneyd am well pris. Trefnwyd, fodd bynag, fod yr oil i gael eu trosglwyddo ar y laf o Ebrill. Byddai i'r Llywodraeth gymeryd droe- odd yr oil oedd yn perthyn i'r cwmni ac ymron yr oil o'i dwylaw. DAMWAIN ANGEUOL YN LLANBERIS. Dydd Mawrth, y 19,3g cyfisol, cymerodd damwain ddi- frifol le, yr hyn fu achos o farwolaeth Mr. Enoch Williams, Brynhyfryd, Cwmyglo. Yn unol &'r tystiolaethau a roddwyd ar y trengholiad ym- ddengys fod y trancedig, a dau arall, yn ceisio tynu darn o'r graig, pan yn ddisymwth y cwymp- odd darn helaeth o'r graig o dan eu traed. Trwy drugaredd yr oedd y ddau a weithient gyda'r trancodig yn gweithio gyda rhaffau, fel na bu, iddynt ddieigyn ond ychydig gyda'r graig, ac y cawsant eu hatal cyn cyrhaedd y gwaelod, ober- wydd eu bod yn rhwym yn y rhaffau ond am Enoch Williams, yr oedd ef heb ddim i'w gynal, fel pan ymollyngodd y graig y disgynodd yn nghanol y malurion, ac y claddwyd ef yn eu canol, gan ei ddryllio yn arswydus. Ni welwyd anadl ynddo. Dyfarnwyd mai damweiniol yd- oedd ei farwolaeth. CYMDEITHAS Y TAFODIEITHOEDD CYMREIG.-— Mae cynllun ar droed ynglyn â Choleg y Gogledd yn Mangor i sefydlu cymdeithas newydd, amean yr hon yw casglu geiriau Ileol ac ymadroddion- gwahaniaethol gwahanol siroedd Cymru er mwyn eu cydmaru a'u trefnu at ddibenion ieithyddol. Un o'r prif awdurdodau ar y tafodieithoedd Celt- aidd yw y Tywysog Ymherodrol Louis-Lucien Bonaparte, yr hwn, mewn atebiad i ofyniad a allai efe ddyfod i Fangor i roddi cychwyn i'r gymdeithas, a ysgrifenodd fel y canlyn at Mr. Cadwaladr Davies" Anwyl Syr,-Mae astud- iaeth ieithyddol y tafodieithoedd a siaredir yn Nghymru, trwy eu gosod allan yn ol eu sain fel y maent ar lafar gwlad, yn un o'r pynciau llenyddol ag wyf fi yn cymeryd y dyddordeb mwyaf yn- ddynt; ac er nad yw fy oedran na fy iechyd yn. caniatau i mi gysegru i'r mater ran o fy amser fel yr arferais wneyd, eto y mae yn anmhosibl i mi beidio llongyfarch aelodau Prifysgol Gogledd Cymru ar eu gwaith yn ymgymeryd ag astud- iaeth mor bwysig i ysgolheigion Celtaidd ac i ieithyddwyr yn gyffredinol. Yr wyf yn dymuno j cbwi bob llwyddiant, ae y mae yn dra gofidus. genyf nas gallaf ddyfod fy hun i Fangor i roddi, cychwyn yn bersonol i'ch symudiad. Yr wyf yn diolch i chwi yn gynea am eich llythyr dyddorols a meddaf yr anrhydedd o fod, yr eiddoch yn ffyddlon, L. L. BONAPARTE." Bwriedir taflu y gymdeithas yn agored i lenorion a charedigion yr iaith y tuallan i furiau y coleg. YSTORM DDYCHRYNLLYD YN AMLWCH.— Nos Fercher diweddat ymwelwyd â'r dref ar cymyd- ogaethau yma gan un o'r ystormydd mwyaf dinystriol ar eiddo a welwyd gan neb sydd yn fyw yma. Yr oedd y gwynt o'r gogledd neu ychydig at ogledd.ddwyrain. Yr oedd y mor yn rhedeg mor uchel nes yr oedd yn tori pobpeth o'i flaen. Torodd y dorau oedd ar y Dry DocH perthynol i Cadben Thomas a'i Feibion, yn Porth, Amlwch, ac o'r herwydd aeth sowner fawr (oedd yn cael ei thrin yno) yn rhydd tynwyd hi i'r mor, ac aeth yn ddrylliau wrth guro yn erbyn y mur o'r tuallan i'r porthladd. Er pob ymdrech i'w chadw, aeth yn ddarnau man, fel nad oe& modd i'w badgyweirio. Yr oedd agerlong yn yr un lie yn cael ei badgyweirio, ond gallwyd ei chadw heb dori yn rhydd. Yn y porthladd hefyd gwnaed miloedd o bunau o golled trwy i'r baulks, oedd ar draws y fynedfa dori gan nerth y tonau. Enw'r Ilong yn y Dry Dock oedd Emperor," scwner perthynol i Fangor. Enwau y Ileill t,, niweidiwyd yn fawr oeddynt y Martha," yr "Alnwick," a'r Mary Ann." Hefyd, aeth Hong fechan perthynol i'r Mri. Jones, Chwilan, yn 'sglodion o danlongau mwy. Mae bron yr. oll oedd yn y porthladd wedi eu niweidio, fel, rhwng yr oil, y gwnaed miloedd o bunau o golled, acnid wyf yn gwybod beth yw'r ibeol gyda'r fath golled yn y porthladd pwy sydd i dalu i'r medd- ianwyr, ynte a ydyw'r golled i ddisgyn arnynt hwy.