Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Y GYNGRES EGLWYSIG.

LLAIS O CARON.

GWASANAETHWR YN UNIG-NID LLYW-ODRAETHWR.

IJLITH 0 LERPWL.

[No title]

-AMRGTOIOU. -.....r"'-.-"""'-"-.......,r"""'-....r-........,-",-.....-...........................,-,.................

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

AMRGTOIOU. -r"r"r- — Lladdwyd pedwar o ddynion yn Glasgow Llun diweddaf trwy gwympiad muriau adeilad lie bu tin y diwrnod cynt. Dydd Llun diweddaf aeth gwraig a breswyliai yn Haltwhistle allan gyda'i thri phlentyn, ac wedi boddi y tri, hi a foddodd ei hun. Dydd Mercher diweddaf cyflwynwyd y gyllideb Indiaidd i gyfrin-gyngor y rhaglaw, yr hon a ddangosai weddill arianol ar gyfrifon y flwyddyn. Tra yr oeddid yn dadlwytho llong yn Queens- town, ddydd Mercher diweddaf, ffrwydrodd berwed- ydd ar ei bwrdd, gan ladd un dyn ac anafu pedwar eraill. Ymhlith marwolaothau yr wythnos hysbysir am y Due o Buckingham yn 65 mlwydd oed, a Mr. Shafto, cyn-aelod seneddol dros Ogleddbarth Durham. Cyrhaeddodd y newydd i'r wlad hon yr wyth- nos ddiweddaf fod yr Anrhydeddua Guy Dawnay cyn-aelod Seneddol am y North Riding, wedi cael ei ladd yn agos i Zanzibar tra yn hela. Canlyniad yr etholiad, ddydd Sadwrn, yn Enfield ydoedd i'r ymgeisydd Ceidwactol, Mr. Bowles, gael ei ddychwelyd gyda mwyafrif o 1,512. Mr. Fairbairns oedd ei wrthwynebydd Rhyddfrydig. Nos Wener oymerodd gwrthdarawiad le yn y sianel rhwng yr agerlong Comtossa de Flandre a'r agerlong Belgaidd Henrietta." Yr oedd y dlwy yn croesi rhwng Lloegr a Ffrainc. Ffrwydr. odd berwedydd y flaenaf a chollwyd 14 o fywydau. Dydd Llun bu Tywysog a Thywysoges Cymru yn agor sefydliad yn Euston Road, Llundain, fellle ymarferiad i'r gwirfoddolwyr. Yr un diwrnod bu eu mab hynaf, y Tywysog Albert Victor, yn agor sef- ydliad newydd fel oartref i fechgyn yn Bethnal Green. Dydd Gwener diweddaf, yn Nhy yr Arglwyddi, dygwyd ymlaen feaur er galluogi Owmni Rheilffordd y Cambrian i redeg agerlongau i'r Iwerddon, yr hwn a wrthwynebwyd gan amryw gwmniau o Lerpwl a Ildoodd eraill. Y canlyniad fu i'r mesur gael ei basio trwy bwyllgor. Y mae Mr. A. L. Bruce, o Edinburgh, newydd dderbyn llythyr oddiwrth Mr. Stanley, dyddiedig Medi 4ydd. Yr oedd Mr. Stanley yn iach ae yn ddiogel ar y pryd. Yr oedd wedi gadael Emin Pasha yn iach. Y mae wedi hyn yn rhoddi hanes yr helyntion y daethai drwyddynt. Ar yr 16eg cynfisol ysgubodd ystorm ddychryn- 11yd dros ynys Samoa, gan achosi drylliad tair o ryfel-longau Americanaidd a thair o ryfel-longau Almaenaidd. Gollodd 50 o swyddogion a dwylaw ar y blaenaf, a 90 perthynol i'r olaf. Diangodd y rhyfel-long Brydeinig Galliope yn dddianaf. —Cafodd Mary Ann Lumb, yr hon sydd tua 40 mlwydd oed, ac yn byw yn Blackburne Terrace, allan o Belve Street, nos Iau, ei symud i'r Royal Southern Hospital, Lerpwl, o dan ofal Dr. Hole. Yr oedd yn dioddef o dan effeithiau laudanum. Pan ofynwyd iddi paham y cymerasai y laudunum, atebodd- "Fe'i cymerais am fy mod wedi blino ar fy mywyd. Gorphenwyd yr ymholiad o flaen yr ynadon i achos marwolaeth y Tad Macfadden yn Letterkenny ddydd Sadwrn. Bu yr ynadon am hir amser yn ystyried pa un a fyddai iddynt draddodi y carcbar- orion ar y oyhuddiad o lofruddiaeth ynte yn unig am godi cynwrf. Yn y diwedd bu iddyn draddodi y Tad Macfadden a 17 o ddynion a dwy ferch ar y cy- huddiad o lofruddiaeth. Dywedir mai Arglwydd Randolph Churchill a ddewisir fel ymgeisydd Ceidwadol am sedd y di. weddar Mr. Bright yn Birmingham. Ar ran y Gladstoniaid bwriedir dwyn allan Mr. Phileson Beale, Q.C. Y mae mab y diweddar Mr. Bright wedi datgan ei barodrwydd i ddyfod allan fel Rhyda. frydwr Undebol.

CLYWEDION GAN HEN FEUDWY 0…

[No title]

HY LLAN" PEL ORGAN YR EGLWYS.