Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

BETHESDA.

CRAIGTREBANWS, PLWYF CLYDACH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CRAIGTREBANWS, PLWYF CLYDACH. Y mae aohebydd Achlysurol" wedi ysgrifenu yn awdurdodol parthed dechreuad gwasanaethanEglwyaig yn y lie uchod; ac y mae Collier wed, hysbyso dar- ilenwyr Y LLAN yr hyn y mae yntan wedi ei glywed am y gwaith da. Deued Collier i'r gwaaanaethan fel y gallo weled yn gystal a chlywed. Gan fod ychydig o'ch gofod wedi ei roddi at wasanaeth Collier," efallai y byddwch hynawsed, Mr. Golygydd, a gadael i minau, Alcanwr," ddweyd gair bach yn awr ac yn y man. Yr ydym ni, yr Alcanwyr a'r Uolliers, yn eiddigeddus wrth ein gilydd pan fyddo un yn enill anrhydedd a'r llall yn y cysgodion. Yr oedd Collier" wedi clywed yn gywir ein bod ni wedi dechreu dosbarthu Y ULAN. Y mae Dafydd Richards wedi ymgymeryd a'r gwaith, ac yr ydym ninan yn Alcanwyr a Cholliers yn barod i roddi pob cynorthwy iddo, canys yr ydym yn gwybod yn awr mai papyr bach da ydyw Y LLAN. Yr oedd rhai o honom wedi clywed mai hen bapyr bach frit" ydoedd. Yr oeddwn i yn gwybod gwell na hyny am fy mod wedi ei ddarllen yn gyson yn library y gwaith am fisoedd. Ond wedi rhoddi treial iddo, y mae pawb o honom wedi d'od i weled a gwybod yn well. Papyr campos ydyw. Ac er fod ei brint yn fan, y mae yn lied eglur, fel ei gynwysiad, ao y mae yn cynwys llawer mwy na'i olwg. Yr oeddwn i yn falch iawn, Mr. Golygydd, wrth ddarllen eich herthyglan arweiniol yr wythnos ddiweddaf, aoyn enwedig y geiriau caredig a ddywedasoch am y diweddar Mr. John Bright. Rhoiaoch slash yn iawn i'r grwgnachwyr, yr hyn a barodd chwerthin iachus i'r rhan fwyaf o honom ni yn y gwaith alcan, a rhoiaoch gynghorion dignro i Esgob newydd Llanelwy. Yr ydym ni, y gweithwyr, yn Ciru ac yn edmygu siarad plaen. Mynodd Dafydd Richards ddau ddwsin o'r LLAN yr wythnos ddiweddaf. Ond ni chafodd gwsmeriaid iddynt igyd, rhoddodd rai o honynt am ddim er mwyn i bob! gael gweled But bapyr oedd Y LLAN. Y mae y fath ffydd gan Dafydd Richards yn Y LLAN nes y creda mai dim ond i bob! gael ei gweled sydd yn eisian, ac yr wyf fi o'r un farn ag ef. Daiiwch chwi sylw, syr, ar beth 'rwy'n ddweyd. Bydd dau ddwsin yn rhy facb o lawer i ni yn Craigtrebanws cyn pen mis. Nos Fercber yr ydym ni yn cael gwasanaeth yn awr, ac nid ar nos Wener fel y dechreuwyd. Y irae y gynnlleidfa yn cynyddu bob wythnos. 'Does gyda fi ddim amser i ysgrifenu rhagor yn awr. Cewch air bach yr wythnos nesaf. A fyddwch chwi mor garedig. Mr. Golygydd, a chywiro gramadeg a sillebiaeth fy llythyr, a madden i ni am fod mot hir-wyntog ytro hwn. Ym- drechaf wella bob wythnoB.-Daeth rhai o ferched cdr Clydach i'n helpu yr wythnos ddiweddaf. Gobeithio y byddant mor garedig a d'od eto, a d'od mor amled ag y gallont. Y mae canu da yn gwresogi pawb. Gobeitbio y daw rhai o'r becbgyn hefyd i roi tro am danom. Dened Eglwyswyr -Pontardawe i'n helpu hefyd, gan gofio mai Un ydyw'r Eglwys oll.Alcanwr.

LLANRHAIADR D.C.

CAERFYRDDIN.

.LLANBEDR.

LLUNDAIN.

RHUTHYN.

---DOLGELLAU.

- GWRECSAM.

CAERNARFON.

---CYDWELI.

FICERIA.ETH CAERFYRDDIN.

CONFFIRMASIWN.

DEONIAETH ARFON.-

VAYNOR.

MARWOLAETH Y PARCH. JOHN LEWIS,…

Advertising

--BYWOLIAETH LLANFROTHEN.