Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
£ eu>8tftion (Ctiffifamol.…
£ eu>8tftion (Ctiffifamol. DAMWAIN ANGEUOL I GYMRO YN LANCASHIRE. -Cyfarfyddodcl Owen Williams, o Farnworth, & marwolaeth echrydus yn Bolton, dydd Mercher. Yr oedd yn pacio o dan ferwedydd yn pwyso again tunell, pan yn sydyn y syrthiodd y berwed- ydd ar ei ben. Wrth gwrs, lladdwyd ef ar un- waith, ond buwyd am tuag awr cyn cael ei gorph yn rhydd. MARWOLAETH SYDYN FFEBMWK YN MON.- Dydd Mercher, cynhaliodd Mr. R. Jones-Parry drengholiad ar gorph Evan Parry, 71 mlwydd oed, Ty Cobbi, Llanrhyddlad. Darganfyddwyd y trancedig yn farw yn ei wely y boreu Sadwrn blaenorol; ond cwynid fod ei wraig yn ei esgenl- uso a'i gamdrin. Dychwelwyd rheithfarn. o Farwoleeth oddiwrth achosion naturiol," a cheryddwyd y weddw yn llym. Y LLOFRUDDIAETH YN MANCEINION.— Mown canlyniad i ymbiliad y rheithwyr ar ran y c ar. cbaror Parton, yr hwn a ddedfrydwyd l farwol- aeth am y llofruddiaeth yn Manceinion, dygwyd deisebau o amgylch o'i blaid, gan osod allan nas gallai y carcharor wybod am natur beryglus y gwenwyn, ac yn dadleu ei ieuenctyd fel rheswm dros arbed ei fywyd. Dydd Sadwrn diweddaf derbyniwyd llythyr oddiwrth yr Ysgrifenydd Cartrefol, yn dweyd fod ei Mawrhydi wedi gweled yn dda i atal y ddedfryd o ddienyddiad, ac yn ei lie i'w gadw yn ngbarchar yn ol pleser y Fren- bines. ETHOLIAD BIRMIGKAM.—Y mae penderfyniad Arglwydd Randolph Churchill i beidio cydsynio i'r cais i sefyll ymgeisiaeth dros Ganolbarth Birmingham, lie a gynrychiolid gan y diweddar Mr. Bright, wedi rhoddi boddlonrwydd cyffred- inol drwy y wlad, ond y mae Ceidwadwyr y ddinas yn lied siomedig. Cydsyniodd Mr. J. A. Bright, mab y gwr enwog ymadawedig. i sefyll fel ym- geisydd Undebol, ac y mae y Blaid Geidwadol yn cyd-weithio ar ei ran gyda rhagylygon ar- dderchog. Ei wrthwynebydd Gladstonaidd fydd cyfreithiwr o'r enw Mr. Philpson Beale, Q.C. DAU BLENTYN WEDI LLOSGI I FAITIVOLAE, TU YN RHUTHYN. Cynhaliwyd trengholiad dydd Mawrth, yn ngwesty y Labour-in-vain, Llan- fwrog, gan Dr. Evan Price, a rbeithwyr, ar gorff Anne Ellen Jones, pedair blwydd oed, geneth fach Maria Maria Jones, Mwrog Street, yr hon a gyfarfyddodd 'a'i marwolaeth o dan amgylchiadau difrifol. Boreu dydd Llun yr oedd ar y fam eisiau myned allan i neges, a gadawodd yr eneth bach yn y ty, ynghyd & baban blwydd oed^ yn y cryd. Rhag ofn i'r feehan fyned allan i'r heol, clodd ei man y drws ffrynt. Tybid i'r plentyn, yn ystod ei habsenoldeb, fyned i chwaren &'? tan, a thrwy hyny roddi ei hunan a'r cryd a'r d&n. Bu y fechan farw yn uniongyrchol. Pasiwyd rheithfarn o Farwolaeth ddamweiniol."—Dydd Iau, dracbefn, cynhaliwyd trengholiad ar gorff y baban, yr hwn a fu farw y dydd blaenorol oddi- wrth effsithiau llosg, a phasiwyd rheithfarn gyffelyb. DAMWAIN ANGEUOL I GYMRO YN AMERICA.— Oddeutu chwech o'r gloch, nos Sadwrn, yr 2il cy- fisol, cyiarfu Cymro o'r enw Owen Emwnt Wil- liams a/i ddiwedd mewn modd tra sydyn ac an- nisgwyliadwyj yn Gagnon Mine, Butte City, .Montana, sef tiriogaeth berthynol i'r Unol Dal- eifchiau i'r gorllewin o Dakota ac yn ymylu ar Canada. Mvvnwr ydoedd, ac ar y pryd gweithiai ef a'i fachgen Willis, yr hwn sydd oddeutu dwy ar bymtheg oed, ar v/yneb y No. 4 Stope yn y Sixth Hundred Foot Level. Yr oedd Willie yn llenwi bsrh a mwn, a'r tad wrth y gorchwyl o bigo y waste allan ac yn sefyll ar yr ochr nesaf i'r hanging wall, pan, yn hollol ddirybudu, y daeth rhan o'r brig i lawr gan ei ladd yn y fan. Bernir i oddeutu tair. tunell ddisgyn arno. Brodor yd- oedd o Tregarth, ger Bangor, a mab i'r diweddar Owen Emwnt, Craigypandy, yn yr ardal bono. CladdvVyd ef y dydd LInn canlynol, pryd y daeth tyrfa liosog ynghyd. Gadawodd ar ei ol wraig a saith o blant. CYNLLUN HONE DIG I FRAD-LOFRUDDU TYWYSOG CYMRU.—Darfa i Dywysog Cymru ymweled dydd Sadwrn & Leicester i fod yn bresenol yn y rhed- egfeydd. Derbyniodd y Prif-gwnstabl Duns, yn ystod y nos, lythyr dienw, i'r perwyl y gwneid cais i tradlofruddio y Tywysog. Er nad oedd yn edrych arno yn beth difrifol, cymerodd bob gofal a goehelgarwch. LLYTHYR ODDIWRTH MR. STANLEY.- Treiddio i Anialdiroedd Affrica.-)Dyaa Llun, wythnos i'r diweddaf, ar ol crva ysbaid o bryder ac anes- mwythder, derbyniwyd llythyr gan Mr. A. L. Bruce, Edinburgh, yn uniongyrehol oddiwrth Mr. Stanley. Mae yn ddyddiedig Bungawta Island, Itun River, Awst 28ain, 1888. Ymddengys oddi- wrth y llythyr maith a dyddorol hwn fod yr ymdrech yma er estyn cynorthwy i Emin Pasha wedi bod yn bynod lwyddianus o Mebefin 28ain, 1887, hyd ddiwedd Awst yr un flwyddyn. Or dyddiad hwn y mae helbulon Mr. Stanley yn dechreu. Yn ystod y tri diwrnod cyntaf encil- iodd 26 o'i ddynion, a phrofodd Medi ei hunan yn fis nas anghofir mohono byth gdn Mr. Stanley a'i ddilynwyr, ac erbyn cyraedd trefedigaeth o'r enw Killings Longo ar Hydref ISred, o'r 363 o ddilyn- wyr oedd ganddo ar y cychwyn cafwyd fod 81 wedi ercilio neu farw o newyn. Eu hymborth yn ystod yr amser yma ydoedd ffrwythau gwyllt a math o ffa. Daeth y dynion mor weiniaid erbyn hyn fel y gorfodwyd hwy i adael y eweh a'r nwyddau a gludent o dan ofal Mr. Parke, meddyg, a Chadben Nelson. Wedi gorphwyso enyd ail- gychwynwyd drachefn, ac ymhen deuddeng niwrnod cyrhaeddwyd Ibwiri, pryd y cafwyd fod y lie hwn wedi ei ddarostwng a'i anrbeitbio gan Arabiaid, pari oeddynt wedi bod yn elyniaetbus iawn i Mr. Stanley o'r cychwyn. Erbyn hyn, nid oedd yn aros ond 174 o ddynion. Gan fod yna ddigonedd o fwyd sylweddol i'w gael yn y lie hwn gorphwysodd Mr. Stanley a'i ddynion yma am dri diwrnod ar ddeg. Tachwedd 24ain, cychwynwyd tua Albert Nyanza, pellder o 126 milldir. Erbyn y 9fed o Ragfyr, cyrhaeddwyd tiriogaeth pen.9,.r,. eYi Mazamboni. Er gwaethaf holl ymdrechion Mr. Stanley i geisio myned yn ei fiaen yn heddychlawn, mynai y brodorion ymladd Ag ef, a'r canlyniad o hyfiy fu brwydr waedlyd. Lladdwyd amryw o'r gelyn, a gyrwyd y gweddill ar ffo. Oddeutu un o'r gloch, Rhagfyr 13eg, dywedodd Mr. Stanley am i'w ddynion wneyd eu hunain yn barod i gael yr olwg gyntaf ar y Nyanza. Amheuai y dynion ei air, oad ymhen haner awr wed'yn wele y llyn is. law iddynt. Yn y fan yma eto ymosodwyd arnynt gan y brodorion. Wedi gorphwyso ychydig, penderfynodd Mr. Stanley anfon nifer o'i wyr i gyrchu y cwch a adawyd ar ol i Ibwiri, yr hwn le a gyrhaeddwyd erbyn Ionawr 7fed. Yn mhen ychydig ddyddiau anfonwyd yr Is-gadben Stavis a chant o ddynion i gyrchu y eweh a'r nwyddau. Allan o'r 38 a adawyd gyda Mr. Parke a'r Cadben Nelson, yn Kilonga Longas, nid cedd ond un ar ddeg ar gael yn awr; yr oedd y gweddill wedi meirw neu encilio. Yr adel- yma cymerwyd Mr. Stanley yn glaf, ond wedi gor- phwyso am fis galluogwyd ef i fyned yn ei flaen drachefn tua Albert Nyanza. Ebrill 26ain, cyr- haeddodd i diriogaeth Mozambin ond erbyn hyn yr oedd y penaeth hwnw yn awyddus am ddyfod i delerau heddwch, a dilynwyd ei esiampl gan yr holl benaethiaid eraill. Y diwrnod nesaf cyr. haeddwyd Kavali, gan yr hwn y cafodd Mr. Stanley nodyn oddiwrth Emin Pasha. Ar y 27ain o Ebrill, cyrhaeddwyd y lie yr enciliwyd oddiyno ar Ragfyr 16eg, ac oddeutu pump o'r gloch y diwrnod hwnw canfyddwyd yr agerlong "Khedive" yn gwneyd ei ffordd tua'r man y safai Mr. Stanley a'i ddynion. Erbyn saith o'r gloch cyrhaeddodd Emin Pasha y wersyllfa, pryd y cafodd groesawiad gwresog. Wedi hysbysu beth oedd amcan ei ymgyrch, dywedodd Emin Pasha nas gallai weled ei ffordd yn glir i adael y diriogaeth, gan ei fod yn credu y byddai yn fwy o les i wareiddiad a masnach pe yr arhosai yn y man lie yr ydoeud, ac hsblaw hyny nis gallai weled yn glir pa fodd y gallai yn hawdd ddiwallu anghenion y nifer mawr oedd dan ei ofal pe buasai yn ymgymeryd &'r hyn a gynygiai Mr. Stanley. Modd bynag, aiMawodd y byddai iddo roddi ail-ystyriaeth i'r mater, a xhoddi ei atebiad terfynol i Mr. Stanley ymhen dan fis yn Fort Bodo. Felly, aeth y ddau i'w ffordd ei hun. Os ydyw pobpoth wedi myned ymlaeu vn llwydd. ianus, fel y gobeithir eu bod, mae y ddau wedi eyfarfod eilwaith, ac nid oes ond amser a ddengya beth fydd canlyniad yr ail-gyfarfyddiad. Da genym ddeall fod Mr. Stanley a'i wyr mewn iechyd da yr adeg yr ysgrilenodd y llythyr. Y DDIRPRWYAETH BARNELLAIDD.—Yn eisteaa- iad y Ddirprwyaeth Arbenig uchod dydd Ian, ai agorodd Syr Charles Russell ei araith dros yr ochr amddiffynol. Dywedodd mai amcan Cyng- rair y Tir oedd gostwng rhenti uchel, amddiffyn y rhai hyny y bygythid en troi o'u ffermydd am na fedrent dalu rhenti anghyfiawn, ac i gael di. wygiad yn neddfau y tir; ac os oedd hwn yn fradwriaeth droseddol yr oedd yn gwahaniaethu oddiwrth bob bradwriaeth y gwyddis am dani. Y mae yn wir fod drygau wedi bod ynglyn & gweith- rediadau y Cyngrair, ond yr oeddynt yn anoehel- adwy mewn pob symudiad o'r fath, ac nid oedd unrhyw gynhyrfiad mawr wedi cael ei ddwyn ymlaen yn Lloegr heb ddrygau o'r fath. Nis darfu i Mr. Parnell ar y dechreu gydsynio i fÏnrf- iad y Cyngrair, ond ar ol hyny ymunodd &g ef yn galonog, a daeth yn llywydd; ac wedi i niwi rhagfarn glirio ymaith, cydnabyddid Mr. Parnell fel wadi ehwarell rhan gwladweinydd. Dywed- odd fod yr hyn oedd wedi cael ei wneyd gan y Cyngrair yn gyfarwyddiadol; ac fod y wlad wedi syrthio i gyflwr gwaeth pan y darlethid ef gan y Llywodraeth. Siaradodd y dadleuydd dysgedig. yn helaeth i gondemnio Deddf Gorfodaeth 1881, a beirniadodd Deddf y Tir am y flwyddyn yma. Yna gohiriwyd y llY8 hyd dydd Mawrth.- Gofynodd Syr Charles Russell, cyn i'r Dirprwy- wyr adael eu lleoedd, am orcbymyn i ddwyn Mn. O'Brien a Harrington o flaen y Dirprwywyr, a chaniatawyd hyny. MORWYR 0 FON AC ARFON MEWN ENBYDRWYDD.— Nos Sadwrn diweddaf, oddeutu wyth o'r gloch, cymerodd gwrthdarawiad difrifol le ger y Beachy Head, English Channel, rhwng y Nordenland," agerlong ymfudol perthynol i Gwmni y Red Star, a deithia rhwng Antwerp a New York, a'r brigantine Carrie Dangle," perthynol i Lerpwl yr hon oedd yn rhwym o Borthmadog am Ham- burg, gyda llwyth o lechi. Llywydd y Carrie Dangle ydyw Captain Charles Roberts, PreswyL fa, Garth Road, Bangor, a'r mate oedd Mr. Wil- liams, o Amlwch. Yr oedd ar fwrdd y I I Norden. land adeg y gwrthdarawiad dros ddeuddeg cant o ymfudwyr. Teithiai yr agerlong gyda chyflym- dra mawr, ac er i ddwylaw y brigantine ei chan. fod o gryn bellder, methasant er pob ymdrech a galw sylw ei dwylaw er osgoi y gwrtlidarawiad. Ar ol i'r agerlong daraw y brigantine yn ei starboard botv, pasiodd heibio am oddeutu milltir o bellder cyn y gallwyd ei hatal a'i throi yn ol. Suddodd y Carrie Dangle ymhen dwy awr. Yn ffodus, modd bynag, ni chollwyd un bywyd. Enwau y gweddill o ddwylaw y Carrie Dangle" y rhai a laniwyd yn ddiweddarach yn Dover ydywRobert Roberts, Amlwch; William Davies, Caernarfon; William Mathews, Caernar. fon, a John Thomas, Red Wharf. — — ■■■■
MAEW QL A.ETEL
MAEW QL A.ETEL DAVIES.—Ar yr 28ain o Fawrth, yn Hencly, Llanedy, ger Poutardalais, Mr. William Davies. gornchwyliwr y gwaith alcan, yn 62 mlwydd oed. Yr oedd yr ym- adawedig yn Eglwyswr trylwyr, ac yn llanw y swycld o Churchwarden yu y plwyf.
YR ARSYLLFA. ; I
YR ARSYLLFA. I < NODIADAU WYTHNOSOL GAN IDRIS. ] Gwelais yr wythnos ddiweddaf j Y GYNGRES restr gyflawn o'r testynau dewis- EGLWYSIG. edig ar gyfer y Gyngres Eglwysig a gynelir yn Caerdydd yr Hydref nesaf. Y mae y rhaglen yn helaeth ac yn cym- eryd i fewn bynciau o ddyddordeb cyffredinol yn ogystal a materion Eglwysig. Naturiol, wrth .Y gwrs, ydyw fod lie arbenig yn cael ei roddi i'r Eg- lwys yn Nghymrn. Ceir cyfleusdra i osod yr holl amgylchiadau gerbron y dirprwywyr o wahanol ranau y wlad, ac er nad oes amheuaeth yngbyleh cydymdeimlad Eglwyswyr Seisnig, eto nis gall na bydd y goleuni a roddir ar y mater yn y Gyngres yn gwneyd y cyfeillion o'r tuhwnt i Glawdd Offa yn fwy brwdfrydig yn eu pender. fyniad i sefyll o blaid y Satydliad yn Nghymru. Gobeithiaf y sicrheir y dynion priodol i siarad ar y materion pwysig. Y mae y rhaglen oil yn ym- wneyd a. pbynciau amserol ac ymarforol, ae y mae eangder y cynllun yn ddangoseg ychwanegol o gydymdeimlad yr Eglwys a phob dosbarth o'r boblogaetb. ♦ —
[No title]
Y mae gelynion yr Eglwys EDRYCHIAD hefyd yn edrych ymlaen at y AM Y Gyngres eleni fel yn debyg o ddy- GYNGRES. lanwada i raddau helaeth ar y pwnc pwysig o ddadgysylliad a dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymrn. Yn y South Wales Daily News y dydd o'r blaen gwelais erthygl arweiniol yn galw ar yr arwein- wyr Ymneillduol i ddwyn y rhengoedd ynghyd er ffarfio rhyw fath o counter demonstration. Nid oedd nnrhyw awgrym yn cael ei rhoddi yn yr erthygl pa ffurf a ddylai y gwrthwynebiad gymer- yd, ond taflai y newyddiadur ei golofaau yn agoredl dderbyn awgrymiadau ef ddarllenwyr. Y mae y ffaith yn dangos nid yn unig fod y gelyn o ddifrif, ond ei fod hefyd yn dechreu sylweddoli cryfder yr achos Eglwysig. Yn sicr da fyddai i'r Eglwys pa efelychai ei charedigion zel a brwd- frydedd ei gelynion.
[No title]
Yr wyf wedi darllen gyda 11awer MYFYRWYR iawn o ddyddordeb y llythyrau 3 LLANBEDR A.'R sydd wedi ymddangos yn Y LLAN GYNGRES. parthed y cynygiad i ddwyn boll fyfyrwyr Llanbedr-cynt a pbres- enol-at en gilydd i ddadleu ac ystyried y pethau a berthynant i lesiant yr Eglwys. Yn bersonol r-id oes a fynwyf :I'r cynygiad, ond os mewn un- rhyw fodd y welir y bydd cyfarfod o'r fath yn debyg o sefyll ar ffordd gweitbrediadan y Gyngres gwn y gosodir ef o'r neilldu ar unwaith. Nid oes lie i rith ymddangosiad o ymraniad mewn perthynas a'r Gyngres hon, a gobeithiaf y bydd iddi fyned ymlaen a sel undeb ar yr oil o'r gweithrediadau. .0 —
[No title]
Y mae y nodyn canIynol o un YSGOLION SUL o'r papyrau Ymneillduol. Dichon YR EGLWYS. y bydd yn ddyddorol i lawer heb- law Pentwyn," Carwn weled dyledswydd Eglwyswyr yn gyffredinol tuag at yr Ysgol Sul yn cael ei gymeryd i fyny o ddifrif. Fel yeanlyn y dywed v Golet¿ad Mae Esgob 0 Llandaf yn cwyno nad yw Ysgolion Sul yr Eg lwys yr hyn y dylent fod. Ymddengys mai yr achos o hyn ydyw fod yr Eglwys yn methu cael dynion i ymroddi i wneyd gwaith athrawon yn briodol, ac y mae efe yu credu fod yr ysgol yn haeddu rbyw gymaint o'r feirniadaeth chwerw a wneir arni. Prin yr wyf yn tneddwl fod y sylw- adau hyn yn gymwysiadol at Ysgolion Sul yr Yumeillduwyr. Byddaf yn hoff iawn pan oddi- cartref o fyned i ysgol rhyw enwad heblaw'r Methodistiaid, ac nid yw Ysgolion Sul yr Eglwys yn hollol ddieitbr i mi. Yn yr Yegol Sul y gwelir Eglwys yn ei gwir sefyllfa, oblegid nid oes ond ychydig iawn o'r cyfoethogion ya meddwl am fyned iddi, ac felly gadewir hi yn Haw rhai pur ,b anghyniwya i'w chario ymlaen."
[No title]
Gwelaf mai Comieiwa Breiniol DEDDF CAU Y sydd i eistsdd ar weithrediad TAFARNAU. Deddf Cau y Tatarnau ar-y Sul. Tebyg y bydd i'r Comisiwn ¡ jistedd yn y trefydd mwyafipoblogaidd yn y ddwy lalaeth-y Gogledd a'r De—er derbyn tystiol- leth parthed llwyddiant neu aflwyddiant y ddeddf. Nid oes hysbysiad eto pwy fydd y Comisiwn. Dywedir fod Arglwydd Herschell wedi gwrthod [lywyddu, a bod Arglwydd Aberdar i gael cynyg- iad o'r swydd. Tybiaf mai gwrthod wna yntau befyd.g Cader Idris, Boreu dydd Mercher.
ERGOB TRURO.
ERGOB TRURO. Dydd LIun diweddaf, mewn cyfarfod deon iaethol a gynhaliwyd yn Truro, pasiwyd pender. fyniad yn datgan gofid y gwyddfodolion oblegid fod yr Esgob (Dr. Wilkinson) yn bwriadu ym- swyddo yn ganlynol i afiecbyd. Mynegwyd fod yr Esgob wadi myned i Llunclain i ymgynghori ag Archesgob Caergaint ar y mater. Gobeithiai v cyfarfod y byddai absenoldeb tymhorol yn foddion adnewyddiad i'r Esgob, ac y byddai i'w iechyd wella gyda seibiant oddiwrth ei waith fel na byddai i'r ymddiswyddiad gymeryd lie—yr hyn fyddai yn golled anadferadwy i'r Eglwys yn gyffredinol, ac i'r esgobaeth yn enwedig. a
AGORIAD YSGOLDY NEWYDD YN…
AGORIAD YSGOLDY NEWYDD YN NGHASNEWYDD. Dydd Linn diweddaf agorwyd ysgoldy newydd- ac ystafell blwyfol perthynol i blwyf St. Marc, Casnewydd. Y mae yr ysgoldy a'r ystatell wedi ei adeiladu ar Queen's Hill, ac wedi costio 11,400. Anercbwyd y cyfarfod gan y Gwir Barchedig Arglwydd Esgob Llandaf, Arehddiacon Bruce, a'r Parch. T. Ll. Lister, ficer y plwyf. Yr oedd befyd yn bresenol y Parchn. J. L. Jenkins a W. Rees y Mri. R. T. Martin, E. Webber, H. J. Parnall, R. G. Culium, a J. F. Fawkner (yr arch* adeiladydd), ae eraill. Llongyfarchodd yr Esgob y plwyf ar agoriad adeiladau mor gyflaus i waith plwyfol, ac aeth ymlaen ymlaen i siarad am bwysigrwydd paroto- ad athrawon yr Ysgol Sul. Dywedir fod diffyg rhoddi addysg Feiblaidd yn yr ysgolion dyddiol wedi taflu y cyfrifoldab ar yr Ysgolion Sul a chwynai oblegid fod y rhai a ymgymerent a'r gorchwylo addyegu dosbarthiadau yn ymgymeryd a'r gwaith heb roddi ystyriaeth ddyladwy i'r ddvledswydd o barotoi. Dywedai mai buddiol fyddai i'r clerigwyr gasglu yr athrawon ynghyd un noswaiih bob wythnos o leiaf, er eu cynorth- wyo yn eu gwaith.