Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

/ 'Y GYNGRES EGLWYSIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GYNGRES EGLWYSIG. At Olygydd Y Llan a'r Dyioysogaeth, Syr,—Gan fod y Gynhadledd nesaf i gael ei chynal yn Caerdydd, disgwyliwyd yn naturiol y rhcddid lie i destynau oysylltiedig a'r Eglwys Gymreig yn yr ymdrafodaetb, ao ni chawn ein siomi. Ond ar yr un pryd rhaid i mi gyfaddef fy mod yn rhyfeddu gweled cwestiwn pwysig y Wasg Gymreig wedi ei adael allan. Yn Nghynadledd Abertawe cafwyd ymddiddan gwerthfawr a bywiog at y teatyn, a dichon na fyddai yn ormod dweyd fod ffrwyth dymunol wedi ranlyn, ac i'w weled heddyw ps cydmerir sefyllfa y Wasg Eglwysig Gymreig yn awr 4'r hyn ydoedd cyn hyn. Ar yr un pryd a ydyw yr aelodau Cymreig ar y pwyllgor yn meddwl fod pob peth yn foddhaol heddyw ? Nid hoff genyf chwilio beiau, ond oaniatawch i mi chwanegu fy rhyfeddod fod cyflwr crefyddol ein cydwladwyr tuallan i Gymru (miloedd ar fiioedd o honynt—sy'n mynu addoli yn Gymraeg), heb ei ddewis fel testyn cydymgynghoriad. Rhaid fod y Saeson yn Llundain, Mancetnion, Lerpwl, Birken- head, a'r Unol Daleithiau, lie gwelir symudiad am weinyddiadau Eglwysig Oymreig, yn disgwyl olywed rhyw faint ar y pwno.—Yr eiddoch, &c., EGLWYSWB CYMRBia. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth Syr,—Byddaf yn ddiolchgar am yehydig o'ch gofod gwerthfawr i gyflwyno fy niolohgarwch i'r Parch. Evan Davies am ei lythyr yn Y LLAN 0 berthynas i w;fr Llanbedr a'r Gyngres Eglwysig. Yr oeddwn yn disgwyl gweled llawer o lythyrau yn eich newyddiadur yn canmol yr anturiaeth, ond yn hyn oefais fy siomi yn fawr, oherwydd nid oes ond dau wedi beiddio ymddangos yn eich colefnau-un yn pleidio a'r Hall braidd yn gwrthwynebu y mudiad. Fel un o'r hen fyfyrwyr sydd a'i drigle yn y Gogledd yr wyf yn cefnogi'r mudiad, ao yn,gwir gredu y bydd cyfarfod o wýr Llanbedr yn dra phleserus a dyddor. ol. Llawer o'm cydfyfyrwyr carwn eu gweled i eiarad gair ao ysgwyd Haw. Yr wyf, er hyny, yn oydsynio a Rheithor Gelligaer y byddai yn hollol an. noeth a diangenrhaid i gynal oyfarfod o wyr Llan. bedr yn unig ar adeg y Gyngres i drin materion Eg lwysig, ond y mae testynau ar ba rai y gaUwn siarad ag sydd yn dal cysylltiad uniongyrohoi a gwyr Llanbedr, heb ofni cael ein hystyried yn gul-farnol hyd yn nod gan eich gohebydd llygadgraff yr Hen Domos." Dyma destyn teilwng o'n sylw, Y modd- ion goreu i gynorthwyo Coleg St. Dewi." Rhy barod ydym i anghofio'r graig o ba un y cawsom ein naddu, a gobeithio y bydd cyfarfod cyffredinol o hen fyfyrwyr Llanbedr yn foddion i greu diolchgarwch yn ein mynwesaa i'r coleg, a hwnw yn ddiolchgar- weh ymarferol. Carwn welod ysgoloriaeth mewn cyaylltiad a'r Coleg yn cael ei sefydlu ymhob un o'r pedair Esgobaeth Gymreig, a phob un o wyr Llan- lbedr yn cyftanu yn ol ei allu yn flynyddol tuag at y mudiad. Y mae y coleg yn baeddu y diolchgarwch ymarferol hwn oddiar ein Haw, ao heblaw hyn bydd- wn yn oynorthwyo yr Eglwys yn Nghymru ar yr un pryd. Nos Lun yn amser y Gyngres fydd yr amser goreu i gael y cyfarfod, ac yr wyf fi ac eraill o'r Gogledd yma yn gobeithio y oawn y fraint o fod yn bresenol.-Yr eiddoeb, &a., J. F. REECE. Rhgfthordy Llanfwrog, Ebrill 9fed,

DIENYDDIAD DRWY GROGI.

LLOFFION A NODIADAU.

" EGWYDDOMON PROTESTAN-A1DD."

YR YSWAIN A'R PERIGLOR.