Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

LL1TH 0JJEKPWL.

CYSTADLEUAETH Y LLAN."

TELERAU Y GYSTADLEUAETH.

-.= Y GYNGRES EGLWYSIG. 4--

;.■i AMRGTOUM. I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

i AMRGTOUM. I Bydd i Mr. a Mrs. Gladstone dreulio gwyliau y Pasg yn Nghastell Penarlag. Y mae si yn Nghaeroystenyn fod rhywrai wedi darganfod bradgynllun yn erbyn y Sultan. Bu Ardalydd Ely farw nos Fercher cyn y di- weddaf yn ei breswylfod ger Dover, yn 40 mlwydd oed. Cafodd Mr. Edwin Booth ei daro i'r parlys tra yn chwareu Othello nos Feroher cyn y diweddaf yn Rochester, Efrog Newydd. Y noswaith o'r blaen bu Mr. Parnell, Mr. Dill- wyn, a Mr. Stuart Rendel yn ciniawa gyda Mr. Gladstone. Dydd Iau diweddaf bu raid i'r Pall Mall Gazette dalu iawn o £ 1,500 am enllibio dynes o'r enw Mrs. Irwin. —. Dywedir fod aur wedi ei ddarganfod yn awydd Cernyw, ao y mae owmpeini wedi ei ffurfio i wneyd ymonwiliada u. Mae dernyn o 10 yn pwyso pum' tunell a haner wedi ei dori yn nglofa Abercarn i'w anfon i Arddang- oafa Paris fel engraifft o lo Cymreig. — Yn ol y newyddion diweddaraf y mae Mr. Stanley yn iach a diogel. Qwelwyd ef ac Emin Pasha ddiwedd mis Chweiror yn teithio i gyfeiriad Zanzibar. Wrth redeg ar ol mochyn a ddiangodd o'i gwt syrthiodd merch i amaethwr o'r enw Margaret Far- guhar, yn swydd Aberdeen, i'r afon, a boddodd yn ngolwg ei mam. Tra yn Uywyddu mown cynulliad o chwarsu- wyr yn Nghaerlleon, dydd Mercher cyn y diweddaf, oondemniodd Dr. Jayne, Esgob Caerlleon, mewn iaith gref, yr arferiad o betio." Gwna y clefyd melyn ddifrod erchyll yn Rio de Jan3iro. Mae rhwng 3,000 a 4,000 o'r trigolion wedi marw o hono yn ystod yr wythnosau diweddaf, ao y mae pawb a all yn ffoi o'r lie. Dydd Llun, yr wythnos ddiweddaf, agorwyd gorsaf newydd ar reilffordd y London and Nortb- western rhwng Llandudno Junction a Cholwyn Bay; ei henw ydyw Mochdre a Pabo. Y mae mesur ar gael ei ddwyn i mewn i Senedd Yspaen er gwneyd addysg plant y wlad yn fater o orfodaeth ac hefyd, er atal i blant o dan oedran neillduol i gael eu cyflogi i wabanol weithiau ao er rheolaiddio oriau ac amodau gweithio i blant ieuainc. Yr oedd Yspaen ymhell ar ol gwledydd eraill Ewrop yn y materion pwysig hyn; ond y mae llywodraeth bresenol y wlad hono am wneyd y diffyg hwn i fyny. Mewn canlyniad i waith perchenogion glofeydd yn Ngogledd Cymru yn gwrthod ymuno a'r glym- blaid sydd yn oeisio dwyn yr holl lofeydd o dan ett rheolaeth fel ag i godi pris y glo, bydd eu holl gyn- Lluniau yn syrthio i'r llawr. Cymer yr etholiad er llanw sedd w&g y diweddar Mr. John Bright le ddydd Llun nesaf. Mr. J. A. Bright, mab y diweddar aelod fydd yr ymgeisydd Undebol, ac y mae Mr. Phipson Beale yndyfod allan fel Ysgarwr. Talodd y New York Herald, yn Llundain^ £1,000 am gopi o lythyr diweddaf Mr. H. M. Stan- ley, a chyhoeddodd argrafiSad arbenig o hono noa Fawrth, yr hyn a alluogodd bapyrau eraill i'w gael am ddim i'w gyhoeddi boreu dranoeth. Cymerodd damwain ofnadwy le dydd Iau di- weddaf mewn pwll a elwir Liberty Pit yn Bedmin- ster, ger Bristol, pan y lladdwyd tri o ddynion trwy i ran o'r llofit syrthio arnynt. Enwau y trueiniaict oeddynt William Alford (47 mlwydd oed, ao yn briod), James Marewesitber (22 mlwydd ced, ao yn briod), a James Vicary (22 mlwydd oed, dibriod). Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, am oddeutn 11 o'r gloch, bu farw puces Cambridge, yn 92 mlwydd oed. Yn y London Gazette nos Sadwrn, hysbyswyd y newydd fel y canlyn: This day, at halfpaet twelve p.m., H.R.H. the Duchess of Cam- bridge, aunt to Her Most Gracious Majesty, departed this life at St. James's Palace, to the great grief of her Majesty and all the Royal Family." Nos Fercher diweddaf bu farw Mr. Sydney Hooper, Newsagent, Castle Street, Abertawe, yn ddisymwth iawn. Dywedir fod bachgen o'r enw Evans, yr hwn oedd yn ngwasanaeth y trancedig, wedi myned allan oddeutu pump o'r gloch yn y prydnawn, a phan ddychwelodd am 6.35 cafodd ddatt ddyn yn y siop yn aros am bapyrau. Gweinyddodd Evans arnynt, ac aeth i ystafoll y tufown lie y cafodd Hooper yn gorwedd ar ei gofn yn farw. Cy- merodd trengboliad Ie dydd Gwener, pan y rhoda- odd Dr. Retorts dystiolaeth fod marwolaeth wedi digwydd yn ganlynol i lewyg a gafodd y trancedig. Dychwelwyd rheithfarn yn unol a'r dystiolaeth hon.

DRUNKENNESS CURED.

MR. H. M. STANLEY.