Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Y GYNGRES EGLWYSIG.

ANFFAELEDIGRWYDD Y PAB, &c.

CYFFREDINOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFFREDINOL. Samuel Morris sydd wedi cael y penodiad i fod yn bostfeistr newydd Troy, N. Y. Pregethai y Parch. J. D. Evans yn eglwysdy Episcopalaidd Holy Trinity, New York, nos Sul di- weddaf. Rai dyddiau yn ol bu farw priod y Parch. D. C. Roberts, yn awr rheithor yr Eglwys Episcopalaidd yn Concord, N. H., cyn hyny o Brandon, Vt. Cynwyaai y New York limes y Sul diweddaf bron ddwy golofn am neillduolion, dylanwad, a chynyrchion y Cymry yn America. Mae yr eithygl yn dda a dyddorol. Disgynodd awyrfaen enfawr yn Yelm Prairie, Wash. Terr., ar y 31ain cynfisol. Tra yn ymsaethu drwy yr awyr. goleuai yr holl wlad, a gwnai swn fel taran hir-barhaol. Mae deddfwrfa Wisconsin wedi pasio mesur i fabwysiadu y oynllun Awstralaidd o bleidleisio. Gwrthwynebodd y Llywydd Hill fesur cyffelyb yn New Yorky llynedd. Byddai yn dda i ni gael prawf teg ar y cynllun hwn. Ar y 31ain cynfisol, bu farw Mrs. Catherine Cooper, Tribes Hill, sir Montgomery, N. Y., yn 96 mlwydd oed. Seilid ei henwogrwydd hi ar ddwy golofn-ei henaint teg, a'r tIaith nafu hi erioed ar gerbydres. Yr oedd hi yn hynach na'r locomotive. Am y tro cyntaf erioed mwynhaodd merched teg Michigan gyfle i bleidleisio ar yr 2il cyfisol. Trwy en dylanwad hwy, gyda ohydweithrediad Democrataidd, etholwyd un foneddiges yn Detroit i arolygu yr ysgolion. Cariwyd y Dalaeth gan y Gwerinwyr. — Dechreu yr wythnos fynedol, ail redai y Gwer- inwr John N. Irwin am Faerolaeth Keobuk, Iowa, ond gorchfygwyd ef trwy 155 o fwyafrif am iddo fod yn Syddlon i roddi y gyfraith waharddol mewn grym yn y ddinas hono ar hyd y deuddeg mia di- weddaf. Dyn cryf oedd y diweddar Alexander MoCue, Brooklyn. Bu yn drysorydd oynorthwyol y Taleith- iau Unedig. Ganwyd ef yn Mexico yn 1826, a graddiodd o Goleg Columbia yn 1846. Parlys a'i cymerodd ymaith. Tua wythnos yn ol, tra yr oedd y Parch. Edward Beecher, brawd i'r diweddar Henry Ward Beecher, yn disgyn o heol gerbyd symudol yn Brooklyn ayrthiodd dan yr olwynion, a drylliwyd ei goes mor ddrwg fel y bu raid ei thori ymaith. Mae y dyoddefydd parchus yn 85 mlwydd oed. Dydd Mawrth yr wythnos aeth heibio etholwyd tocyn cyfansoddedig o ferohed yn unig i edrych ar ol Cottonwood Falls, Kansas, am y deuddeg mis nesaf. Mrs. Minnie Morgan fydd y Faeres. Ni ddylai y chwiorydd yn y lie hwnw gwyno nad ydynt yn oael eu hiawnderau. Tro go wael yn y diweddar John Scott, Pitts- burgh, Pa,, llywydd rheilffordd Dyffryn Allegheny, oedd gadsel tri o'i 14 o blant heb ond sent yr un o'i ystad o 350,000. Trosedd y tri hyny oedd ochri gyda'u mam yn hytrach na chydag ef yn mater an- ffodus ysgariad y ddau flynyddau yn ol. Ar y dyddolaf o Fawrth bu farw Major Marcus A. Reno, yr hwn a wnaeth wrhydri amryw droion yn y Gwrthryfel, ond a andwyodd ei enw wedi hyny drwy beidio myned i helpu y Cad. Custer yn mrwydr Little Big Horn. Yn Washington yr oedd pan y bu farw. Dywedir fod nifer o ferched ieuainc aris- tocrataidd" yn ninas New York newydd ffurfio yr hyn a alwant yn Glwb y Clysion." Ond diameu y câ ambell hogen go hyll aelodaeth yn y Clwb hwnw, os bydd ei thad yn meadu digon o'r pethau hyny sydd yn cuddio lliaws o ddiffygion-doleri. Gan y bydd y 30ain cyfisol yn gan-mlwyddiant urddfreiniad eyntaf George Washington, cymer- adwyo yr Arlywydd Harrison fod holl drigolion y wlad hon yn ymgynull i'w lleoedd arferol o addoliad i ofyn i Dduw am i fendithion rhyddid, Ilwyddiant, a heddwch ein harwain ar Iwybrau cyfiawnder a gweithredoedd da." Awgrym tra phriodol. Yohydig amser yn ol, aeth J. W. White, Sirydd Sir McLean, Ky., i gyfarfod diwygiadol, a obafodd argyhoeddiad mor ddwfn nes y eyff esodd ei fod, dair blynedd ar ddeg yn ol, wedi celoio 1,000 o ddoleri o arian y sir, y rhai a dalodd yn y fan gyda 800 o ddoleri o log. Dyna brawf sylweddol fod Mr. White wedi oael gwir grefydd. Ni fuasai yn bosibl iddo byth fod yn sant heb ddyohwelyd yr arian. Y dydd o'r blaen, tra yr oedd torf fawr mewn claddedigaeth yn y fynwent Babaidd gar New Brunswick, N.J., rhuthrodd tarw gwyllt a ddiangasai o afael cigydd gerllaw, i'w plith, a charniodd rai o'r oeffylau yn ddrwg. a gwasgarodd bawb o'r lie, oddi- eithr y corff. Yn ffodus, ni. wnaeth niwed i neb. Clywsom o'r blaen am y Pope's bull, ond ni chlywsom erioed mai fel hyn yr oedd hwnw yn aotio.

BAltDDONIAETH ATHRODOL (LIBELLOUS…

Y MUDIAD I WADDOLI CURADIAETHAU.

UNDEB YSGOLION SUL YR EGLWYS.

anugluion.

GWEITHFAOL A MASNACHOL.

LLOFRUDDIAETH AC HUNANLADDIAD…

CLYWEDION 0 JDDYEFMiN1 TEIFI.

[No title]